1 Meddai Agripa wrth Paul, "Y mae caniat�d iti siarad drosot dy hun." Yna fe estynnodd Paul ei law, a dechrau ei amddiffyniad:
1ܘܐܡܪ ܐܓܪܦܘܤ ܠܦܘܠܘܤ ܡܦܤ ܠܟ ܠܡܡܠܠܘ ܥܠ ܐܦܝ ܢܦܫܟ ܗܝܕܝܢ ܦܘܠܘܤ ܦܫܛ ܐܝܕܗ ܘܢܦܩ ܗܘܐ ܪܘܚܐ ܘܐܡܪ ܀
2 "Yr wyf yn f'ystyried fy hun yn ffodus, y Brenin Agripa, mai ger dy fron di yr wyf i'm hamddiffyn fy hun heddiw ynglu375?n �'r holl gyhuddiadau y mae'r Iddewon yn eu dwyn yn fy erbyn,
2ܥܠ ܟܠ ܡܐ ܕܡܬܪܫܐ ܐܢܐ ܡܢ ܝܗܘܕܝܐ ܡܠܟܐ ܐܓܪܦܐ ܤܒܪ ܐܢܐ ܥܠ ܢܦܫܝ ܕܛܘܒܢܐ ܐܢܐ ܕܩܕܡܝܟ ܝܘܡܢܐ ܢܦܩ ܐܢܐ ܪܘܚܐ ܀
3 yn enwedig gan dy fod yn hyddysg yn yr holl arferion a dadleuon a geir ymhlith yr Iddewon. Gan hynny, 'rwy'n erfyn arnat fy ngwrando yn amyneddgar.
3ܝܬܝܪܐܝܬ ܕܝܕܥ ܐܢܐ ܕܡܦܤ ܐܢܬ ܒܟܠܗܘܢ ܙܛܡܐ ܘܢܡܘܤܐ ܕܝܗܘܕܝܐ ܡܛܠ ܗܢܐ ܒܥܐ ܐܢܐ ܡܢܟ ܕܒܡܓܪܬ ܪܘܚܐ ܬܫܡܥܢܝ ܀
4 Y mae fy muchedd i o'm mebyd, y modd y b�m yn byw o'r dechrau ymhlith fy nghenedl, a hefyd yn Jerwsalem, yn hysbys i bob Iddew.
4ܝܕܥܝܢ ܐܢܘܢ ܓܝܪ ܐܦ ܗܢܘܢ ܝܗܘܕܝܐ ܐܢ ܨܒܝܢ ܕܢܤܗܕܘܢ ܕܘܒܪܝ ܕܡܢ ܛܠܝܘܬܝ ܕܗܘܘ ܠܝ ܡܢ ܫܘܪܝܐ ܒܥܡܝ ܘܒܐܘܪܫܠܡ ܀
5 Y maent yn gwybod ers amser maith, os dymunant dystiolaethu, mai yn �l sect fwyaf caeth ein crefydd y b�m i'n byw, yn Pharisead.
5ܡܛܠ ܕܡܢ ܢܘܓܪܐ ܡܦܤܝܢ ܒܝ ܘܝܕܥܝܢ ܕܒܝܘܠܦܢܐ ܪܫܝܐ ܕܦܪܝܫܐ ܚܝܝܬ ܀
6 Yn awr yr wyf yn sefyll fy mhrawf ar gyfrif gobaith sydd wedi ei seilio ar yr addewid a wnaed gan Dduw i'n hynafiaid ni,
6ܘܗܫܐ ܥܠ ܤܒܪܐ ܕܫܘܘܕܝܐ ܕܗܘܐ ܗܘܐ ܠܐܒܗܬܢ ܡܢ ܐܠܗܐ ܩܐܡ ܐܢܐ ܘܡܬܕܝܢ ܐܢܐ ܀
7 addewid y mae ein deuddeg llwyth ni, trwy addoli'n selog nos a dydd, yn gobeithio ei sylweddoli; ac am y gobaith hwn yr wyf yn cael fy nghyhuddo, O frenin, gan Iddewon!
7ܕܥܠ ܗܢܐ ܤܒܪܐ ܬܪܬܥܤܪܐ ܫܪܒܢ ܡܤܒܪܢ ܕܢܡܢܥܢ ܒܨܠܘܬܐ ܚܦܝܛܬܐ ܕܐܝܡܡܐ ܘܕܠܠܝܐ ܘܥܠܘܗܝ ܥܠ ܗܢܐ ܤܒܪܐ ܡܬܪܫܐ ܐܢܐ ܡܢ ܐܝܕܝ ܝܗܘܕܝܐ ܡܠܟܐ ܐܓܪܦܐ ܀
8 Pam y bernir yn anghredadwy gennych chwi fod Duw yn codi'r meirw?
8ܡܢܐ ܕܝܢܝܢ ܐܢܬܘܢ ܠܐ ܘܠܐ ܕܢܗܝܡܢ ܕܡܩܝܡ ܐܠܗܐ ܡܝܬܐ ܀
9 Eto, yr oeddwn i fy hun yn tybio unwaith y dylwn weithio'n ddygn yn erbyn enw Iesu o Nasareth;
9ܐܢܐ ܓܝܪ ܡܢ ܩܕܝܡ ܤܡܬ ܒܪܥܝܢܝ ܕܤܩܘܒܠܐ ܤܓܝܐܐ ܐܤܥܘܪ ܠܘܩܒܠ ܫܡܗ ܕܝܫܘܥ ܢܨܪܝܐ ܀
10 a gwneuthum hynny yn Jerwsalem. Ar awdurdod y prif offeiriaid, caeais lawer o'r saint mewn carcharau, a phan fyddent yn cael eu lladd, rhoddais fy mhleidlais yn eu herbyn;
10ܗܕܐ ܕܥܒܕܬ ܐܦ ܒܐܘܪܫܠܡ ܘܩܕܝܫܐ ܤܓܝܐܐ ܐܪܡܝܬ ܒܝܬ ܐܤܝܪܐ ܒܫܘܠܛܢܐ ܕܩܒܠܬ ܡܢ ܪܒܝ ܟܗܢܐ ܘܟܕ ܡܬܩܛܠܝܢ ܗܘܘ ܡܢܗܘܢ ܐܫܬܘܬܦܬ ܠܐܝܠܝܢ ܕܚܝܒܘ ܐܢܘܢ ܀
11 a thrwy'r holl synagogau mi geisiais lawer gwaith, trwy gosb, eu gorfodi i gablu. Yr oeddwn yn enbyd o ffyrnig yn eu herbyn, ac yn eu herlid hyd ddinasoedd estron hyd yn oed.
11ܘܒܟܠ ܟܢܘܫܐ ܡܫܬܢܕ ܗܘܝܬ ܒܗܘܢ ܟܕ ܐܠܨ ܗܘܝܬ ܕܢܗܘܘܢ ܡܓܕܦܝܢ ܒܫܡܗ ܕܝܫܘܥ ܘܒܪܘܓܙܐ ܤܓܝܐܐ ܕܡܠܐ ܗܘܝܬ ܥܠܝܗܘܢ ܐܦ ܠܡܕܝܢܬܐ ܐܚܪܢܝܬܐ ܢܦܩ ܗܘܝܬ ܠܡܪܕܦ ܐܢܘܢ ܀
12 "Pan oeddwn yn teithio i Ddamascus ar y perwyl hwn gydag awdurdod a chennad y prif offeiriaid,
12ܘܟܕ ܐܙܠ ܗܘܝܬ ܡܛܠ ܗܕܐ ܠܕܪܡܤܘܩ ܒܫܘܠܛܢܐ ܘܒܡܦܤܢܘܬܐ ܕܪܒܝ ܟܗܢܐ ܀
13 gwelais ar y ffordd ganol dydd, O frenin, oleuni mwy llachar na'r haul yn llewyrchu o'r nef o'm hamgylch i a'r rhai oedd yn teithio gyda mi.
13ܒܦܠܓܗ ܕܝܘܡܐ ܒܐܘܪܚܐ ܚܙܝܬ ܡܢ ܫܡܝܐ ܐܘ ܡܠܟܐ ܕܐܙܠܓ ܥܠܝ ܘܥܠ ܟܠ ܕܥܡܝ ܗܘܘ ܢܘܗܪܐ ܕܡܝܬܪ ܡܢ ܕܫܡܫܐ ܀
14 Syrthiodd pob un ohonom ar y ddaear, a chlywais lais yn dweud wrthyf yn iaith yr Iddewon, 'Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i? Y mae'n galed iti wingo yn erbyn y symbylau.'
14ܘܢܦܠܢ ܟܠܢ ܥܠ ܐܪܥܐ ܘܫܡܥܬ ܩܠܐ ܟܕ ܐܡܪ ܠܝ ܥܒܪܐܝܬ ܫܐܘܠ ܫܐܘܠ ܡܢܐ ܪܕܦ ܐܢܬ ܠܝ ܩܫܐ ܗܘ ܠܟ ܠܡܒܥܛܘ ܠܥܘܩܤܐ ܀
15 Dywedais innau, 'Pwy wyt ti, Arglwydd?' A dywedodd yr Arglwydd, 'Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.
15ܘܐܢܐ ܐܡܪܬ ܡܢ ܐܢܬ ܡܪܝ ܘܡܪܢ ܐܡܪ ܠܝ ܐܢܐ ܗܘ ܝܫܘܥ ܢܨܪܝܐ ܕܐܢܬ ܪܕܦ ܐܢܬ ܀
16 Ond cod a saf ar dy draed; oherwydd i hyn yr wyf wedi ymddangos i ti, sef i'th benodi di yn was imi, ac yn dyst o'r hyn yr wyt wedi ei weld, ac a weli eto, ohonof fi.
16ܘܐܡܪ ܠܝ ܩܘܡ ܥܠ ܪܓܠܝܟ ܡܛܠ ܗܕܐ ܓܝܪ ܐܬܚܙܝܬ ܠܟ ܕܐܩܝܡܟ ܡܫܡܫܢܐ ܘܤܗܕܐ ܕܡܕܡ ܕܚܙܝܬܢܝ ܘܕܥܬܝܕ ܐܢܬ ܕܬܚܙܝܢܝ ܀
17 Gwaredaf di oddi wrth y bobl hyn ac oddi wrth y Cenhedloedd yr wyf yn dy anfon atynt,
17ܘܐܦܨܝܟ ܡܢ ܥܡܐ ܕܝܗܘܕܝܐ ܘܡܢ ܥܡܡܐ ܐܚܪܢܐ ܕܠܘܬܗܘܢ ܡܫܕܪ ܐܢܐ ܠܟ ܀
18 i agor eu llygaid, a'u troi o dywyllwch i oleuni, o awdurdod Satan at Dduw, er mwyn iddynt gael maddeuant pechodau a chyfran ymhlith y rhai a sancteiddiwyd trwy ffydd ynof fi.'
18ܕܬܦܬܚ ܥܝܢܝܗܘܢ ܐܝܟ ܕܢܗܦܟܘܢ ܡܢ ܚܫܘܟܐ ܠܢܗܝܪܐ ܘܡܢ ܫܘܠܛܢܗ ܕܤܛܢܐ ܠܘܬ ܐܠܗܐ ܘܢܩܒܠܘܢ ܫܘܒܩܢ ܚܛܗܐ ܘܦܤܐ ܥܡ ܩܕܝܫܐ ܒܗܝܡܢܘܬܐ ܕܒܝ ܀
19 "O achos hyn, y Brenin Agripa, ni b�m anufudd i'r weledigaeth nefol,
19ܡܛܠ ܗܕܐ ܡܠܟܐ ܐܓܪܦܐ ܠܐ ܩܡܬ ܒܚܪܝܢܐ ܠܘܩܒܠ ܚܙܘܐ ܫܡܝܢܐ ܀
20 ond b�m yn cyhoeddi i drigolion Damascus yn gyntaf, ac yn Jerwsalem, a thrwy holl wlad Jwdea, ac i'r Cenhedloedd, eu bod i edifarhau a throi at Dduw, a gweithredu yn deilwng o'u hedifeirwch.
20ܐܠܐ ܐܟܪܙܬ ܡܢ ܠܩܘܕܡܝܢ ܠܗܢܘܢ ܕܒܕܪܡܤܘܩ ܘܠܗܢܘܢ ܕܒܐܘܪܫܠܡ ܘܕܒܟܠܗܝܢ ܩܘܪܝܐ ܕܝܗܘܕ ܘܐܦ ܠܥܡܡܐ ܐܟܪܙܬ ܕܢܬܘܒܘܢ ܘܢܬܦܢܘܢ ܠܘܬ ܐܠܗܐ ܘܢܥܒܕܘܢ ܥܒܕܐ ܕܫܘܝܢ ܠܬܝܒܘܬܐ ܀
21 Oherwydd hyn y daliodd yr Iddewon fi yn y deml, a cheisio fy llofruddio.
21ܘܥܠ ܐܦܝ ܗܠܝܢ ܐܚܕܘܢܝ ܝܗܘܕܝܐ ܒܗܝܟܠܐ ܘܨܒܝܢ ܗܘܘ ܠܡܩܛܠܢܝ ܀
22 Ond mi gefais gymorth gan Dduw hyd heddiw, ac yr wyf yn sefyll gan dystiolaethu i fawr a m�n, heb ddweud dim ond y pethau y dywedodd y proffwydi, a Moses hefyd, eu bod i ddigwydd,
22ܥܕܪܢܝ ܕܝܢ ܐܠܗܐ ܥܕܡܐ ܠܝܘܡܐ ܗܢܐ ܘܗܐ ܩܐܡ ܐܢܐ ܘܡܤܗܕ ܐܢܐ ܠܙܥܘܪܐ ܘܠܪܒܐ ܟܕ ܡܕܡ ܠܒܪ ܡܢ ܡܘܫܐ ܘܢܒܝܐ ܠܐ ܐܡܪ ܐܢܐ ܐܠܐ ܐܝܠܝܢ ܕܗܢܘܢ ܐܡܪܘ ܕܥܬܝܕܢ ܕܢܗܘܝܢ ܀
23 sef bod yn rhaid i'r Meseia ddioddef, a'i fod ef, y cyntaf i atgyfodi oddi wrth y meirw, i gyhoeddi goleuni i bobl Israel ac i'r Cenhedloedd."
23ܕܢܚܫ ܡܫܝܚܐ ܘܢܗܘܐ ܪܫܝܬܐ ܕܩܝܡܬܐ ܕܡܢ ܒܝܬ ܡܝܬܐ ܘܕܥܬܝܕ ܕܢܟܪܙ ܢܘܗܪܐ ܠܥܡܐ ܘܠܥܡܡܐ ܀
24 Ar ganol yr amddiffyniad hwn, dyma Ffestus yn gweiddi, "Yr wyt yn wallgof, Paul; y mae dy fawr ddysg yn dy yrru di'n wallgof."
24ܘܟܕ ܗܟܢܐ ܢܦܩ ܗܘܐ ܦܘܠܘܤ ܪܘܚܐ ܩܥܐ ܦܗܤܛܘܤ ܒܩܠܐ ܪܡܐ ܫܢܝܬ ܠܟ ܦܘܠܐ ܤܦܪܐ ܤܓܝܐܐ ܥܒܕܟ ܕܬܫܢܐ ܀
25 Meddai Paul, "Na, nid wyf yn wallgof, ardderchocaf Ffestus; yn hytrach, geiriau gwirionedd a synnwyr yr wyf yn eu llefaru.
25ܐܡܪ ܦܘܠܘܤ ܠܐ ܫܢܝܬ ܢܨܝܚܐ ܦܗܤܛܘܤ ܐܠܐ ܡܠܝ ܫܪܪܐ ܘܬܩܢܘܬܐ ܡܡܠܠ ܐܢܐ ܀
26 Oherwydd fe u373?yr y brenin am y pethau hyn, ac yr wyf yn llefaru yn hy wrtho. Ni allaf gredu fod dim un o'r pethau hyn yn anhysbys iddo, oherwydd nid mewn rhyw gongl y gwnaed hyn.
26ܘܐܦ ܡܠܟܐ ܐܓܪܦܘܤ ܝܬܝܪܐܝܬ ܝܕܥ ܥܠܝܗܝܢ ܕܗܠܝܢ ܘܡܛܠ ܗܢܐ ܥܝܢ ܒܓܠܐ ܡܡܠܠ ܐܢܐ ܩܕܡܘܗܝ ܡܛܠ ܕܚܕܐ ܡܢ ܗܠܝܢ ܡܠܐ ܠܐ ܤܒܪ ܐܢܐ ܕܛܥܝܢ ܠܗ ܕܠܐ ܗܘܐ ܒܛܘܫܝܐ ܤܥܝܪܢ ܀
27 A wyt ti, y Brenin Agripa, yn credu'r proffwydi? Mi wn i dy fod yn credu."
27ܡܗܝܡܢ ܐܢܬ ܡܠܟܐ ܐܓܪܦܐ ܠܢܒܝܐ ܝܕܥ ܐܢܐ ܕܡܗܝܡܢ ܐܢܬ ܀
28 Ac meddai Agripa wrth Paul, "Mewn byr amser yr wyt am fy mherswadio i fod yn Gristion!"
28ܐܡܪ ܠܗ ܐܓܪܦܘܤ ܒܩܠܝܠ ܡܕܡ ܡܦܝܤ ܐܢܬ ܠܝ ܕܐܗܘܐ ܟܪܤܛܝܢܐ ܀
29 Atebodd Paul, "Byr neu beidio, mi wedd�wn i ar Dduw, nid am i ti yn unig, ond am i bawb sy'n fy ngwrando heddiw fod yr un fath ag yr wyf fi, ar wah�n i'r rhwymau yma."
29ܘܦܘܠܘܤ ܐܡܪ ܒܥܐ ܗܘܝܬ ܡܢ ܐܠܗܐ ܒܩܠܝܠ ܘܒܤܓܝ ܠܐ ܗܘܐ ܠܟ ܒܠܚܘܕ ܐܠܐ ܐܦ ܠܟܠܗܘܢ ܐܝܠܝܢ ܕܫܡܥܝܢ ܠܝ ܝܘܡܢܐ ܕܢܗܘܘܢ ܐܟܘܬܝ ܠܒܪ ܡܢ ܐܤܘܪܐ ܗܠܝܢ ܀
30 Yna cododd y brenin a'r rhaglaw, a Bernice a'r rhai oedd yn eistedd gyda hwy,
30ܘܩܡ ܠܗ ܡܠܟܐ ܘܗܓܡܘܢܐ ܘܒܪܢܝܩܐ ܘܐܝܠܝܢ ܕܝܬܒܝܢ ܗܘܘ ܥܡܗܘܢ ܀
31 ac wedi iddynt ymneilltuo, buont yn ymddiddan �'i gilydd gan ddweud, "Nid yw'r dyn yma yn gwneud dim oll sy'n haeddu marwolaeth na charchar."
31ܘܟܕ ܦܪܩܘ ܡܢ ܬܡܢ ܡܡܠܠܝܢ ܗܘܘ ܚܕ ܥܡ ܚܕ ܘܐܡܪܝܢ ܕܡܕܡ ܕܫܘܐ ܠܡܘܬܐ ܐܘ ܠܐܤܘܪܐ ܠܐ ܥܒܕ ܓܒܪܐ ܗܢܐ ܀
32 Ac meddai Agripa wrth Ffestus, "Gallasai'r dyn yma fod wedi cael ei ollwng yn rhydd, onibai ei fod wedi apelio at Gesar."
32ܘܐܡܪ ܐܓܪܦܘܤ ܠܦܗܤܛܘܤ ܡܫܟܚ ܗܘܐ ܓܒܪܐ ܗܢܐ ܕܢܫܬܪܐ ܐܠܘ ܒܓܢ ܩܤܪ ܠܐ ܩܪܐ ܀