1 Yna cymerodd Pilat Iesu, a'i fflangellu.
1이에 빌라도가 예수를 데려다가 채찍질하더라
2 A phlethodd y milwyr goron o ddrain a'i gosod ar ei ben ef, a rhoi mantell borffor amdano.
2군병들이 가시로 면류관을 엮어 그의 머리에 씌우고 자색 옷을 입히고
3 Ac yr oeddent yn dod ato ac yn dweud, "Henffych well, Frenin yr Iddewon!" ac yn ei gernodio.
3앞에 와서 가로되 `유대인의 왕이여 평안할지어다' 하며 손바닥으로 때리더라
4 Daeth Pilat allan eto, ac meddai wrthynt, "Edrychwch, rwy'n dod ag ef allan atoch, er mwyn ichwi wybod nad wyf yn cael unrhyw achos yn ei erbyn."
4빌라도가 다시 밖에 나가 말하되 `보라 이 사람을 데리고 너희에게 나오나니 이는 내가 그에게서 아무 죄도 찾지 못한 것을 너희로 알게 하려 함이로다' 하더라
5 Daeth Iesu allan, felly, yn gwisgo'r goron ddrain a'r fantell borffor. A dywedodd Pilat wrthynt, "Dyma'r dyn."
5이에 예수께서 가시 면류관을 쓰고 자색 옷을 입고 나오시니 빌라도가 저희에게 말하되 `보라, 이 사람이로다 !' 하매
6 Pan welodd y prif offeiriaid a'r swyddogion ef, gwaeddasant, "Croeshoelia, croeshoelia." "Cymerwch ef eich hunain a chroeshoeliwch," meddai Pilat wrthynt, "oherwydd nid wyf fi'n cael achos yn ei erbyn."
6대제사장들과 하속들이 예수를 보고 소리 질러 가로되 `십자가에 못 박게 하소서 ! 십자가에 못 박게 하소서 !' 하는지라 빌라도가 가로되 너희가 친히 데려다가 십자가에 못 박으라 나는 그에게서 죄를 찾지 못하노라
7 Atebodd yr Iddewon ef, "Y mae gennym ni Gyfraith, ac yn �l y Gyfraith honno fe ddylai farw, oherwydd fe'i gwnaeth ei hun yn Fab Duw."
7유대인들이 대답하되 `우리에게 법이 있으니 그 법대로 하면 저가 당연히 죽을 것은 저가 자기를 하나님 아들이라 함이니이다'
8 Pan glywodd Pilat y gair hwn, ofnodd yn fwy byth.
8빌라도가 이 말을 듣고 더욱 두려워하여
9 Aeth yn ei �l i mewn i'r Praetoriwm, a gofynnodd i Iesu, "O ble'r wyt ti'n dod?" Ond ni roddodd Iesu ateb iddo.
9다시 관정에 들어가서 예수께 말하되 `너는 어디로서냐 ?' 하되 예수께서 대답하여 주지 아니하시는지라
10 Dyma Pilat felly yn gofyn iddo, "Onid wyt ti am siarad � mi? Oni wyddost fod gennyf awdurdod i'th ryddhau di, a bod gennyf awdurdod hefyd i'th groeshoelio di?"
10빌라도가 가로되 `내게 말하지 아니하느냐 ? 내가 너를 놓을 권세도 있고 십자가에 못 박을 권세도 있는 줄 알지 못하느냐 ?'
11 Atebodd Iesu ef, "Ni fyddai gennyt ddim awdurdod arnaf fi oni bai ei fod wedi ei roi iti oddi uchod. Gan hynny, y mae'r hwn a'm trosglwyddodd i ti yn euog o bechod mwy."
11예수께서 대답하시되 `위에서 주지 아니하셨더면 나를 해할 권세가 없었으리니 그러므로 나를 네게 넘겨준 자의 죄는 더 크니라' 하시니
12 O hyn allan, ceisiodd Pilat ei ryddhau ef. Ond gwaeddodd yr Iddewon: "Os wyt yn rhyddhau'r dyn hwn, nid wyt yn gyfaill i Gesar. Y mae pob un sy'n ei wneud ei hun yn frenin yn gwrthryfela yn erbyn Cesar."
12이러하므로 빌라도가 예수를 놓으려고 힘썼으나 유대인들이 소리질러 가로되 `이 사람을 놓으면 가이사의 충신이 아니니이다 무릇 자기를 왕이라 하는 자는 가이사를 반역하는 것이니이다'
13 Pan glywodd Pilat y geiriau hyn, daeth � Iesu allan, ac eisteddodd ar y brawdle yn y lle a elwir Y Palmant (yn iaith yr Iddewon, Gabbatha).
13빌라도가 이 말을 듣고 예수를 끌고 나와서 박석 히브리 말로 가바다 이란 곳에서 재판석에 앉았더라
14 Dydd Paratoad y Pasg oedd hi, tua hanner dydd. A dywedodd Pilat wrth yr Iddewon, "Dyma eich brenin."
14이 날은 유월절의 예비일이요 때는 제 육시라 빌라도가 유대인들에게 이르되 보라 `너희 왕이로다'
15 Gwaeddasant hwythau, "Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef." Meddai Pilat wrthynt, "A wyf i groeshoelio eich brenin chwi?" Atebodd y prif offeiriaid, "Nid oes gennym frenin ond Cesar."
15저희가 소리지르되 `없이 하소서 ! 없이 하소서 ! 저를 십자가에 못 박게 하소서 !' 빌라도가 가로되 `내가 너희 왕을 십자가에 못 박으랴 ?' 대제사장들이 대답하되 `가이사 외에는 우리에게 왕이 없나이다' 하니
16 Yna traddododd Pilat Iesu iddynt i'w groeshoelio. Felly cymerasant Iesu.
16이에 예수를 십자가에 못 박히게 저희에게 넘겨주니라
17 Ac aeth allan, gan gario'i groes ei hun, i'r man a elwir Lle Penglog (yn iaith yr Iddewon fe'i gelwir Golgotha).
17저희가 예수를 맡으매 예수께서 자기의 십자가를 지시고 해골 (히브리 말로 골고다)이라 하는 곳에 나오시니
18 Yno croeshoeliasant ef, a dau arall gydag ef, un ar bob ochr a Iesu yn y canol.
18저희가 거기서 예수를 십자가에 못 박을새 다른 두 사람도 그와 함께 좌우편에 못 박으니 예수는 가운데 있더라
19 Ysgrifennodd Pilat deitl, a'i osod ar y groes; dyma'r hyn a ysgrifennwyd: "Iesu o Nasareth, Brenin yr Iddewon."
19빌라도가 패를 써서 십자가 위에 붙이니 나사렛 예수 유대인의 왕이라 기록되었더라
20 Darllenodd llawer o'r Iddewon y teitl hwn, oherwydd yr oedd y fan lle croeshoeliwyd Iesu yn agos i'r ddinas. Yr oedd y teitl wedi ei ysgrifennu yn iaith yr Iddewon, ac mewn Lladin a Groeg.
20예수의 못 박히신 곳이 성에서 가까운 고로 많은 유대인이 이 패를 읽는데 히브리와 로마와 헬라 말로 기록되었더라
21 Yna meddai prif offeiriaid yr Iddewon wrth Pilat, "Paid ag ysgrifennu, 'Brenin yr Iddewon', ond yn hytrach, 'Dywedodd ef, "Brenin yr Iddewon wyf fi."'"
21유대인의 대제사장들이 빌라도에게 이르되 `유대인의 왕이라 말고 자칭 유대인의 왕이라 쓰라' 하니
22 Atebodd Pilat, "Yr hyn a ysg-rifennais a ysgrifennais."
22빌라도가 대답하되 `나의 쓸 것을 썼다 !' 하니라
23 Wedi iddynt groeshoelio Iesu, cymerodd y milwyr ei ddillad ef a'u rhannu'n bedair rhan, un i bob milwr. Cymerasant ei grys hefyd; yr oedd hwn yn ddiwn�ad, wedi ei weu o'r pen yn un darn.
23군병들이 예수를 십자가에 못 박히고 그의 옷을 취하여 네 깃에 나눠 각각 한 깃씩 얻고 속옷도 취하니 이 속옷은 호지 아니하고 위에서부터 통으로 짠 것이라
24 "Peidiwn �'i rhwygo hi," meddai'r milwyr wrth ei gilydd, "gadewch inni fwrw coelbren amdani, i benderfynu pwy gaiff hi." Felly cyflawnwyd yr Ysgrythur sy'n dweud: "Rhanasant fy nillad yn eu mysg, a bwrw coelbren ar fy ngwisg." Felly y gwnaeth y milwyr.
24군병들이 서로 말하되 이것을 찢지 말고 누가 얻나 제비 뽑자 하니 이는 성경에 저희가 내 옷을 나누고 내 옷을 제비 뽑나이다 한 것을 응하게 하려 함이러라 군병들은 이런 일을 하고
25 Ond yn ymyl croes Iesu yr oedd ei fam ef yn sefyll gyda'i chwaer, Mair gwraig Clopas, a Mair Magdalen.
25예수의 십자가 곁에는 그 모친과 이모와 글로바의 아내 마리아와 막달라 마리아가 섰는지라
26 Pan welodd Iesu ei fam, felly, a'r disgybl yr oedd yn ei garu yn sefyll yn ei hymyl, meddai wrth ei fam, "Wraig, dyma dy fab di."
26예수께서 그 모친과 사랑하시는 제자가 곁에 섰는 것을 보시고 그 모친께 말씀하시되 `여자여, 보소서 아들이니이다' 하시고
27 Yna dywedodd wrth y disgybl, "Dyma dy fam di." Ac o'r awr honno, cymerodd y disgybl hi i mewn i'w gartref.
27또 그 제자에게 이르시되 `보라, 네 어머니라' 하신대 그 때부터 그 제자가 자기 집에 모시니라
28 Ar �l hyn yr oedd Iesu'n gwybod bod pob peth bellach wedi ei orffen, ac er mwyn i'r Ysgrythur gael ei chyflawni dywedodd, "Y mae arnaf syched."
28이 후에 예수께서 모든 일이 이미 이룬 줄 아시고 성경으로 응하게 하려 하사 가라사대 `내가 목마르다' 하시니
29 Yr oedd llestr ar lawr yno, yn llawn o win sur, a dyma hwy'n dodi ysbwng, wedi ei lenwi �'r gwin yma, ar ddarn o isop, ac yn ei godi at ei wefusau.
29거기 신 포도주가 가득히 담긴 그릇이 있는지라 사람들이 신 포도주를 머금은 해융을 우슬초에 매어 예수의 입에 대니
30 Yna, wedi iddo gymryd y gwin, dywedodd Iesu, "Gorffennwyd." Gwyrodd ei ben, a rhoi i fyny ei ysbryd.
30예수께서 신 포도주를 받으신 후 가라사대 `다 이루었다 !' 하시고 머리를 숙이시고 영혼이 돌아가시니라
31 Yna, gan ei bod yn ddydd Paratoad, gofynnodd yr Iddewon i Pilat am gael torri coesau'r rhai a groeshoeliwyd, a chymryd y cyrff i lawr, rhag iddynt ddal i fod ar y groes ar y Saboth, oherwydd yr oedd y Saboth hwnnw'n uchel-u373?yl.
31이 날은 예비일이라 유대인들은 그 안식일이 큰 날이므로 그 안식일에 시체들을 십자가에 두지 아니하려 하여 빌라도에게 그들의 다리를 꺾어 시체를 치워 달라 하니
32 Felly daeth y milwyr, a thorri coesau'r naill a'r llall a groeshoeliwyd gyda Iesu.
32군병들이 가서 예수와 함께 못박힌 첫째 사람과 또 다른 사람의 다리를 꺾고
33 Ond pan ddaethant at Iesu a gweld ei fod ef eisoes yn farw, ni thorasant ei goesau.
33예수께 이르러는 이미 죽은 것을 보고 다리를 꺾지 아니하고
34 Ond fe drywanodd un o'r milwyr ei ystlys ef � phicell, ac ar unwaith dyma waed a du373?r yn llifo allan.
34그 중 한 군병이 창으로 옆구리를 찌르니 곧 피와 물이 나오더라
35 Y mae'r un a welodd y peth wedi dwyn tystiolaeth i hyn, ac y mae ei dystiolaeth ef yn wir. Y mae hwnnw'n gwybod ei fod yn dweud y gwir, a gallwch chwithau felly gredu.
35이를 본 자가 증거하였으니 그 증거가 참이라 저가 자기의 말하는 것이 참인 줄 알고 너희로 믿게 하려 함이니라
36 Digwyddodd hyn er mwyn i'r Ysgrythur gael ei chyflawni: "Ni thorrir asgwrn ohono."
36이 일이 이룬 것은 그 뼈가 하나도 꺾이우지 아니하리라 한 성경을 응하게 하려 함이라
37 Ac y mae'r Ysgrythur hefyd yn dweud mewn lle arall: "Edrychant ar yr hwn a drywanwyd ganddynt."
37또 다른 성경에 저희가 그 찌른 자를 보리라 하였느니라
38 Ar �l hyn, gofynnodd Joseff o Arimathea ganiat�d gan Pilat i gymryd corff Iesu i lawr. Yr oedd Joseff yn ddisgybl i Iesu, ond yn ddisgybl cudd, gan fod ofn yr Iddewon arno. Rhoddodd Pilat ganiat�d, ac felly aeth Joseff i gymryd y corff i lawr.
38아리마대 사람 요셉이 예수의 제자나 유대인을 두려워하여 은휘하더니 이 일 후에 빌라도더러 예수의 시체를 가져가기를 구하매 빌라도가 허락하는지라 이에 가서 예수의 시체를 가져가니라
39 Aeth Nicodemus hefyd, y dyn oedd wedi dod at Iesu y tro cyntaf liw nos, a daeth ef � thua chan mesur o fyrr ac aloes yn gymysg.
39일찍 예수께 밤에 나아왔던 니고데모도 몰약과 침향 섞은 것을 백 근쯤 가지고 온지라
40 Cymerasant gorff Iesu, a'i rwymo, ynghyd �'r peraroglau, mewn llieiniau, yn unol ag arferion claddu'r Iddewon.
40이에 예수의 시체를 가져다가 유대인의 장례법대로 그 향품과 함께 세마포로 쌌더라
41 Yn y fan lle croeshoeliwyd ef yr oedd gardd, ac yn yr ardd yr oedd bedd newydd nad oedd neb erioed wedi ei roi i orwedd ynddo.
41예수의 십자가에 못 박히신 곳에 동산이 있고 동산 안에 아직 사람을 장사한 일이 없는 새 무덤이 있는지라
42 Felly, gan ei bod yn ddydd Paratoad i'r Iddewon, a chan fod y bedd hwn yn ymyl, rhoesant Iesu i orwedd ynddo.
42이 날은 유대인의 예비일이요 또 무덤이 가까운 고로 예수를 거기 두니라