Welsh

Koya

Psalms

21

1 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 O ARGLWYDD, fe lawenycha'r brenin yn dy nerth; mor fawr yw ei orfoledd yn dy waredigaeth!
2 Rhoddaist iddo ddymuniad ei galon, ac ni wrthodaist iddo ddeisyfiad ei wefusau. Sela.
3 Daethost i'w gyfarfod � bendithion daionus, a rhoi coron o aur coeth ar ei ben.
4 Am fywyd y gofynnodd iti, ac fe'i rhoddaist iddo � hir ddyddiau byth bythoedd.
5 Mawr yw ei ogoniant oherwydd dy waredigaeth; yr wyt yn rhoi iddo ysblander ac anrhydedd,
6 yr wyt yn rhoi bendithion iddo dros byth ac yn ei lawenhau � gorfoledd dy bresenoldeb.
7 Y mae'r brenin yn ymddiried yn yr ARGLWYDD, ac oherwydd ffyddlondeb y Goruchaf nis symudir.
8 Caiff dy law afael ar dy holl elynion, a'th ddeheulaw ar y rhai sy'n dy gas�u.
9 Byddi'n eu gwneud fel ffwrnais danllyd pan ymddangosi; bydd yr ARGLWYDD yn eu difa yn ei lid, a'r t�n yn eu hysu.
10 Byddi'n dinistrio'u hepil oddi ar y ddaear, a'u plant o blith y ddynolryw.
11 Yr oeddent yn bwriadu drwg yn d'erbyn, ac yn cynllunio niwed heb lwyddo;
12 oherwydd byddi di'n gwneud iddynt ffoi, ac yn anelu at eu hwynebau �'th fwa.
13 Dyrchafa, ARGLWYDD, yn dy nerth! Cawn ganu a'th ganmol am dy gryfder!