Welsh

Syriac: NT

1 Thessalonians

3

1 Felly, pan na allem ymgynnal yn hwy, buom yn fodlon aros yn Athen ar ein pen ein hunain,
1ܘܡܛܠ ܕܠܐ ܚܡܤܢܢ ܨܒܝܢ ܠܡܦܫ ܒܐܬܢܘܤ ܒܠܚܘܕܝܢ ܀
2 ac anfon Timotheus, ein brawd a chydweithiwr Duw yn Efengyl Crist, i'ch cadarnhau a'ch calonogi chwi yn eich ffydd,
2ܘܢܫܕܪ ܠܘܬܟܘܢ ܠܛܝܡܬܐܘܤ ܐܚܘܢ ܘܡܫܡܫܢܐ ܕܐܠܗܐ ܘܡܥܕܪܢܢ ܒܤܒܪܬܗ ܕܡܫܝܚܐ ܕܢܫܪܪܟܘܢ ܘܢܒܥܐ ܡܢܟܘܢ ܥܠ ܗܝܡܢܘܬܟܘܢ ܀
3 rhag i neb eich siglo yn y gorthrymderau hyn. Oherwydd fe wyddoch eich hunain mai i hyn yr arfaethwyd ni;
3ܕܠܐ ܐܢܫ ܡܢܟܘܢ ܬܬܩܛܥ ܠܗ ܒܐܘܠܨܢܐ ܗܠܝܢ ܐܢܬܘܢ ܓܝܪ ܝܕܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܕܠܗܕܐ ܗܘ ܤܝܡܝܢܢ ܀
4 yn wir, pan oeddem gyda chwi, rhagfynegasom ichwi y byddai i ni ddioddef gorthrymder; ac felly y bu, fel y gwyddoch.
4ܐܦ ܟܕ ܠܘܬܟܘܢ ܗܘܝܢ ܓܝܪ ܩܕܡܢ ܐܡܪܢ ܠܟܘܢ ܕܥܬܝܕܝܢܢ ܠܡܬܐܠܨܘ ܐܝܟܢܐ ܕܝܕܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܕܗܘܐ ܀
5 Am hynny, gan na allwn ymgynnal yn hwy, mi anfonais i gael gwybod am eich ffydd chwi, rhag ofn i'r temtiwr rywsut fod wedi eich temtio, ac i'n llafur ni fynd yn ofer.
5ܡܛܠ ܗܢܐ ܐܦ ܐܢܐ ܠܐ ܚܡܤܢܬ ܥܕܡܐ ܕܫܕܪܬ ܕܐܕܥ ܗܝܡܢܘܬܟܘܢ ܕܕܠܡܐ ܢܢܤܝܟܘܢ ܡܢܤܝܢܐ ܘܢܗܘܐ ܥܡܠܢ ܤܪܝܩܐ ܀
6 Ond y mae Timotheus newydd ddod atom oddi wrthych, a rhoi newyddion da inni ynglu375?n �'ch ffydd a'ch cariad chwi. Y mae'n dweud fod gennych goffa da amdanom bob amser, a'ch bod yn hiraethu cymaint am ein gweld ni ag yr ydym ninnau am eich gweld chwi.
6ܗܫܐ ܕܝܢ ܡܢ ܕܐܬܐ ܠܘܬܢ ܛܝܡܬܐܘܤ ܡܢ ܨܐܕܝܟܘܢ ܘܤܒܪܢ ܥܠ ܗܝܡܢܘܬܟܘܢ ܘܥܠ ܚܘܒܟܘܢ ܘܕܐܝܬ ܠܘܬܟܘܢ ܥܘܗܕܢܢ ܛܒܐ ܒܟܠ ܥܕܢ ܘܤܘܝܢ ܐܢܬܘܢ ܠܡܚܙܝܢ ܐܝܟܢܐ ܕܐܦ ܚܢܢ ܠܟܘܢ ܀
7 Am hynny, gyfeillion, cawsom ni, yn ein holl angen a'n gorthrymder, ein calonogi ynglu375?n � chwi, ar gyfrif eich ffydd,
7ܡܛܠ ܗܢܐ ܐܬܒܝܐܢ ܒܟܘܢ ܐܚܝܢ ܥܠ ܟܠܗܝܢ ܥܩܬܢ ܘܐܘܠܨܢܝܢ ܡܛܠ ܗܝܡܢܘܬܟܘܢ ܀
8 oherwydd os ydych chwi yn awr yn sefyll yn gadarn yn yr Arglwydd, y mae hynny'n rhoi bywyd i ni.
8ܘܗܫܐ ܗܘ ܚܝܝܢܢ ܐܢ ܐܢܬܘܢ ܬܬܩܝܡܘܢ ܒܡܪܢ ܀
9 Pa ddiolch a allwn ei dalu i Dduw amdanoch chwi, am yr holl lawenydd yr ydym yn ei deimlo o'ch plegid gerbron ein Duw?
9ܐܝܕܐ ܓܝܪ ܬܘܕܝܬܐ ܡܫܟܚܝܢܢ ܠܡܦܪܥ ܚܠܦܝܟܘܢ ܠܐܠܗܐ ܥܠ ܟܠ ܚܕܘܬܐ ܕܚܕܝܢܢ ܡܛܠܬܟܘܢ ܀
10 Yr ydym yn deisyf yn angerddol, nos a dydd, am gael gweld eich wyneb a chyflenwi diffygion eich ffydd.
10ܐܠܐ ܕܩܕܡ ܐܠܗܐ ܝܬܝܪܐܝܬ ܢܬܟܫܦ ܒܠܠܝܐ ܘܒܐܝܡܡܐ ܕܢܚܙܐ ܐܦܝܟܘܢ ܘܢܓܡܘܪ ܡܐ ܕܚܤܝܪܐ ܗܝܡܢܘܬܟܘܢ ܀
11 Bydded i'n Duw a'n Tad ei hun, a'n Harglwydd Iesu, gyfeirio ein ffordd atoch!
11ܗܘ ܕܝܢ ܐܠܗܐ ܐܒܘܢ ܘܡܪܢ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܢܬܪܘܨ ܐܘܪܚܢ ܠܘܬܟܘܢ ܀
12 A chwithau, bydded i'r Arglwydd beri ichwi gynyddu, a rhagori mewn cariad tuag at eich gilydd a thuag at bawb, fel yr ydym ni tuag atoch chwi,
12ܘܢܤܓܐ ܘܢܝܬܪ ܚܘܒܟܘܢ ܕܚܕ ܠܘܬ ܚܕ ܘܕܠܘܬ ܟܠܢܫ ܐܝܟܢܐ ܕܚܢܢ ܡܚܒܝܢܢ ܠܟܘܢ ܀
13 i gadarnhau eich calonnau, fel y byddwch yn ddi-fai mewn sanc-teiddrwydd gerbron ein Duw a'n Tad yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda'i holl saint! Amen.
13ܘܢܩܝܡ ܠܒܘܬܟܘܢ ܕܠܐ ܪܫܝܢ ܒܩܕܝܫܘܬܐ ܩܕܡ ܐܠܗܐ ܐܒܘܢ ܒܡܐܬܝܬܗ ܕܡܪܢ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܕܥܡ ܟܠܗܘܢ ܩܕܝܫܘܗܝ ܀