Welsh

Korean

John

10

1 "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, lleidr ac ysbeiliwr yw'r sawl nad yw'n mynd i mewn trwy'r drws i gorlan y defaid, ond sy'n dringo i mewn rywle arall.
1내가 진실로 진실로 너희에게 이르노니 양의 우리에 문으로 들어가지 아니하고 다른데로 넘어가는 자는 절도며 강도요
2 Yr un sy'n mynd i mewn trwy'r drws yw bugail y defaid.
2문으로 들어가는 이가 양의 목자라
3 Y mae ceidwad y drws yn agor i hwn, ac y mae'r defaid yn clywed ei lais, ac yntau'n galw ei ddefaid ei hun wrth eu henwau ac yn eu harwain hwy allan.
3문지기는 그를 위하여 문을 열고 양은 그의 음성을 듣나니 그가 자기 양의 이름을 각각 불러 인도하여 내느니라
4 Pan fydd wedi dod �'i ddefaid ei hun i gyd allan, bydd yn cerdded ar y blaen, a'r defaid yn ei ganlyn oherwydd eu bod yn adnabod ei lais ef.
4자기 양을 다 내어 놓은 후에 앞서 가면 양들이 그의 음성을 아는고로 따라 오되
5 Ni chanlynant neb dieithr byth, ond ffoi oddi wrtho, oherwydd nid ydynt yn adnabod llais dieithriaid."
5타인의 음성은 알지 못하는고로 타인을 따르지 아니하고 도리어 도망하느니라'
6 Dyw-edodd Iesu hyn wrthynt ar ddameg, ond nid oeddent hwy'n deall ystyr yr hyn yr oedd yn ei lefaru wrthynt.
6예수께서 이 비유로 저희에게 말씀하셨으나 저희는 그 하신 말씀이 무엇인지 알지 못하니라
7 Felly dywedodd Iesu eto, "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, myfi yw drws y defaid.
7그러므로 예수께서 다시 이르시되 `내가 진실로 진실로 너희에게 말하노니 나는 양의 문이라
8 Lladron ac ysbeilwyr oedd pawb a ddaeth o'm blaen i; ond ni wrandawodd y defaid arnynt hwy.
8나보다 먼저 온 자는 다 절도요 강도니 양들이 듣지 아니하였느니라
9 Myfi yw'r drws; os daw rhywun i mewn trwof fi, caiff ei gadw'n ddiogel, caiff fynd i mewn ac allan, a dod o hyd i borfa.
9내가 문이니 누구든지 나로 말미암아 들어가면 구원을 얻고 또는 들어가며 나오며 꼴을 얻으리라
10 Ni ddaw'r lleidr ond i ladrata ac i ladd ac i ddinistrio. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a'i gael yn ei holl gyflawnder.
10도적이 오는 것은 도적질하고 죽이고 멸망시키려는 것뿐이요 내가 온 것은 양으로 생명을 얻게 하고 더 풍성히 얻게 하려는 것이라
11 Myfi yw'r bugail da. Y mae'r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid.
11나는 선한 목자라 ! 선한 목자는 양들을 위하여 목숨을 버리거니와
12 Y mae'r gwas cyflog, nad yw'n fugail nac yn berchen y defaid, yn gweld y blaidd yn dod ac yn gadael y defaid ac yn ffoi; ac y mae'r blaidd yn eu hysglyfio ac yn eu gyrru ar chw�l.
12삯군은 목자도 아니요 양도 제 양이 아니라 이리가 오는 것을 보면 양을 버리고 달아나나니 이리가 양을 늑탈하고 또 헤치느니라
13 Y mae'n ffoi am mai gwas cyflog yw, ac am nad oes ofal arno am y defaid.
13달아나는 것은 저가 삯군인 까닭에 양을 돌아보지 아니함이나
14 Myfi yw'r bugail da; yr wyf yn adnabod fy nefaid, a'm defaid yn f'adnabod i,
14나는 선한 목자라 ! 내가 내 양을 알고 양도 나를 아는 것이
15 yn union fel y mae'r Tad yn f'adnabod i, a minnau'n adnabod y Tad. Ac yr wyf yn rhoi fy einioes dros y defaid.
15아버지께서 나를 아시고 내가 아버지를 아는 것 같으니 나는 양을 위하여 목숨을 버리노라
16 Y mae gennyf ddefaid eraill hefyd, nad ydynt yn perthyn i'r gorlan hon. Rhaid imi ddod �'r rheini i mewn, ac fe wrandawant ar fy llais. Yna bydd un praidd ac un bugail.
16또 이 우리에 들지 아니한 다른 양들이 내게 있어 내가 인도하여야 할 터이니 저희도 내 음성을 듣고 한 무리가 되어 한 목자에게 있으리라
17 Y mae'r Tad yn fy ngharu i oherwydd fy mod yn rhoi fy einioes, i'w derbyn eilwaith.
17아버지께서 나를 사랑하시는 것은 내가 다시 목숨을 얻기 위하여 목숨을 버림이라
18 Nid yw neb yn ei dwyn oddi arnaf, ond myfi ohonof fy hun sy'n ei rhoi. Y mae gennyf hawl i'w rhoi, ac y mae gennyf hawl i'w derbyn eilwaith. Hyn a gefais yn orchymyn gan fy Nhad."
18이를 내게서 빼앗는 자가 있는 것이 아니라 내가 스스로 버리노라 나는 버릴 권세도 있고 다시 얻을 권세도 있으니 이 계명은 내 아버지에게서 받았노라' 하시니라
19 Bu ymraniad eto ymhlith yr Iddewon o achos y geiriau hyn.
19이 말씀을 인하여 유대인 중에 다시 분쟁이 일어나니
20 Yr oedd llawer ohonynt yn dweud, "Y mae cythraul ynddo, y mae'n wallgof. Pam yr ydych yn gwrando arno?"
20그 중에 많은 사람이 말하되 `저가 귀신 들려 미쳤거늘 어찌하여 그 말을 듣느냐 ?' 하며
21 Ond yr oedd eraill yn dweud, "Nid geiriau dyn � chythraul ynddo yw'r rhain. A yw cythraul yn gallu agor llygaid y deillion?"
21혹은 말하되 `이 말은 귀신들린 자의 말이 아니라 귀신이 소경의 눈을 뜨게 할 수 있느냐 ?' 하더라
22 Yna daeth amser dathlu gu373?yl y Cysegru yn Jerwsalem. Yr oedd yn aeaf,
22예루살렘에 수전절이 이르니 때는 겨울이라
23 ac yr oedd Iesu'n cerdded yn y deml, yng Nghloestr Solomon.
23예수께서 성전 안 솔로몬 행각에서 다니시니
24 Daeth yr Iddewon o'i amgylch a gofyn iddo, "Am ba hyd yr wyt ti am ein cadw ni mewn ansicrwydd? Os tydi yw'r Meseia, dywed hynny wrthym yn blaen."
24유대인들이 에워싸고 가로되 `당신이 언제까지나 우리 마음을 의혹케 하려나이까 ? 그리스도여든 밝히 말하시오' 하니
25 Atebodd Iesu hwy, "Yr wyf wedi dweud wrthych, ond nid ydych yn credu. Y mae'r gweithredoedd hyn yr wyf fi yn eu gwneud yn enw fy Nhad yn tystiolaethu amdanaf fi.
25예수께서 대답하시되 `내가 너희에게 말하였으되 믿지 아니하는도다 내가 내 아버지의 이름으로 행하는 일들이 나를 증거하는 것이어늘
26 Ond nid ydych chwi'n credu, am nad ydych yn perthyn i'm defaid i.
26너희가 내 양이 아니므로 믿지 아니하는도다
27 Y mae fy nefaid i yn gwrando ar fy llais i, ac yr wyf fi'n eu hadnabod, a hwythau'n fy nghanlyn i.
27내 양은 내 음성을 들으며 나는 저희를 알며 저희는 나를 따르느니라
28 Yr wyf fi'n rhoi bywyd tragwyddol iddynt; nid �nt byth i ddistryw, ac ni chaiff neb eu cipio hwy allan o'm llaw i.
28내가 저희에게 영생을 주노니 영원히 멸망치 아니할 터이요 또 저희를 내 손에서 빼앗을 자가 없느니라
29 Hwy yw rhodd fy Nhad i mi, rhodd sy'n fwy na dim oll, ac ni all neb eu cipio allan o law fy Nhad.
29저희를 주신 내 아버지는 만유보다 크시매 아무도 아버지 손에서 빼앗을 수 없느니라 !
30 Myfi a'r Tad, un ydym."
30나와 아버지는 하나이니라' 하신대
31 Unwaith eto casglodd yr Iddewon gerrig i'w labyddio ef.
31유대인들이 다시 돌을 들어 치려 하거늘
32 Dywedodd Iesu wrthynt, "Yr wyf wedi dangos i chwi lawer o weithredoedd da trwy rym y Tad. O achos prun ohonynt yr ydych am fy llabyddio?"
32예수께서 대답하시되 `내가 아버지께로 말미암아 여러 가지 선한 일을 너희에게 보였거늘 그 중에 어떤 일로 나를 돌로 치려 하느냐 ?'
33 Atebodd yr Iddewon ef, "Nid am weithred dda yr ydym am dy labyddio, ond am gabledd, oherwydd dy fod ti, a thithau'n ddyn, yn dy wneud dy hun yn Dduw."
33유대인들이 대답하되 `선한 일을 인하여 우리가 너를 돌로 치려는 것이 아니라 참람함을 인함이니 네가 사람이 되어 자칭 하나님이라 함이로라'
34 Atebodd Iesu hwythau, "Onid yw'n ysgrifenedig yn eich Cyfraith chwi, 'Fe ddywedais i, "Duwiau ydych"'?
34예수께서 가라사대 `너희 율법에 기록한바 내가 너희를 신이라 하였노라 하지 아니하였느냐
35 Os galwodd ef y rhai hynny y daeth gair Duw atynt yn dduwiau � ac ni ellir diddymu'r Ysgrythur �
35성경은 폐하지 못하나니 하나님의 말씀을 받은 사람들을 신이라 하셨거든
36 sut yr ydych chwi yn dweud, 'Yr wyt yn cablu', oherwydd fy mod i, yr un y mae'r Tad wedi ei gysegru a'i anfon i'r byd, wedi dweud, 'Mab Duw ydwyf'?
36하물며 아버지께서 거룩하게 하사 세상에 보내신 자가 나는 하나님 아들이라 하는 것으로 너희가 어찌 참람하다 하느냐 ?
37 Os nad wyf yn gwneud gweithredoedd fy Nhad, peidiwch �'m credu.
37만일 내가 내 아버지의 일을 행치 아니하거든 나를 믿지 말려니와
38 Ond os wyf yn eu gwneud, credwch y gweithredoedd, hyd yn oed os na chredwch fi, er mwyn ichwi ganfod a gwybod bod y Tad ynof fi, a minnau yn y Tad."
38내가 행하거든 나를 믿지 아니할지라도 그 일은 믿으라 ! 그러면 너희가 아버지께서 내 안에 계시고 내가 아버지 안에 있음을 깨달아 알리라' 하신대
39 Gwnaethant gais eto i'w ddal ef, ond llithrodd trwy eu dwylo hwy.
39저희가 다시 예수를 잡고자 하였으나 그 손에서 벗어나 나가시니라
40 Aeth Iesu i ffwrdd eto dros yr Iorddonen i'r man lle bu Ioan gynt yn bedyddio, ac arhosodd yno.
40다시 요단강 저편 요한이 처음으로 세례 주던 곳에 가사 거기 거하시니
41 Daeth llawer ato yno, ac yr oeddent yn dweud, "Ni wnaeth Ioan unrhyw arwydd, ond yr oedd popeth a ddywedodd Ioan am y dyn hwn yn wir."
41많은 사람이 왔다가 말하되 `요한은 아무 표적도 행치 아니하였으나 요한이 이 사람을 가리켜 말한 것은 참이라' 하더라
42 A daeth llawer i gredu ynddo yn y lle hwnnw.
42그리하여 거기서 많은 사람이 예수를 믿으니라