Welsh

Koya

Psalms

9

1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Muth-labben. Salm. I Ddafydd.0 Diolchaf i ti, ARGLWYDD, �'m holl galon, adroddaf am dy ryfeddodau.
2 Llawenhaf a gorfoleddaf ynot ti, canaf fawl i'th enw, y Goruchaf.
3 Pan dry fy ngelynion yn eu holau, baglant a threngi o'th flaen.
4 Gwnaethost yn deg � mi yn fy achos, ac eistedd ar dy orsedd yn farnwr cyfiawn.
5 Ceryddaist y cenhedloedd a difetha'r drygionus, a dileaist eu henw am byth.
6 Darfu am y gelyn mewn adfeilion bythol; yr wyt wedi chwalu eu dinasoedd, a diflannodd y cof amdanynt.
7 Ond y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu am byth, ac wedi paratoi ei orsedd i farn.
8 Fe farna'r byd mewn cyfiawnder, a gwrando achos y bobloedd yn deg.
9 Bydded yr ARGLWYDD yn amddiffynfa i'r gorthrymedig, yn amddiffynfa yn amser cyfyngder,
10 fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot; oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio.
11 Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n trigo yn Seion, cyhoeddwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
12 Fe gofia'r dialydd gwaed amdanynt; nid yw'n anghofio gwaedd yr anghenus.
13 Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, sy'n fy nyrchafu o byrth angau; edrych ar fy adfyd oddi ar law y rhai sy'n fy nghas�u,
14 imi gael adrodd dy holl fawl a llawenhau yn dy waredigaeth ym mhyrth merch Seion.
15 Suddodd y cenhedloedd i'r pwll a wnaethant eu hunain, daliwyd eu traed yn y rhwyd yr oeddent hwy wedi ei chuddio.
16 Datguddiodd yr ARGLWYDD ei hun, gwnaeth farn; maglwyd y drygionus gan waith ei ddwylo'i hun. Higgaion. Sela.
17 Bydded i'r drygionus ddychwelyd i Sheol, a'r holl genhedloedd sy'n anghofio Duw.
18 Oherwydd nid anghofir y tlawd am byth, ac ni ddryllir gobaith yr anghenus yn barhaus.
19 Cyfod, ARGLWYDD; na threched meidrolion, ond doed y cenhedloedd i farn o'th flaen.
20 Rho arswyd ynddynt, ARGLWYDD, a bydded i'r cenhedloedd wybod mai meidrol ydynt. Sela.