1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ar Fynydd Sinai,
1여호와께서 시내산에서 모세에게 일러 가라사대
2 "Dywed wrth bobl Israel, 'Pan ewch i mewn i'r wlad yr wyf yn ei rhoi ichwi, y mae'r wlad i gadw Saboth i'r ARGLWYDD.
2이스라엘 자손에게 고하여 이르라 너희는 내가 너희에게 주는 땅에 들어간 후에 그 땅으로 여호와 앞에 안식하게 하라
3 Am chwe blynedd byddwch yn hau eich meysydd, ac am chwe blynedd yn tocio eich gwinllannoedd ac yn casglu eu ffrwyth;
3너는 육년 동안 그 밭에 파종하며 육년 동안 그 포도원을 다스려 그 열매를 거둘 것이나
4 ond ar y seithfed flwyddyn bydd y wlad yn cael Saboth o orffwys, sef Saboth i'r ARGLWYDD, ac nid ydych i hau eich meysydd nac i docio eich gwinllannoedd.
4제 칠년에는 땅으로 쉬어 안식하게 할지니 여호와께 대한 안식이라 너는 그 밭에 파종하거나 포도원을 다스리지 말며
5 Nid ydych ychwaith i fedi'r cynhaeaf a dyfodd ohono'i hun, nac i gasglu grawnwin oddi ar winwydd heb eu tocio; y mae'r wlad i gael blwyddyn o orffwys.
5너의 곡물의 스스로 난 것을 거두지 말고 다스리지 아니한 포도나무의 맺은 열매를 거두지 말라 이는 땅의 안식년임이니라
6 Ond bydd unrhyw beth a gynhyrcha'r ddaear yn ystod y flwyddyn o Saboth yn fwyd i ti dy hun, ac i'th was a'th forwyn, dy was cyflog a'r estron sy'n byw gyda thi,
6안식년의 소출은 너희의 먹을 것이니 너와 네 남종과, 네 여종과, 네 품군과, 너와 함께 거하는 객과,
7 a hefyd i'th anifail ac i'r bwystfil gwyllt fydd ar dy dir; bydd yr holl gynnyrch yn ymborth.
7네 육축과 네 땅에 있는 들짐승들이 다 그 소산으로 식물을 삼을지니라
8 "'Cyfrif saith Saboth o flynyddoedd, sef saith mlynedd seithwaith; bydd saith Saboth o flynyddoedd yn naw a deugain o flynyddoedd.
8너는 일곱 안식년을 계수할지니 이는 칠년이 일곱번인즉 안식년 일곱번 동안 곧 사십 구년이라
9 Yna ar y degfed dydd o'r seithfed mis p�r ganu'r utgorn ym mhob man; ar Ddydd y Cymod p�r ganu'r utgorn trwy dy holl wlad.
9칠월 십일은 속죄일이니 너는 나팔 소리를 내되 전국에서 나팔을 크게 불지며
10 Cysegra'r hanner canfed flwyddyn, a chyhoedda ryddid trwy'r wlad i'r holl drigolion; bydd hon yn flwyddyn jwbili ichwi, a bydd pob un ohonoch yn dychwelyd i'w dreftadaeth ac at ei dylwyth.
10제 오십년을 거룩하게 하여 전국 거민에게 자유를 공포하라 ! 이 해는 너희에게 희년이니 너희는 각각 그 기업으로 돌아가며 각각 그 가족에게로 돌아갈지며
11 Bydd yr hanner canfed flwyddyn yn flwyddyn jwbili ichwi; peidiwch � hau, na medi'r hyn a dyfodd ohono'i hun, na chasglu oddi ar winwydd heb eu tocio.
11그 오십년은 너희의 희년이니 너희는 파종하지 말며 스스로 난 것을 거두지 말며 다스리지 아니한 포도를 거두지 말라
12 Jwbili ydyw, ac y mae i fod yn sanctaidd ichwi; ond cewch fwyta'r cynnyrch a ddaw o'r tir.
12이는 희년이니 너희에게 거룩함이니라 너희가 밭의 소산을 먹으리라
13 "'Yn y flwyddyn jwbili hon y mae pob un ohonoch i ddychwelyd i'w dreftadaeth.
13이 희년에는 너희가 각기 기업으로 돌아갈지라
14 Felly, pan fyddwch yn gwerthu neu'n prynu tir ymysg eich gilydd, peidiwch � chymryd mantais ar eich gilydd.
14네 이웃에게 팔든지 네 이웃의 손에서 사거든 너희는 서로 속이지 말라
15 Yr ydych i brynu oddi wrth eich gilydd yn �l nifer y blynyddoedd oddi ar y jwbili, ac i werthu i'ch gilydd yn �l nifer y blynyddoedd sydd ar gyfer cynnyrch.
15희년 후의 연수를 따라서 너는 이웃에게 살 것이요 그도 그 열매를 얻을 연수를 따라서 네게 팔 것인즉
16 Pan fydd y blynyddoedd yn niferus, yr ydych i godi'r pris, ond pan fydd y blynyddoedd yn ychydig, yr ydych i'w ostwng, oherwydd yr hyn a werthir yw nifer y cnydau.
16연수가 많으면 너는 그 값을 많게 하고 연수가 적으면 너는 그 값을 적게 할지니 곧 그가 그 열매의 다소를 따라서 네게 팔 것이라
17 Peidiwch � chymryd mantais ar eich gilydd, ond ofnwch eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
17너희는 서로 속이지 말고 너희의 하나님을 경외하라 ! 나는 너희 하나님 여호와니라 !
18 Ufuddhewch i'm deddfau, a chadwch fy ngorchmynion a'u gwneud, a chewch fyw'n ddiogel yn y wlad.
18너희는 내 법도를 행하며 내 규례를 지켜 행하라 ! 그리하면 너희가 그 땅에 안전히 거할 것이라
19 Bydd y wlad yn rhoi ei ffrwyth, a chewch fwyta i'ch digoni a byw yno'n ddiogel.
19땅은 그 산물을 내리니 너희가 배불리 먹고 거기 안전히 거하리라
20 Os gofynnwch, "Beth a fwytawn yn y seithfed flwyddyn, gan na fyddwn yn hau nac yn medi ein cynhaeaf?"
20혹 너희 말이 우리가 만일 제 칠년에 심지도 못하고 그 산물을 거두지도 못하면 무엇을 먹으리요 하겠으나
21 fe drefnaf y fath fendith ar eich cyfer yn y chweched flwyddyn fel y rhoddir digon o gynnyrch ichwi am dair blynedd.
21내가 명하여 제 육년에 내 복을 너희에게 내려 그 소출이 삼년 쓰기에 족하게 할지라
22 Pan fyddwch yn hau yn yr wythfed flwyddyn, byddwch yn bwyta o'r hen gnwd, ac yn parhau i fwyta ohono nes y daw cnwd yn y nawfed flwyddyn.
22너희가 제 팔년에는 파종하려니와 묵은 곡식을 먹을 것이며 제 구년 곧 추수하기까지 묵은 곡식을 먹으리라
23 "'Ni ellir gwerthu tir yn barhaol, oherwydd eiddof fi yw'r tir, ac nid ydych chwi ond estroniaid a thenantiaid i mi.
23토지를 영영히 팔지 말 것은 토지는 다 내 것임이라 너희는 나그네요 우거하는 자로서 나와 함께 있느니라
24 Trwy holl wlad eich treftadaeth, byddwch barod i ryddhau tir a werthwyd.
24너희 기업의 온 땅에서 그 토지 무르기를 허락할지니
25 Os bydd un ohonoch yn dlawd ac yn gwerthu rhan o'i dreftadaeth, caiff ei berthynas agosaf ddod a rhyddhau'r hyn a werthodd.
25만일 너희 형제가 가난하여 그 기업 얼마를 팔았으면 그 근족이 와서 동족의 판 것을 무를 것이요
26 Os bydd heb berthynas i'w ryddhau, ac yntau wedyn yn llwyddo ac yn ennill digon i'w ryddhau,
26만일 그것을 무를 사람이 없고 자기가 부요하게 되어 무를 힘이 있거든
27 y mae i gyfrif y blynyddoedd er pan werthodd ef, ac ad-dalu am hynny i'r gwerthwr, ac yna caiff ddychwelyd i'w dreftadaeth.
27그 판 해를 계수하여 그 남은 값을 산 자에게 주고 그 기업으로 돌아갈 것이니라
28 Os na fydd wedi ennill digon i ad-dalu iddo, bydd yr hyn a werthodd yn eiddo i'r prynwr hyd flwyddyn y jwbili; fe'i dychwelir ym mlwyddyn y jwbili a chaiff y gwerthwr ddychwelyd i'w dreftadaeth.
28그러나 자기가 무를 힘이 없으면 그 판것이 희년이 이르기까지 산자의 손에 있다가 희년에 미쳐 돌아올지니 그가 곧 그 기업으로 돌아갈 것이니라
29 "'Os bydd rhywun yn gwerthu tu375? annedd mewn dinas gaerog, caiff ei ryddhau o fewn blwyddyn lawn ar �l ei werthu; o fewn yr amser hwnnw caiff ei ryddhau.
29성벽 있는 성내의 가옥을 팔았으면 판 지 만 일년 안에는 무를 수 있나니 곧 그 기한 안에 무르려니와
30 Os na fydd wedi ei ryddhau cyn diwedd y flwyddyn lawn, bydd y tu375? yn y ddinas gaerog yn eiddo parhaol i'r sawl a'i prynodd ac i'w ddisgynyddion; nid yw i'w ddychwelyd ym mlwyddyn y jwbili.
30주년 내에 무르지 못하면 그 성내 가옥은 산 자의 소유로 확정되어 대대로 영영히 그에게 속하고 희년에라도 돌려 보내지 아니할 것이니라
31 Ond y mae tai mewn trefi heb furiau o'u hamgylch i'w hystyried fel rhai yng nghefn gwlad; fe ellir eu rhyddhau, ac y maent i'w dychwelyd ym mlwyddyn y jwbili.
31그러나 성벽이 둘리지 아니한 촌락의 가옥은 나라의 전토 일례로 물러주기도 할 것이요 희년에 돌려 보내기도 할 것이니라
32 Bydd gan y Lefiaid hawl parhaol i ryddhau tai eu treftadaeth yn y dinasoedd sy'n perthyn iddynt.
32레위 족속의 성읍 곧 그 기업의 성읍의 가옥은 레위 사람이 언제든지 무를 수 있으나
33 Gellir rhyddhau eiddo yn perthyn i'r Lefiaid, ac y mae tu375? a werthwyd yn un o ddinasoedd eu treftadaeth i'w ddychwelyd ym mlwyddyn y jwbili; y mae'r tai yn ninasoedd y Lefiaid yn dreftadaeth iddynt ymysg pobl Israel.
33레위 사람이 만일 무르지 아니하면 그 기업된 성읍의 판 가옥은 희년에 돌려 보낼지니 대저 레위 사람의 성읍의 가옥은 이스라엘 자손 중에서 얻을 기업이 됨이니라
34 Ond ni cheir gwerthu'r tir pori o amgylch eu trefi, oherwydd y mae'n dreftadaeth barhaol iddynt.
34그러나 그 성읍의 들의 사면 밭은 그의 영원한 기업이니 팔지 못할지니라
35 "'Os bydd un ohonoch yn dlawd a heb fedru ei gynnal ei hun yn eich plith, cynorthwya ef, fel y gwnait i estron neu ymsefydlydd gyda thi, er mwyn iddo fyw yn eich mysg.
35네 동족이 빈한하게 되어 빈 손으로 네 곁에 있거든 너는 그를 도와 객이나 우거하는 자처럼 너와 함께 생활하게 하되
36 Paid � chymryd llog nac elw oddi wrtho, ond ofna dy Dduw, er mwyn iddo barhau i fyw yn eich mysg.
36너는 그에게 이식을 취하지 말고 네 하나님을 경외하여 네 형제로 너와 함께 생활하게 할 것인즉
37 Nid wyt i fenthyca arian iddo ar log nac i werthu bwyd iddo am elw.
37너는 그에게 이식을 위하여 돈을 꾸이지 말고 이익을 위하여 식물을 꾸이지 말라
38 Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth � thi allan o wlad yr Aifft i roi iti wlad Canaan, ac i fod yn Dduw iti.
38나는 너희 하나님이 되려고 또는 가나안 땅으로 너희에게 주려고 애굽 땅에서 너희를 인도하여 낸 너희 하나님 여호와니라 !
39 "'Os bydd un ohonoch yn dlawd ac yn ei werthu ei hun iti, paid �'i orfodi i weithio iti fel caethwas.
39네 동족이 반한하게 되어 네게 몸이 팔리거든 너는 그를 종으로 부리지 말고
40 Y mae i fod fel gwas cyflog neu ymsefydlydd gyda thi, ac i weithio gyda thi hyd flwyddyn y jwbili.
40품군이나 우거하는 자같이 너와 함께 있게 하여 희년까지 너를 섬기게 하라
41 Yna y mae ef a'i deulu i'w rhyddhau, a bydd yn dychwelyd at ei lwyth ei hun ac i dreftadaeth ei hynafiaid.
41그 때에는 그와 그 자녀가 함께 네게서 떠나 그 본족에게로 돌아가서 조상의 기업을 회복하리라
42 Gan mai gweision i mi yw pobl Israel, a ddygais allan o wlad yr Aifft, ni ellir eu gwerthu yn gaethweision.
42그들은 내가 애굽 땅에서 인도하여 낸바 나의 품군인즉 종으로 팔리지 말 것이라
43 Paid � thra-awdurdodi drostynt, ond ofna dy Dduw.
43너는 그를 엄하게 부리지 말고 너의 하나님을 경외하라 !
44 Bydd dy gaethweision, yn wryw a benyw, o blith y cenhedloedd o'th amgylch; o'u plith hwy gelli brynu caethweision.
44너의 종은 남녀를 무론하고 너의 사면 이방인 중에서 취할지니 남녀 종은 이런 자 중에서 살 것이며
45 Cei hefyd brynu rhai o blith yr estroniaid sydd wedi ymsefydlu yn eich plith, a'r rhai o'u tylwyth sydd wedi eu geni yn eich gwlad, a byddant yn eiddo ichwi.
45또 너희 중에 우거한 이방인의 자녀 중에서도 너희가 살 수 있고 또 그들이 너희 중에서 살아서 너희 땅에서 가정을 이룬 그 중에서도 그리할 수 있은즉 그들이 너희 소유가 될찌니
46 Gallwch hefyd eu gadael i'ch plant ar eich �l, iddynt eu cymryd yn etifeddiaeth ac i fod yn gaethweision parhaol iddynt; ond nid ydych i dra-awdurdodi dros eich cyd-Israeliaid.
46너희는 그들을 너희 후손에게 기업으로 주어 소유가 되게 할 것이라 이방인 중에서는 너희가 영원한 종을 삼으려니와 너희 동족 이스라엘 자손은 너희 피차 엄하게 부리지 말지니라
47 "'Os bydd estron neu ymsefydlydd gyda thi yn dod yn gyfoethog, ac un o'ch plith yn mynd yn dlawd ac yn ei werthu ei hun i'r estron sydd wedi ymsefydlu gyda thi, neu i un o dylwyth yr estron,
47너희 중에 우거하는 이방인은 부요하게 되고 그 곁에 사는 너희 동족은 빈한하게 됨으로 너희 중에 우거하는 그 이방인에게나 그 족속에게 몸이 팔렸으면
48 bydd ganddo'r hawl i gael ei ryddhau ar �l ei werthu; gall un o'i deulu ei ryddhau.
48팔린 후에 그를 속량할 수 있나니 그 형제 중 하나가 속하거나
49 Gall ewythr neu nai neu unrhyw berthynas arall yn y llwyth ei ryddhau; neu os caiff lwyddiant, gall ei ryddhau ei hun.
49삼촌이나 사촌이 속하거나 그 근족 중 누구든지 속할 것이요 그가 부요하게 되면 스스로 속하되
50 Y mae ef a'i brynwr i gyfrif o'r flwyddyn y gwerthodd ei hun at flwyddyn y jwbili; bydd arian ei bryniant yn unol �'r hyn a delir i was cyflog dros y nifer hwn o flynyddoedd.
50자기 몸이 팔린 해로부터 희년까지를 그 산 자와 계산하여 그 년수를 따라서 그 몸의 값을 정할 때에 그 사람을 섬긴 날을 그 사람에게 고용된 날로 여길 것이라
51 Os oes llawer o flynyddoedd ar �l, rhaid iddo dalu am ei ryddhau gyfran uchel o'r arian a roddwyd amdano;
51만일 남은 해가 많으면 그 연수대로 팔린 값에서 속하는 값을 그 사람에게 도로 주고
52 ond os ychydig sydd ar �l hyd flwyddyn y jwbili, y mae i wneud y cyfrif ac i dalu yn �l hynny am ei ryddhau.
52만일 희년까지 남은 해가 적으면 그 사람과 계산하여 그 연수대로 속하는 그 값을 그에게 도로 줄지며
53 Y mae i'w ystyried fel un wedi ei gyflogi'n flynyddol; nid ydych i adael i'w berchennog dra-awdurdodi drosto.
53주인은 그를 매년의 삯군과 같이 여기고 너의 목전에서 엄하게 부리지 못하리라
54 Hyd yn oed os na fydd wedi ei ryddhau trwy un o'r ffyrdd hyn, caiff ef a'i blant eu rhyddhau ym mlwyddyn y jwbili;
54그가 이같이 속하지 못하면 희년에 이르러 그와 그 자녀가 자유하리니
55 oherwydd gweision i mi yw pobl Israel, gweision a ddygais allan o wlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
55이스라엘 자손은 나의 품군이 됨이라 그들은 내가 애굽 땅에서 인도하여 낸 나의 품군이요 나는 너희 하나님 여호와니라 !