Welsh

Syriac: NT

2 Timothy

4

1 Yng ngu373?ydd Duw a Christ Iesu, yr hwn sydd i farnu'r byw a'r meirw, yr wyf yn dy rybuddio ar gyfrif ei ymddangosiad a'i deyrnas ef:
1ܡܤܗܕ ܐܢܐ ܠܟ ܩܕܡ ܐܠܗܐ ܘܡܪܢ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܗܘ ܕܥܬܝܕ ܠܡܕܢ ܚܝܐ ܘܡܝܬܐ ܒܓܠܝܢܐ ܕܡܠܟܘܬܗ ܀
2 pregetha'r gair; bydd yn barod bob amser, boed yn gyfleus neu'n anghyfleus; argyhoedda; cerydda; calonoga; a hyn ag amynedd diball wrth hyfforddi.
2ܐܟܪܙ ܡܠܬܐ ܘܩܘܡ ܒܚܦܝܛܘܬܐ ܒܙܒܢܐ ܘܕܠܐ ܙܒܢܐ ܐܟܤ ܘܟܘܢ ܒܟܠܗ ܡܓܪܬ ܪܘܚܐ ܘܝܘܠܦܢܐ ܀
3 Oherwydd fe ddaw amser pan na fydd pobl yn goddef athrawiaeth iach ond yn dilyn eu chwantau eu hunain, ac yn crynhoi o'u cwmpas liaws o athrawon i oglais eu clustiau,
3ܢܗܘܐ ܓܝܪ ܙܒܢܐ ܕܠܝܘܠܦܢܐ ܚܠܝܡܐ ܠܐ ܢܫܬܡܥܘܢ ܐܠܐ ܐܝܟ ܪܓܝܓܬܗܘܢ ܢܤܓܘܢ ܠܢܦܫܗܘܢ ܡܠܦܢܐ ܒܚܘܬܚܬܐ ܕܡܫܡܥܬܗܘܢ ܀
4 gan droi oddi wrth y gwirionedd i wrando ar chwedlau.
4ܘܡܢ ܫܪܪܐ ܢܗܦܟܘܢ ܐܕܢܗܘܢ ܠܫܘܥܝܬܐ ܕܝܢ ܢܤܛܘܢ ܀
5 Ond yn hyn oll cadw di ddisgyblaeth arnat dy hun: goddef galedi; gwna waith efengylwr; cyflawna holl ofynion dy weinidogaeth.
5ܐܢܬ ܕܝܢ ܗܘܝܬ ܥܝܪ ܒܟܠܡܕܡ ܘܤܝܒܪ ܒܝܫܬܐ ܘܥܒܕܐ ܥܒܕ ܕܡܤܒܪܢܐ ܘܬܫܡܫܬܟ ܫܠܡ ܀
6 Oherwydd y mae fy mywyd i eisoes yn cael ei dywallt mewn aberth, ac y mae amser fy ymadawiad wedi dod.
6ܐܢܐ ܓܝܪ ܡܟܝܠ ܡܬܢܩܐ ܐܢܐ ܘܙܒܢܐ ܕܐܫܬܪܐ ܡܛܐ ܀
7 Yr wyf wedi ymdrechu'r ymdrech lew, yr wyf wedi rhedeg yr yrfa i'r pen, yr wyf wedi cadw'r ffydd.
7ܐܓܘܢܐ ܫܦܝܪܐ ܐܬܟܬܫܬ ܘܪܗܛܝ ܫܠܡܬ ܘܗܝܡܢܘܬܝ ܢܛܪܬ ܀
8 Bellach y mae torch cyfiawnder ar gadw i mi; a bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi imi ar y Dydd hwnnw, ac nid i mi yn unig ond i bawb fydd wedi rhoi eu serch ar ei ymddangosiad ef.
8ܘܡܢ ܗܫܐ ܢܛܝܪ ܠܝ ܟܠܝܠܐ ܕܟܐܢܘܬܐ ܕܢܦܪܥܝܘܗܝ ܠܝ ܡܪܝ ܒܝܘܡܐ ܗܘ ܕܗܘܝܘ ܕܝܢܐ ܟܐܢܐ ܠܐ ܕܝܢ ܒܠܚܘܕ ܠܝ ܐܠܐ ܐܦ ܠܐܝܠܝܢ ܕܐܚܒܘ ܠܓܠܝܢܗ ܀
9 Gwna dy orau i ddod ataf yn fuan,
9ܢܬܒܛܠ ܠܟ ܕܬܐܬܐ ܠܘܬܝ ܒܥܓܠ ܀
10 oherwydd rhoddodd Demas ei serch ar y byd hwn, a'm gadael. Aeth ef i Thesalonica, a Crescens i Galatia, a Titus i Dalmatia.
10ܕܡܐ ܓܝܪ ܫܒܩܢܝ ܘܐܚܒ ܥܠܡܐ ܗܢܐ ܘܐܙܠ ܠܗ ܠܬܤܠܘܢܝܩܐ ܩܪܤܩܘܤ ܠܓܠܛܝܐ ܛܛܘܤ ܠܕܠܡܛܝܐ ܀
11 Luc yn unig sydd gyda mi. Galw am Marc, a thyrd ag ef gyda thi, gan ei fod o gymorth mawr i mi yn fy ngweinidogaeth.
11ܠܘܩܐ ܗܘ ܒܠܚܘܕܘܗܝ ܥܡܝ ܠܡܪܩܘܤ ܕܒܪ ܘܐܝܬܝܗܝ ܥܡܟ ܥܗܢ ܠܝ ܓܝܪ ܠܬܫܡܫܬܐ ܀
12 Anfonais Tychicus i Effesus.
12ܠܛܘܟܝܩܘܤ ܕܝܢ ܫܕܪܬ ܠܐܦܤܘܤ ܀
13 Pan fyddi'n dod, tyrd �'r clogyn a adewais ar �l gyda Carpus yn Troas, a'r llyfrau hefyd, yn arbennig y memrynau.
13ܒܝܬ ܟܬܒܐ ܕܝܢ ܕܫܒܩܬ ܒܛܪܘܐܘܤ ܠܘܬ ܩܪܦܘܤ ܡܐ ܕܐܬܐ ܐܢܬ ܐܝܬܝܗܝ ܘܟܬܒܐ ܝܬܝܪܐܝܬ ܟܪܟܐ ܕܡܓܠܐ ܀
14 Gwnaeth Alexander, y gof copr, ddrwg mawr imi. Fe d�l yr Arglwydd iddo yn �l ei weithredoedd.
14ܐܠܟܤܢܕܪܤ ܩܝܢܝܐ ܒܝܫܬܐ ܤܓܝܐܬܐ ܚܘܝܢܝ ܦܪܥ ܠܗ ܡܪܢ ܐܝܟ ܥܒܕܘܗܝ ܀
15 Bydd dithau ar dy wyliadwriaeth rhagddo, oherwydd y mae wedi gwrthwynebu ein cenadwri ni i'r eithaf.
15ܐܦ ܐܢܬ ܕܝܢ ܐܙܕܗܪ ܡܢܗ ܛܒ ܓܝܪ ܙܩܝܦ ܠܘܩܒܠ ܡܠܝܢ ܀
16 Yn y gwrandawiad cyntaf o'm hamddiffyniad, ni safodd neb gyda mi; aeth pawb a'm gadael; peidied Duw � chyfrif hyn yn eu herbyn.
16ܒܡܦܩ ܒܪܘܚܝ ܩܕܡܝܐ ܠܐ ܐܢܫ ܗܘܐ ܥܡܝ ܐܠܐ ܟܠܗܘܢ ܫܒܩܘܢܝ ܠܐ ܬܬܚܫܒ ܠܗܘܢ ܗܕܐ ܀
17 Ond safodd yr Arglwydd gyda mi, a rhoddodd nerth imi, er mwyn, trwof fi, i'r pregethu gael ei gyflawni ac i'r holl Genhedloedd gael ei glywed; a chefais fy ngwaredu o enau'r llew.
17ܡܪܝ ܕܝܢ ܩܡ ܠܝ ܘܚܝܠܢܝ ܕܒܝ ܟܪܘܙܘܬܐ ܬܫܬܠܡ ܘܢܫܡܥܘܢ ܥܡܡܐ ܟܠܗܘܢ ܕܐܬܦܨܝܬ ܡܢ ܦܘܡܐ ܕܐܪܝܐ ܀
18 A bydd yr Arglwydd eto'n fy ngwaredu i rhag pob cam, a'm dwyn yn ddiogel i'w deyrnas nefol. Iddo ef y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
18ܘܢܦܨܝܢܝ ܡܪܝ ܡܢ ܟܠ ܥܒܕ ܒܝܫ ܘܢܚܝܢܝ ܒܡܠܟܘܬܗ ܕܒܫܡܝܐ ܕܠܗ ܫܘܒܚܐ ܠܥܠܡ ܥܠܡܝܢ ܐܡܝܢ ܀
19 Rho fy nghyfarchion i Prisca ac Acwila, a theulu Onesifforus.
19ܗܒ ܫܠܡܐ ܠܦܪܝܤܩܠܐ ܘܠܐܩܠܘܤ ܘܠܒܝܬܐ ܕܐܢܤܝܦܘܪܘܤ ܀
20 Arhosodd Erastus yng Nghorinth, a gadewais Troffimus yn glaf yn Miletus.
20ܐܪܤܛܘܤ ܦܫ ܠܗ ܒܩܘܪܢܬܘܤ ܛܪܘܦܝܡܘܤ ܕܝܢ ܫܒܩܬܗ ܟܕ ܟܪܝܗ ܒܡܝܠܝܛܘܤ ܡܕܝܢܬܐ ܀
21 Gwna dy orau i ddod cyn y gaeaf. Y mae Eubwlus a Pwdens a Linus a Clawdia, a'r cyfeillion oll, yn dy gyfarch.
21ܢܬܒܛܠ ܠܟ ܕܩܕܡ ܤܬܘܐ ܬܐܬܐ ܫܐܠ ܒܫܠܡܟ ܐܘܒܘܠܘܤ ܘܦܘܕܤ ܘܠܝܢܘܤ ܘܩܠܘܕܝܐ ܘܐܚܐ ܟܠܗܘܢ ܀
22 Yr Arglwydd fyddo gyda'th ysbryd di! Gras fyddo gyda chwi!
22ܡܪܢ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܥܡ ܪܘܚܟ ܛܝܒܘܬܐ ܥܡܟ ܐܡܝܢ ܀