Welsh

Koya

Job

32

1 Peidiodd y tri gu373?r � dadlau rhagor � Job, am fod Job yn ei ystyried ei hun yn fwy cyfiawn na Duw.
2 Ond yr oedd Elihu fab Barachel y Busiad, o dylwyth Ram, wedi ei gythruddo yn erbyn Job. Yr oedd yn ddig am ei fod yn ei ystyried ei hun yn gyfiawn gerbron Duw,
3 a'r un mor ddig wrth ei dri chyfaill am eu bod yn methu ateb Job er iddynt ei gondemnio.
4 Tra oeddent hwy'n llefaru wrth Job, yr oedd Elihu wedi cadw'n dawel am eu bod yn hu375?n nag ef.
5 Ond digiodd pan welodd nad oedd gan y tri gu373?r ateb i Job.
6 Yna dywedodd Elihu fab Barachel y Busiad: "Dyn ifanc wyf fi, a chwithau'n hen; am hyn yr oeddwn yn ymatal, ac yn swil i ddweud fy marn wrthych.
7 Dywedais, 'Caiff profiad maith siarad, ac amlder blynyddoedd draethu doethineb.'
8 Ond yr ysbryd oddi mewn i rywun, ac anadl yr Hollalluog, sy'n ei wneud yn ddeallus.
9 Nid yr oedrannus yn unig sydd ddoeth, ac nid yr hen yn unig sy'n deall beth sydd iawn.
10 Am hyn yr wyf yn dweud, 'Gwrando arnaf; gad i minnau ddweud fy marn.'
11 "B�m yn disgwyl am eich geiriau, ac yn gwrando am eich deallusrwydd; tra oeddech yn dewis eich geiriau,
12 sylwais yn fanwl arnoch, ond nid oedd yr un ohonoch yn gallu gwrthbrofi Job, nac ateb ei ddadleuon.
13 Peidiwch � dweud, 'Fe gawsom ni ddoethineb'; Duw ac nid dyn a'i trecha.
14 Nid yn f'erbyn i y trefnodd ei ddadleuon; ac nid �'ch geiriau chwi yr atebaf fi ef.
15 "Y maent hwy wedi eu syfrdanu, ac yn methu ateb mwyach; pallodd geiriau ganddynt.
16 A oedaf fi am na lefarant hwy, ac am eu bod hwy wedi peidio ag ateb?
17 Gwnaf finnau fy rhan trwy ateb, a dywedaf fy marn.
18 Yr wyf yn llawn o eiriau, ac ysbryd ynof sy'n fy nghymell.
19 O'm mewn yr wyf fel petai gwin yn methu arllwys allan, a minnau fel costrelau newydd ar fin rhwygo.
20 Rhaid i mi lefaru er mwyn cael gollyngdod, rhaid i mi agor fy ngenau i ateb.
21 Ni ddangosaf ffafr at neb, ac ni wenieithiaf i neb;
22 oherwydd ni wn i sut i wenieithio; pe gwnawn hynny, byddai fy nghreawdwr ar fyr dro yn fy symud.