1 Y mae'r Ysbryd yn dweud yn eglur y bydd rhai mewn amserau diweddarach yn cefnu ar y ffydd. Byddant yn troi at ysbrydion twyllodrus ac at bethau y mae cythreuliaid yn eu dysgu trwy ragrith pobl gelwyddog.
1ܪܘܚܐ ܕܝܢ ܦܫܝܩܐܝܬ ܐܡܪܐ ܕܒܙܒܢܐ ܐܚܪܝܐ ܢܦܪܩܘܢ ܐܢܫ ܐܢܫ ܡܢ ܗܝܡܢܘܬܐ ܘܢܐܙܠܘܢ ܒܬܪ ܪܘܚܐ ܛܥܝܬܐ ܘܒܬܪ ܝܘܠܦܢܐ ܕܫܐܕܐ ܀
2 Pobl yw'r rhain �'u cydwybod wedi ei serio,
2ܗܠܝܢ ܕܒܐܤܟܡܐ ܕܓܠܐ ܡܛܥܝܢ ܘܡܡܠܠܝܢ ܟܕܒܘܬܐ ܘܟܘܝܢ ܒܬܐܪܬܗܘܢ ܀
3 yn gwahardd priodi, ac yn mynnu fod pobl yn ymwrthod � bwydydd � bwydydd y mae Duw wedi eu creu i'w derbyn � diolch gan y credinwyr sydd wedi canfod y gwirionedd.
3ܘܟܠܝܢ ܠܡܙܕܘܓܘ ܘܡܦܪܩܝܢ ܡܢ ܡܐܟܠܬܐ ܐܝܠܝܢ ܕܐܠܗܐ ܒܪܐ ܐܢܝܢ ܠܚܘܫܚܐ ܘܠܬܘܕܝܬܐ ܠܐܝܠܝܢ ܕܡܗܝܡܢܝܢ ܘܝܕܥܝܢ ܫܪܪܐ ܀
4 Oherwydd y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac ni ddylid gwrthod dim yr ydym yn ei dderbyn � diolch iddo ef,
4ܡܛܠ ܕܟܠ ܕܒܪܐ ܠܐܠܗܐ ܫܦܝܪ ܗܘ ܘܠܝܬ ܡܕܡ ܕܡܤܠܝ ܐܢ ܒܬܘܕܝܬܐ ܢܬܢܤܒ ܀
5 oherwydd y mae'n cael ei sancteiddio trwy air Duw a gweddi.
5ܡܬܩܕܫ ܓܝܪ ܒܡܠܬܐ ܕܐܠܗܐ ܘܒܨܠܘܬܐ ܀
6 Os dygi di'r pethau hyn i sylw'r gynulleidfa, byddi'n was da i Grist Iesu, yn dy feithrin dy hun � geiriau'r ffydd, a'r athrawiaeth dda yr wyt wedi ei dilyn.
6ܗܠܝܢ ܐܢ ܬܗܘܐ ܡܠܦ ܠܐܚܝܟ ܡܫܡܫܢܐ ܛܒܐ ܬܗܘܐ ܕܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܟܕ ܡܬܪܒܐ ܐܢܬ ܒܡܠܐ ܕܗܝܡܢܘܬܐ ܘܒܝܘܠܦܢܐ ܛܒܐ ܕܝܠܝܦ ܐܢܬ ܀
7 Paid � gwrando ar chwedlau bydol hen wrachod, ond ymarfer dy hun i fod yn dduwiol.
7ܡܢ ܫܘܥܝܬܐ ܕܝܢ ܦܟܝܗܬܐ ܕܤܒܬܐ ܐܫܬܐܠ ܘܕܪܫ ܢܦܫܟ ܒܟܐܢܘܬܐ ܀
8 Wrth gwrs, y mae i ymarfer y corff beth gwerth, ond i ymarfer duwioldeb y mae pob gwerth, gan fod ynddo addewid o fywyd yn y byd hwn a'r byd a ddaw.
8ܕܘܪܫܐ ܓܝܪ ܕܦܓܪܐ ܙܒܢܐ ܗܘ ܙܥܘܪܐ ܡܘܬܪ ܟܐܢܘܬܐ ܕܝܢ ܒܟܠ ܡܕܡ ܡܘܬܪܐ ܘܐܝܬ ܠܗ ܫܘܘܕܝܐ ܕܚܝܐ ܕܙܒܢܐ ܗܢܐ ܘܕܥܬܝܕ ܀
9 Dyna air i'w gredu, sy'n teilyngu derbyniad llwyr.
9ܡܗܝܡܢܐ ܗܝ ܡܠܬܐ ܘܫܘܝܐ ܗܝ ܠܡܩܒܠܘܬܗ ܀
10 I'r diben hwn yr ydym yn llafurio ac yn ymdrechu, oherwydd rhoesom ein gobaith yn y Duw byw, sy'n Waredwr i bawb, ond i'r credinwyr yn fwy na neb.
10ܡܛܠ ܗܕܐ ܗܘ ܓܝܪ ܠܐܝܢܢ ܘܡܬܚܤܕܝܢܢ ܕܡܤܒܪܝܢܢ ܒܐܠܗܐ ܚܝܐ ܕܐܝܬܘܗܝ ܡܚܝܢܐ ܕܒܢܝܢܫܐ ܟܠܗܘܢ ܝܬܝܪܐܝܬ ܕܡܗܝܡܢܐ ܀
11 Gorchymyn y pethau hyn i'th bobl, a dysg hwy iddynt.
11ܗܠܝܢ ܐܠܦ ܘܦܩܕ ܀
12 Paid � gadael i neb dy ddiystyru am dy fod yn ifanc. Yn hytrach, bydd di'n batrwm i'r credinwyr mewn gair a gweithred, mewn cariad a ffydd a phurdeb.
12ܘܠܐ ܐܢܫ ܢܒܤܐ ܥܠ ܛܠܝܘܬܟ ܐܠܐ ܗܘܝ ܕܡܘܬܐ ܠܡܗܝܡܢܐ ܒܡܠܬܐ ܘܒܗܘܦܟܐ ܘܒܚܘܒܐ ܘܒܗܝܡܢܘܬܐ ܘܒܕܟܝܘܬܐ ܀
13 Hyd nes imi ddod, rhaid i ti ymroi i'r darlleniadau a'r pregethu a'r hyfforddi.
13ܥܕ ܐܬܐ ܐܢܐ ܐܬܚܦܛ ܒܩܪܝܢܐ ܘܒܒܥܘܬܐ ܘܒܝܘܠܦܢܐ ܀
14 Paid ag esgeuluso'r ddawn sydd ynot ac a roddwyd iti trwy eiriau proffwydol ac arddodiad dwylo'r henuriaid.
14ܘܠܐ ܬܒܤܐ ܒܡܘܗܒܬܐ ܕܐܝܬ ܒܟ ܗܝ ܕܐܬܝܗܒܬ ܠܟ ܒܢܒܝܘܬܐ ܘܒܤܝܡ ܐܝܕܐ ܕܩܫܝܫܘܬܐ ܀
15 Gofala am y pethau hyn, ymdafla iddynt, a bydd dy gynnydd yn amlwg i bawb.
15ܒܗܠܝܢ ܐܬܗܓܐ ܘܒܗܝܢ ܗܘܝ ܕܬܬܝܕܥ ܠܟܠܢܫ ܕܠܩܕܡܝܟ ܐܬܐ ܐܢܬ ܀
16 Cadw lygad arnat ti dy hun ac ar yr hyfforddiant a roddi, a dal ati yn y pethau hyn. Os gwnei di felly, yna fe fyddi'n dy achub dy hun a'r rhai sy'n gwrando arnat.
16ܘܐܙܕܗܪ ܒܢܦܫܟ ܘܒܝܘܠܦܢܟ ܘܚܡܤܢ ܒܗܘܢ ܟܕ ܗܠܝܢ ܓܝܪ ܬܥܒܕ ܢܦܫܟ ܬܚܐ ܘܠܐܝܠܝܢ ܕܫܡܥܝܢ ܠܟ ܀