Welsh

Korean

Micah

4

1 Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tu375?'r ARGLWYDD wedi ei osod ar ben y mynyddoedd ac yn uwch na'r bryniau. Dylifa'r bobloedd ato,
1말일에 이르러는 여호와의 전의 산이 산들의 꼭대기에 굳게 서며 작은 산들 위에 뛰어나고 민족들이 그리로 몰려갈 것이라
2 a daw cenhedloedd lawer, a dweud, "Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD, i deml Duw Jacob, er mwyn iddo ddysgu inni ei ffyrdd ac i ninnau rodio yn ei lwybrau." Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
2곧 많은 이방이 가며 이르기를 오라 우리가 여호와의 산에 올라가서 야곱의 하나님의 전에 이르자 그가 그 도로 우리에게 가르치실 것이라 우리가 그 길로 행하리라 하리니 이는 율법이 시온에서부터 나올 것이요 여호와의 말씀이 예루살렘에서부터 나올 것임이라
3 Bydd ef yn barnu rhwng cenhedloedd, ac yn torri'r ddadl i bobloedd cryfion o bell; byddant hwy'n curo'u cleddyfau'n geibiau, a'u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach;
3그가 많은 민족 중에 심판하시며 먼 곳 강한 이방을 판결하시리니 무리가 그 칼을 쳐서 보습을 만들고 창을 쳐서 낫을 만들 것 이며 이 나라와 저 나라가 다시는 칼을 들고 서로 치지 아니하며다시는 전쟁을 연습하지 아니하고
4 a bydd pob un yn eistedd dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i'w ddychryn. Oherwydd genau ARGLWYDD y Lluoedd a lefarodd.
4각 사람이 자기 포도나무 아래와 자기 무화과나무 아래 앉을 것이라 그들을 두렵게 할 자가 없으리니 이는 만군의 여호와의 입이 이같이 말씀하셨음이니라
5 Rhodia pob un o'r cenhedloedd yn enw ei duw, ac fe rodiwn ninnau yn enw'r ARGLWYDD ein Duw dros byth.
5만민이 각각 자기의 신의 이름을 빙자하여 행하되 오직 우리는 우리 하나님 여호와의 이름을 빙자하여 영원히 행하리로다
6 "Yn y dydd hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "fe gasglaf y cloff, a chynnull y rhai a wasgarwyd a'r rhai a gosbais;
6여호와께서 말씀하시되 그 날에는 내가 저는 자를 모으며 쫓겨난 자와 내가 환난받게한 자를 모아
7 a gwnaf weddill o'r cloff, a chenedl gref o'r gwasgaredig, a theyrnasa'r ARGLWYDD drostynt ym Mynydd Seion yn awr a hyd byth.
7그 저는 자로 남은 백성이 되게 하며 멀리 쫓겨났던 자로 강한 나라가 되게 하고 나 여호와가 시온산에서 이제부터 영원까지 그들을 치리하리라 하셨나니
8 A thithau, tu373?r y ddiadell, mynydd merch Seion, i ti y daw, ie, y daw y llywodraeth a fu, y frenhiniaeth i ferch Jerwsalem."
8너 양떼의 망대요, 딸 시온의 산이여 ! 이전 권능 곧 딸 예루살렘의 나라가 네게로 돌아오리라
9 "Pam yn awr yr wyt yn llefain yn uchel? Onid oes gennyt frenin? A yw dy gynghorwyr wedi darfod, nes bod poenau, fel gwewyr gwraig yn esgor, wedi cydio ynot?"
9이제 네가 어찌하여 부르짖느냐 ? 너희 중에 왕이 없어졌고 네 모사가 죽었으므로 네가 해산하는 여인처럼 고통함이냐 ?
10 "Gwinga a gwaedda, ferch Seion, fel gwraig yn esgor, oherwydd yn awr byddi'n mynd o'r ddinas ac yn byw yn y maes agored; byddi'n mynd i Fabilon. Yno fe'th waredir; yno bydd yr ARGLWYDD yn dy achub o law d'elynion."
10딸 시온이여, 해산하는 여인처럼 애써 구로하여 낳을지어다 이제 네가 성읍에서 나가서 들에 거하며 또 바벨론까지 이르러 거기 구원을 얻으리니 여호와께서 거기서 너를 너의 원수들의 손에서 속량하여 내리시리라
11 "Yn awr y mae llawer o genhedloedd wedi ymgasglu yn dy erbyn, ac yn dweud, 'Haloger hi, a chaed ein llygaid weld eu dymuniad ar Seion.'
11이제 많은 이방이 모여서 너를 쳐 이르기를 시온이 더럽게 되며 그것을 우리 눈으로 바라보기를 원하노라 하거니와
12 Ond nid ydynt hwy'n gwybod meddyliau'r ARGLWYDD, nac yn deall ei fwriad, oherwydd y mae ef wedi eu casglu fel ysgubau i'r llawr dyrnu.
12그들이 여호와의 뜻을 알지 못하며 그 모략을 깨닫지 못한 것이라 여호와께서 곡식단을 타작마당에 모음 같이 그들을 모으셨나니
13 Cod i ddyrnu, ferch Seion, oherwydd gwnaf dy gorn o haearn a'th garnau o bres, ac fe fethri bobloedd lawer; yn ddiofryd i'r ARGLWYDD y gwneir eu helw, a'u cyfoeth i Arglwydd yr holl ddaear."
13딸 시온이여, 일어나서 칠지어다 내가 네 뿔을 철 같게 하며 네 굽을 놋 같게 하리니 네가 여러 백성을 쳐서 깨뜨릴 것이라 내가 그들의 탈취물을 구별하여 여호와께 드리며 그들의 재물을 온 땅의 대주재께 돌리리라