Welsh

Lithuanian

2 Samuel

16

1 Wedi i Ddafydd fynd ychydig heibio i gopa'r mynydd, dyma Siba gwas Meffiboseth yn ei gyfarfod � chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo yn cario dau gan torth o fara, can swp o rawnwin, cant o ffrwythau haf a photel o win.
1Dovydui paėjus kiek toliau nuo kalno viršūnės, jį sutiko Mefi Bošeto tarnas Ciba su pora asilų, apkrautų dviem šimtais duonos kepalų, šimtu ryšulių džiovintų vynuogių, šimtu ryšulių vasaros vaisių ir odine vyno.
2 Dywedodd y brenin wrth Siba, "Beth yw'r rhain sydd gennyt?" Atebodd Siba, "Y mae'r asynnod ar gyfer teulu'r brenin i'w marchogaeth, y bara a'r ffrwythau i'r bechgyn i'w bwyta, a'r gwin i'w yfed gan unrhyw un fydd yn lluddedig yn yr anialwch."
2Karalius klausė Cibą: “Kam tau visa tai?” Ciba atsakė: “Asilai­ karaliaus namiškiams joti, duona ir vaisiai­jaunuoliams valgyti, o vynas­nusilpusiems dykumoje atgaivinti”.
3 Holodd y brenin, "Ond ymhle y mae u373?yr dy feistr?" Atebodd Siba, "Y mae ef wedi aros yn Jerwsalem, oblegid y mae'n meddwl y bydd yr Israeliaid yn awr yn dychwelyd teyrnas ei daid iddo."
3Karalius klausė: “Kur yra tavo valdovo sūnus?” Ciba atsakė karaliui: “Jis pasiliko Jeruzalėje, sakydamas: ‘Šiandien Izraelis man sugrąžins mano tėvo karalystę’ ”.
4 Dywedodd y brenin wrth Siba, "Edrych, ti biau bopeth sydd gan Meffiboseth." Atebodd Siba, "Yr wyf yn ymostwng o'th flaen; bydded imi gael ffafr yn dy olwg, f'arglwydd frenin."
4Karalius tarė Cibai: “Kas buvo Mefi Bošeto, dabar priklauso tau”. Ciba atsakė: “Nuolankiai maldauju tave, mano valdove karaliau, leisk man surasti malonę tavo akyse”.
5 Pan gyrhaeddodd Dafydd Bahurim, dyma ddyn o dylwyth Saul, o'r enw Simei fab Gera, yn dod allan oddi yno dan felltithio.
5Karaliui Dovydui atvykus į Bahurimą, Sauliaus giminės vyras Šimis, Geros sūnus, išėjo ir keikė eidamas.
6 Yr oedd yn taflu cerrig at Ddafydd a holl weision y brenin, er bod yr holl fintai a'r milwyr i gyd o boptu iddo.
6Jis mėtė akmenimis Dovydą bei visus jo tarnus; karalius buvo apsuptas žmonių ir karių.
7 Ac fel hyn yr oedd Simei yn dweud wrth felltithio: "Dos i ffwrdd, dos i ffwrdd, y llofrudd, y dihiryn;
7Šimis keikdamas sakė: “Išeik, išeik, tu kraugery, Belialo žmogau.
8 y mae'r ARGLWYDD wedi talu iti am holl waed teulu Saul a ddisodlaist fel brenin; y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r deyrnas yn llaw dy fab Absalom. Dyma ti mewn adfyd oherwydd mai llofrudd wyt ti."
8Viešpats atmokėjo tau už visą Sauliaus namų kraują, kurio vietoje tu pasidarei karaliumi. Viešpats atidavė karalystę tavo sūnui Abšalomui. Dabar tu patekai nemalonėn, nes esi kraugerys”.
9 Dywedodd Abisai fab Serfia wrth y brenin, "Pam y dylai'r ci marw hwn gael melltithio f'arglwydd frenin? Gad imi fynd ato a thorri ei ben i ffwrdd."
9Cerujos sūnus Abišajas paklausė karaliaus: “Kodėl šitas pastipęs šuo keikia mano valdovą karalių? Leisk man nueiti ir nuimti jam galvą”.
10 Ond meddai'r brenin, "Beth sydd a wnelo hyn � mi neu � chwi, feibion Serfia? Y mae ef yn melltithio fel hyn am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho am felltithio Dafydd, a phwy sydd i ofyn, 'Pam y gwnaethost hyn?'"
10Karalius atsakė: “Kas man ir jums, Cerujos sūnūs! Jis keikia, kadangi Viešpats jam liepė: ‘Keik Dovydą!’ Kas gali klausti: ‘Kodėl taip darai?’ ”
11 Ychwanegodd Dafydd wrth Abisai a'i holl weision. "Edrychwch, y mae fy mab i fy hun yn ceisio fy mywyd; pa faint mwy y Benjaminiad hwn?
11Dovydas kalbėjo Abišajui ir visiems tarnams: “Štai mano paties sūnus ieško mano gyvybės. Tuo labiau šis benjaminas. Palikite jį ramybėje, tegul jis keikia, nes jam taip liepė Viešpats.
12 Gadewch iddo felltithio, oherwydd yr ARGLWYDD sydd wedi dweud wrtho. Efallai y bydd yr ARGLWYDD yn edrych ar fy nghyni, ac yn gwneud daioni imi yn lle ei felltith ef heddiw."
12Gal Viešpats pažvelgs į mano sielvartą ir man atmokės geru už jo šiandieninius keiksmus”.
13 Yna, tra oedd Dafydd a'i filwyr yn mynd ar hyd y ffordd, yr oedd Simei yn mynd ar hyd ochr y mynydd gyferbyn ag ef, yn melltithio ac yn lluchio cerrig ac yn taflu pridd ato.
13Dovydas ėjo keliu su savo vyrais, o Šimis­kalno šlaitu šalia jo keikdamas, mėtydamas akmenimis ir barstydamas dulkes.
14 Erbyn iddynt gyrraedd yr Iorddonen yr oedd y brenin a'r holl bobl oedd gydag ef yn lluddedig, felly cymerasant seibiant yno.
14Pagaliau karalius ir visi jo žmonės pavargo ir ten ilsėjosi.
15 Yr oedd Absalom a'r holl fyddin o Israeliaid wedi cyrraedd Jerwsalem, ac Ahitoffel gyda hwy.
15Abšalomas su visais žmonėmis atėjo į Jeruzalę; Achitofelis buvo su juo.
16 Yna, pan ddaeth Husai yr Arciad, cyfaill Dafydd, at Absalom a dweud wrtho, "Byw fyddo'r brenin, byw fyddo'r brenin!"
16Arkietis Hušajas, Dovydo draugas, atėjęs pas Abšalomą, tarė: “Tegyvuoja karalius! Tegyvuoja karalius!”
17 Gof-ynnodd Absalom i Husai, "Ai dyma dy deyrngarwch i'th gyfaill? Pam nad aethost ti gyda'th gyfaill?"
17Abšalomas paklausė jo: “Ar toks tavo dėkingumas draugui? Kodėl nėjai su savo draugu?”
18 Ac meddai Husai wrth Absalom, "O na, yr wyf fi o blaid yr un a ddewiswyd gan yr ARGLWYDD, a'r bobl hyn a'r holl Israeliaid, a chydag ef yr arhosaf.
18Hušajas atsakė Abšalomui: “Aš priklausau tam, kurį išrinko Viešpats, Izraelio vyrai ir šitie žmonės.
19 Ac at hynny, pwy a ddylwn i ei wasanaethu? Onid ei fab? Fel y b�m yn gwasanaethu dy dad, felly y byddaf gyda thi."
19Kam gi aš galėčiau tarnauti, jei ne jo sūnui. Kaip tarnavau tavo tėvui, taip noriu tarnauti tau”.
20 Yna dywedodd Absalom wrth Ahitoffel, "Rho gyngor inni beth i'w wneud."
20Abšalomas tarė Ahitofeliui: “Patark, ką mums daryti?”
21 Atebodd Ahitoffel, "Dos i mewn at ordderchwragedd dy dad a adawodd ef i ofalu am y tu375?; a phan fydd Israel gyfan yn clywed dy fod wedi dy ffieiddio gan dy dad, fe gryfheir dwylo pawb sydd gyda thi."
21Ahitofelis tarė Abšalomui: “Įeik pas savo tėvo suguloves, kurias jis paliko namų saugoti. Kai izraelitai sužinos, kad tapai pasibjaurėtinas savo tėvui, visų tavo šalininkų rankos sustiprės”.
22 Taenwyd pabell i Absalom ar y to, ac aeth yntau i mewn at ordderchwragedd ei dad yng ngolwg Israel gyfan.
22Jie pastatė Abšalomui palapinę ant stogo, o jis, visiems izraelitams matant, įėjo pas savo tėvo suguloves.
23 Yr oedd y cyngor a roddai Ahitoffel yn y dyddiau hynny fel pe bai rhywun yn ymofyn cyfarwyddyd gan Dduw; felly'r ystyrid ef gan Ddafydd ac Absalom hefyd.
23Tais laikais Ahitofelio patarimas būdavo labai vertinamas, lyg jį duotų pats Dievas. Jo patarimų klausė Dovydas ir Abšalomas.