1 Yn y cyfamser yr oedd y dyrfa wedi ymgynnull yn ei miloedd, nes eu bod yn sathru ei gilydd dan draed. Dechreuodd ef ddweud wrth ei ddisgyblion yn gyntaf, "Gochelwch rhag surdoes y Phariseaid, hynny yw, eu rhagrith.
1EN esto, juntándose muchas gentes, tanto que unos á otros se hollaban, comenzó á decir á sus discípulos, primeramente: Guardaos de la levadura de los Fariseos, que es hipocresía.
2 Nid oes dim wedi ei guddio nas datguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod.
2Porque nada hay encubierto, que no haya de ser descubierto; ni oculto, que no haya de ser sabido.
3 Am hyn, popeth y buoch yn ei ddweud yn y tywyllwch, fe'i clywir yng ngolau dydd; a'r hyn y buoch yn ei sibrwd yn y glust mewn ystafelloedd o'r neilltu, fe'i cyhoeddir ar bennau'r tai.
3Por tanto, las cosas que dijisteis en tinieblas, á la luz serán oídas; y lo que hablasteis al oído en las cámaras, será pregonado en los terrados.
4 "Rwy'n dweud wrthych chwi fy nghyfeillion, peidiwch ag ofni'r rhai sy'n lladd y corff, ac sydd wedi hynny heb allu i wneud dim pellach.
4Mas os digo, amigos míos: No temáis de los que matan el cuerpo, y después no tienen más que hacer.
5 Ond dangosaf i chwi pwy i'w ofni: ofnwch yr hwn sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern wedi'r lladd; ie, rwy'n dweud wrthych, ofnwch hwnnw.
5Mas os enseñaré á quién temáis: temed á aquel que después de haber quitado la vida, tiene poder de echar en la Gehenna: así os digo: á éste temed.
6 Oni werthir pump aderyn y to am ddwy geiniog? Eto nid yw un ohonynt yn angof gan Dduw.
6¿No se venden cinco pajarillos por dos blancas? pues ni uno de ellos está olvidado delante de Dios.
7 Yn wir, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni; yr ydych yn werth mwy na llawer o adar y to.
7Y aun los cabellos de vuestra cabeza están todos contados. No temáis pues: de más estima sois que muchos pajarillos.
8 "Rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag a'm harddel i gerbron eraill, bydd Mab y Dyn hefyd yn eu harddel hwy gerbron angylion Duw;
8Y os digo que todo aquel que me confesare delante de los hombres, también el Hijo del hombre le confesará delante de los ángeles de Dios;
9 ond y sawl sydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, fe'i gwedir ef gerbron angylion Duw.
9Mas el que me negare delante de los hombres, será negado delante de los ángeles de Dios.
10 Caiff pwy bynnag a ddywed air yn erbyn Mab y Dyn, faddeuant; ond ni faddeuir i'r sawl sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd Gl�n.
10Y todo aquel que dice palabra contra el Hijo del hombre, le será perdonado; mas al que blasfemare contra el Espíritu Santo, no le será perdonado.
11 Pan ddygant chwi gerbron y synagogau a'r ynadon a'r awdurdodau, peidiwch � phryderu am ddull nac am gynnwys eich amddiffyniad, nac am eich ymadrodd;
11Y cuando os trajeren á las sinagogas, y á los magistrados y potestades, no estéis solícitos cómo ó qué hayáis de responder, ó qué hayáis de decir;
12 oherwydd bydd yr Ysbryd Gl�n yn eich dysgu chwi ar y pryd beth fydd yn rhaid ei ddweud."
12Porque el Espíritu Santo os enseñará en la misma hora lo que será necesario decir.
13 Meddai rhywun o'r dyrfa wrtho, "Athro, dywed wrth fy mrawd am roi i mi fy nghyfran o'n hetifeddiaeth."
13Y díjole uno de la compañía: Maestro, di á mi hermano que parta conmigo la herencia.
14 Ond meddai ef wrtho, "Ddyn, pwy a'm penododd i yn farnwr neu yn gymrodeddwr rhyngoch?"
14Mas él le dijo: Hombre, ¿quién me puso por juez ó partidor sobre vosotros?
15 A dywedodd wrthynt, "Gofalwch ymgadw rhag trachwant o bob math, oherwydd, er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau."
15Y díjoles: Mirad, y guardaos de toda avaricia; porque la vida del hombre no consiste en la abundancia de los bienes que posee.
16 Ac adroddodd ddameg wrthynt: "Yr oedd tir rhyw u373?r cyfoethog wedi dwyn cnwd da.
16Y refirióles una parábola, diciendo: La heredad de un hombre rico había llevado mucho;
17 A dechreuodd feddwl a dweud wrtho'i hun, 'Beth a wnaf fi, oherwydd nid oes gennyf unman i gasglu fy nghnydau iddo?'
17Y él pensaba dentro de sí, diciendo: ¿qué haré, porque no tengo donde juntar mis frutos?
18 Ac meddai, 'Dyma beth a wnaf fi: tynnaf f'ysguboriau i lawr ac adeiladu rhai mwy, a chasglaf yno fy holl u375?d a'm heiddo.
18Y dijo: Esto haré: derribaré mis alfolíes, y los edificaré mayores, y allí juntaré todos mis frutos y mis bienes;
19 Yna dywedaf wrthyf fy hun, "Ddyn, y mae gennyt st�r o lawer o bethau ar gyfer blynyddoedd lawer; gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen."'
19Y diré á mi alma: Alma, muchos bienes tienes almacenados para muchos años; repósate, come, bebe, huélgate.
20 Ond meddai Duw wrtho, 'Yr ynfytyn, heno y mynnir dy einioes yn �l gennyt, a phwy gaiff y pethau a baratoaist?'
20Y díjole Dios: Necio, esta noche vuelven á pedir tu alma; y lo que has prevenido, ¿de quién será?
21 Felly y bydd hi ar y rhai sy'n casglu trysor iddynt eu hunain a heb fod yn gyfoethog gerbron Duw."
21Así es el que hace para sí tesoro, y no es rico en Dios.
22 Meddai wrth ei ddisgyblion, "Am hynny rwy'n dweud wrthych, peidiwch � phryderu am eich bywyd nac am eich corff, beth i'w fwyta na beth i'w wisgo.
22Y dijo á sus discípulos: Por tanto os digo: No estéis afanosos de vuestra vida, qué comeréis; ni del cuerpo, qué vestiréis.
23 Oherwydd y mae mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad.
23La vida más es que la comida, y el cuerpo que el vestido.
24 Ystyriwch y brain: nid ydynt yn hau nac yn medi, nid oes ganddynt ystordy nac ysgubor, ac eto y mae Duw yn eu bwydo. Gymaint mwy gwerthfawr ydych chwi na'r adar!
24Considerad los cuervos, que ni siembran, ni siegan; que ni tienen cillero, ni alfolí; y Dios los alimenta. ¿Cuánto de más estima sois vosotros que las aves?
25 A phrun ohonoch a all ychwanegu munud at ei oes trwy bryderu?
25¿Y quién de vosotros podrá con afán añadir á su estatura un codo?
26 Felly os yw hyd yn oed y peth lleiaf y tu hwnt i'ch gallu, pam yr ydych yn pryderu am y gweddill?
26Pues si no podéis aun lo que es menos, ¿para qué estaréis afanosos de lo demás?
27 Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu; ond rwy'n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i'w chymharu ag un o'r rhain.
27Considerad los lirios, cómo crecen: no labran, ni hilan; y os digo, que ni Salomón con toda su gloria se vistió como uno de ellos.
28 Os yw Duw yn dilladu felly y glaswellt, sydd heddiw yn y meysydd ac yfory yn cael ei daflu i'r ffwrn, gymaint mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd!
28Y si así viste Dios á la hierba, que hoy está en el campo, y mañana es echada en el horno; ¿cuánto más á vosotros, hombres de poca fe?
29 A chwithau, peidiwch � rhoi eich bryd ar beth i'w fwyta a beth i'w yfed, a pheidiwch � byw mewn pryder;
29Vosotros, pues, no procuréis qué hayáis de comer, ó qué hayáis de beber: ni estéis en ansiosa perplejidad.
30 oherwydd dyna'r holl bethau y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio, ond y mae gennych chwi Dad sy'n gwybod fod arnoch eu hangen.
30Porque todas estas cosas buscan las gentes del mundo; que vuestro Padre sabe que necesitáis estas cosas.
31 Ceisiwch yn hytrach ei deyrnas ef, a rhoir y pethau hyn yn ychwaneg i chwi.
31Mas procurad el reino de Dios, y todas estas cosas os serán añadidas.
32 Peidiwch ag ofni, fy mhraidd bychan, oherwydd gwelodd eich Tad yn dda roi i chwi'r deyrnas.
32No temáis, manada pequeña; porque al Padre ha placido daros el reino.
33 Gwerthwch eich eiddo a rhowch ef yn elusen; gwnewch i chwi eich hunain byrsau nad ydynt yn treulio, trysor dihysbydd yn y nefoedd, lle nad yw lleidr yn dod ar y cyfyl, na gwyfyn yn difa.
33Vended lo que poseéis, y dad limosna; haceos bolsas que no se envejecen, tesoro en los cielos que nunca falta; donde ladrón no llega, ni polilla corrompe.
34 Oherwydd lle mae eich trysor, yno hefyd y bydd eich calon.
34Porque donde está vuestro tesoro, allí también estará vuestro corazón.
35 "Bydded eich gwisg wedi ei thorchi a'ch canhwyllau ynghynn.
35Estén ceñidos vuestros lomos, y vuestras antorchas encendidas;
36 Byddwch chwithau fel rhai yn disgwyl dychweliad eu meistr o briodas, i agor iddo cyn gynted ag y daw a churo.
36Y vosotros semejantes á hombres que esperan cuando su señor ha de volver de las bodas; para que cuando viniere, y llamare, luego le abran.
37 Gwyn eu byd y gweision hynny a geir ar ddihun gan eu meistr pan ddaw; yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd ef yn torchi ei wisg, ac yn eu gosod wrth y bwrdd, ac yn dod ac yn gweini arnynt.
37Bienaventurados aquellos siervos, á los cuales cuando el Señor viniere, hallare velando: de cierto os digo, que se ceñirá, y hará que se sienten á la mesa, y pasando les servirá.
38 Ac os daw ef ar hanner nos neu yn yr oriau m�n, a'u cael felly, gwyn eu byd.
38Y aunque venga á la segunda vigilia, y aunque venga á la tercera vigilia, y los hallare así, bienaventurados son los tales siervos.
39 A gwybyddwch hyn: pe buasai meistr y tu375? yn gwybod pa bryd y byddai'r lleidr yn dod, ni fuasai wedi gadael iddo dorri i mewn i'w du375?.
39Esto empero sabed, que si supiese el padre de familia á qué hora había de venir el ladrón, velaría ciertamente, y no dejaría minar su casa.
40 Chwithau hefyd, byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn."
40Vosotros pues también, estad apercibidos; porque á la hora que no pensáis, el Hijo del hombre vendrá.
41 Meddai Pedr, "Arglwydd, ai i ni yr wyt yn adrodd y ddameg hon, ai i bawb yn ogystal?"
41Entonces Pedro le dijo: Señor, ¿dices esta parábola á nosotros, ó también á todos?
42 Dywedodd yr Arglwydd, "Pwy ynteu yw'r goruchwyliwr ffyddlon a chall a osodir gan ei feistr dros ei weision, i roi eu dogn bwyd iddynt yn ei bryd?
42Y dijo el Señor: ¿Quién es el mayordomo fiel y prudente, al cual el señor pondrá sobre su familia, para que á tiempo les dé su ración?
43 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw a geir yn gwneud felly gan ei feistr pan ddaw;
43Bienaventurado aquel siervo, al cual, cuando el señor viniere, hallare haciendo así.
44 yn wir, rwy'n dweud wrthych y gesyd ef dros ei holl eiddo.
44En verdad os digo, que él le pondrá sobre todos sus bienes.
45 Ond os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, 'Y mae fy meistr yn oedi dod', a dechrau curo'r gweision a'r morynion, a bwyta ac yfed a meddwi,
45Mas si el tal siervo dijere en su corazón: Mi señor tarda en venir: y comenzare á herir á los siervos y á las criadas, y á comer y á beber y á embriagarse;
46 yna bydd meistr y gwas hwnnw yn cyrraedd ar ddiwrnod annisgwyl iddo ef ac ar awr nas gu373?yr; ac fe'i cosba yn llym, a gosod ei le gyda'r anffyddloniaid.
46Vendrá el señor de aquel siervo el día que no espera, y á la hora que no sabe, y le apartará, y pondrá su parte con los infieles.
47 Bydd y gwas hwnnw sy'n gwybod ewyllys ei feistr, ac eto heb ddarparu na gwneud dim yn �l ei ewyllys, yn cael curfa dost;
47Porque el siervo que entendió la voluntad de su señor, y no se apercibió, ni hizo conforme á su voluntad, será azotado mucho.
48 ond bydd y gwas nad yw'n gwybod, ond sydd wedi haeddu curfa, yn cael un ysgafn. Disgwylir llawer gan y sawl a dderbyniodd lawer; a gofynnir llawer mwy yn �l gan yr un y mae llawer wedi ei ymddiried iddo.
48Mas el que no entendió, é hizo cosas dignas de azotes, será azotado poco: porque á cualquiera que fué dado mucho, mucho será vuelto á demandar de él; y al que encomendaron mucho, más le será pedido.
49 "Yr wyf fi wedi dod i fwrw t�n ar y ddaear, ac O na fyddai eisoes wedi ei gynnau!
49Fuego vine á meter en la tierra: ¿y qué quiero, si ya está encendido?
50 Y mae bedydd y mae'n rhaid fy medyddio ag ef, a chymaint yw fy nghyfyngder hyd nes y cyflawnir ef!
50Empero de bautismo me es necesario ser bautizado: y cómo me angustio hasta que sea cumplido!
51 A ydych chwi'n tybio mai i roi heddwch i'r ddaear yr wyf fi wedi dod? Nage, meddaf wrthych, ond ymraniad.
51¿Pensáis que he venido á la tierra á dar paz? No, os digo; mas disensión.
52 Oherwydd o hyn allan bydd un teulu o bump wedi ymrannu, tri yn erbyn dau a dau yn erbyn tri:
52Porque estarán de aquí adelante cinco en una casa divididos; tres contra dos, y dos contra tres.
53 'Ymranna'r tad yn erbyn y mab a'r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn ei merch a'r ferch yn erbyn ei mam, y fam-yng-nghyfraith yn erbyn y ferch-yng-nghyfraith a'r ferch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith.'"
53El padre estará dividido contra el hijo, y el hijo contra el padre; la madre contra la hija, y la hija contra la madre; la suegra contra su nuera, y la nuera contra su suegra.
54 Dywedodd wrth y tyrfaoedd hefyd, "Pan welwch gwmwl yn codi yn y gorllewin, yr ydych yn dweud ar unwaith, 'Daw yn law', ac felly y bydd;
54Y decía también á las gentes: Cuando veis la nube que sale del poniente, luego decís: Agua viene; y es así.
55 a phan welwch wynt y de yn chwythu, yr ydych yn dweud, 'Daw yn wres', a hynny fydd.
55Y cuando sopla el austro, decís: Habrá calor; y lo hay.
56 Chwi ragrithwyr, medrwch ddehongli'r olwg ar y ddaear a'r ffurfafen, ond sut na fedrwch ddehongli'r amser hwn?
56Hipócritas! Sabéis examinar la faz del cielo y de la tierra; ¿y cómo no reconocéis este tiempo?
57 "A pham nad ydych ohonoch eich hunain yn barnu beth sydd yn iawn?
57¿Y por qué aun de vosotros mismos no juzgáis lo que es justo?
58 Pan wyt yn mynd gyda'th wrth-wynebwr at yr ynad, gwna dy orau ar y ffordd yno i gymodi ag ef, rhag iddo dy lusgo gerbron y barnwr, ac i'r barnwr dy draddodi i'r cwnstabl, ac i'r cwnstabl dy fwrw i garchar.
58Pues cuando vas al magistrado con tu adversario, procura en el camino librarte de él; porque no te arrastre al juez, y el juez te entregue al alguacil, y el alguacil te meta en la cárcel.
59 Rwy'n dweud wrthyt, ni ddoi di byth allan oddi yno cyn talu'n �l y geiniog olaf un."
59Te digo que no saldrás de allá, hasta que hayas pagado hasta el último maravedí.