Welsh

Syriac: NT

2 Corinthians

4

1 Am hynny, gan fod y weinidogaeth hon gennym trwy drugaredd Duw, nid ydym yn digalonni.
1ܡܛܠ ܗܢܐ ܠܐ ܡܐܢܐ ܠܢ ܒܬܫܡܫܬܐ ܗܕܐ ܕܐܚܝܕܝܢܢ ܐܝܟ ܪܚܡܐ ܕܗܘܘ ܥܠܝܢ ܀
2 Yr ydym wedi ymwrthod � ffyrdd dirgel a chywilyddus; nid ydym yn arfer cyfrwystra nac yn llurgunio gair Duw. Yn hytrach, trwy ddwyn y gwirionedd i'r amlwg yr ydym yn ein cymeradwyo'n hunain i gydwybod pob un gerbron Duw.
2ܐܠܐ ܐܤܠܝܢܢ ܟܤܝܬܗ ܕܒܗܬܬܐ ܘܠܐ ܡܗܠܟܝܢܢ ܒܚܪܥܘܬܐ ܘܠܐ ܢܟܠܝܢܢ ܡܠܬܗ ܕܐܠܗܐ ܐܠܐ ܒܓܠܝܘܬܐ ܕܫܪܪܐ ܡܚܘܝܢܢ ܢܦܫܢ ܠܟܠܗܘܢ ܪܥܝܢܐ ܕܒܢܝܢܫܐ ܩܕܡ ܐܠܗܐ ܀
3 Os yw'n hefengyl ni dan orchudd, yn achos y rhai sydd ar lwybr colledigaeth y mae hi felly �
3ܘܐܢ ܕܝܢ ܡܟܤܝ ܗܘ ܐܘܢܓܠܝܘܢ ܕܝܠܢ ܠܐܝܠܝܢ ܕܐܒܕܝܢ ܗܘ ܡܟܤܝ ܀
4 yr anghredinwyr y dallodd duw'r oes bresennol eu meddyliau, rhag iddynt weld goleuni Efengyl gogoniant Crist, delw Duw.
4ܐܝܠܝܢ ܕܐܠܗܗ ܕܥܠܡܐ ܗܢܐ ܥܘܪ ܡܕܥܝܗܘܢ ܥܠ ܕܠܐ ܡܗܝܡܢܝܢ ܕܠܐ ܢܕܢܚ ܠܗܘܢ ܢܘܗܪܗ ܕܐܘܢܓܠܝܘܢ ܕܫܘܒܚܗ ܕܡܫܝܚܐ ܕܗܘܝܘ ܕܡܘܬܗ ܕܐܠܗܐ ܀
5 Nid ein pregethu ein hunain yr ydym, ond Iesu Grist yn Arglwydd, a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu.
5ܠܐ ܗܘܐ ܓܝܪ ܢܦܫܢ ܡܟܪܙܝܢܢ ܐܠܐ ܠܡܫܝܚܐ ܝܫܘܥ ܡܪܢ ܠܢܦܫܢ ܕܝܢ ܕܥܒܕܝܟܘܢ ܚܢܢ ܡܛܠ ܝܫܘܥ ܀
6 Oherwydd y Duw a ddywedodd, "Llewyrched goleuni o'r tywyllwch", a lewyrchodd yn ein calonnau i roi i ni oleuni'r wybodaeth am ogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist.
6ܡܛܠ ܕܐܠܗܐ ܗܘ ܕܐܡܪ ܕܡܢ ܚܫܘܟܐ ܢܘܗܪܐ ܢܕܢܚ ܗܘ ܕܢܚ ܒܠܒܘܬܢ ܕܢܬܢܗܪ ܒܝܕܥܬܐ ܕܫܘܒܚܗ ܕܐܠܗܐ ܒܦܪܨܘܦܗ ܕܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
7 Ond y mae'r trysor hwn gennym mewn llestri pridd, i ddangos mai eiddo Duw yw'r gallu tra rhagorol, ac nid eiddom ni.
7ܐܝܬ ܠܢ ܕܝܢ ܤܝܡܬܐ ܗܕܐ ܒܡܐܢܐ ܕܚܨܦܐ ܕܪܒܘܬܐ ܕܚܝܠܐ ܡܢ ܐܠܗܐ ܬܗܘܐ ܘܠܐ ܡܢܢ ܀
8 Ym mhob peth yr ydym yn cael ein gorthrymu ond nid ein llethu, ein bwrw i ansicrwydd ond nid i anobaith,
8ܒܟܠܡܕܡ ܓܝܪ ܡܬܐܠܨܝܢܢ ܐܠܐ ܠܐ ܡܬܚܢܩܝܢܢ ܡܬܛܪܦܝܢܢ ܐܠܐ ܠܐ ܚܝܒܝܢ ܚܢܢ ܀
9 ein herlid ond nid ein gadael yn amddifad, ein taro i lawr ond nid ein dinistrio.
9ܡܬܪܕܦܝܢܢ ܐܠܐ ܠܐ ܡܫܬܒܩܝܢܢ ܡܤܬܚܦܝܢܢ ܐܠܐ ܠܐ ܐܒܕܝܢܢ ܀
10 Yr ydym bob amser yn dwyn gyda ni yn ein corff farwolaeth yr Arglwydd Iesu, er mwyn i fywyd Iesu hefyd gael ei ddwyn i'r amlwg yn ein corff ni.
10ܒܟܠܙܒܢ ܡܝܬܘܬܗ ܕܝܫܘܥ ܒܦܓܪܝܢ ܫܩܝܠܝܢܢ ܕܐܦ ܚܝܘܗܝ ܕܝܫܘܥ ܒܦܓܪܝܢ ܢܬܓܠܘܢ ܀
11 Oherwydd yr ydym ni, a ninnau'n fyw, yn cael ein traddodi yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, i fywyd Iesu hefyd gael ei ddwyn i'r amlwg yn ein cnawd marwol ni.
11ܐܢ ܚܢܢ ܓܝܪ ܚܝܐ ܠܡܘܬܐ ܡܫܬܠܡܝܢܢ ܡܛܠ ܝܫܘܥ ܗܟܢܐ ܐܦ ܚܝܘܗܝ ܕܝܫܘܥ ܢܬܓܠܘܢ ܒܦܓܪܢ ܗܢܐ ܕܡܐܬ ܀
12 Felly y mae marwolaeth ar waith ynom ni, a bywyd ynoch chwi.
12ܗܫܐ ܡܘܬܐ ܒܢ ܡܬܚܦܛ ܘܚܝܐ ܒܟܘܢ ܀
13 Gan fod gennym ni yr un ysbryd crediniol yr ysgrifennir amdano yng ngeiriau'r Ysgrythur, "Credais, ac am hynny y lleferais", yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru,
13ܐܦ ܚܢܢ ܗܟܝܠ ܕܚܕܐ ܗܝ ܪܘܚܐ ܕܗܝܡܢܘܬܐ ܐܝܬ ܠܢ ܐܝܟ ܕܟܬܝܒ ܕܗܝܡܢܬ ܡܛܠ ܗܢܐ ܐܦ ܡܠܠܬ ܡܗܝܡܢܝܢܢ ܡܛܠ ܗܢܐ ܐܦ ܡܡܠܠܝܢܢ ܀
14 gan wybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu ein cyfodi ninnau hefyd gyda Iesu, a'n gosod ger ei fron gyda chwi.
14ܘܝܕܥܝܢܢ ܕܗܘ ܡܢ ܕܐܩܝܡ ܠܡܪܢ ܝܫܘܥ ܐܦ ܠܢ ܒܝܕ ܝܫܘܥ ܢܩܝܡ ܘܢܩܪܒܢ ܥܡܟܘܢ ܠܘܬܗ ܀
15 Oherwydd er eich mwyn chwi y mae'r cyfan, fel y bo i ras Duw fynd ar gynnydd ymhlith mwy a mwy o bobl, ac amlhau'r diolch fwyfwy er gogoniant Duw.
15ܟܠܡܕܡ ܓܝܪ ܡܛܠܬܟܘܢ ܗܘ ܕܟܕ ܡܬܝܬܪܐ ܛܝܒܘܬܐ ܒܝܕ ܤܓܝܐܐ ܬܤܓܐ ܬܘܕܝܬܐ ܠܫܘܒܚܗ ܕܐܠܗܐ ܀
16 Am hynny, nid ydym yn digalonni. Er ein bod yn allanol yn dadfeilio, yn fewnol fe'n hadnewyddir ddydd ar �l dydd.
16ܡܛܠ ܗܢܐ ܠܐ ܡܐܢܐ ܠܢ ܐܦ ܐܢ ܒܪܢܫܢ ܓܝܪ ܒܪܝܐ ܡܬܚܒܠ ܐܠܐ ܕܡܢ ܠܓܘ ܡܬܚܕܬ ܝܘܡ ܡܢ ܝܘܡ ܀
17 Oherwydd y baich ysgafn o orthrymder sydd arnom yn awr, darparu y mae, y tu hwnt i bob mesur, bwysau tragwyddol o ogoniant i ni,
17ܐܘܠܨܢܗ ܓܝܪ ܕܙܒܢܐ ܗܢܐ ܟܕ ܛܒ ܙܥܘܪ ܘܩܠܝܠ ܫܘܒܚܐ ܪܒܐ ܕܠܐ ܤܟܐ ܠܥܠܡ ܥܠܡܝܢ ܡܛܝܒ ܠܢ ܀
18 dim ond inni gadw'n golwg, nid ar y pethau a welir, ond ar y pethau na welir. Dros amser y mae'r pethau a welir, ond y mae'r pethau na welir yn dragwyddol.
18ܕܠܐ ܚܕܝܢܢ ܒܗܠܝܢ ܕܡܬܚܙܝܢ ܐܠܐ ܒܗܠܝܢ ܕܠܐ ܡܬܚܙܝܢ ܕܡܬܚܙܝܢ ܓܝܪ ܕܙܒܢܐ ܐܢܝܢ ܕܠܐ ܡܬܚܙܝܢ ܕܝܢ ܕܠܥܠܡ ܐܢܝܢ ܀