Welsh

Slovenian

Ezekiel

46

1 "'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y mae porth y cyntedd nesaf i mewn, sy'n wynebu tua'r dwyrain, i fod ar gau am y chwe diwrnod gwaith, ond ar agor ar y dydd Saboth ac ar ddydd y newydd-loer.
1Tako pravi Gospod Jehova: Vrata notranjega dvorišča, ki gledajo proti jutru, bodo zaprta šest delavnikov, ali v sobotni dan naj se odpro, tudi v dan mlaja naj se odpro.
2 Y mae'r tywysog i ddod i mewn trwy gyntedd y porth, a sefyll ger pyst y porth; ac y mae'r offeiriaid i aberthu ei boethoffrwm a'i hedd-offrymau. Y mae i addoli wrth riniog y porth ac yna mynd allan, ond ni chaeir y porth hyd fin nos.
2In knez naj vstopi skozi vežo ob vratih, od zunaj, in se postavi ob podbojih pri vratih; in duhovniki naj darujejo žgalščino njegovo in mirovne daritve njegove, on pa naj moli na pragu pri vratih; potem pojde ven, vrata pa naj se ne zapro do večera.
3 Ar y Sabothau a'r newydd-loerau y mae pobl y wlad i addoli gerbron yr ARGLWYDD wrth fynedfa'r porth hwn.
3In ljudstvo dežele naj moli ob vhodu teh vrat pred GOSPODOM ob sobotah in ob mlajih.
4 Bydd y poethoffrwm a ddygir gan y tywysog i'r ARGLWYDD ar y Saboth yn cynnwys chwe oen di-nam a hwrdd di-nam.
4In žgalščina, ki naj jo knez daruje GOSPODU v sobotni dan, bodi: šest jagnjet brez madeža in oven brez madeža,
5 Bydd effa o fwydoffrwm gyda'r hwrdd, ond gyda'r u373?yn bydd yn gymaint ag a ddymuna; bydd hin o olew am bob effa.
5in kot jedilna daritev: efa bele moke za ovna, in jedilna daritev za jagnjeta bodi po zmožnosti njegovi, in hin olja k vsaki efi.
6 Ar ddiwrnod y newydd-loer y mae i offrymu bustach ifanc, chwe oen a hwrdd, y cyfan yn ddi-nam.
6In v dan mlaja bodi mlad junec brez madeža in šest jagnjet in oven, brezmadežni naj bodo.
7 Y mae i ddarparu effa o fwydoffrwm gyda'r bustach, effa gyda'r hwrdd, a chyda'r u373?yn gymaint ag a ddymuna; bydd hin o olew am bob effa.
7In kot jedilno daritev naj pripravi: efo za junca in efo za ovna, za jagnjeta pa po zmožnosti svoji, in hin olja k vsaki efi.
8 Pan ddaw'r tywysog i mewn, y mae i ddod trwy gyntedd y porth, a mynd allan yr un ffordd.
8In kadar pride knez, naj vstopi skozi vežo ob vratih in po isti poti naj gre ven.
9 "'Pan fydd pobl y wlad yn dod o flaen yr ARGLWYDD ar y gwyliau penodedig, y mae'r sawl sy'n dod i mewn i addoli trwy borth y gogledd i fynd allan trwy borth y de, a'r sawl sy'n dod i mewn trwy borth y de i fynd allan trwy borth y gogledd. Ni chaiff neb ymadael trwy'r porth y daeth i mewn trwyddo, ond mynd allan trwy'r porth gyferbyn.
9Ko pa pride ljudstvo dežele pred GOSPODA ob določenih praznikih: kdor vnide skozi severna vrata, da bi molil, naj gre ven skozi južna vrata, in kdor vstopi skozi južna, naj gre ven skozi severna vrata; naj se ne vrača po poti tistih vrat, skozi katera je prišel noter, temuč naj izide skozi nasprotno stoječa.
10 Bydd y tywysog hefyd yn eu plith, yn mynd i mewn pan �nt hwy i mewn, ac yn mynd allan pan �nt hwy allan.
10Knez pa, ko pojdejo noter, naj gre sredi njih, in ko gredo ven, naj gredo skupno.
11 "'Ar y gwyliau a'r adegau penodedig, bydd effa o fwydoffrwm gyda bustach, effa gyda hwrdd, ond gyda'r u373?yn gymaint ag a ddymunir; bydd hin o olew am bob effa.
11In ob določenih praznikih in prazničnih časih bodi jedilna daritev: efa bele moke za junca in efa za ovna, za jagnjeta pa bodi po zmožnosti njegovi, in hin olja k vsaki efi.
12 Pan fydd y tywysog yn darparu offrwm gwirfodd i'r ARGLWYDD, yn boethoffrwm neu'n heddoffrymau, fe agorir iddo'r porth sy'n wynebu tua'r dwyrain. Bydd yn aberthu ei boeth-offrwm neu ei offrymau hedd fel y gwna ar y Saboth. Yna fe � allan, ac wedi iddo fynd allan fe gaeir y porth.
12In kadar hoče knez darovati prostovoljno žgalščino ali prostovoljno mirovno daritev GOSPODU, naj se mu odpro vrata, ki gledajo proti vzhodu; in naj opravi svojo žgalno daritev in mirovne daritve svoje, kakor jih opravlja sobotni dan; potem pojde ven, in ko odide, naj se zapro vrata.
13 "'Bob dydd yr wyt i ddarparu oen blwydd di-nam yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD; yr wyt i'w ddarparu bob bore.
13In vsak dan daruj GOSPODU enoletno brezmadežno jagnje v žgalno daritev, vsako jutro ga daruj.
14 Yr wyt hefyd i ddarparu bob bore fwydoffrwm yn pwyso chweched ran o effa, gyda thraean hin o olew i fwydo'r blawd; y mae cyflwyno bwydoffrwm i'r ARGLWYDD yn ddeddf dragwyddol.
14In s tem vred daruj jedilno daritev vsako jutro: šestinko efe in olja tretjinko hina, da se pokropi bela moka – kot jedilno daritev GOSPODU: večne postave so to, ki naj neprenehoma veljajo.
15 Felly darpara'r oen, y bwydoffrwm a'r olew bob bore yn boethoffrwm cyson.
15Tako naj darujejo jagnje in jedilno daritev in olje vsako jutro v neprestano žgalno daritev.
16 "'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Os bydd y tywysog yn rhoi rhodd o'i etifeddiaeth i un o'i feibion, fe � hefyd i'w ddisgynyddion; bydd yn eiddo iddynt hwy trwy etifeddiaeth.
16Tako pravi Gospod Jehova: Ako podeli knez kateremu svojih sinov dar, je njegova dediščina; njegovih sinov bodi, njih dedna posest je.
17 Ond os bydd y tywysog yn rhoi rhodd o'i etifeddiaeth i un o'i weision, bydd yn eiddo i'r gwas hyd flwyddyn ei ryddhau, ac yna bydd yn dychwelyd i'r tywysog; ei feibion yn unig a gaiff gadw ei etifeddiaeth.
17Ako pa pokloni kateremu hlapcev svojih dar od dediščine svoje, bodi njegovo do leta svobode, potem pa pripadi zopet knezu; dediščina je namreč njegova, sinom njegovim lastna.
18 Nid yw'r tywysog i gymryd o etifeddiaeth y bobl, a'u troi allan o'u tir; o'i eiddo ei hun y rhydd etifeddiaeth i'w feibion, fel na fydd yr un o'm pobl yn cael ei wahanu oddi wrth ei etifeddiaeth.'"
18Knez pa ne sme ničesar vzeti od dediščine ljudstva, da bi jih siloma spravil iz njih posesti; od svoje lastnine naj podeli dediščino sinom svojim, da se ne razkropi ljudstvo moje, drug za drugim iz posesti svoje.
19 Yna aeth y dyn � mi trwy'r mynediad wrth ochr y porth i'r ystafelloedd cysegredig a wynebai tua'r gogledd, ac a berthynai i'r offeiriaid; a gwelais yno le yn y pen gorllewinol.
19In peljal me je skozi vhod, ki je bil ob strani vrat, v svete sobice za duhovnike, ki so gledale proti severu; in glej, ondi je bil prostor v skrajnem kotu proti zahodu.
20 Dywedodd wrthyf, "Dyma'r lle y bydd yr offeiriaid yn coginio'r offrwm dros gamwedd a'r aberth dros bechod, ac yn pobi'r bwydoffrwm, rhag iddynt ddod � hwy i'r cyntedd nesaf allan a throsglwyddo i'r bobl yr hyn sydd sanctaidd."
20In mi reče: To je prostor, kjer naj duhovniki kuhajo daritev za krivdo in za greh, kjer naj pečejo jedilno daritev, da jim jih ne bo treba nositi na zunanje dvorišče, da ne posvetijo ljudstva.
21 Yna aeth � mi i'r cyntedd nesaf allan a'm harwain i bedair cornel y cyntedd, a gwelais gyntedd ymhob un o'r pedair cornel.
21Nato me pelje ven na zunanje dvorišče in me vodi mimo štirih dvornih voglov; in glej, na vsakem voglu dvorišča je bil dvorec.
22 Ym mhedair cornel y cyntedd nesaf allan yr oedd cynteddoedd bychain, deugain cufydd o hyd a deg cufydd ar hugain o led; yr oedd pob un o'r cynteddoedd yn y pedair cornel yr un maint.
22V štirih kotih dvorišča so bili ograjeni dvori, po štirideset komolcev dolgi in trideset široki; vsi štirje dvorci so imeli enako mero.
23 Y tu mewn i'r pedwar cyntedd yr oedd rhes o feini oddi amgylch, ac aelwydydd wedi eu gwneud yn agos at y meini o amgylch.
23In zid je bil okoli vseh štirih naokrog; in ognjišča so bila narejena pod zidom okoliinokoli.In mi reče: To so kuhinje, kjer naj hišni strežaji kuhajo klalno daritev ljudstva.
24 A dywedodd wrthyf, "Dyma'r ceginau lle bydd y rhai sy'n gwasanaethu yn y deml yn coginio aberthau'r bobl."
24In mi reče: To so kuhinje, kjer naj hišni strežaji kuhajo klalno daritev ljudstva.