Welsh

Koya

Job

36

1 Aeth Elihu ymlaen i ddweud:
2 "Aros ychydig, imi gael dangos iti fod eto eiriau i'w dweud dros Dduw.
3 Yr wyf yn tynnu fy ngwybodaeth o bell, i dystio bod fy Ngwneuthurwr yn gyfiawn.
4 Yn wir nid yw fy ngeiriau'n gelwydd; un diogel ei wybodaeth sydd o'th flaen.
5 Edrych yma, Duw yw'r Un Cadarn; nid yw'n anystyriol, eithr mawr a chadarn yw mewn deall.
6 Nid yw'n gadael i'r drygionus gael byw, ond fe gynnal achos y gwan.
7 Ni thry ei olwg oddi ar y cyfiawn, ond gyda brenhinoedd ar orsedd c�nt eistedd am byth, a llwyddo.
8 Os rhwymir hwy mewn cadwynau, a'u dal mewn gefynnau gofid,
9 yna fe ddengys iddynt eu gweithred a'u trosedd, am iddynt fod yn ffroenuchel.
10 Rhydd rybudd iddynt am ddisgyblaeth, a dywed wrthynt am droi oddi wrth eu drygioni.
11 Os gwrandawant, a bod yn ufudd, fe g�nt dreulio'u dyddiau mewn llwyddiant, a'u blynyddoedd mewn hyfrydwch.
12 Os gwrthodant wrando, difethir hwy gan gleddyf, a darfyddant heb ddysgu dim.
13 "Y mae'r rhai annuwiol yn ennyn dig, ac ni cheisiant gymorth mewn caethiwed.
14 Y maent yn marw'n ifanc, wedi treulio'u bywyd gyda phuteinwyr cysegr.
15 Fe wareda ef y rhai trallodus trwy eu gofid, a'u dysgu trwy orthrymder.
16 "Er iddo geisio dy ddenu oddi wrth ofid, a'th ddwyn o le cyfyng i ehangder, a hulio dy fwrdd � phob braster,
17 yr wyt yn llawn o farn ar y drygionus, wedi dy feddiannu gan farn a chyfiawnder.
18 Gwylia rhag cael dy hudo gan ddigonedd, a phaid � gadael i faint y rhodd dy ddenu.
19 A fydd dy gyfoeth yn dy helpu mewn cyfyngder, neu holl adnoddau dy nerth?
20 Paid � dyheu am y nos, pan symudir pobloedd o'u lle.
21 Gwylia rhag troi at ddrygioni, oherwydd dewisi hyn yn hytrach na gofid.
22 Sylwa mor aruchel yw Duw yn ei nerth; pwy sydd yn dysgu fel y gwna ef?
23 Pwy a wylia arno yn ei ffordd? a phwy a ddywed, 'Yr wyt yn gwneud yn anghyfiawn'?
24 "Cofia di ganmol ei waith, y gwaith y canodd pobl amdano.
25 Y mae pawb yn edrych arno, ac yn ei weld o bell.
26 Cofia fod Duw yn fawr, y tu hwnt i ddeall, a'i flynyddoedd yn ddirifedi.
27 Y mae'n cronni'r defnynnau du373?r, ac yn eu dihidlo'n law m�n fel tarth;
28 fe'u tywelltir o'r cymylau, i ddisgyn yn gawodydd ar bobl.
29 A ddeall neb daeniad y cwmwl, a'r tyrfau sydd yn ei babell?
30 Edrych fel y taena'i darth o'i gwmpas, ac y cuddia waelodion y m�r.
31 �'r rhain y diwalla ef y bobloedd, a rhoi iddynt ddigonedd o fwyd.
32 Deil y mellt yn ei ddwylo, a'u hanelu i gyrraedd eu nod.
33 Dywed ei drwst amdano, fod angerdd ei lid yn erbyn drygioni.