Welsh

Koya

Psalms

33

1 Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, chwi rai cyfiawn; i'r rhai uniawn gweddus yw moliant.
2 Molwch yr ARGLWYDD �'r delyn, canwch salmau iddo �'r offeryn dectant;
3 canwch iddo g�n newydd, tynnwch y tannau'n dda, rhowch floedd.
4 Oherwydd gwir yw gair yr ARGLWYDD, ac y mae ffyddlondeb yn ei holl weithredoedd.
5 Y mae'n caru cyfiawnder a barn; y mae'r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD.
6 Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaed y nefoedd, a'i holl lu trwy anadl ei enau.
7 Casglodd y m�r fel du373?r mewn potel, a rhoi'r dyfnderoedd mewn ystordai.
8 Bydded i'r holl ddaear ofni'r ARGLWYDD, ac i holl drigolion y byd arswydo rhagddo.
9 Oherwydd llefarodd ef, ac felly y bu; gorchmynnodd ef, a dyna a safodd.
10 Gwna'r ARGLWYDD gyngor y cenhedloedd yn ddim, a difetha gynlluniau pobloedd.
11 Ond saif cyngor yr ARGLWYDD am byth, a'i gynlluniau dros yr holl genedlaethau.
12 Gwyn ei byd y genedl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddi, y bobl a ddewisodd yn eiddo iddo'i hun.
13 Y mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd, ac yn gweld pawb oll;
14 o'r lle y triga y mae'n gwylio holl drigolion y ddaear.
15 Ef sy'n llunio meddwl pob un ohonynt, y mae'n deall popeth a wn�nt.
16 Nid gan fyddin gref y gwaredir brenin, ac nid � nerth mawr yr achubir rhyfelwr.
17 Ofer ymddiried mewn march am waredigaeth; er ei holl gryfder ni all roi ymwared.
18 Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y rhai a'i hofna, ar y rhai sy'n disgwyl wrth ei ffyddlondeb,
19 i'w gwaredu rhag marwolaeth a'u cadw'n fyw yng nghanol newyn.
20 Yr ydym yn disgwyl am yr ARGLWYDD; ef yw ein cymorth a'n tarian.
21 Y mae ein calon yn llawenychu ynddo am inni ymddiried yn ei enw sanctaidd.
22 O ARGLWYDD, dangos dy ffyddlondeb tuag atom, fel yr ydym wedi gobeithio ynot.