1 "Ni chedwir yr amseroedd gan yr Hollalluog, ond nid yw'r rhai sy'n ei adnabod yn eu gwybod.
2 Y mae'r annuwiol yn symud terfynau, ac yn lladrata'r praidd i'w bugeilio.
3 Dygant asyn yr amddifad i ffwrdd, a thywysant ymaith ych y weddw.
4 Gwthiant y tlawd o'r ffordd, a chwilia rhai anghenus y wlad am le i ymguddio.
5 �nt i'w gorchwyl fel asynnod gwyllt yn yr anialwch; chwiliant am ysglyfaeth yn y diffeithwch, yn fwyd i'w plant.
6 Medant faes nad yw'n eiddo iddynt, a lloffant winllan yr anghyfiawn.
7 Gorweddant drwy'r nos yn noeth, heb ddillad, heb gysgod rhag yr oerni.
8 Fe'u gwlychir gan law trwm y mynyddoedd; am eu bod heb loches, ymwthiant at graig.
9 "Tynnir yr amddifad oddi ar y fron, a chymryd plentyn y tlawd yn wystl.
10 "Cerddant o gwmpas yn noeth heb ddillad, a newynant wrth gasglu ysgubau.
11 Gwasgant yr olew rhwng y meini; sathrant y cafnau gwin, ond y maent yn sychedig.
12 o'r ddinas clywir griddfan y rhai sy'n marw, ac ochain y rhai clwyfedig yn gweiddi am gymorth; ond ni rydd Duw sylw i'w cri.
13 "Dyma'r rhai sy'n gwrthryfela yn erbyn y goleuni, y rhai nad ydynt yn adnabod ei ffyrdd, nac yn aros yn ei lwybrau.
14 Cyn i'r dydd wawrio daw'r llofrudd i ladd yr anghenus a'r tlawd. Yn y nos y gweithia'r lleidr; y mae'n torri i mewn i dai yn y tywyllwch.
15 Y mae'r godinebwr yn gwylio'i gyfle yn y cyfnos, gan ddweud, 'Nid oes neb yn fy ngweld', ac yn gosod gorchudd ar ei wyneb.
16 Cuddiant eu hunain yn ystod y dydd � y rhain na wyddant beth yw goleuni.
17 Y mae'r bore yr un fath �'r fagddu iddynt; eu cynefin yw dychrynfeydd y fagddu.
18 "Llysnafedd ar wyneb dyfroedd ydynt; melltithiwyd eu cyfran yn y tir; ni thry neb i gyfeiriad eu gwinllannoedd.
19 Fel y mae sychder a gwres yn cipio'r dyfroedd ar �l eira, felly y gwna Sheol i'r rhai a bechodd.
20 Anghofir hwy gan y groth, fe'u hysir gan y llyngyryn, ac ni chofir hwy mwyach; torrir ymaith anghyfiawnder fel coeden.
21 Drygant yr un na ddygodd blant, ac ni wn�nt dda i'r weddw.
22 "Y mae ef yn meddiannu'r cryf trwy ei nerth, a phan gyfyd, nid oes gan neb hyder yn ei einioes.
23 Gwna iddynt gredu y cynhelir hwy; eto y mae ei lygaid ar eu ffyrdd.
24 Dyrchefir hwy dros dro, yna diflannant; gwywant a chiliant fel hocys; gwywant fel brig y dywysen.
25 Os nad felly y mae, pwy all fy ngwrthbrofi a gwneud fy ngeiriau'n ddim?"