Welsh

Koya

2 Chronicles

24

1 Saith oed oedd Jehoas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am ddeugain mlynedd. Sibia o Beerseba oedd enw ei fam.
2 Gwnaeth Jehoas yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD trwy gydol cyfnod Jehoiada'r offeiriad.
3 Dewisodd Jehoiada ddwy wraig iddo, a chafodd ganddynt feibion a merched.
4 Wedi hyn, rhoddodd Jehoas ei fryd ar adnewyddu tu375?'r ARGLWYDD.
5 Cynullodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a dweud wrthynt, "Ewch ar frys trwy holl ddinasoedd Jwda i gasglu'r dreth flynyddol gan Israel gyfan, er mwyn atgyweirio tu375? eich Duw." Ond ni frysiodd y Lefiaid.
6 Galwodd y brenin ar Jehoiada, yr archoffeiriad, a dweud wrtho, "Pam na fynnaist fod y Lefiaid yn casglu o Jwda a Jerwsalem y dreth a osododd Moses gwas yr ARGLWYDD ar gynulleidfa Israel ar gyfer pabell y dystiolaeth?
7 Oherwydd y mae meibion y wraig ddrwg Athaleia wedi malurio tu375? Dduw, ac wedi rhoi pob un o'i bethau cysegredig i'r Baalim."
8 Ar orchymyn y brenin gwnaethant gist a'i gosod y tu allan i borth tu375?'r ARGLWYDD.
9 Yna cyhoeddwyd trwy Jwda a Jerwsalem fod pawb i roi i'r ARGLWYDD y dreth a osododd Moses gwas Duw ar Israel yn yr anialwch.
10 Dygodd yr holl dywysogion a'r bobl yr arian yn llawen, a'i roi yn y gist nes ei bod yn llawn.
11 Bob tro y byddai'r Lefiaid yn dod �'r gist at swyddogion y brenin, a hwythau'n gweld fod ynddi swm mawr o arian, byddai ysgrifennydd y brenin a swyddog yr archoffeiriad yn dod ac yn gwagio'r gist, ac yna'n mynd � hi'n �l i'w lle. Gwnaent hyn yn gyson, a chasglu llawer o arian.
12 Rhoddai'r brenin a Jehoiada yr arian i'r rhai a benodwyd i ofalu am y gwaith yn nhu375?'r ARGLWYDD; yr oeddent hwythau yn cyflogi seiri maen a seiri coed i adnewyddu tu375?'r ARGLWYDD, a gweithwyr mewn haearn a phres i'w atgyweirio.
13 Yr oedd y rhai a benodwyd yn gweithio'n ddyfal, a bu'r atgyweirio'n llwyddiant dan eu gofal; gwnaethant du375? Dduw yn gadarn, a'i adfer i'w gyflwr gwreiddiol.
14 Wedi iddynt orffen, daethant � gweddill yr arian i'r brenin ac i Jehoiada, ac fe'i defnyddiwyd i wneud llestri i du375?'r ARGLWYDD, sef llestri ar gyfer y gwasanaeth a'r poethoffrymau, llwyau a llestri aur ac arian. Buont yn offrymu poethoffrymau yn barhaus yn nhu375?'r ARGLWYDD holl ddyddiau Jehoiada.
15 Aeth Jehoiada'n hen, a bu farw mewn oedran teg. Yr oedd yn gant tri deg pan fu farw,
16 a chafodd ei gladdu gyda'r brenhinoedd yn Ninas Dafydd, am iddo wneud daioni yn Israel a gwasanaethu Duw a'i du375?.
17 Wedi marw Jehoiada, daeth tyw-ysogion Jwda i dalu gwrogaeth i'r brenin, a gwrandawodd yntau arnynt.
18 Yna troesant eu cefn ar du375?'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a gwasanaethu'r pyst Asera a'r delwau. Daeth llid Duw ar Jwda a Jerwsalem am iddynt droseddu fel hyn.
19 Ac er i'r ARGLWYDD anfon proffwydi atynt i'w harwain yn �l ato ac i'w hargyhoeddi, ni wrandawsant arnynt.
20 Yna daeth ysbryd Duw ar Sechareia fab Jehoiada yr offeiriad, ac fe safodd gerbron y bobl a dweud, "Fel hyn y dywed Duw: 'Pam yr ydych yn torri gorchmynion yr ARGLWYDD? Ni fyddwch yn ffynnu. Am i chwi droi cefn ar yr ARGLWYDD, y mae yntau wedi troi ei gefn arnoch chwi.'"
21 Ond gwnaethant gynllwyn yn ei erbyn, ac ar orchymyn y brenin fe'i llabyddiwyd yng nghyntedd tu375?'r ARGLWYDD.
22 Anghofiodd y Brenin Jehoas am y caredigrwydd a gafodd gan Jehoiada tad Sechareia, a lladdodd ei fab. Fel yr oedd Sechareia'n marw, dywedodd, "Bydded i'r ARGLWYDD weld, a'th alw i gyfrif."
23 Ar ddiwedd y flwyddyn daeth byddin Syria i ryfela yn erbyn Jehoas. Daethant i Jwda a Jerwsalem, a lladd pob un o dywysogion y bobl, ac anfon eu hysbail i gyd i frenin Damascus.
24 Er i'r Syriaid ddod gyda byddin fechan, rhoddodd yr ARGLWYDD lu mawr iawn yn eu dwylo, am i'r bobl droi eu cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Felly daethant � barn ar Jehoas.
25 Ar �l i'r Syriaid fynd ymaith, a'i adael wedi ei glwyfo'n ddrwg, cynllwyniodd ei weision ei hun yn ei erbyn i ddial am farwolaeth mab Jehoiada yr offeiriad, a lladdasant Jehoas ar ei wely. Felly bu farw, ac fe'i claddwyd yn Ninas Dafydd, ond nid ym meddau'r brenhinoedd.
26 Y rhai a gynllwyniodd yn ei erbyn oedd Sabad fab Simeath yr Ammones, a Jehosabad fab Simrith y Foabes.
27 Y mae hanes ei feibion, y llu oraclau a draddodwyd yn ei erbyn, a hanes ei waith yn atgyweirio tu375? Dduw, i gyd wedi eu hysgrifennu yn yr esboniad ar Lyfr y Brenhinoedd. Daeth ei fab Amaseia yn frenin yn ei le.