1 Rhaid iti ddeall hyn, fod amserau enbyd i ddod yn y dyddiau diwethaf.
1ESTO también sepas, que en los postreros días vendrán tiempos peligrosos:
2 Bydd pobl yn hunangar ac yn ariangar, yn ymffrostgar a balch a sarhaus, yn anufudd i'w rhieni, yn anniolchgar ac yn ddigrefydd.
2Que habrá hombres amadores de sí mismos, avaros, vanagloriosos, soberbios, detractores, desobedientes á los padres, ingratos, sin santidad,
3 Byddant yn ddi-serch a digymod, yn enllibus a dilywodraeth ac anwar, heb ddim cariad at ddaioni.
3Sin afecto, desleales, calumniadores, destemplados, crueles, aborrecedores de lo bueno,
4 Bradwyr fyddant, yn ddi-hid, yn llawn balchder, yn caru pleser yn hytrach na charu Duw,
4Traidores, arrebatados, hinchados, amadores de los deleites más que de Dios;
5 yn cadw ffurf allanol crefydd ond yn gwadu ei grym hi. Cadw draw oddi wrth y rhain.
5Teniendo apariencia de piedad, mas habiendo negado la eficacia de ella: y á éstos evita.
6 Dyma'r math o bobl fydd yn gweithio'u ffordd i mewn i dai rhai eraill, ac yn rhwydo gwragedd ff�l sydd dan faich o bechodau ac yng ngafael pob rhyw nwydau,
6Porque de éstos son los que se entran por las casas, y llevan cautivas las mujercillas cargadas de pecados, llevadas de diversas concupiscencias;
7 gwragedd sydd o hyd yn ceisio dysgu ond byth yn gallu cyrraedd at wybodaeth o'r gwirionedd.
7Que siempre aprenden, y nunca pueden acabar de llegar al conocimiento de la verdad.
8 Yn union fel y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses, felly hefyd y mae'r rhai hyn yn gwrthsefyll y gwirionedd. Pobl lygredig eu meddwl ydynt, ac annerbyniol o ran y ffydd.
8Y de la manera que Jannes y Jambres resistieron á Moisés, así también estos resisten á la verdad; hombres corruptos de entendimiento, réprobos acerca de la fe.
9 Ond nid �nt yn eu blaen ddim pellach, oherwydd fe ddaw eu ffolineb hwy, fel eiddo Jannes a Jambres, yn amlwg ddigon i bawb.
9Mas no prevalecerán; porque su insensatez será manifiesta á todos, como también lo fué la de aquéllos.
10 Ond yr wyt ti wedi dilyn yn ofalus fy athrawiaeth i a'm ffordd o fyw, fy ymroddiad, fy ffydd, fy amynedd, fy nghariad a'm dyfalbarhad,
10Pero tú has comprendido mi doctrina, instrucción, intento, fe, largura de ánimo, caridad, paciencia,
11 yr erlid a'r dioddef a ddaeth i'm rhan yn Antiochia ac Iconium a Lystra; ie, yr holl erledigaethau a ddioddefais. A gwaredodd yr Arglwydd fi o'r cyfan i gyd.
11Persecuciones, aflicciones, cuales me sobrevinieron en Antioquía, en Iconio, en Listra, cuales persecuciones he sufrido; y de todas me ha librado el Señor.
12 Yn wir, eu herlid a gaiff pawb sydd yn ceisio byw bywyd duwiol yng Nghrist Iesu,
12Y también todos los que quieren vivir píamente en Cristo Jesús, padecerán persecución.
13 ond bydd pobl ddrwg ac ymhonwyr yn mynd o ddrwg i waeth, gan dwyllo a chael eu twyllo.
13Mas los malos hombres y los engañadores, irán de mal en peor, engañando y siendo engañados.
14 Ond glu375?n di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. Fe wyddost gan bwy y dysgaist hwy,
14Empero persiste tú en lo que has aprendido y te persuadiste, sabiendo de quién has aprendido;
15 a'th fod er yn blentyn yn gyfarwydd �'r Ysgrythurau sanctaidd, sydd yn abl i'th wneud yn ddoeth a'th ddwyn i iachawdwriaeth trwy ffydd yng Nghrist Iesu.
15Y que desde la niñez has sabido las Sagradas Escrituras, las cuales te pueden hacer sabio para la salud por la fe que es en Cristo Jesús.
16 Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder.
16Toda Escritura es inspirada divinamente y útil para enseñar, para redargüir, para corregir, para instituir en justicia,
17 Felly y darperir pob un sy'n perthyn i Dduw � chyflawn ddarpariaeth ar gyfer pob math o weithredoedd da.
17Para que el hombre de Dios sea perfecto, enteramente instruído para toda buena obra.