Welsh

Syriac: NT

2 Timothy

2

1 Felly ymnertha di, fy mab, yn y gras sydd yng Nghrist Iesu.
1ܐܢܬ ܗܟܝܠ ܒܪܝ ܐܬܚܝܠ ܒܛܝܒܘܬܐ ܕܒܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
2 Cymer y geiriau a glywaist gennyf fi yng nghwmni tystion lawer, a throsglwydda hwy i ofal pobl ffyddlon a fydd yn abl i hyfforddi eraill hefyd.
2ܘܐܝܠܝܢ ܕܫܡܥܬ ܡܢܝ ܒܝܕ ܤܗܕܐ ܤܓܝܐܐ ܗܢܝܢ ܐܓܥܠ ܠܐܢܫܐ ܡܗܝܡܢܐ ܐܝܠܝܢ ܕܡܛܝܐ ܒܐܝܕܝܗܘܢ ܐܦ ܠܐܚܪܢܐ ܠܡܠܦܘ ܀
3 Cymer dy gyfran o ddioddefaint, fel milwr da i Grist Iesu.
3ܘܤܝܒܪ ܒܝܫܬܐ ܐܝܟ ܦܠܚܐ ܛܒܐ ܕܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
4 Nid yw milwr sydd ar ymgyrch yn ymdrafferthu � gofalon bywyd bob dydd, gan fod ei holl fryd ar ennill cymeradwyaeth ei gadfridog.
4ܠܐ ܐܢܫ ܦܠܚ ܘܡܬܦܟܪ ܒܨܒܘܬܐ ܕܥܠܡܐ ܕܢܫܦܪ ܠܗܘ ܡܢ ܕܓܒܝܗܝ ܀
5 Ac os yw rhywun yn cystadlu mewn mabolgampau, ni all ennill y dorch heb gystadlu yn �l y rheolau.
5ܘܐܢ ܡܬܟܬܫ ܐܢܫ ܠܐ ܡܬܟܠܠ ܐܢ ܒܢܡܘܤܗ ܠܐ ܡܬܟܬܫ ܀
6 Y ffermwr sy'n llafurio sydd �'r hawl gyntaf ar y cnwd.
6ܠܐܟܪܐ ܕܠܐܐ ܘܠܐ ܠܗ ܕܩܕܡܐ ܡܢ ܦܐܪܘܗܝ ܢܤܬܝܒܪ ܀
7 Ystyria beth yr wyf yn ei ddweud, oherwydd fe rydd yr Arglwydd iti ddealltwriaeth ym mhob peth.
7ܐܤܬܟܠ ܡܕܡ ܕܐܡܪ ܐܢܐ ܢܬܠ ܠܟ ܡܪܢ ܚܟܡܬܐ ܒܟܠ ܡܕܡ ܀
8 Cofia Iesu Grist: ei gyfodi oddi wrth y meirw, ei eni o linach Dafydd, yn �l yr Efengyl yr wyf fi yn ei phregethu.
8ܐܬܕܟܪ ܠܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܕܩܡ ܡܢ ܒܝܬ ܡܝܬܐ ܗܘ ܕܐܝܬܘܗܝ ܡܢ ܙܪܥܐ ܕܕܘܝܕ ܐܝܟ ܐܘܢܓܠܝܘܢ ܕܝܠܝ ܀
9 Yng ngwasanaeth yr Efengyl hon yr wyf yn dioddef hyd at garchar, fel rhyw droseddwr, ond nid oes carchar i ddal gair Duw.
9ܕܒܗ ܤܒܠ ܐܢܐ ܒܝܫܬܐ ܥܕܡܐ ܠܐܤܘܪܐ ܐܝܟ ܥܒܕ ܒܝܫܬܐ ܐܠܐ ܡܠܬܗ ܕܐܠܗܐ ܠܐ ܐܤܝܪܐ ܀
10 Felly, yr wyf yn goddef y cyfan er mwyn ei etholedigion, iddynt hwythau hefyd gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, ynghyd � gogoniant tragwyddol.
10ܡܛܠ ܗܢܐ ܟܠܡܕܡ ܡܤܝܒܪ ܐܢܐ ܡܛܠ ܓܒܝܐ ܕܐܦ ܗܢܘܢ ܢܫܟܚܘܢ ܚܝܐ ܕܒܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܥܡ ܫܘܒܚܐ ܕܠܥܠܡ ܀
11 Dyma air i'w gredu: "Os buom farw gydag ef, byddwn fyw hefyd gydag ef;
11ܡܗܝܡܢܐ ܗܝ ܡܠܬܐ ܐܢ ܓܝܪ ܡܝܬܢ ܥܡܗ ܐܦ ܥܡܗ ܢܚܐ ܀
12 os dyfalbarhawn, cawn deyrnasu hefyd gydag ef; os gwadwn ef, bydd ef hefyd yn ein gwadu ninnau;
12ܘܐܢ ܢܤܝܒܪ ܐܦ ܢܡܠܟ ܥܡܗ ܐܢ ܕܝܢ ܢܟܦܘܪ ܒܗ ܐܦ ܗܘ ܢܟܦܘܪ ܒܢ ܀
13 os ydym yn anffyddlon, y mae ef yn aros yn ffyddlon, oherwydd ni all ef ei wadu ei hun."
13ܘܐܢ ܠܐ ܢܗܝܡܢ ܒܗ ܗܘ ܒܗܝܡܢܘܬܗ ܡܩܘܐ ܕܢܟܦܘܪ ܓܝܪ ܒܢܦܫܗ ܠܐ ܡܫܟܚ ܀
14 Dwg ar gof i bobl y pethau hyn, gan eu rhybuddio yng ngu373?ydd Duw i beidio � dadlau am eiriau, peth cwbl anfuddiol, ac andwyol hefyd i'r rhai sy'n gwrando.
14ܗܠܝܢ ܗܘܝܬ ܡܥܗܕ ܠܗܘܢ ܘܡܤܗܕ ܩܕܡ ܡܪܢ ܕܠܐ ܢܗܘܘܢ ܡܬܚܪܝܢ ܒܡܠܐ ܕܠܐ ܝܘܬܪܢ ܠܤܘܚܦܐ ܕܐܝܠܝܢ ܕܫܡܥܝܢ ܠܗܝܢ ܀
15 Gwna dy orau i'th wneud dy hun yn gymeradwy gan Dduw, fel gweithiwr heb achos i gywilyddio am ei waith, yn ddiwyro wrth gyflwyno gair y gwirionedd.
15ܘܢܬܒܛܠ ܠܟ ܕܬܩܝܡ ܢܦܫܟ ܓܡܝܪܐܝܬ ܩܕܡ ܐܠܗܐ ܦܠܚܐ ܕܠܐ ܒܗܬܬܐ ܕܡܟܪܙ ܬܪܝܨܐܝܬ ܡܠܬܐ ܕܫܪܪܐ ܀
16 Gochel siarad gwag rhai bydol, oherwydd agor y ffordd y byddant i fwy o annuwioldeb,
16ܘܡܢ ܡܠܐ ܤܪܝܩܬܐ ܕܠܝܬ ܒܗܝܢ ܚܫܚܘ ܐܫܬܐܠ ܝܬܝܪܐܝܬ ܓܝܪ ܢܘܤܦܘܢ ܥܠ ܪܘܫܥܗܘܢ ܗܢܘܢ ܕܥܢܝܢ ܒܗܝܢ ܀
17 a'u hymadrodd yn ymledu fel cancr. Pobl felly yw Hymenaeus a Philetus;
17ܘܡܠܬܗܘܢ ܐܝܟ ܚܠܕܝܬܐ ܢܘܡܐ ܬܐܚܘܕ ܒܤܓܝܐܐ ܐܝܬܘܗܝ ܕܝܢ ܚܕ ܡܢܗܘܢ ܗܘܡܢܐܘܤ ܘܐܚܪܢܐ ܦܝܠܛܘܤ ܀
18 y maent wedi gwyro oddi wrth y gwirionedd, gan honni bod ein hatgyfodiad eisoes wedi digwydd, ac y maent yn tanseilio ffydd rhai pobl.
18ܗܠܝܢ ܕܛܥܘ ܡܢ ܫܪܪܐ ܟܕ ܐܡܪܝܢ ܕܩܝܡܬܐ ܕܡܝܬܐ ܗܘܬ ܠܗ ܘܗܝܡܢܘܬܐ ܕܐܢܫ ܐܢܫ ܡܗܦܟܝܢ ܀
19 Ond dal i sefyll y mae'r sylfaen gadarn a osododd Duw, a'r s�l sydd arni yw: "Y mae'r Arglwydd yn adnabod y rhai sy'n eiddo iddo", a "Pob un sy'n enwi enw'r Arglwydd, cefned ar ddrygioni".
19ܫܬܐܤܬܐ ܕܝܢ ܫܪܝܪܬܐ ܕܐܠܗܐ ܩܝܡܐ ܗܝ ܘܐܝܬ ܠܗ ܚܬܡܐ ܗܢܐ ܘܝܕܥ ܡܪܝܐ ܠܐܝܠܝܢ ܕܕܝܠܗ ܐܢܘܢ ܘܢܦܪܘܩ ܡܢ ܥܘܠܐ ܟܠ ܕܩܪܐ ܠܫܡܗ ܕܡܪܝܐ ܀
20 Mewn tu375? mawr y mae nid yn unig lestri aur ac arian ond hefyd lestri pren a chlai, rhai i gael parch ac eraill amarch.
20ܒܒܝܬܐ ܕܝܢ ܪܒܐ ܠܐ ܗܘܐ ܡܐܢܐ ܕܕܗܒܐ ܒܠܚܘܕ ܐܘ ܕܤܐܡܐ ܐܝܬ ܒܗ ܐܠܐ ܐܦ ܕܩܝܤܐ ܐܦ ܕܦܚܪܐ ܡܢܗܘܢ ܠܐܝܩܪܐ ܘܡܢܗܘܢ ܠܨܥܪܐ ܀
21 Os yw rhywun yn ei lanhau ei hun oddi wrth y pethau drygionus hyn, yna llestr parch fydd ef, cysegredig, defnyddiol i'r Meistr, ac addas i bob gweithred dda.
21ܐܢ ܐܢܫ ܗܟܝܠ ܢܕܟܐ ܢܦܫܗ ܡܢ ܗܠܝܢ ܗܘܐ ܡܐܢܐ ܕܟܝܐ ܠܐܝܩܪܐ ܕܥܗܢ ܠܚܘܫܚܐ ܕܡܪܗ ܘܡܛܝܒ ܠܟܠ ܥܒܕ ܛܒ ܀
22 Ffo oddi wrth nwydau ieuenctid, a chanlyn gyfiawnder a ffydd a chariad a heddwch, yng nghwmni'r rhai sy'n galw ar yr Arglwydd � chalon bur.
22ܡܢ ܟܠܗܝܢ ܪܓܝܓܬܐ ܕܛܠܝܘܬܐ ܥܪܘܩ ܘܗܪܛ ܒܬܪ ܟܐܢܘܬܐ ܘܗܝܡܢܘܬܐ ܘܚܘܒܐ ܘܫܠܡܐ ܥܡ ܐܝܠܝܢ ܕܩܪܝܢ ܠܡܪܢ ܒܠܒܐ ܕܟܝܐ ܀
23 Paid � gwneud dim � chwestiynau ff�l a di-ddysg; fe wyddost mai codi cwerylon a wn�nt.
23ܚܪܝܢܐ ܤܟܠܐ ܐܝܠܝܢ ܕܕܠܐ ܡܪܕܘ ܐܢܘܢ ܐܫܬܐܠ ܡܢܗܘܢ ܝܕܥ ܐܢܬ ܓܝܪ ܕܬܟܬܘܫܐ ܡܘܠܕܝܢ ܀
24 Ni ddylai gwas yr Arglwydd fod yn gwerylgar, ond yn dirion tuag at bawb, yn athro da, yn ymarhous,
24ܥܒܕܗ ܕܝܢ ܕܡܪܢ ܠܐ ܚܝܒ ܠܡܬܟܬܫܘ ܐܠܐ ܕܢܗܘܐ ܡܟܝܟ ܠܘܬ ܟܠܢܫ ܘܡܠܦܢ ܘܢܓܝܪܐ ܪܘܚܗ ܀
25 yn addfwyn wrth ddisgyblu'r rhai sy'n tynnu'n groes. Oherwydd pwy a u373?yr na fydd Duw ryw ddydd yn rhoi iddynt edifeirwch i ddod i ganfod y gwirionedd,
25ܕܢܗܘܐ ܪܕܐ ܠܐܝܠܝܢ ܕܡܬܚܪܝܢ ܠܩܘܒܠܗ ܒܡܟܝܟܘܬܐ ܕܠܡܐ ܢܬܠ ܠܗܘܢ ܐܠܗܐ ܬܝܒܘܬܐ ܘܢܕܥܘܢ ܫܪܪܐ ܀
26 ac na dd�nt i'w pwyll a dianc o fagl y diafol, yr un a'u rhwydodd a'u caethiwo i'w ewyllys?
26ܘܢܥܗܕܘܢ ܢܦܫܗܘܢ ܘܢܦܪܩܘܢ ܡܢ ܦܚܗ ܕܤܛܢܐ ܕܒܗ ܐܬܬܨܝܕܘ ܠܨܒܝܢܗ ܀