1 Pan beidiodd y cynnwrf, anfonodd Paul am y disgyblion, ac wedi eu hannog, ffarweliodd � hwy ac aeth ymaith ar ei ffordd i Facedonia.
1ܘܒܬܪ ܕܫܠܝ ܫܓܘܫܝܐ ܩܪܐ ܦܘܠܘܤ ܠܬܠܡܝܕܐ ܘܒܝܐ ܐܢܘܢ ܘܢܫܩ ܐܢܘܢ ܘܢܦܩ ܐܙܠ ܠܗ ܠܡܩܕܘܢܝܐ ܀
2 Wedi teithio trwy'r parthau hynny ac annog llawer ar y disgyblion yno, daeth i wlad Groeg.
2ܘܟܕ ܐܬܟܪܟ ܐܢܘܢ ܠܐܬܪܘܬܐ ܗܠܝܢ ܘܒܝܐ ܐܢܘܢ ܒܡܠܐ ܤܓܝܐܬܐ ܐܬܐ ܠܗ ܠܗܠܤ ܐܬܪܐ ܀
3 Treuliodd dri mis yno, a phan oedd ar hwylio i Syria, gwnaeth yr Iddewon gynllwyn yn ei erbyn, a phenderfynodd ddychwelyd trwy Facedonia.
3ܘܗܘܐ ܬܡܢ ܬܠܬܐ ܝܪܚܝܢ ܥܒܕܘ ܕܝܢ ܥܠܘܗܝ ܢܟܠܐ ܝܗܘܕܝܐ ܟܕ ܥܬܝܕ ܗܘܐ ܠܡܐܙܠ ܠܤܘܪܝܐ ܘܐܬܚܫܒ ܕܢܗܦܘܟ ܠܗ ܠܡܩܕܘܢܝܐ ܀
4 Ei gyd-deithwyr oedd Sopater o Berea, mab Pyrrhus, y Thesaloniaid Aristarchus a Secwndus, Gaius o Derbe, a Timotheus, a'r Asiaid Tychicus a Troffimus.
4ܘܢܦܩܘ ܥܡܗ ܥܕܡܐ ܠܐܤܝܐ ܤܘܦܛܪܘܤ ܕܡܢ ܒܪܘܐܐ ܡܕܝܢܬܐ ܘܐܪܤܛܪܟܘܤ ܘܤܩܘܢܕܘܤ ܕܡܢ ܬܤܠܘܢܝܩܐ ܘܓܐܝܘܤ ܕܡܢ ܕܪܒܐ ܡܕܝܢܬܐ ܘܛܝܡܬܐܘܤ ܕܡܢ ܠܘܤܛܪܐ ܘܡܢ ܐܤܝܐ ܛܘܟܝܩܘܤ ܘܛܪܘܦܝܡܘܤ ܀
5 Yr oedd y rhain wedi mynd o'n blaen, ac yn aros amdanom yn Troas.
5ܗܠܝܢ ܐܙܠܘ ܩܕܡܝܢ ܘܩܘܝܘ ܠܢ ܒܛܪܘܐܤ ܀
6 Hwyliasom ninnau, wedi dyddiau'r Bara Croyw, o Philipi, a chyrraedd atynt yn Troas ymhen pum diwrnod; ac yno y buom am saith diwrnod.
6ܚܢܢ ܕܝܢ ܢܦܩܢ ܡܢ ܦܝܠܝܦܘܤ ܡܕܝܢܬܐ ܕܡܩܕܘܢܝܐ ܒܬܪ ܝܘܡܬܐ ܕܦܛܝܪܐ ܘܪܕܝܢ ܒܝܡܐ ܘܐܬܝܢ ܠܛܪܘܐܤ ܠܝܘܡܬܐ ܚܡܫܐ ܘܗܘܝܢ ܬܡܢ ܝܘܡܬܐ ܫܒܥܐ ܀
7 Ar ddydd cyntaf yr wythnos, daethom ynghyd i dorri bara. Dechreuodd Paul, a oedd i fynd ymaith drannoeth, eu hannerch, a daliodd i draethu hyd hanner nos.
7ܘܒܝܘܡܐ ܕܚܕ ܒܫܒܐ ܟܕ ܟܢܝܫܝܢܢ ܕܢܩܨܐ ܐܘܟܪܤܛܝܐ ܡܡܠܠ ܗܘܐ ܥܡܗܘܢ ܦܘܠܘܤ ܡܛܠ ܕܠܝܘܡܐ ܐܚܪܢܐ ܥܬܝܕ ܗܘܐ ܕܢܦܘܩ ܠܗ ܘܐܓܪ ܗܘܐ ܠܡܡܠܠܘ ܥܕܡܐ ܠܦܠܓܗ ܕܠܠܝܐ ܀
8 Yr oedd llawer o lampau yn yr oruwchystafell lle'r oeddem wedi ymgynnull,
8ܘܐܝܬ ܗܘܐ ܬܡܢ ܠܡܦܐܕܐ ܕܢܘܪܐ ܤܓܝܐܐ ܒܥܠܝܬܐ ܗܝ ܕܟܢܝܫܝܢ ܗܘܝܢ ܒܗ ܀
9 ac yr oedd dyn ifanc o'r enw Eutychus yn eistedd wrth y ffenestr. Yr oedd hwn yn mynd yn fwy a mwy cysglyd, wrth i Paul ddal i ymhelaethu. Pan drechwyd ef yn llwyr gan gwsg, syrthiodd o'r trydydd llawr, a chodwyd ef yn gorff marw.
9ܘܝܬܒ ܗܘܐ ܥܠܝܡܐ ܚܕ ܕܫܡܗ ܗܘܐ ܐܘܛܟܘܤ ܒܟܘܬܐ ܘܫܡܥ ܘܛܒܥ ܒܫܢܬܐ ܝܩܝܪܬܐ ܟܕ ܐܓܪ ܗܘܐ ܒܡܠܬܐ ܦܘܠܘܤ ܘܒܫܢܬܗ ܢܦܠ ܗܘܐ ܡܢ ܬܠܬܐ ܡܕܝܪܝܢ ܘܐܫܬܩܠ ܟܕ ܡܝܬ ܀
10 Ond aeth Paul i lawr; syrthiodd arno a'i gofleidio, a dywedodd, "Peidiwch � chynhyrfu; y mae bywyd ynddo."
10ܘܢܚܬ ܦܘܠܘܤ ܢܦܠ ܠܥܠ ܡܢܗ ܘܥܦܩܗ ܘܐܡܪ ܠܐ ܬܬܙܝܥܘܢ ܡܛܠ ܕܢܦܫܗ ܒܗ ܗܝ ܀
11 Yna aeth i fyny, a thorri'r bara a bwyta. Yna, wedi ymddiddan am amser hir hyd doriad dydd, aeth ymaith.
11ܟܕ ܤܠܩ ܕܝܢ ܩܨܐ ܠܚܡܐ ܘܛܥܡ ܘܗܘܐ ܡܡܠܠ ܥܕܡܐ ܕܤܠܩ ܨܦܪܐ ܘܗܝܕܝܢ ܢܦܩ ܕܢܐܙܠ ܒܝܒܫܐ ܀
12 Ond aethant �'r llanc adref yn fyw, ac fe'u calonogwyd yn anghyffredin.
12ܘܕܒܪܘܗܝ ܠܥܠܝܡܐ ܟܕ ܚܝ ܘܚܕܝܘ ܒܗ ܪܘܪܒܐܝܬ ܀
13 Ninnau, aethom o flaen Paul i'r llong, a hwylio i gyfeiriad Asos, gan fwriadu ei gymryd i'r llong yno; oblegid dyma'r cyfarwyddyd a roesai ef, gan fwriadu mynd ei hun dros y tir.
13ܚܢܢ ܕܝܢ ܢܚܬܢ ܠܐܠܦܐ ܘܪܕܝܢ ܠܘܥܕܐ ܕܬܤܘܤ ܡܛܠ ܕܡܢ ܬܡܢ ܥܬܝܕܝܢ ܗܘܝܢ ܕܢܩܒܠܝܘܗܝ ܠܦܘܠܘܤ ܗܟܢܐ ܓܝܪ ܦܩܕ ܗܘܐ ܠܢ ܟܕ ܐܙܠ ܗܘܐ ܗܘ ܒܝܒܫܐ ܀
14 Pan gyfarfu � ni yn Asos, cymerasom ef i'r llong a mynd ymlaen i Mitylene.
14ܟܕ ܕܝܢ ܩܒܠܢܝܗܝ ܡܢ ܬܤܘܤ ܫܩܠܢܝܗܝ ܒܐܠܦܐ ܘܐܬܝܢ ܠܡܝܛܘܠܝܢܐ ܀
15 Wedi hwylio oddi yno drannoeth, cyraeddasom gyferbyn � Chios, a'r ail ddiwrnod croesi i Samos, a'r dydd wedyn dod i Miletus.
15ܘܡܢ ܬܡܢ ܠܝܘܡܐ ܐܚܪܢܐ ܪܕܝܢ ܠܘܩܒܠ ܟܝܘܤ ܓܙܪܬܐ ܘܬܘܒ ܠܝܘܡܐ ܐܚܪܢܐ ܐܬܝܢ ܠܤܡܘܤ ܘܩܘܝܢ ܒܛܪܘܓܠܝܘܢ ܘܠܝܘܡܐ ܐܚܪܢܐ ܐܬܝܢ ܠܡܝܠܝܛܘܤ ܀
16 Oherwydd yr oedd Paul wedi penderfynu hwylio heibio i Effesus, rhag iddo orfod colli amser yn Asia, gan ei fod yn brysio er mwyn bod yn Jerwsalem, pe bai modd, erbyn dydd y Pentecost.
16ܦܤܝܩ ܗܘܐ ܠܗ ܓܝܪ ܠܦܘܠܘܤ ܕܢܥܒܪܝܗ ܠܐܦܤܘܤ ܕܠܡܐ ܢܫܬܘܚܪ ܠܗ ܬܡܢ ܡܛܠ ܕܡܤܪܗܒ ܗܘܐ ܕܐܢ ܡܫܟܚܐ ܝܘܡܐ ܕܦܢܛܩܘܤܛܐ ܒܐܘܪܫܠܡ ܢܥܒܕܝܘܗܝ ܀
17 Anfonodd o Miletus i Effesus a galw ato henuriaid yr eglwys.
17ܘܡܢܗ ܡܢ ܡܝܠܝܛܘܤ ܫܕܪ ܐܝܬܝ ܠܩܫܝܫܐ ܕܥܕܬܐ ܕܐܦܤܘܤ ܀
18 Pan gyraeddasant ato, dywedodd wrthynt, "Fe wyddoch fel y b�m i gyda chwi yr holl amser, er y diwrnod cyntaf y rhois fy nhroed yn Asia,
18ܘܟܕ ܐܬܘ ܠܘܬܗ ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܐܢܬܘܢ ܝܕܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܕܡܢ ܝܘܡܐ ܩܕܡܝܐ ܕܥܠܬ ܠܐܤܝܐ ܐܝܟܢܐ ܗܘܝܬ ܥܡܟܘܢ ܟܠܗ ܙܒܢܐ ܀
19 yn gwasanaethu'r Arglwydd � phob gostyngeiddrwydd, ac � dagrau a threialon a ddaeth i'm rhan trwy gynllwynion yr Iddewon.
19ܟܕ ܦܠܚ ܐܢܐ ܠܐܠܗܐ ܒܡܟܝܟܘܬܐ ܤܓܝܐܬܐ ܘܒܕܡܥܐ ܘܒܢܤܝܘܢܐ ܐܝܠܝܢ ܕܥܕܝܢ ܗܘܘ ܥܠܝ ܒܢܟܠܝܗܘܢ ܕܝܗܘܕܝܐ ܀
20 Gwyddoch nad ymateliais rhag cyhoeddi i chwi ddim o'r hyn sydd fuddiol, na rhag eich dysgu chwi yn gyhoeddus ac yn eich cartrefi,
20ܘܠܐ ܒܤܝܬ ܒܡܕܡ ܕܦܩܚ ܗܘܐ ܠܢܦܫܬܟܘܢ ܕܐܟܪܙ ܠܟܘܢ ܘܐܠܦ ܒܫܘܩܐ ܘܒܒܬܐ ܀
21 gan dystiolaethu i Iddewon a Groegiaid am edifeirwch tuag at Dduw a ffydd yn ein Harglwydd Iesu.
21ܟܕ ܡܤܗܕ ܗܘܝܬ ܠܝܗܘܕܝܐ ܘܠܐܪܡܝܐ ܥܠ ܬܝܒܘܬܐ ܕܠܘܬ ܐܠܗܐ ܘܗܝܡܢܘܬܐ ܕܒܡܪܢ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
22 Ac yn awr dyma fi, dan orfodaeth yr Ysbryd, ar fy ffordd i Jerwsalem, heb wybod beth a ddigwydd imi yno,
22ܘܗܫܐ ܐܢܐ ܐܤܝܪ ܐܢܐ ܒܪܘܚܐ ܘܐܙܠ ܐܢܐ ܠܐܘܪܫܠܡ ܘܠܐ ܝܕܥ ܐܢܐ ܡܢܐ ܐܪܥ ܠܝ ܒܗ ܀
23 ond bod yr Ysbryd Gl�n o dref i dref yn tystiolaethu imi fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros.
23ܒܪܡ ܪܘܚܐ ܕܩܘܕܫܐ ܒܟܠ ܡܕܝܢܐ ܡܤܗܕ ܠܝ ܘܐܡܪ ܕܐܤܘܪܐ ܘܐܘܠܨܢܐ ܥܬܝܕܝܢ ܠܟ ܀
24 Ond yr wyf yn cyfrif nad yw fy mywyd o unrhyw werth imi, dim ond imi allu cwblhau fy ngyrfa, a'r weinidogaeth a gefais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu i Efengyl gras Duw.
24ܐܠܐ ܠܝ ܠܐ ܚܫܝܒܐ ܢܦܫܝ ܡܕܡ ܐܝܟ ܕܐܫܠܡ ܪܗܛܝ ܘܬܫܡܫܬܐ ܕܩܒܠܬ ܡܢ ܡܪܢ ܝܫܘܥ ܕܐܤܗܕ ܥܠ ܤܒܪܬܐ ܕܛܝܒܘܬܗ ܕܐܠܗܐ ܀
25 "Ac yn awr, 'rwy'n gwybod na chewch weld fy wyneb mwyach, chwi oll y b�m i'n teithio yn eich plith gan gyhoeddi'r Deyrnas.
25ܘܗܫܐ ܐܢܐ ܝܕܥ ܐܢܐ ܕܬܘܒ ܦܪܨܘܦܝ ܠܐ ܚܙܝܢ ܐܢܬܘܢ ܟܠܟܘܢ ܐܝܠܝܢ ܕܐܬܟܪܟܬ ܐܟܪܙܬ ܠܟܘܢ ܡܠܟܘܬܐ ܀
26 Gan hynny, yr wyf yn tystio i chwi y dydd hwn fy mod yn ddieuog o waed unrhyw un;
26ܘܡܛܠ ܗܢܐ ܡܤܗܕ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܝܘܡܐ ܕܝܘܡܢܐ ܕܕܟܐ ܐܢܐ ܡܢ ܕܡܐ ܕܟܠܟܘܢ ܀
27 oblegid nid ymateliais rhag cyhoeddi holl arfaeth Duw i chwi.
27ܠܐ ܓܝܪ ܐܫܬܐܠܬ ܕܐܘܕܥܟܘܢ ܟܠܗ ܨܒܝܢܗ ܕܐܠܗܐ ܀
28 Gofalwch amdanoch eich hunain ac am yr holl braidd, y gosododd yr Ysbryd Gl�n chwi yn arolygwyr drosto, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a enillodd ef � gwaed ei briod un.
28ܐܙܕܗܪܘ ܗܟܝܠ ܒܢܦܫܟܘܢ ܘܒܟܠܗ ܡܪܥܝܬܐ ܗܝ ܕܐܩܝܡܟܘܢ ܒܗ ܪܘܚܐ ܕܩܘܕܫܐ ܐܦܤܩܘܦܐ ܕܬܪܥܘܢ ܠܥܕܬܗ ܕܐܠܗܐ ܗܝ ܕܩܢܗ ܒܕܡܗ ܀
29 Mi wn i y daw i'ch plith, wedi fy ymadawiad i, fleiddiaid mileinig nad arbedant y praidd,
29ܐܢܐ ܝܕܥ ܐܢܐ ܕܡܢ ܒܬܪ ܕܐܙܠ ܐܢܐ ܢܥܠܘܢ ܥܡܟܘܢ ܕܐܒܐ ܬܩܝܦܐ ܕܠܐ ܚܝܤܝܢ ܥܠ ܡܪܥܝܬܐ ܀
30 ac y cyfyd o'ch plith chwi eich hunain rai yn llefaru pethau llygredig, i ddenu'r disgyblion ymaith ar eu h�l.
30ܘܐܦ ܡܢܟܘܢ ܕܝܠܟܘܢ ܢܩܘܡܘܢ ܓܒܪܐ ܡܡܠܠܝ ܡܥܩܡܬܐ ܐܝܟ ܕܢܗܦܟܘܢ ܠܬܠܡܝܕܐ ܕܢܐܙܠܘܢ ܒܬܪܗܘܢ ܀
31 Gan hynny, byddwch yn wyliadwrus, gan gofio na pheidiais i, na nos na dydd dros dair blynedd, � rhybuddio pob un ohonoch � dagrau.
31ܡܛܠ ܗܢܐ ܗܘܝܬܘܢ ܥܝܪܝܢ ܘܥܗܝܕܝܢ ܕܫܢܝܐ ܬܠܬ ܠܐ ܫܠܝܬ ܒܠܠܝܐ ܘܒܐܝܡܡܐ ܟܕ ܒܕܡܥܐ ܡܪܬܐ ܐܢܐ ܠܐܢܫ ܐܢܫ ܡܢܟܘܢ ܀
32 Ac yn awr yr wyf yn eich cyflwyno i Dduw ac i air ei ras, sydd �'r gallu ganddo i'ch adeiladu, ac i roi i chwi eich etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.
32ܘܗܫܐ ܡܓܥܠ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܠܐܠܗܐ ܘܠܡܠܬܐ ܕܛܝܒܘܬܗ ܕܗܝ ܡܫܟܚܐ ܒܢܝܐ ܠܟܘܢ ܘܝܗܒܐ ܠܟܘܢ ܝܘܪܬܢܐ ܥܡ ܟܠܗܘܢ ܩܕܝܫܐ ܀
33 Ni chwenychais arian nac aur na gwisgoedd neb.
33ܟܤܦܐ ܐܘ ܕܗܒܐ ܐܘ ܢܚܬܐ ܠܐ ܪܓܬ ܀
34 Fe wyddoch eich hunain mai'r dwylo hyn a fu'n gweini i'm hanghenion i ac eiddo'r rhai oedd gyda mi.
34ܘܐܢܬܘܢ ܝܕܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܕܠܤܢܝܩܘܬܝ ܘܠܐܝܠܝܢ ܕܐܝܬ ܥܡܝ ܫܡܫ ܗܠܝܢ ܐܝܕܝ ܀
35 Ym mhopeth, dangosais i chwi mai wrth lafurio felly y mae'n rhaid cynorthwyo'r rhai gwan, a dwyn ar gof y geiriau a lefarodd yr Arglwydd Iesu ei hun: 'Dedwyddach yw rhoi na derbyn.'"
35ܘܟܠܡܕܡ ܚܘܝܬܟܘܢ ܕܗܟܢܐ ܘܠܐ ܠܡܠܐܐ ܘܠܡܐܨܦ ܕܐܝܠܝܢ ܕܟܪܝܗܝܢ ܘܠܡܥܗܕܘ ܡܠܘܗܝ ܕܡܪܢ ܝܫܘܥ ܡܛܠ ܕܗܘ ܐܡܪ ܕܛܘܒܘܗܝ ܠܐܝܢܐ ܕܝܗܒ ܝܬܝܪ ܡܢ ܐܝܢܐ ܕܢܤܒ ܀
36 Wedi dweud hyn, fe benliniodd gyda hwy oll a gwedd�o.
36ܘܟܕ ܗܠܝܢ ܐܡܪ ܩܥܕ ܥܠ ܒܘܪܟܘܗܝ ܘܨܠܝ ܘܟܠܗܘܢ ܐܢܫܐ ܥܡܗ ܀
37 Torrodd pawb i wylo'n hidl, a syrthio ar wddf Paul a'i gusanu,
37ܘܗܘܬ ܒܟܬܐ ܪܒܬܐ ܒܟܠܗܘܢ ܘܥܦܩܘܗܝ ܘܡܢܫܩܝܢ ܗܘܘ ܠܗ ܀
38 gan ofidio yn bennaf am iddo ddweud nad oeddent mwyach i weld ei wyneb. Yna aethant i'w hebrwng ef i'r llong.
38ܝܬܝܪܐܝܬ ܕܝܢ ܡܫܬܢܩܝܢ ܗܘܘ ܥܠ ܗܝ ܡܠܬܐ ܕܐܡܪ ܕܠܐ ܬܘܒ ܥܬܝܕܝܢ ܕܢܚܙܘܢ ܦܪܨܘܦܗ ܘܠܘܝܘܗܝ ܥܕܡܐ ܠܐܠܦܐ ܀