Welsh

Koya

1 Chronicles

13

1 Wedi iddo ymgynghori � chap-teiniaid y miloedd a'r cannoedd, ac �'r holl swyddogion,
2 dywedodd Dafydd wrth holl gynulleidfa Israel, "Os ydych yn cytuno, ac os dyma ewyllys yr ARGLWYDD ein Duw, gadewch inni anfon gair at ein perthnasau sydd ar �l yn holl wlad Israel, a hefyd at yr offeiriaid a'r Lefiaid sydd mewn dinasoedd gyda chytir, yn gofyn iddynt ymuno � ni.
3 Yna down ag arch ein Duw yn �l atom, oherwydd yn nyddiau Saul yr oeddem yn ei hesgeuluso."
4 Cytunodd yr holl gynulleidfa i wneud felly am fod y peth yn dderbyniol gan bawb.
5 Felly casglodd Dafydd Israel gyfan o Sihor yn yr Aifft hyd at Lebo-hamath, i ddod ag arch Duw o Ciriath-jearim.
6 Ac aeth Dafydd a holl Israel i Baala yn Jwda, sef Ciriath-jearim, i gyrchu oddi yno arch Duw, a enwir ar �l yr ARGLWYDD sydd �'i orsedd ar y cerwbiaid.
7 Daethant ag arch Duw ar fen newydd o du375? Abinadab, ac Ussa ac Ah�o oedd yn tywys y fen.
8 Yr oedd Dafydd a holl Israel yn gorfoleddu o flaen Duw �'u holl ynni, dan ganu gyda thelynau, nablau, tympanau, symbalau a thrwmpedau.
9 Pan ddaethant at lawr dyrnu Cidon, estynnodd Ussa ei law i afael yn yr arch am fod yr ychen yn ei hysgwyd.
10 Enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn Ussa, ac fe'i trawodd am iddo estyn ei law at yr arch; a bu farw yno gerbron Duw.
11 Cynhyrfodd Dafydd am fod llid yr ARGLWYDD wedi torri allan yn erbyn Ussa, a galwodd y lle hwnnw yn Peres Ussa; a dyna'i enw hyd y dydd hwn.
12 Yr oedd ofn Duw ar Ddafydd y diwrnod hwnnw a dywedodd, "Sut y dof ag arch Duw i mewn ataf?"
13 Felly ni ddaeth Dafydd �'r arch i Ddinas Dafydd, ond fe'i rhoddodd yn nhu375? Obed-edom o Gath.
14 Bu arch Duw yn nhu375? Obed-edom a'i deulu am dri mis. A bendithiodd yr ARGLWYDD du375? Obed-edom a'i holl eiddo.