Welsh

Koya

2 Chronicles

34

1 Wyth mlwydd oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri deg ac un o flynyddoedd yn Jerwsalem.
2 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn llwybrau ei dad Dafydd yn gwbl ddiwyro.
3 Yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ac yntau'n dal yn llanc ifanc, dechreuodd geisio Duw ei dad Dafydd. Yn y ddeuddegfed flwyddyn, dechreuodd buro Jwda a Jerwsalem o'r uchelfeydd, y pyst Asera, y cerfddelwau a'r delwau tawdd.
4 Gorchmynnodd ddinistrio allorau'r Baalim, a thorrodd i lawr yr allorau arogldarth a oedd uwch eu pen; drylliodd yn chwilfriw y pyst Asera, y cerfddelwau a'r delwau tawdd; malodd hwy'n yfflon a thaenu eu llwch hyd wyneb beddau y rhai a fu'n aberthu iddynt.
5 Llosgodd esgyrn yr offeiriaid ar eu hallorau, a phurodd Jwda a Jerwsalem.
6 Gwnaeth yr un peth yn ninasoedd Manasse, Effraim a Simeon, hyd at Nafftali, ac yn yr adfeilion o'u cwmpas,
7 sef dryllio'r allorau a'r pyst Asera, a malu'r cerfluniau'n yfflon a dinistrio'r holl arogldarth trwy Israel gyfan; yna dychwelodd i Jerwsalem.
8 Yn y ddeunawfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ar �l puro'r wlad a'r deml, anfonodd Saffan fab Asaleia, Maaseia rheolwr y ddinas a Joa fab Joahas y cofiadur i atgyweirio tu375?'r ARGLWYDD ei Dduw.
9 Pan ddaethant at Hilceia yr archoffeiriad rhoesant iddo'r arian a ddygwyd i du375? Dduw ac a gasglodd y Lefiaid, ceidwaid y drws, oddi wrth Manasse ac Effraim a gweddill Israel, ac o holl Jwda, Benjamin a thrigolion Jerwsalem.
10 Yna rhoddwyd ef i'r goruchwylwyr oedd yn gofalu am du375?'r ARGLWYDD; rhoddasant hwythau ef i'r gweithwyr oedd yn gweithio yn nhu375?'r ARGLWYDD ac yn atgyweirio'i agennau.
11 Fe'i rhoesant hefyd i'r seiri a'r adeiladwyr i brynu cerrig nadd a choed ar gyfer distiau a thrawstiau i'r adeiladau yr oedd brenhinoedd Jwda wedi eu hesgeuluso.
12 Yr oedd y dynion yn gweithio'n ddiwyd dan oruchwyliaeth y Lefiaid oedd yn eu hannog, sef Jahath ac Obadeia o feibion Merari, a Sechareia a Mesulam o feibion y Cohathiaid. Ac yr oedd y Lefiaid, pob un a fedrai ganu offeryn cerdd,
13 hefyd yn gofalu am y cludwyr ac yn arolygu pob gweithiwr, beth bynnag oedd ei waith. Yr oedd rhai o'r Lefiaid hefyd yn ysgrifenyddion, swyddogion a phorthorion.
14 Wrth iddynt ddwyn allan yr arian a ddygwyd i du375?'r ARGLWYDD, darganfu Hilceia'r offeiriad lyfr cyfraith yr ARGLWYDD, a roddwyd trwy Moses.
15 Dywedodd Hilceia wrth Saffan yr ysgrifennydd, "Cefais lyfr y gyfraith yn nhu375?'r ARGLWYDD." A rhoddodd y llyfr i Saffan.
16 Aeth Saffan �'r llyfr at y brenin a'r un pryd rhoi adroddiad iddo a dweud, "Y mae dy weision yn gwneud y cwbl a orchmynnwyd iddynt.
17 Y maent wedi cyfrif yr arian oedd yn nhu375?'r ARGLWYDD ac wedi ei drosglwyddo i'r ymgymerwyr a'r gweithwyr."
18 Ac ychwanegodd Saffan yr ysgrifennydd wrth y brenin, "Rhoddodd Hilceia'r offeiriad lyfr imi"; a darllenodd Saffan ef i'r brenin.
19 Pan glywodd y brenin gynnwys y gyfraith, rhwygodd ei ddillad,
20 a gorchmynnodd i Hilceia ac i Ahicam fab Saffan, ac i Abdon fab Nicha, ac i Saffan yr ysgrifennydd ac i Asaia gwas y brenin,
21 "Ewch i ymgynghori �'r ARGLWYDD ar fy rhan, ac ar ran pawb sydd ar �l yn Israel a Jwda, ynglu375?n � chynnwys y llyfr a ddaeth i'r golwg; oherwydd y mae llid yr ARGLWYDD yn fawr, ac wedi ei ennyn yn ein herbyn am na chadwodd ein hynafiaid air yr ARGLWYDD na gwneud yr hyn a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn."
22 Yna aeth Hilceia, a'r rhai a orchmynnodd y brenin, at y broffwydes Hulda, gwraig Salum fab Ticfa, fab Hasra, ceidwad y gwisgoedd. Yr oedd hi'n byw yn yr Ail Barth yn Jerwsalem; ac wedi iddynt ddweud eu neges,
23 dywedodd hi wrthynt, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dywedwch wrth y gu373?r a'ch anfonodd ataf,
24 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn dwyn drwg ar y lle hwn a'i drigolion, sef yr holl felltithion sy'n ysgrifenedig yn y llyfr a ddarllenwyd yng ngu373?ydd brenin Jwda,
25 am eu bod wedi fy ngwrthod ac wedi arogldarthu i dduwiau eraill, i'm digio ym mhopeth a wn�nt; y mae fy nig wedi ei ennyn yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir.'
26 Dyma a ddywedwch wrth frenin Jwda, a'ch anfonodd i ymgynghori �'r ARGLWYDD: 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, ynglu375?n �'r geiriau a glywaist:
27 Am i'th galon dyneru ac iti ymostwng o flaen Duw pan glywaist ei eiriau am y lle hwn a'i drigolion, am iti ymostwng ac wylo o'i flaen, a rhwygo dy ddillad, yr wyf finnau wedi gwrando, medd yr ARGLWYDD.
28 Am hynny pan fyddi farw, dygir di i'r bedd mewn heddwch, ac ni w�l dy lygaid yr holl ddrwg a ddygaf ar y lle hwn a'i drigolion.'" Dygasant hwythau'r ateb i'r brenin.
29 Yna anfonodd y brenin a chasglu ynghyd holl henuriaid Jwda a Jerwsalem;
30 ac aeth i fyny i du375?'r ARGLWYDD, a holl bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem gydag ef, a hefyd yr offeiriaid a'r Lefiaid a phawb o'r bobl, o'r lleiaf hyd y mwyaf. Yna darllenodd yn eu clyw holl gynnwys y llyfr cyfamod a gaed yn nhu375?'r ARGLWYDD.
31 Safodd y brenin wrth ei golofn, a gwnaeth gyfamod o flaen yr ARGLWYDD i ddilyn yr ARGLWYDD ac i gadw ei orchmynion a'i dystiolaethau a'i ddeddfau �'i holl galon ac �'i holl enaid, ac i gyflawni geiriau'r cyfamod a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn.
32 Gwnaeth i bawb oedd yn byw yn Jerwsalem a Benjamin gadw'r cyfamod. Yna cadwodd trigolion Jerwsalem gyfamod Duw, Duw eu hynafiaid.
33 Felly tynnodd Joseia ymaith bob ffieidd�dra o'r holl diriogaeth oedd yn perthyn i'r Israeliaid, a gwnaeth i bawb oedd yn byw yn Israel wasanaethu'r ARGLWYDD eu Duw. Yn ei gyfnod ef ni throesant oddi ar �l yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.