Welsh

Lithuanian

Ephesians

4

1 Yr wyf fi, felly, sy'n garcharor er mwyn yr Arglwydd, yn eich annog i fyw yn deilwng o'r alwad a gawsoch.
1Taigi aš, kalinys Viešpatyje, raginu jus elgtis, kaip dera jūsų pašaukimui, į kurį esate pašaukti.
2 Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn ym mhob peth, ac yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad.
2Su visu nuolankumu bei romumu, su ištverme pakęsdami vienas kitą meilėje,
3 Ymrowch i gadw, � rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae'r Ysbryd yn ei roi.
3siekite išsaugoti Dvasios vienybę taikos ryšiais.
4 Un corff sydd, ac un Ysbryd, yn union fel mai un yw'r gobaith sy'n ymhlyg yn eich galwad;
4Vienas kūnas ir viena Dvasia, kaip ir esate pašaukti vienai pašaukimo vilčiai.
5 un Arglwydd, un ffydd, un bedydd,
5Vienas Viešpats, vienas tikėjimas, vienas krikštas.
6 un Duw a Thad i bawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb.
6Vienas Dievas ir visų Tėvas, kuris virš visų, per visus ir visuose.
7 Ond i bob un ohonom rhoddwyd gras, ei ran o rodd Crist.
7Bet kiekvienam iš mūsų duota malonė pagal Kristaus dovanos saiką.
8 Am hynny y mae'r Ysgrythur yn dweud: "Esgynnodd i'r uchelder, gan arwain ei garcharorion yn gaeth; rhoddodd roddion i bobl."
8Todėl sakoma: “Pakilęs aukštyn, nusivedė belaisvius ir davė žmonėms dovanų”.
9 Beth yw ystyr "esgynnodd"? Onid yw'n golygu ei fod wedi disgyn hefyd i barthau isaf y ddaear?
9Ką reiškia “Jis pakilo”, jeigu ne tai, kad Jis pirma ir nusileido į žemesniąsias žemės vietas.
10 Yr un a ddisgynnodd yw'r un a esgynnodd hefyd ymhell uwchlaw'r nefoedd i gyd, i lenwi'r holl greadigaeth.
10Tas, kuris nužengė, yra ir Tas, kuris iškilo aukščiau už visus dangus, kad visa užpildytų.
11 A dyma'i roddion: rhai i fod yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon,
11Ir Jis paskyrė vienus apaštalais, kitus pranašais, evangelistais, ganytojais ir mokytojais,
12 i gymhwyso'r saint i waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist.
12kad išlavintų šventuosius tarnavimo darbui, Kristaus kūno ugdymui,
13 Felly y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i'r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw. Y nod yw dynoliaeth lawn dwf, a'r mesur yw'r aeddfedrwydd sy'n perthyn i gyflawnder Crist.
13kol mes visi pasieksime tikėjimo vienybę ir Dievo Sūnaus pažinimą, tobulai subręsime iki Kristaus amžiaus pilnatvės saiko,
14 Nid ydym i fod yn fabanod mwyach, yn cael ein lluchio gan donnau a'n gyrru yma a thraw gan bob rhyw awel o athrawiaeth, wedi ein dal gan ystryw y rhai sy'n ddyfeisgar i gynllwynio twyll.
14kad daugiau nebebūtume kūdikiai, siūbuojami ir nešiojami bet kokio mokymo vėjo, žmonių apgaulės, gudrumo, vedančio į paklydimą,
15 Na, gadewch i ni ddilyn y gwir mewn cariad, a thyfu ym mhob peth i Grist. Ef yw'r pen,
15bet, kalbėdami tiesą meilėje, augtume visame kame į Jį, kuris yra galva­Kristus.
16 ac wrtho ef y mae'r holl gorff yn cael ei ddal wrth ei gilydd a'i gysylltu drwy bob cymal sy'n rhan ohono. Felly, trwy weithgarwch cyfaddas pob un rhan, ceir prifiant yn y corff, ac y mae'n ei adeiladu ei hun mewn cariad.
16Iš Jo visas kūnas, suderintas ir stipriai sujungtas įvairių raiščių, pagal savo saiką veikiant kiekvienai daliai, auga, kad ugdytų save meilėje.
17 Hyn, felly, yr wyf yn ei ddweud ac yn ei argymell arnoch yn yr Arglwydd, eich bod chwi bellach i beidio � byw fel y mae'r Cenhedloedd yn byw, yn oferedd eu meddwl;
17Taigi aš liepiu ir įspėju Viešpatyje, kad jūs nebesielgtumėte, kaip elgiasi pagonys dėl savo proto tuštybės.
18 oherwydd tywyllwch sydd yn eu deall, a dieithriaid ydynt i'r bywyd sydd o Dduw, o achos yr anwybodaeth y maent yn ei choleddu a'r ystyfnigrwydd sydd yn eu calon.
18Jų protas aptemęs, jie atskirti nuo Dievo gyvenimo dėl savo neišmanymo bei širdies užkietėjimo.
19 Pobl ydynt sydd wedi colli pob teimlad ac wedi ymollwng i'r anlladrwydd sy'n peri iddynt gyflawni pob math o aflendid yn ddiymatal.
19Jie sustabarėję, pasidavę gašlumui, nepasotinamai daro visus nešvarius darbus.
20 Ond nid felly yr ydych chwi wedi dysgu Crist,
20Bet jūs ne taip pažinote Kristų!
21 chwi sydd, yn wir, wedi clywed amdano ac wedi eich hyfforddi ynddo, yn union fel y mae'r gwirionedd yn Iesu.
21Juk iš Jo girdėjote ir Jame išmokote,­nes tiesa yra Jėzuje,­
22 Fe'ch dysgwyd eich bod i roi heibio'r hen natur ddynol oedd yn perthyn i'ch ymarweddiad gynt ac sy'n cael ei llygru gan chwantau twyllodrus,
22kad privalu atsižadėti senojo žmogaus ankstesnio gyvenimo būdo, žlugdančio apgaulingais geismais,
23 a'ch bod i gael eich adnewyddu mewn ysbryd a meddwl,
23atsinaujinti savo proto dvasioje
24 a gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd sydd wedi ei chreu ar ddelw Duw, yn y cyfiawnder a'r sancteiddrwydd sy'n gweddu i'r gwirionedd.
24ir apsirengti nauju žmogumi, sutvertu pagal Dievą teisume ir tiesos šventume.
25 Gan hynny, ymaith � chelwydd! Dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog, oherwydd yr ydym yn aelodau o'n gilydd.
25Tad, atmetę melą, “kiekvienas tekalba tiesą savo artimui”, nes esame vieni kitų nariai.
26 Byddwch ddig, ond peidiwch � phechu; peidiwch � gadael i'r haul fachlud ar eich digofaint,
26“Rūstaukite ir nenusidėkite”. Tegul saulė nenusileidžia ant jūsų rūstybės!
27 a pheidiwch � rhoi cyfle i'r diafol.
27Ir neduokite vietos velniui.
28 Y mae'r lleidr i beidio � lladrata mwyach; yn hytrach, dylai ymroi i weithio'n onest �'i ddwylo ei hun, er mwyn cael rhywbeth i'w rannu �'r sawl sydd mewn angen.
28Kas vogdavo, tegu daugiau nebevagia, bet dirba, darydamas savo rankomis gerus darbus, kad turėtų iš ko padėti stokojančiam.
29 Nid oes yr un gair drwg i ddod allan o'ch genau, dim ond geiriau da, sydd er adeiladaeth yn �l yr angen, ac felly'n dwyn bendith i'r sawl sy'n eu clywed.
29Joks bjaurus žodis teneišeina iš jūsų lūpų; bet tik tai, kas gera, kas tinka ugdymui ir suteikia malonę klausytojams.
30 Peidiwch � thrist�u Ysbryd Gl�n Duw, yr Ysbryd y gosodwyd ei s�l arnoch ar gyfer dydd eich prynu'n rhydd.
30Ir neliūdinkite Šventosios Dievo Dvasios, kuria esate užantspauduoti atpirkimo dienai.
31 Bwriwch ymaith oddi wrthych bob chwerwder, llid, digofaint, twrw, a sen, ynghyd � phob drwgdeimlad.
31Tebūna toli nuo jūsų visoks kartėlis, piktumas, rūstybė, riksmai ir keiksmai su visomis piktybėmis.
32 Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i'ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi.
32Būkite malonūs, gailestingi, atlaidūs vieni kitiems, kaip ir Dievas Kristuje atleido jums.