Welsh

Lithuanian

Deuteronomy

4

1 Yn awr, O Israel, gwrando ar y deddfau a'r cyfreithiau yr wyf yn eu dysgu ichwi heddiw; cadwch hwy er mwyn ichwi gael byw a mynd i feddiannu'r wlad y mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, yn ei rhoi ichwi.
1“Klausyk, Izraeli, įstatymų ir paliepimų, kurių jus mokau, kad juos vykdydami gyventumėte ir užėmę paveldėtumėte žemę, kurią Viešpats, jūsų Dievas, jums duoda.
2 Peidiwch ag ychwanegu dim at yr hyn yr wyf yn ei orchymyn ichwi, nac ychwaith dynnu oddi wrtho, ond cadw at orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw yr wyf fi yn eu gorchymyn ichwi.
2Nieko nepridėkite prie mano įstatymų ir nieko iš jų neatimkite. Laikykitės Viešpaties, jūsų Dievo, įsakymų, kuriuos jums skelbiu.
3 Gwelsoch �'ch llygaid eich hunain yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD yn Baal-peor; oherwydd dinistriodd yr ARGLWYDD eich Duw o'ch plith bob un oedd yn dilyn Baal Peor;
3Jūsų akys matė, ką Viešpats darė dėl Baal Peoro, kaip išnaikino visus jo garbintojus, buvusius tarp jūsų.
4 ond yr ydych chwi i gyd sydd wedi glynu wrth yr ARGLWYDD eich Duw yn fyw hyd heddiw.
4Jūs gi, kurie laikėtės Viešpaties, jūsų Dievo, išlikote gyvi iki šios dienos.
5 Gwelwch fy mod wedi dysgu ichwi'r deddfau a'r cyfreithiau, fel y gorch-mynnodd yr ARGLWYDD fy Nuw imi, er mwyn ichwi eu cadw yn y wlad yr ydych yn mynd i mewn i'w meddiannu.
5Štai aš mokiau jus nuostatų ir įstatymų, kaip Viešpats, mano Dievas, man įsakė, kad jūs vykdytumėte juos žemėje, kurią paveldėsite.
6 Gofalwch eu cadw, oherwydd dyma fydd eich doethineb a'ch deall yng ngolwg y bobloedd; a phan glywant hwy y deddfau hyn, byddant yn dweud, "Yn wir pobl ddoeth a deallus yw'r genedl fawr hon."
6Laikykitės jų ir vykdykite juos, nes tai jūsų išmintis ir protas tautų akyse. Jos išgirs jūsų nuostatus ir sakys: ‘Iš tiesų ši didelė tauta yra protinga ir išmintinga’.
7 Yn wir pa genedl fawr sydd a chanddi dduw mor agos ati ag yw'r ARGLWYDD ein Duw ni bob tro y byddwn yn galw arno?
7Iš tikrųjų nėra kitos tokios didingos tautos, kuriai Dievas būtų taip arti, kaip mūsų Dievas, kai Jo šaukiamės.
8 A pha genedl fawr sydd a chanddi ddeddfau a chyfreithiau mor gyfiawn �'r holl gyfraith hon yr wyf yn ei gosod o'ch blaen heddiw?
8Kuri kita didelė tauta turi nuostatus ir įsakymus tokius teisingus, kaip šis įstatymas, kurį šiandien skelbiu jums?
9 Bydd ofalus, a gwylia'n ddyfal rhag iti anghofio'r pethau a welodd dy lygaid, a rhag iddynt gilio o'th feddwl holl ddyddiau dy fywyd; dysga hwy i'th blant ac i blant dy blant.
9Saugokis ir rūpestingai saugok savo sielą, kad neužmirštum to, ką matei savo akimis, ir tepasilieka tai tavo širdyje per visas tavo dienas. Jų mokykite savo vaikus ir vaikaičius.
10 Y dydd pan oeddit ti yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw yn Horeb, fe ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Cynnull y bobl ataf, a chyhoeddaf iddynt fy ngeiriau, er mwyn iddynt ddysgu fy ofni holl ddyddiau eu bywyd ar y ddaear, a bydded iddynt ddysgu eu plant i wneud hyn."
10Tą dieną, kai stovėjai Viešpaties, savo Dievo, akivaizdoje prie Horebo, Jis man kalbėjo: ‘Surink prie manęs tautą, kad išgirstų mano žodžius ir bijotų manęs, kol gyvens žemėje, ir mokytų to paties savo vaikus’.
11 Daethoch chwi yn agos, a sefyll wrth droed y mynydd, ac yr oedd y mynydd yn llosgi gan d�n hyd entrych y nefoedd; ac yr oedd yno dywyllwch, cwmwl a chaddug.
11Jūs priartėjote prie kalno pašlaitės, iš kur liepsnos kilo į dangų. Jis buvo apsuptas tamsa ir debesimis.
12 Llefarodd yr ARGLWYDD wrthych o ganol y t�n; ond nid oeddech chwi'n gweld unrhyw ffurf, dim ond clywed llais.
12Viešpats kalbėjo jums iš ugnies. Jūs girdėjote Jo žodžius, bet nematėte Jo pavidalo; girdėjote tik balsą.
13 Mynegodd i chwi ei gyfamod, sef y deg gorchymyn yr oedd yn eu gorchymyn i chwi eu cadw, ac ysgrifennodd hwy ar ddwy lechen.
13Jis jums paskelbė savo sandorą ir įsakė ją vykdyti. Jis užrašė dešimt įsakymų dviejose akmeninėse plokštėse
14 Yr adeg honno gorchmynnodd yr ARGLWYDD i mi ddysgu ichwi'r deddfau a'r gorchmynion, er mwyn ichwi eu cadw yn y wlad yr oeddech yn mynd iddi i'w meddiannu.
14ir įsakė man mokyti jus vykdyti tuos įsakymus ir paliepimus žemėje, kurią paveldėsite.
15 Gan na welsoch unrhyw ffurf, y dydd y llefarodd yr ARGLWYDD wrthych o ganol y t�n yn Horeb,
15Gerai įsidėmėkite, kad tą dieną, kai Viešpats jums kalbėjo Horebe iš ugnies, jūs nematėte jokio pavidalo,
16 gofalwch beidio � gweithredu'n llygredig trwy wneud i chwi eich hunain ddelw ar ffurf unrhyw fath ar gerflun, na ffurf dyn na gwraig,
16kad kartais nedirbtumėte sau drožinių, panašių į vyrą ar moterį,
17 nac unrhyw anifail ar y ddaear, nac unrhyw aderyn sy'n hedfan yn yr awyr,
17panašių į kurį nors gyvulį, esantį žemėje, ar skraidantį padangėje paukštį,
18 nac unrhyw beth sy'n ymlusgo ar y ddaear, nac unrhyw bysgodyn sydd yn y du373?r dan y ddaear.
18ar šliaužiantį gyvį, ar žuvį, plaukiojančią vandenyse.
19 Gwylia hefyd na fyddi'n codi dy olwg i'r nefoedd ac edrych ar yr haul, y lleuad neu'r s�r, holl lu'r nefoedd, a chael dy ddenu i ymgrymu iddynt a'u haddoli; neilltuodd yr ARGLWYDD dy Dduw y rhain ar gyfer yr holl bobloedd dan y nefoedd.
19Kad kartais, pakėlęs akis į dangų ir pamatęs saulę, mėnulį, žvaigždes, nepaklystum, jų negarbintum ir nesilenktum tiems, kuriuos Viešpats, jūsų Dievas, sutvėrė tarnauti visoms tautoms.
20 Ond cymerodd yr ARGLWYDD chwi, a daeth � chwi allan o'r ffwrnais haearn, o'r Aifft, i fod yn bobl sy'n etifeddiaeth iddo'i hun, fel yr ydych heddiw.
20Jus gi Viešpats išvedė iš geležinės krosnies, Egipto vergijos, kad būtumėte Jo tauta.
21 Yr oedd yr ARGLWYDD yn ddig wrthyf o'ch achos chwi, a thyngodd na chawn groesi'r Iorddonen, na mynd i mewn i'r wlad dda y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi yn feddiant iti.
21Dėl jūsų Viešpats užsirūstino ant manęs ir prisiekė, kad nepereisiu Jordano ir neįeisiu į tą gerą žemę, kurią Viešpats, tavo Dievas, duoda tau paveldėti.
22 Byddaf fi yn marw yn y wlad hon, ac ni chaf groesi'r Iorddonen, ond byddwch chwi yn croesi ac yn meddiannu'r wlad dda hon.
22Aš turėsiu mirti šioje žemėje ir nepereisiu Jordano; tačiau jūs pereisite ir užimsite tą gerą žemę.
23 Byddwch ofalus rhag anghofio'r cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw � chwi, a gwneud i chwi eich hunain ddelw gerfiedig ar ffurf unrhyw beth a waharddodd yr ARGLWYDD dy Dduw.
23Neužmirškite Viešpaties, savo Dievo, sandoros, kurią Jis su jumis padarė ir nedarykite sau jokio drožinio ar atvaizdo, nes Viešpats tai uždraudė.
24 Oherwydd t�n yn ysu yw'r ARGLWYDD dy Dduw; y mae ef yn Dduw eiddigus.
24Viešpats, tavo Dievas, yra naikinanti ugnis, pavydus Dievas.
25 Pan fydd gennych blant ac wyrion, a chwithau wedi mynd yn hen yn y wlad, os byddwch yn gweithredu'n llygredig trwy wneud delw gerfiedig ar unrhyw ffurf, ac yn gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw ac ennyn ei ddig,
25Jei gyvendami žemėje, kai susilauksite vaikų ir vaikaičių, suteršite save ir pasidarysite drožinių ar atvaizdų, ir darysite pikta Viešpaties, savo Dievo, akyse, Jį supykdydami,
26 yna yr adeg honno byddaf yn galw ar y nefoedd a'r ddaear i dystio yn eich erbyn, a byddwch yn sicr o ddiflannu'n gyflym o'r wlad yr ydych wedi croesi'r Iorddonen i'w meddiannu; ni chewch aros yno'n hir, ond fe'ch difethir yn llwyr.
26aš šaukiu šiandien liudytoju dangų ir žemę, kad, taip elgdamiesi, jūs žūsite krašte, kurį, perėję per Jordaną, paveldėsite. Negyvensite jame ilgai, bet būsite visai sunaikinti.
27 Bydd yr ARGLWYDD yn eich gwasgaru ymhlith y bobloedd, ac ni adewir ond ychydig ohonoch ymhlith y cenhedloedd y bydd yr ARGLWYDD yn eich arwain atynt.
27Viešpats jus išsklaidys tarp tautų, ir jūsų liks labai mažai tarp pagonių, pas kuriuos būsite išvesti.
28 Yna byddwch yn addoli duwiau o waith dwylo dynol, duwiau o bren a cherrig, nad ydynt yn gweld nac yn clywed nac yn bwyta nac yn arogli.
28Tenai tarnausite dievams, kurie žmonių rankomis padaryti: medžiui ir akmeniui, kurie nemato ir negirdi, nevalgo ir nieko neužuodžia.
29 Os byddwch yn ceisio'r ARGLWYDD eich Duw yno, ac yn chwilio amdano �'ch holl galon ac �'ch holl enaid, byddwch yn ei gael.
29Bet jei ten ieškosi Viešpaties, savo Dievo, visa širdimi ir siela, tu atrasi Jį.
30 Pan fydd yn gyfyng arnat, a'r holl bethau hyn yn digwydd iti yn y dyddiau sy'n dod, yna tro at yr ARGLWYDD dy Dduw a gwrando ar ei lais.
30Patyręs vargą, paskutinėmis dienomis sugrįši prie Viešpaties, savo Dievo, ir klausysi Jo balso.
31 Oherwydd Duw trugarog yw'r ARGLWYDD dy Dduw; ni fydd yn dy siomi nac yn dy ddifa, ac ni fydd yn anghofio'r cyfamod a wnaeth trwy lw �'th hynafiaid.
31Nes Viešpats, tavo Dievas, yra gailestingas Dievas; Jis nepaliks tavęs ir nesunaikins, neužmirš sandoros, padarytos su tavo tėvais.
32 Ystyria'r dyddiau gynt, cyn dy amser di, o'r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear, a chwilia'r nefoedd o un cwr i'r llall. A fu peth mor fawr � hyn, neu a glywyd am beth tebyg?
32Paklausk praeities dienų, pradedant nuo tos dienos, kai Dievas sutvėrė žmogų žemėje, ir dangus nuo vieno krašto iki kito, ar įvyko kada nors toks didingas dalykas, ar girdėta tai?
33 A glywodd pobl lais Duw yn llefaru o ganol t�n, fel y clywaist ti, a byw?
33Ar kuri nors tauta girdėjo Dievo balsą, kalbantį iš ugnies, kaip tu girdėjai, ir išliko gyva?
34 A geisiodd unrhyw dduw ddod i gymryd iddo'i hun genedl o ganol cenedl trwy dreialon, arwyddion, rhyfeddodau, a brwydr, ac � llaw gadarn a braich estynedig a llawer o bethau arswydus, fel y gwnaeth yr ARGLWYDD eich Duw yn eich gu373?ydd yn yr Aifft?
34Ar kada nors Dievas yra atėjęs pasiimti tautos, esančios vergijoje, bandymais, ženklais, stebuklais, kova, galinga ranka ir baisiais siaubais, kaip Viešpats, jūsų Dievas, padarė dėl jūsų Egipte, jums visa tai matant savo akimis?
35 Cefaist ti brofi hyn er mwyn iti wybod mai'r ARGLWYDD sydd Dduw, ac nad oes un arall.
35Jis tai parodė tau, kad žinotum, jog Viešpats yra Dievas ir kito nėra.
36 Parodd iti glywed ei lais o'r nefoedd i'th ddisgyblu, a dangosodd iti ei d�n mawr ar y ddaear, a chlywaist ei eiriau o ganol y t�n.
36Jis tau leido išgirsti balsą iš dangaus, kad pamokytų tave, žemėje parodė tau didelę ugnį, ir tu girdėjai Jo žodžius iš ugnies.
37 Am iddo garu dy hynafiaid a dewis eu plant ar eu h�l, y daeth � thi allan o'r Aifft trwy ei bresenoldeb � nerth mawr,
37Jis mylėjo tavo tėvus, todėl išsirinko jų palikuonis ir išvedė iš Egipto savo didžia galia,
38 a gyrru allan o'th flaen genhedloedd oedd yn fwy ac yn gryfach na thi, a'th arwain a rhoi iti eu gwlad yn etifeddiaeth, fel y mae heddiw.
38kad išvytų už tave didesnes ir galingesnes tautas, ir tave įvestų paveldėti jų žemę.
39 Heddiw yr wyt ti i gydnabod ac i ystyried mai'r ARGLWYDD sydd Dduw yn y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod, ac nad oes un arall.
39Suprask tad šiandien ir palaikyk visa tai savo širdyje, kad Viešpats yra dangaus ir žemės Dievas ir jokio kito nėra.
40 Cadw ei ddeddfau, a'r gorchmynion yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw, fel y bydd yn dda arnat ac ar dy blant ar dy �l, ac iti gael oes faith ar y ddaear y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti am byth.
40Laikykis Jo įsakymų ir paliepimų, kuriuos tau skelbiu šiandien, kad tau ir tavo vaikams gerai sektųsi ir ilgai gyventum žemėje, kurią Viešpats, tavo Dievas, tau duoda visiems amžiams”.
41 Yna neilltuodd Moses dair dinas yn y dwyrain, yn y tir y tu hwnt i'r Iorddonen,
41Mozė paskyrė tris miestus šioje Jordano pusėje,
42 er mwyn i'r sawl a fyddai'n lladd ei gymydog yn anfwriadol, heb elyniaeth rhyngddynt yn flaenorol, gael ffoi iddynt. Trwy ffoi i un o'r dinasoedd hyn byddai'n arbed ei fywyd.
42kad juose rastų prieglaudą ir išliktų gyvas žmogžudys, netyčia užmušęs savo artimą, kuris nebuvo jo priešas.
43 Y dinasoedd oedd: Beser yng ngwastatir yr anialwch ar gyfer y Reubeniaid; Ramoth yn Gilead ar gyfer y Gadiaid; Golan yn Basan ar gyfer y Manasseaid.
43Iš Rubeno giminės paskyrė Becerą dykumos lygumoje, iš Gado giminės­Ramot Gileadą ir iš Manaso giminės­Golaną Bašane.
44 Dyma'r gyfraith a osododd Moses gerbron yr Israeliaid.
44Tai įstatymas, Mozės duotas izraelitams.
45 A dyma'r rheolau, y deddfau a'r cyfreithiau a lefarodd Moses wrth yr Israeliaid, wedi iddynt ddod allan o'r Aifft,
45Šitie įsakymai, nuostatai ir paliepimai buvo paskelbti izraelitams, jiems išėjus iš Egipto,
46 pan oeddent y tu hwnt i'r Iorddonen yn y dyffryn gyferbyn � Beth-peor yng ngwlad Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon ac a orchfygwyd gan Moses a'r Israeliaid ar eu taith allan o'r Aifft.
46šioje Jordano pusėje, slėnyje, prieš Bet Peoro miestą, krašte amoritų karaliaus Sihono, kuris gyveno Hešbone ir buvo Mozės ir izraelitų nugalėtas, kai jie išėjo iš Egipto.
47 Cymerasant ei wlad ef a gwlad Og brenin Basan, dau frenin yr Amoriaid oedd yn y dwyrain, yn y diriogaeth y tu hwnt i'r Iorddonen.
47Jie apsigyveno Sihono ir Bašano karaliaus Ogo žemėse, dviejų amoritų karalių, buvusių į rytus nuo Jordano.
48 Yr oedd y diriogaeth yn ymestyn o Aroer, ar lan nant Arnon, at Fynydd Sirion, sef Hermon,
48Šis kraštas tęsėsi nuo Aroero miesto, Arnono upelio slėnyje, ligi Siono kalno, kuris kitaip vadinamas Hermonu,
49 ac yn cynnwys y cyfan o'r Araba i'r dwyrain o'r Iorddonen, hyd at f�r yr Araba islaw llethrau Pisga.
49per visą lygumą nuo Jordano į rytus iki lygumos jūros ir Pisgos kalno šlaitų.