1 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Am ba hyd, ARGLWYDD, yr anghofi fi'n llwyr? Am ba hyd y cuddi dy wyneb oddi wrthyf?
2 Am ba hyd y dygaf loes yn fy enaid, a gofid yn fy nghalon ddydd ar �l dydd? Am ba hyd y bydd fy ngelyn yn drech na mi?
3 Edrych arnaf ac ateb fi, O ARGLWYDD fy Nuw; goleua fy llygaid rhag imi gysgu hun marwolaeth,
4 rhag i'm gelyn ddweud, "Gorchfygais ef", ac i'm gwrthwynebwyr lawenhau pan gwympaf.
5 Ond yr wyf fi'n ymddiried yn dy ffyddlondeb, a chaiff fy nghalon lawenhau yn dy waredigaeth; canaf i'r ARGLWYDD, am iddo fod mor hael wrthyf.