1 Ymaith gan hynny � phob drygioni a phob twyll a rhagrith a chenfigen, a phob siarad bychanus!
1ܐܢܝܚܘ ܗܟܝܠ ܡܢܟܘܢ ܟܠܗ ܒܝܫܘܬܐ ܘܟܠܗ ܢܟܠܐ ܘܡܤܒ ܒܐܦܐ ܘܚܤܡܐ ܘܡܐܟܠ ܩܪܨܐ ܀
2 Fel babanod newydd eu geni, blysiwch am laeth ysbrydol pur, er mwyn ichwi drwyddo gynyddu i iachawdwriaeth,
2ܘܗܘܘ ܐܝܟ ܝܠܘܕܐ ܫܒܪܐ ܘܐܬܪܓܪܓܘ ܠܗ ܠܡܠܬܐ ܐܝܟ ܕܠܚܠܒܐ ܢܩܕܐ ܘܪܘܚܢܐ ܕܒܗ ܬܬܪܒܘܢ ܠܚܝܐ ܀
3 os ydych wedi profi tiriondeb yr Arglwydd.
3ܐܢ ܛܥܡܬܘܢ ܘܚܙܝܬܘܢ ܕܛܒ ܗܘ ܡܪܝܐ ܀
4 Wrth ddod ato ef, y maen bywiol, gwrthodedig gan bobl ond etholedig a chlodfawr gan Dduw,
4ܗܘ ܕܠܗ ܡܬܩܪܒܝܢ ܐܢܬܘܢ ܕܐܝܬܘܗܝ ܟܐܦܐ ܚܝܐ ܕܐܤܠܝܘܗܝ ܒܢܝ ܐܢܫܐ ܘܓܒܐ ܘܡܝܩܪ ܠܘܬ ܐܠܗܐ ܀
5 yr ydych chwithau hefyd, fel meini bywiol, yn cael eich adeiladu yn du375? ysbrydol, i fod yn offeiriadaeth sanctaidd, er mwyn offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.
5ܘܐܦ ܐܢܬܘܢ ܐܝܟ ܟܐܦܐ ܚܝܬܐ ܐܬܒܢܘ ܘܗܘܘ ܗܝܟܠܐ ܪܘܚܢܐ ܘܟܗܢܐ ܩܕܝܫܐ ܠܡܤܩܘ ܕܒܚܐ ܪܘܚܢܐ ܕܡܩܒܠܝܢ ܩܕܡ ܐܠܗܐ ܒܝܕ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
6 Oherwydd y mae'n sefyll yn yr Ysgrythur: "Wele fi'n gosod maen yn Seion, conglfaen etholedig a chlodfawr, a'r hwn sy'n credu ynddo, ni chywilyddir byth mohono."
6ܐܡܝܪ ܗܘ ܓܝܪ ܒܟܬܒܐ ܕܗܐ ܤܐܡ ܐܢܐ ܒܨܗܝܘܢ ܟܐܦܐ ܒܚܝܪܬܐ ܘܝܩܝܪܬܐ ܒܪܝܫ ܙܘܝܬܐ ܘܡܢ ܕܡܗܝܡܢ ܒܗ ܠܐ ܢܒܗܬ ܀
7 Y mae ei glod, gan hynny, yn eiddoch chwi, y credinwyr; ond i'r anghredinwyr, "Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl",
7ܠܟܘܢ ܗܟܝܠ ܐܬܝܗܒ ܗܢܐ ܐܝܩܪܐ ܠܐܝܠܝܢ ܕܡܗܝܡܢܝܢ ܠܗܢܘܢ ܕܝܢ ܕܠܐ ܡܬܛܦܝܤܝܢ ܀
8 a hefyd, "Maen tramgwydd, a chraig rhwystr." Y maent yn tramgwyddo wrth anufuddhau i'r gair; dyma'r dynged a osodwyd iddynt.
8ܟܐܦܐ ܗܘ ܕܬܘܩܠܬܐ ܘܐܒܢܐ ܕܟܫܠܐ ܘܡܬܬܩܠܝܢ ܒܗ ܒܕܠܐ ܡܬܛܦܝܤܝܢ ܠܡܠܬܐ ܕܠܗܕܐ ܤܝܡܝܢ ܀
9 Ond yr ydych chwi yn hil etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd, yn bobl o'r eiddo Duw ei hun, i hysbysu gweithredoedd ardderchog yr Un a'ch galwodd chwi allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef:
9ܐܢܬܘܢ ܕܝܢ ܫܪܒܬܐ ܐܢܬܘܢ ܓܒܝܬܐ ܕܡܟܗܢܐ ܠܡܠܟܘܬܐ ܥܡܐ ܩܕܝܫܐ ܟܢܫܐ ܦܪܝܩܐ ܬܤܒܪܘܢ ܬܫܒܚܬܗ ܕܗܘ ܕܩܪܟܘܢ ܡܢ ܚܫܘܟܐ ܠܢܘܗܪܗ ܡܝܬܪܐ ܀
10 "A chwi gynt heb fod yn bobl, yr ydych yn awr yn bobl Dduw; a chwi gynt heb dderbyn trugaredd, yr ydych yn awr yn rhai a dderbyniodd drugaredd."
10ܐܝܠܝܢ ܕܡܢ ܩܕܝܡ ܠܐ ܚܫܝܒܝܢ ܗܘܝܬܘܢ ܥܡܐ ܗܫܐ ܕܝܢ ܥܡܐ ܕܐܠܗܐ ܐܦܠܐ ܪܚܡܐ ܐܝܬ ܗܘܘ ܥܠܝܟܘܢ ܗܫܐ ܕܝܢ ܐܫܬܦܥܘ ܥܠܝܟܘܢ ܪܚܡܐ ܀
11 Gyfeillion annwyl, rwy'n deisyf arnoch, fel alltudion a dieithriaid, i ymgadw rhag y chwantau cnawdol sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid.
11ܚܒܝܒܝ ܒܥܐ ܐܢܐ ܡܢܟܘܢ ܐܝܟ ܥܪܨܐ ܘܐܝܟ ܬܘܬܒܐ ܐܬܦܪܩܘ ܡܢ ܟܠܗܝܢ ܪܓܝܓܬܗ ܕܦܓܪܐ ܗܠܝܢ ܕܥܒܕܢ ܩܪܒܐ ܠܘܩܒܠ ܢܦܫܐ ܀
12 Bydded eich ymarweddiad ymhlith y Cenhedloedd mor amlwg o dda nes iddynt hwy, lle y maent yn awr yn eich sarhau fel drwgweithredwyr, ogoneddu Duw yn nydd ei ymweliad ar gyfrif yr hyn a welant o'ch gweithredoedd da chwi.
12ܘܢܗܘܘܢ ܫܦܝܪܝܢ ܗܘܦܟܝܟܘܢ ܩܕܡ ܟܠܗܘܢ ܒܢܝ ܐܢܫܐ ܐܝܠܝܢ ܕܡܡܠܠܝܢ ܥܠܝܟܘܢ ܡܠܐ ܒܝܫܬܐ ܢܚܙܘܢ ܥܒܕܝܟܘܢ ܫܦܝܪܐ ܘܢܫܒܚܘܢ ܠܐܠܗܐ ܒܝܘܡܐ ܕܒܘܚܪܢܐ ܀
13 Ymostyngwch, er mwyn yr Arglwydd, i bob sefydliad dynol, prun ai i'r ymerawdwr fel y prif awdurdod,
13ܘܗܘܝܬܘܢ ܡܫܬܥܒܕܝܢ ܠܟܠܗܘܢ ܒܢܝ ܐܢܫܐ ܡܛܠ ܐܠܗܐ ܠܡܠܟܐ ܡܛܠ ܫܘܠܛܢܗܘܢ ܀
14 ai i'r llywodraethwyr fel rhai a anfonir ganddo ef er cosb i ddrwgweithredwyr a chlod i weithredwyr daioni.
14ܘܠܕܝܢܐ ܡܛܠ ܕܡܢܗ ܡܫܬܕܪܝܢ ܠܬܒܥܬܐ ܕܡܤܟܠܢܐ ܘܠܬܫܒܘܚܬܐ ܕܥܒܕܝ ܛܒܬܐ ܀
15 Oherwydd hyn yw ewyllys Duw, i chwi trwy wneud daioni roi taw ar anwybodaeth ffyliaid.
15ܕܗܟܢܐ ܗܘ ܨܒܝܢܐ ܕܐܠܗܐ ܕܒܥܒܕܝܟܘܢ ܫܦܝܪܐ ܬܤܟܪܘܢ ܦܘܡܐ ܕܤܟܠܐ ܗܢܘܢ ܕܠܐ ܝܕܥܝܢ ܠܐܠܗܐ ܀
16 Rhaid ichwi fyw fel pobl rydd, eto peidio ag arfer eich rhyddid i gelu drygioni, ond bod fel caethweision Duw.
16ܐܝܟ ܒܢܝ ܚܐܪܐ ܘܠܐ ܐܝܟ ܐܢܫܐ ܕܥܒܝܕܐ ܠܗܘܢ ܚܐܪܘܬܗܘܢ ܬܚܦܝܬܐ ܠܒܝܫܘܬܗܘܢ ܐܠܐ ܐܝܟ ܥܒܕܘܗܝ ܕܐܠܗܐ ܀
17 Rhowch barch i bawb, carwch deulu'r ffydd, ofnwch Dduw, parchwch yr ymerawdwr.
17ܠܟܠܢܫ ܝܩܪܘ ܠܐܚܝܟܘܢ ܐܚܒܘ ܘܡܢ ܐܠܗܐ ܕܚܠܘ ܘܠܡܠܟܐ ܝܩܪܘ ܀
18 Chwi weision, byddwch ddaros-tyngedig i'ch meistri gyda phob parchedig ofn, nid yn unig i'r rhai da ac ystyriol ond hefyd i'r rhai gormesol.
18ܘܐܝܠܝܢ ܥܒܕܐ ܕܐܝܬ ܒܟܘܢ ܐܫܬܥܒܕܘ ܠܡܪܝܟܘܢ ܒܕܚܠܬܐ ܠܐ ܒܠܚܘܕ ܠܛܒܐ ܘܠܡܟܝܟܐ ܐܠܐ ܐܦ ܠܩܫܝܐ ܘܠܥܤܩܐ ܀
19 Oblegid hyn sydd gymeradwy, bod rhywun, am fod ei feddylfryd ar Dduw, yn dygymod �'i flinderau er iddo ddioddef ar gam.
19ܠܗܠܝܢ ܓܝܪ ܐܝܬ ܠܗܘܢ ܛܝܒܘܬܐ ܩܕܡ ܐܠܗܐ ܠܐܝܠܝܢ ܕܡܛܠ ܬܐܪܬܐ ܫܦܝܪܬܐ ܡܤܝܒܪܝܢ ܥܩܬܐ ܕܐܬܝܢ ܥܠܝܗܘܢ ܒܥܘܠܐ ܀
20 Oherwydd pa glod sydd mewn dygymod � chael eich cernodio am ymddwyn yn ddrwg? Ond os am wneud daioni y byddwch yn dioddef, ac yn dygymod � hynny, dyna'r peth sy'n gymeradwy gan Duw.
20ܐܝܠܝܢ ܕܝܢ ܕܡܛܠ ܤܟܠܘܬܗܘܢ ܡܤܝܒܪܝܢ ܐܘܠܨܢܐ ܐܝܕܐ ܬܫܒܘܚܬܐ ܗܘܝܐ ܠܗܘܢ ܐܠܐ ܡܐ ܕܥܒܕܝܢ ܐܢܬܘܢ ܕܫܦܝܪ ܘܐܠܨܝܢ ܠܟܘܢ ܘܡܤܝܒܪܝܢ ܐܢܬܘܢ ܗܝܕܝܢ ܝܪܒܐ ܬܫܒܘܚܬܟܘܢ ܠܘܬ ܐܠܗܐ ܀
21 Canys i hyn y'ch galwyd, oherwydd dioddefodd Crist yntau er eich mwyn chwi, gan adael ichwi esiampl, ichwi ganlyn yn �l ei draed ef.
21ܠܗܕܐ ܓܝܪ ܐܬܩܪܝܬܘܢ ܕܐܦ ܡܫܝܚܐ ܡܝܬ ܚܠܦܝܢ ܘܫܒܩ ܠܢ ܗܢܐ ܛܘܦܤܐ ܕܐܢܬܘܢ ܒܥܩܒܬܗ ܬܗܠܟܘܢ ܀
22 Yng ngeiriau'r Ysgrythur: "Ni wnaeth ef bechod, ac ni chafwyd twyll yn ei enau."
22ܗܘ ܕܠܐ ܥܒܕ ܚܛܝܬܐ ܐܦܠܐ ܢܟܠܐ ܐܫܬܟܚ ܒܦܘܡܗ ܀
23 Pan fyddai'n cael ei ddifenwi, ni fyddai'n difenwi'n �l; pan fyddai'n dioddef, ni fyddai'n bygwth, ond yn ei gyflwyno'i hun i'r Un sy'n barnu'n gyfiawn.
23ܗܘ ܕܡܨܛܚܐ ܗܘܐ ܘܠܐ ܡܨܚܐ ܘܚܐܫ ܗܘܐ ܘܠܐ ܡܬܠܚܡ ܐܠܐ ܡܫܠܡ ܗܘܐ ܕܝܢܗ ܠܕܝܢܐ ܕܟܐܢܘܬܐ ܀
24 Ef ei hun a ddygodd ein pechodau yn ei gorff ar y croesbren, er mwyn i ni ddarfod �'n pechodau a byw i gyfiawnder. Trwy ei archoll ef y cawsoch iach�d.
24ܘܫܩܠ ܚܛܗܝܢ ܟܠܗܘܢ ܘܐܤܩ ܐܢܘܢ ܒܦܓܪܗ ܠܨܠܝܒܐ ܕܟܕ ܡܝܬܝܢܢ ܠܚܛܝܬܐ ܒܙܕܝܩܘܬܐ ܕܝܠܗ ܢܚܐ ܒܫܘܡܬܗ ܓܝܪ ܐܬܐܤܝܬܘܢ ܀
25 Oherwydd yr oeddech fel defaid ar ddisberod, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarchodwr eich eneidiau.
25ܕܛܥܝܢ ܗܘܝܬܘܢ ܐܝܟ ܥܪܒܐ ܘܐܬܦܢܝܬܘܢ ܗܫܐ ܠܘܬ ܪܥܝܐ ܘܤܥܘܪܐ ܕܢܦܫܬܟܘܢ ܀