Welsh

Koya

Psalms

23

1 1 Salm. I Ddafydd.0 Yr ARGLWYDD yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.
2 Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision, a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel,
3 ac y mae ef yn fy adfywio. Fe'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.
4 Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi, a'th wialen a'th ffon yn fy nghysuro.
5 Yr wyt yn arlwyo bwrdd o'm blaen yng ngu373?ydd fy ngelynion; yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew; y mae fy nghwpan yn llawn.
6 Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilyn bob dydd o'm bywyd, a byddaf yn byw yn nhu375?'r ARGLWYDD weddill fy nyddiau.