Welsh

Slovenian

Jeremiah

49

1 Am yr Ammoniaid, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Onid oes meibion gan Israel? Onid oes etifedd iddo? Pam, ynteu, yr etifeddodd Milcom diriogaeth Gad, a pham y mae ei bobl yn preswylio yn ninasoedd Israel?
1O sinovih Amonovih. Tako pravi GOSPOD: Ali nima sinov Izrael? ali nima nobenega dediča? Zakaj ima Malkom [T. j. njih kralj. Ali: Milkom (Moloh), bog Amoncev.] v lasti Gad in ljudstvo njegovo prebiva v mestih Izraelovih?
2 Am hynny, y mae'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "y paraf glywed utgorn rhyfel yn erbyn Rabba'r Ammoniaid, a bydd yn garnedd anghyfannedd, a llosgir ei phentrefi � th�n; yna difreinia Israel y rhai a'i difreiniodd hi," medd yr ARGLWYDD.
2Zatorej, glej, pridejo dnevi, govori GOSPOD, ko storim, da se bo slišal proti Rabi sinov Amonovih vojni hrup, in bode v kup podrtin in njene vasi se požgo z ognjem. In Izrael bode dedič njih, ki so njegovo last podedovali, govori GOSPOD.
3 "Uda, Hesbon, oherwydd anrheithiwyd Ai; gwaeddwch, ferched Rabba, gwisgwch wregys o sachliain, galarwch, rhedwch gan rwygo eich cyrff; canys � Milcom i gaethglud ynghyd �'i offeiriaid a'i benaethiaid.
3Tuli, o Hesbon, kajti opustošen je Aj! Vpijte, hčere Rabe, opašite se z raševino; jokajte in tekajte semtertja med ograjami! kajti Malkom pojde v pregnanstvo, duhovniki in knezi njegovi vsi skupaj.
4 Pam yr ymffrosti yn dy ddyffrynnoedd? O ferch anffyddlon, sy'n ymddiried yn ei thrysorau cudd, ac yn dweud, 'Pwy a ddaw yn fy erbyn?'
4Kaj se ponašaš z dolinami, da je polna dolina tvoja, o hči verolomna? ki se zanašaš na zaklade svoje, govoreč: Kdo bi me napadel?
5 Yr wyf yn dwyn arswyd arnat," medd ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, "rhag pawb sydd o'th amgylch; fe'ch gyrrir allan, bob un ar ei gyfer, ac ni bydd neb i gynnull y ffoaduriaid.
5Glej, jaz izpustim zoper tebe grozo od vseh okoličanov tvojih, govori Gospod, Jehova nad vojskami; in odženo vas, vsakega v stran njegovo, in nikogar ne bode, da bi zbiral tavajoče. –
6 Ac wedi hynny adferaf lwyddiant yr Ammoniaid," medd yr ARGLWYDD.
6Vendar pripeljem potem nazaj ujetnike sinov Amonovih, govori GOSPOD.
7 Am Edom, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Onid oes doethineb mwyach yn Teman? A ddifethwyd cyngor o blith y deallus, ac a fethodd eu doethineb hwy?
7O Edomu. Tako pravi GOSPOD nad vojskami: Ali ni nobene modrosti več v Temani? Je li izginil sv?t med razumnimi, minila njih modrost?
8 Ffowch, trowch eich cefn, trigwch mewn cilfachau, chwi breswylwyr Dedan; canys dygaf drychineb Esau arno pan gosbaf ef.
8Bežíte, obrnite se, iščite globoka prebivališča, o prebivalci v Dedanu; zakaj nesrečo Ezavovo pripeljem nadenj, čas, ko ga obiščem.
9 Pe d�i cynaeafwyr gwin atat, yn ddiau gadawent loffion grawn; pe d�i lladron liw nos, nid ysbeilient ond yr hyn a'u digonai.
9Če ti pridejo trgači, ali bi ne pustili paberkov grozdja? če tatje po noči, bi pokončali, kar bi jim bilo zadosti?
10 Ond yr wyf fi wedi llwyr ddinoethi Esau; datguddiais ei fannau cudd, ac nid oes ganddo unman i ymguddio. Difethwyd ei blant a'i dylwyth a'i gymdogion, ac nid ydynt mwyach.
10Ali jaz sem ogolil Ezava, odkril, kar je bilo skritega, in ne bo se mogel skriti; opustošeno je seme njegovo in bratje njegovi in sosedje njegovi, in ni jih več.
11 Gad dy rai amddifaid; fe'u cadwaf yn fyw; bydded i'th weddwon ymddiried ynof fi."
11Popústi sirote svoje, jaz jih ohranim žive, in vdove tvoje naj stavijo up svoj name.
12 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; "Wele, y rhai ni ddyfarnwyd iddynt yfed o'r cwpan, bu raid iddynt yfed. A ddihengi di yn ddigerydd? Na wnei, ond bydd raid i tithau yfed.
12Kajti tako pravi GOSPOD: Glej, katerim ni bilo sojeno piti to čašo, jo morajo piti; ti pa sam naj bi bil čisto brez kazni? Ne bodeš brez kazni, ampak gotovo boš pil.
13 Canys tyngais i mi fy hun," medd yr ARGLWYDD, "y bydd Bosra yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch ac yn felltith, a'i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch oesol."
13Kajti pri sebi sem prisegel, govori GOSPOD, da bode Bozra v strmenje, sramoto, razdejanje in preklinjanje; in vsa mesta edomska bodo večne puščave.
14 Clywais genadwri gan yr ARGLWYDD; anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd: "Ymgasglwch, dewch yn ei herbyn, codwch i'r frwydr.
14Glas sem čul od GOSPODA, in poslanec je poslan k narodom: Zberite se in napadite ga in vstanite na boj!
15 Canys wele, gwnaf di'n fach ymysg y cenhedloedd, yn ddirmygedig ymhlith pobloedd.
15Zakaj, glej, majhnega sem te naredil med narodi, zaničevanega med ljudmi.
16 Y mae'r arswyd a beraist wedi dy dwyllo; gwnaeth dy galon yn falch. Tydi sy'n trigo yn holltau'r graig ac yn glynu wrth grib y bryniau, er i ti osod dy nyth cyn uched �'r eryr, fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno," medd yr ARGLWYDD.
16Groznost tvoja in prevzetnost duše tvoje te je premotila, o ti, ki prebivaš v brlogih skalnatih, ki si zasedel griča višino. Če napraviš visoko kakor orel gnezdo svoje, vržem te odondod doli, govori GOSPOD.
17 "Bydd Edom yn anghyfannedd, a phawb sy'n mynd heibio yn arswydo, gan synnu oherwydd ei holl glwyfau.
17In Edom postane stvar strmenja: kdorkoli pojde mimo njega, bo strmel in žvižgal zavoljo vseh kazni njegovih.
18 Fel pan ddinistriwyd Sodom a Gomorra a'u cymdogion," medd yr ARGLWYDD, "ni fydd neb yn aros nac yn ymweld � hi.
18Kakor so bila podrta Sodoma in Gomora in sosednja mesta, pravi GOSPOD: nihče ne bo stanoval ondi in bival ne bo v njem sin človekov.
19 Wele, fel llew'n dod i fyny o wlad wyllt yr Iorddonen i'r borfa barhaol, ymlidiaf hwy ymaith yn ddisymwth oddi wrthi. Pwy a ddewisaf i'w osod drosti? Oherwydd pwy sydd fel myfi? Pwy a'm geilw i i gyfrif? Pwy yw'r bugail a saif o'm blaen i?
19Glej, kakor lev gre gori od veličja Jordanovega zoper trdno prebivališče; ali pri tej priči ga zapodim v beg iz te dežele, in njega, ki je izvoljen, postavim nadnjo. Kajti kdo je meni enak? ali kdo bi me pozval na sodbo? in kdo je tisti pastir, ki bi mogel stati pred menoj?
20 Am hynny, clywch yr hyn a fwriadodd yr ARGLWYDD yn erbyn Edom, a'i gynlluniau yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau, fe lusgir ymaith hyd yn oed y lleiaf o'r praidd; yn ddiau, bydd eu porfeydd yn arswydo o'u plegid.
20Zatorej čujte sklep GOSPODOV, ki ga je storil zoper Edoma, in misli njegove, ki jih je nameraval zoper prebivalce Temanove: Gotovo jih odvlečejo, najmanjše iz črede; gotovo se opustoši njih prebivališče ž njimi vred.
21 Fe gryn y ddaear gan su373?n eu cwymp; clywir eu cri wrth y M�r Coch.
21Od glasu njih padca se potrese zemlja; vpitja glas se bo slišal do Rdečega morja.
22 Ie, bydd un yn codi, yn ehedeg fel eryr, ac yn lledu ei adenydd yn erbyn Bosra; a bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor."
22Glej, kakor orel pride sovražnik gori in prileti in razpne peruti svoje nad Bozro; in srce junakov Edomovih bode tisti dan kakor srce ženske, trpeče porodne bolečine.
23 Am Ddamascus. "Gwaradwyddwyd Hamath ac Arpad, canys clywsant newydd drwg; cynhyrfir hwy gan bryder, fel y m�r na ellir ei dawelu.
23O Damasku. Hamat je osramočen in Arpad; kajti zaslišala sta hudo poročilo, obupavata; na morju je nemir, počivati se ne more.
24 Llesgaodd Damascus, a throdd i ffoi; goddiweddodd dychryn hi, a gafaelodd cryndod a gwasgfa ynddi fel mewn gwraig wrth esgor.
24Malosrčen je postal Damask, obrača se, da bi bežal, treslica ga prevzema; težava z bolečinami ga popada kakor ženo o porodu.
25 Mor wrthodedig yw dinas moliant, caer llawenydd!
25„Kako da ni zapuščeno mesto, tako hvaljeno, mesto veselja mojega?“
26 Am hynny fe syrth ei gwu375?r ifainc yn ei heolydd, a dinistrir ei holl filwyr y dydd hwnnw," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
26Zato bodo padali mladeniči njegovi po ulicah njegovih in vsi vojskovalci njegovi bodo pokončani tisti dan, govori GOSPOD nad vojskami.
27 "Mi gyneuaf d�n ym mur Damascus, ac fe ddifa lysoedd Ben-hadad."
27In ogenj zažgem na zidovju v Damasku, ki pokonča Ben-hadadove gradove.
28 Am Cedar, a theyrnasoedd Hasor, y rhai a drawyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Codwch, esgynnwch yn erbyn Cedar; anrheithiwch bobl y dwyrain.
28O Kedarju in o kraljestvih Hazorjevih, ki jih je porazil Nebukadnezar, kralj babilonski. Tako pravi GOSPOD: Vstanite, idite gori nad Kedar in pustošite otroke Jutrove dežele.
29 Cymerir ymaith eu pebyll a'u diadellau, llenni eu pebyll, a'u celfi i gyd; dygir eu camelod oddi arnynt, a bloeddir wrthynt, 'Dychryn ar bob llaw!'
29Njih šatore, in njih črede vzamejo; njih šatorske preproge in vse njih orodje in njih velblode odpeljejo zase; in zoper nje bodo klicali: Groza okroginokrog!
30 Ffowch, rhedwch ymhell; trigwch mewn cilfachau, chwi breswylwyr Hasor," medd yr ARGLWYDD; "oherwydd gwnaeth Nebuchadnesar brenin Babilon gynllwyn, a lluniodd gynllun yn eich erbyn.
30Bežite, hitro zapustite deželo, iščite globoka prebivališča, o prebivalci v Hazorju! govori GOSPOD; kajti Nebukadnezar, kralj babilonski, je storil sklep zoper vas in je zasnoval naklep proti vam.
31 Codwch, esgynnwch yn erbyn y genedl ddiofal, sy'n byw'n ddiogel," medd yr ARGLWYDD, "heb ddorau na barrau iddi, a'i phobl yn byw iddynt eu hunain.
31Vstanite, idite gori k pokojnemu narodu, ki prebiva brez skrbi, govori GOSPOD, ki nimajo ne vrat, ne zapaha, sami prebivajo.
32 Bydd eu camelod yn anrhaith, a'u minteioedd anifeiliaid yn ysbail; gwasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd �'u talcennau'n foel; o bob cyfeiriad dygaf arnynt eu dinistr," medd yr ARGLWYDD.
32In njih velblodi bodo ugrabljeni in množica njih ovac uplenjena; in razkropim jih na vse vetrove, nje, ki so ostriženi ob krajih glave; in od vseh strani pripeljem njih nesrečo, govori GOSPOD.
33 "Bydd Hasor yn gynefin siacaliaid, ac yn anghyfannedd byth; ni fydd neb yn byw ynddi, nac unrhyw un yn aros yno."
33Tako bode Hazor prebivališče šakalom, puščava za vselej: nihče ne bo stanoval ondi in bival ne bo v njem sin človekov.
34 Dyma air yr ARGLWYDD, a ddaeth at y proffwyd Jeremeia am Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda:
34Beseda GOSPODOVA, ki je prišla Jeremiju proroku zoper Elama, v začetku kraljevanja Zedekija, kralja Judovega, govoreč:
35 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Yr wyf am dorri bwa Elam, eu cadernid pennaf hwy.
35Tako pravi GOSPOD nad vojskami: Glej, jaz zlomim lok Elamov, vrhunec njegove moči.
36 Dygaf ar Elam bedwar gwynt, o bedwar cwr y nefoedd; gwasgaraf hwy tua'r holl wyntoedd hyn; ni bydd cenedl na ddaw ffoaduriaid Elam ati.
36In pripeljem zoper Elama štiri vetrove od štirih krajev nebes in jih razkropim na vse tiste vetrove, da ne bode naroda, kamor bi ne prišel kak pregnanec iz Elama.
37 Canys gyrraf ar Elam ofn o flaen eu gelynion ac o flaen y rhai sy'n ceisio'u heinioes; dygaf arnynt ddinistr, sef angerdd fy nigofaint,' medd yr ARGLWYDD. 'Gyrraf y cleddyf ar eu h�l, nes i mi eu llwyr ddifetha.
37In preplašenega storim Elama spričo njegovih sovražnikov in spričo njih, ki jim strežejo po življenju, ter spravim nadnje nesrečo, gorečo jezo svojo, govori GOSPOD; in meč pošljem za njimi, dokler jih ne pokončam.
38 A gosodaf fy ngorseddfainc yn Elam, a difa oddi yno y brenin a'r swyddogion,' medd yr ARGLWYDD.
38In postavim prestol svoj v Elamu in pogubim odtam kralja in kneze, govori GOSPOD. –Ali zgodi se v poslednjih dneh, da pripeljem nazaj ujetnike Elamove, govori GOSPOD.
39 "Ond yn y dyddiau diwethaf mi adferaf lwyddiant Elam," medd yr ARGLWYDD.
39Ali zgodi se v poslednjih dneh, da pripeljem nazaj ujetnike Elamove, govori GOSPOD.