Welsh

Lithuanian

Jeremiah

20

1 Yr oedd Pasur fab Immer, yr offeiriad, yn brif swyddog yn nhu375?'r ARGLWYDD, a phan glywodd fod Jeremeia yn proffwydo'r geiriau hyn,
1Kunigas Pašhūras, Imero sūnus, vyriausiasis Viešpaties namų prižiūrėtojas, girdėjo Jeremiją pranašaujant.
2 trawodd Pasur y proffwyd Jeremeia, a'i roi yn y cyffion ym mhorth uchaf Benjamin yn nhu375?'r ARGLWYDD.
2Tada, nuplakdinęs pranašą Jeremiją, įtvėrė jį į šiekštą viršutiniuose Benjamino vartuose, prie Viešpaties namų.
3 Trannoeth, pan ollyngodd Pasur ef o'r cyffion, dywedodd Jeremeia wrtho, "Nid Pasur y galwodd yr ARGLWYDD di ond Dychryn-ar-bob-llaw.
3Kai rytą Pašhūras išlaisvino Jeremiją iš šiekšto, Jeremijas jam tarė: “Ne Pašhūru tave pavadino Viešpats, bet siaubu.
4 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Wele fi'n dy wneud yn ddychryn i ti dy hun ac i bawb o'th geraint. Syrthiant wrth gleddyf eu gelynion, a thithau'n gweld. Rhof hefyd holl Jwda yng ngafael brenin Babilon, i'w caethgludo i Fabilon a'u taro �'r cleddyf.
4Nes taip sako Viešpats: ‘Aš padarysiu tave siaubu tau ir visiems tavo draugams; jie kris nuo priešų kardo tau matant, o visą Judą atiduosiu į Babilono karaliaus rankas, kuris juos ištrems ir žudys.
5 Rhof hefyd olud y ddinas hon, a'i holl gynnyrch, a phob dim gwerthfawr sydd ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda, yng ngafael eu gelynion, i'w hanrheithio a'u meddiannu a'u cludo i Fabilon.
5Aš atiduosiu visus šito miesto turtus, visas jo atsargas, brangenybes ir visus Judo karalių lobius į jų priešų rankas, kurie juos pasiims ir išgabens į Babiloną.
6 A byddi di, Pasur, a holl breswylwyr dy du375?, yn mynd i gaethiwed; i Fabilon yr ei, ac yno y byddi farw, a'th gladdu � ti a'th holl gyfeillion y proffwydaist gelwydd iddynt.'"
6O tu, Pašhūrai, ir visi tavo namai būsite išvesti į nelaisvę. Į Babiloną tave nuvarys, kur tu ir tavo draugai, kuriems pranašavai melus, mirsite ir būsite palaidoti’ ”.
7 Twyllaist fi, O ARGLWYDD, ac fe'm twyllwyd. Cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist fi. Cyff gwawd wyf ar hyd y dydd, a phawb yn fy ngwatwar.
7Viešpatie, Tu suklaidinai mane, ir aš esu suklaidintas. Tu stipresnis už mane ir nugalėjai. Aš esu pajuokiamas kasdien, kiekvienas tyčiojasi iš manęs.
8 Bob tro y llefaraf ac y gwaeddaf, "Trais! Anrhaith!" yw fy llef. Canys y mae gair yr ARGLWYDD i mi yn waradwydd ac yn ddirmyg ar hyd y dydd.
8Kiekvieną kartą, kai kalbu, turiu šaukti: “Plėšimas, smurtas!” Viešpaties žodis tapo man plūdimu ir kasdienėmis patyčiomis.
9 Os dywedaf, "Ni soniaf amdano, ac ni lefaraf mwyach yn ei enw", y mae yn fy nghalon yn llosgi fel t�n wedi ei gau o fewn fy esgyrn. Blinaf yn ymatal; yn wir, ni allaf.
9Aš galvojau: “Nebeminėsiu Jo ir nebekalbėsiu Jo vardu”. Tačiau Jo žodis mano širdyje buvo tarsi ugnis, uždaryta mano kauluose, aš stengiausi susilaikyti, bet negalėjau.
10 Clywais sibrwd gan lawer � dychryn-ar-bob-llaw: "Cyhuddwch ef! Fe'i cyhuddwn ni ef!" Y mae pawb a fu'n heddychlon � mi yn gwylio am gam gwag gennyf, ac yn dweud, "Efallai yr hudir ef, ac fe'i gorchfygwn, a dial arno."
10Aš girdėjau daugelį šnibždant: “Įskųskime jį!” Visi mano artimi draugai laukia mano suklupimo: “Gal jis leisis suviliojamas, tada jį nugalėsime ir jam atkeršysime!”
11 Ond y mae'r ARGLWYDD gyda mi, fel rhyfelwr cadarn; am hynny fe dramgwydda'r rhai sy'n fy erlid, ac ni orchfygant; gwaradwyddir hwy'n fawr, canys ni lwyddant, ac nid anghofir fyth eu gwarth.
11Bet Viešpats yra su manimi kaip galingas karžygys! Todėl mano persekiotojai suklups ir nieko nelaimės. Jie bus labai sugėdinti ir jiems nepavyks, jų gėda nebus pamiršta per amžius.
12 O ARGLWYDD y Lluoedd, yr wyt yn profi'r cyfiawn, ac yn gweld y galon a'r meddwl; rho imi weld dy ddialedd arnynt, canys dadlennais i ti fy nghwyn.
12Kareivijų Viešpatie, kuris mėgini teisųjį, matai jo inkstus ir širdį, leisk man matyti Tavo kerštą jiems, nes aš Tau patikėjau savo bylą!
13 Canwch i'r ARGLWYDD. Moliannwch yr ARGLWYDD. Achubodd einioes y tlawd o afael y rhai drygionus.
13Giedokite Viešpačiui, girkite Viešpatį, nes Jis išgelbėjo vargšo gyvybę iš piktadarių rankų!
14 Melltith ar y dydd y'm ganwyd; na fendiger y dydd yr esgorodd fy mam arnaf.
14Prakeikta diena, kurią gimiau. Diena, kurią mane pagimdė motina, tenebūna palaiminta!
15 Melltith ar y gu373?r aeth �'r neges i'm tad, "Ganwyd mab i ti", a rhoi llawenydd mawr iddo.
15Prakeiktas žmogus, kuris pranešė mano tėvui žinią: “Tau gimė sūnus!”, ir jį labai pradžiugino.
16 Bydded y gu373?r hwnnw fel y dinasoedd a ddymchwelodd yr ARGLWYDD yn ddiarbed. Bydded iddo glywed gwaedd yn y bore, a bloedd am hanner dydd,
16Tebūna tas žmogus kaip miestai, kuriuos Viešpats nesigailėdamas sunaikino. Tegirdi jis šauksmą rytą ir vaitojimą vidudienį
17 oherwydd na laddwyd mohonof yn y groth, ac na fu fy mam yn fedd i mi, a'i chroth yn feichiog arnaf byth.
17dėl to, kad nenužudė manęs dar įsčiose, kad mano motina būtų man kapu ir būtų likusi nėščia amžinai!
18 Pam y deuthum allan o'r groth, i weld trafferth a gofid, a threulio fy nyddiau mewn gwarth?
18Kodėl turėjau gimti, patirti vargą bei sielvartą ir praleisti savo dienas gėdoje?