1 "A wyddost ti amser llydnu y geifr gwylltion? A fuost ti'n gwylio'r ewigod yn esgor,
2 yn cyfrif y misoedd a gyflawnant ac yn gwybod amser eu llydnu?
3 Y maent yn crymu i eni eu llydnod, ac yn bwrw eu brych.
4 Y mae eu llydnod yn cryfhau ac yn prifio yn y maes, yn mynd ymaith, ac ni dd�nt yn �l.
5 "Pwy sy'n rhoi ei ryddid i'r asyn gwyllt, ac yn datod rhwymau'r asyn cyflym
6 y rhoddais yr anialdir yn gynefin iddo, a thir diffaith yn lle iddo fyw?
7 Y mae'n gas ganddo su373?n y dref; y mae'n fyddar i floeddiadau gyrrwr.
8 Crwydra'r mynyddoedd am borfa, a chwilia am bob blewyn glas.
9 "A yw'r ych gwyllt yn fodlon bod yn dy wasanaeth, a threulio'r nos wrth dy breseb?
10 A wyt yn gallu ei rwymo i gerdded yn y rhych, neu a fydd iddo lyfnu'r dolydd ar dy �l?
11 A wyt ti'n dibynnu arno am ei fod yn gryf? A adewi dy lafur iddo?
12 A ymddiriedi ynddo i ddod �'th rawn yn �l, a'i gasglu i'th lawr dyrnu?
13 "Ysgwyd yn brysur a wna adenydd yr estrys, ond heb fedru hedfan fel adenydd y garan;
14 y mae'n gadael ei hwyau ar y ddaear, i ddeor yn y pridd,
15 gan anghofio y gellir eu sathru dan draed, neu y gall anifail gwyllt eu mathru.
16 Y mae'n esgeulus o'i chywion, ac yn eu trin fel pe na baent yn perthyn iddi, heb ofni y gallai ei llafur fod yn ofer.
17 Oherwydd gadawodd Duw hi heb ddoethineb, ac nid oes ganddi ronyn o ddeall.
18 Ond pan gyfyd a rhedeg, gall chwerthin am ben march a'i farchog.
19 "Ai ti sy'n rhoi nerth i'r march, ac yn gwisgo'i war � mwng?
20 Ai ti sy'n gwneud iddo ruglo fel locust, a gweryru nes creu dychryn?
21 Cura'r llawr �'i droed, ac ymffrostia yn ei nerth pan � allan i wynebu'r frwydr.
22 Y mae'n ddi-hid ac yn ddi-fraw; ni thry'n �l rhag y cleddyf.
23 O'i gwmpas y mae clep y cawell saethau, fflach y cleddyf a'r waywffon.
24 Yn aflonydd a chynhyrfus y mae'n difa'r ddaear; ni all aros yn llonydd pan glyw sain utgorn.
25 Pan glyw'r utgorn, dywed, 'Aha !' Fe synhwyra frwydr o bell, trwst y capteiniaid a'u bloedd.
26 "Ai dy ddeall di sy'n gwneud i'r hebog hedfan a lledu ei adenydd tua'r De?
27 Ai d'orchymyn di a wna i'r eryr hedfan a gosod ei nyth yn uchel?
28 Fe drig ar y graig, ac aros yno yng nghilfach y graig a'i diogelwch.
29 Oddi yno y chwilia am fwyd, gan edrych i'r pellter.
30 Y mae ei gywion yn llowcio gwaed; a phle bynnag y ceir ysgerbwd, y mae ef yno."