1 Ar �l hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i'w ddisgyblion, ar lan M�r Tiberias. A dyma sut y gwnaeth hynny.
1그 후에 예수께서 디베랴 바다에서 또 제자들에게 자기를 나타내셨으니 나타내신 일이 이러하니라
2 Yr oedd Simon Pedr, a Thomas, a elwir Didymus, a Nathanael o Gana Galilea, a meibion Sebedeus, a dau arall o'i ddisgyblion, i gyd gyda'i gilydd.
2시몬 베드로와 디두모라 하는 도마와 갈릴리 가나 사람 나다나엘과 세베대의 아들들과 또 다른 제자 둘이 함께 있더니
3 A dyma Simon Pedr yn dweud wrth y lleill, "Rwy'n mynd i bysgota." Atebasant ef, "Rydym ninnau'n dod gyda thi." Aethant allan, a mynd i mewn i'r cwch. Ond ni ddaliasant ddim y noson honno.
3시몬 베드로가 `나는 물고기 잡으러 가노라' 하매 저희가 `우리도 함께 가겠다' 하고 나가서 배에 올랐으나 이 밤에 아무 것도 잡지 못하였더니
4 Pan ddaeth y bore, safodd Iesu ar y lan, ond nid oedd y disgyblion yn gwybod mai Iesu ydoedd.
4날이 새어갈 때에 예수께서 바닷가에 서셨으나 제자들이 예수신줄 알지 못하는지라
5 Dyma Iesu felly'n gofyn iddynt, "Does gennych ddim pysgod, fechgyn?" "Nac oes," atebasant ef.
5예수께서 이르시되 얘들아 너희에게 고기가 있느냐 ? 대답하되 없나이다
6 Meddai yntau wrthynt, "Bwriwch y rhwyd i'r ochr dde i'r cwch, ac fe gewch helfa." Gwnaethant felly, ac ni allent dynnu'r rhwyd i mewn gan gymaint y pysgod oedd ynddi.
6가라사대 `그물을 배 오른 편에 던지라 그리하면 얻으리라' 하신대 이에 던졌더니 고기가 많아 그물을 들 수 없더라
7 A dyma'r disgybl hwnnw yr oedd Iesu'n ei garu yn dweud wrth Pedr, "Yr Arglwydd yw." Yna, pan glywodd Simon Pedr mai'r Arglwydd ydoedd, clymodd ei wisg uchaf amdano (oherwydd yr oedd wedi tynnu ei ddillad), a neidiodd i mewn i'r m�r.
7예수의 사랑하시는 그 제자가 베드로에게 이르되 `주시라 !' 하니 시몬 베드로가 벗고 있다가 주(主)라 하는 말을 듣고 겉옷을 두른 후에 바다로 뛰어 내리더라
8 Daeth y disgyblion eraill yn y cwch, gan lusgo'r rhwyd yn llawn o bysgod; nid oeddent ymhell o'r lan, dim ond rhyw gan medr.
8다른 제자들은 육지에서 상거가 불과 한 오십 간쯤 되므로 작은 배를 타고 고기 든 그물을 끌고 와서
9 Wedi iddynt lanio, gwelsant d�n golosg wedi ei osod, a physgod arno, a bara.
9육지에 올라 보니 숯불이 있는데 그 위에 생선이 놓였고 떡도 있더라
10 Meddai Iesu wrthynt, "Dewch � rhai o'r pysgod yr ydych newydd eu dal."
10예수께서 가라사대 `지금 잡은 생선을 좀 가져오라' 하신대
11 Dringodd Simon Pedr i'r cwch, a thynnu'r rhwyd i'r lan yn llawn o bysgod braf, cant pum deg a thri ohonynt. Ac er bod cymaint ohonynt, ni thorrodd y rhwyd.
11시몬 베드로가 올라가서 그물을 육지에 끌어 올리니 가득히 찬 큰 고기가 일백 쉰 세 마리라 이같이 많으나 그물이 찢어지지 아니하였더라
12 "Dewch," meddai Iesu wrthynt, "cymerwch frecwast." Ond nid oedd neb o'r disgyblion yn beiddio gofyn iddo, "Pwy wyt ti?" Yr oeddent yn gwybod mai yr Arglwydd ydoedd.
12예수께서 가라사대 `와서 조반을 먹으라' 하시니 제자들이 주(主)신줄 아는 고로 당신이 누구냐 ? 감히 묻는 자가 없더라
13 Daeth Iesu atynt, a chymerodd y bara a'i roi iddynt, a'r pysgod yr un modd.
13예수께서 가셔서 떡을 가져다가 저희에게 주시고 생선도 그와 같이 하시니라
14 Dyma, yn awr, y drydedd waith i Iesu ymddangos i'w ddisgyblion ar �l iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw.
14이것은 예수께서 죽은 자 가운데서 살아나신 후에 세 번째로 제자들에게 나타나신 것이라
15 Yna, wedi iddynt gael brecwast, gofynnodd Iesu i Simon Pedr, "Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i yn fwy na'r rhain?" Atebodd ef, "Ydwyf, Arglwydd, fe wyddost ti fy mod yn dy garu di." Meddai Iesu wrtho, "Portha fy u373?yn."
15저희가 조반 먹은 후에 예수께서 시몬 베드로에게 이르시되 `요한의 아들 시몬아, 네가 이 사람들보다 나를 더 사랑하느냐 ?' 하시니 가로되 `주여, 그러하외다 내가 주를 사랑하는 줄 주께서 아시나이다' 가라사대 `내 어린 양을 먹이라' 하시고
16 Wedyn gofynnodd iddo yr ail waith, "Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i?" "Ydwyf, Arglwydd," meddai Pedr wrtho, "fe wyddost ti fy mod yn dy garu di." Meddai Iesu wrtho, "Bugeilia fy nefaid."
16또 두 번째 가라사대 `요한의 아들 시몬아, 네가 나를 사랑하느냐 ?' 하시니 가로되 `주여, 그러하외다 내가 주를 사랑하는 줄 주께서 아시나이다' 가라사대 `내 양을 치라' 하시고
17 Gofynnodd iddo y drydedd waith, "Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i?" Aeth Pedr yn drist am ei fod wedi gofyn iddo y drydedd waith, "A wyt ti'n fy ngharu i?" Ac meddai wrtho, "Arglwydd, fe wyddost ti bob peth, ac rwyt ti'n gwybod fy mod yn dy garu di." Dywedodd Iesu wrtho, "Portha fy nefaid.
17세 번째 가라사대 `요한의 아들 시몬아, 네가 나를 사랑하느냐 ?' 하시니 주께서 세 번째 네가 나를 사랑하느냐 ? 하시므로 베드로가 근심하여 가로되 `주여, 모든 것을 아시오매 내가 주를 사랑하는 줄을 주께서 아시나이다' 예수께서 가라사대 `내 양을 먹이라'
18 Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, pan oeddit yn ifanc, yr oeddit yn dy wregysu dy hunan, ac yn mynd lle bynnag y mynnit. Ond pan fyddi'n hen, byddi'n estyn dy ddwylo i rywun arall dy wregysu, a mynd � thi lle nad wyt yn mynnu."
18`내가 진실로 진실로 네게 이르노니 젊어서는 네가 스스로 띠 띠고 원하는 곳으로 다녔거니와 늙어서는 내 팔을 벌리리니 남이 네게 띠 띠우고 원치 아니하는 곳으로 데려가리라'
19 Dywedodd hyn i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth yr oedd Pedr i ogoneddu Duw trwyddi. Ac wedi iddo ddweud hyn, meddai wrth Pedr, "Canlyn fi."
19이 말씀을 하심은 베드로가 어떠한 죽음으로 하나님께 영광을 돌릴 것을 가리키심이러라 이 말씀을 하시고 베드로에게 이르시되 나를 따르라 하시니
20 Trodd Pedr, a gwelodd y disgybl yr oedd Iesu'n ei garu yn eu canlyn � yr un oedd wedi pwyso'n �l ar fynwes Iesu yn ystod y swper, ac wedi gofyn iddo, "Arglwydd, pwy yw'r un sy'n mynd i'th fradychu di?"
20베드로가 돌이켜 예수의 사랑하시는 그 제자가 따르는 것을 보니 그는 만찬석에서 예수의 품에 의지하여 `주여, 주를 파는 자가 누구오니이까 ?' 묻던 자러라
21 Pan welodd Pedr hwn, felly, gofynnodd i Iesu, "Arglwydd, beth am hwn?"
21이에 베드로가 그를 보고 예수께 여짜오되 `주여, 이 사람은 어떻게 되겠삽나이까 ?'
22 Atebodd Iesu ef, "Os byddaf yn dymuno iddo ef aros hyd nes y dof fi, beth yw hynny i ti? Canlyn di fi."
22예수께서 가라사대 `내가 올 때까지 그를 머물게 하고자 할지라도 네게 무슨 상관이냐 ? 너는 나를 따르라 !' 하시더라
23 Aeth y gair yma ar led ymhlith ei ddilynwyr, a thybiwyd nad oedd y disgybl hwnnw i farw. Ond ni ddywedodd Iesu wrtho nad oedd i farw, ond, "Os byddaf yn dymuno iddo aros hyd nes y dof fi, beth yw hynny i ti?"
23이 말씀이 형제들에게 나가서 그 제자는 죽지 아니하겠다 하였으나 예수의 말씀은 그가 죽지 않겠다 하신 것이 아니라 내가 올 때까지 그를 머물게 하고자 할지라도 네게 무슨 상관이냐 ? 하신 것이러라
24 Hwn yw'r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac sydd wedi ysgrifennu'r pethau hyn. Ac fe wyddom ni fod ei dystiolaeth ef yn wir.
24이 일을 증거하고 이 일을 기록한 제자가 이 사람이라 우리는 그의 증거가 참인 줄 아노라
25 Y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth Iesu. Petai pob un o'r rhain yn cael ei gofnodi, ni byddai'r byd, i'm tyb i, yn ddigon mawr i ddal y llyfrau fyddai'n cael eu hysgrifennu.
25예수의 행하신 일이 이 외에도 많으니 만일 낱낱이 기록된다면 이 세상이라도 이 기록된 책을 두기에 부족할 줄 아노라