1 Chwi feistri, rhowch i'ch caethweision yr hyn sy'n gyfiawn a theg, gan wybod fod gennych chwithau hefyd Feistr yn y nef.
1ܡܪܝܐ ܥܒܕܘ ܫܘܝܘܬܐ ܘܟܐܢܘܬܐ ܠܘܬ ܥܒܕܝܟܘܢ ܘܗܘܝܬܘܢ ܝܕܥܝܢ ܕܐܦ ܠܟܘܢ ܐܝܬ ܗܘ ܡܪܐ ܒܫܡܝܐ ܀
2 Parhewch i wedd�o yn ddyfal, yn effro, ac yn ddiolchgar.
2ܒܨܠܘܬܐ ܐܬܐܡܢܘ ܘܗܘܝܬܘܢ ܥܝܪܝܢ ܐܢܬܘܢ ܒܗ ܘܡܘܕܝܢ ܀
3 Gwedd�wch yr un pryd drosom ninnau hefyd, ar i Dduw agor inni ddrws i'r gair, inni gael traethu dirgelwch Crist, y dirgelwch yr wyf yn garcharor er ei fwyn.
3ܘܡܨܠܝܢ ܐܦ ܥܠܝܢ ܕܐܠܗܐ ܢܦܬܚ ܠܢ ܬܪܥܐ ܕܡܠܬܐ ܠܡܡܠܠܘ ܐܪܙܐ ܕܡܫܝܚܐ ܕܡܛܠܬܗ ܐܤܝܪ ܐܢܐ ܀
4 Gwedd�wch ar i mi ei amlygu, fel y mae'n ddyletswydd arnaf lefaru.
4ܕܐܓܠܝܘܗܝ ܘܐܡܠܠܝܘܗܝ ܐܝܟܢܐ ܕܘܠܐ ܠܝ ܀
5 Byddwch yn ddoeth eich ymddygiad tuag at y rhai sydd y tu allan; daliwch ar eich cyfle.
5ܒܚܟܡܬܐ ܗܠܟܘ ܠܘܬ ܒܪܝܐ ܘܙܒܢܘ ܩܐܪܤܟܘܢ ܀
6 Bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi ei flasu � halen, ichwi fedru ateb pob un fel y dylid.
6ܘܡܠܬܟܘܢ ܒܟܠܙܒܢ ܒܛܝܒܘܬܐ ܐܝܟ ܕܒܡܠܚܐ ܬܗܘܐ ܡܡܕܟܐ ܘܗܘܝܬܘܢ ܝܕܥܝܢ ܠܐܢܫ ܐܢܫ ܐܝܟܢܐ ܘܠܐ ܠܟܘܢ ܠܡܬܒܘ ܦܬܓܡܐ ܀
7 Fe gewch yr holl hanes amdanaf gan Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon, a'm cydwas yn yr Arglwydd.
7ܡܕܡ ܕܠܘܬܝ ܕܝܢ ܢܘܕܥܟܘܢ ܛܘܟܝܩܘܤ ܐܚܐ ܚܒܝܒܐ ܘܡܫܡܫܢܐ ܡܗܝܡܢܐ ܘܟܢܬܢ ܒܡܪܝܐ ܀
8 Yr wyf yn ei anfon atoch yn unswydd ichwi gael gwybod am ein hynt, ac er mwyn iddo ef eich calonogi.
8ܗܢܐ ܕܫܕܪܬ ܠܘܬܟܘܢ ܥܠܝܗ ܥܠ ܗܕܐ ܕܢܕܥ ܡܐ ܕܠܘܬܟܘܢ ܘܢܒܝܐ ܠܒܘܬܟܘܢ ܀
9 Daw Onesimus gydag ef, y brawd ffyddlon ac annwyl, sy'n un ohonoch chwi. Fe gewch yr holl hanes oddi yma ganddynt hwy.
9ܥܡ ܐܢܤܝܡܘܤ ܐܚܐ ܡܗܝܡܢܐ ܘܚܒܝܒܐ ܗܘ ܕܐܝܬܘܗܝ ܡܢܟܘܢ ܗܢܘܢ ܢܘܕܥܘܢܟܘܢ ܡܕܡ ܕܠܘܬܢ ܀
10 Y mae Aristarchus, fy nghydgarcharor, yn eich cyfarch; a Marc, cefnder Barnabas (cawsoch orchmynion ynglu375?n ag ef: os daw atoch, rhowch groeso iddo);
10ܫܐܠ ܒܫܠܡܟܘܢ ܐܪܤܛܪܟܘܤ ܫܒܝܐ ܕܥܡܝ ܘܡܪܩܘܤ ܒܪ ܕܕܗ ܕܒܪܢܒܐ ܗܘ ܕܐܬܦܩܕܬܘܢ ܥܠܘܗܝ ܕܐܢ ܐܬܐ ܠܘܬܟܘܢ ܬܩܒܠܘܢܝܗܝ ܀
11 a Jesws, a elwir Jwstus. Dyma'r unig gredinwyr Iddewig sy'n cydweithio � mi dros deyrnas Dduw; a buont yn gysur mawr imi.
11ܘܝܫܘܥ ܗܘ ܕܡܬܩܪܐ ܝܘܤܛܘܤ ܗܠܝܢ ܕܐܝܬܝܗܘܢ ܡܢ ܓܙܘܪܬܐ ܘܗܢܘܢ ܒܠܚܘܕ ܥܕܪܘܢܝ ܒܡܠܟܘܬܗ ܕܐܠܗܐ ܘܗܢܘܢ ܗܘܘ ܠܝ ܒܘܝܐܐ ܀
12 Y mae Epaffras, sy'n un ohonoch, caethwas Crist Iesu, yn eich cyfarch. Y mae ef bob amser yn gwedd�o'n daer drosoch chwi, ar ichwi sefyll yn gadarn, yn gredinwyr aeddfed, ac yn gwbl argyhoeddedig ym mhob dim y mae Duw yn ei ewyllysio.
12ܫܐܠ ܒܫܠܡܟܘܢ ܐܦܦܪܐ ܗܘ ܕܡܢܟܘܢ ܥܒܕܐ ܕܡܫܝܚܐ ܟܕ ܒܟܠܙܒܢ ܥܡܠ ܚܠܦܝܟܘܢ ܒܨܠܘܬܐ ܕܬܩܘܡܘܢ ܓܡܝܪܐ ܘܡܫܡܠܝܐ ܒܟܠܗ ܨܒܝܢܗ ܕܐܠܗܐ ܀
13 Yr wyf yn tystio amdano ei fod yn llafurio'n ddygn trosoch chwi, a thros y rhai sydd yn Laodicea ac yn Hierapolis.
13ܤܗܕ ܐܢܐ ܓܝܪ ܥܠܘܗܝ ܕܛܢܢܐ ܤܓܝܐܐ ܐܝܬ ܠܗ ܚܠܦܝܟܘܢ ܘܚܠܦ ܗܢܘܢ ܕܒܠܕܝܩܝܐ ܘܕܒܐܝܪܦܘܠܝܤ ܀
14 Y mae Luc, y meddyg annwyl, a Demas yn eich cyfarch.
14ܫܐܠ ܒܫܠܡܟܘܢ ܠܘܩܐ ܐܤܝܐ ܚܒܝܒܢ ܘܕܡܐ ܀
15 Cyfarchwch y credinwyr yn Laodicea, a Nymffa a'r eglwys sy'n ymgynnull yn ei thu375?.
15ܫܐܠܘ ܒܫܠܡܐ ܕܐܚܐ ܕܒܠܕܝܩܝܐ ܘܕܢܘܡܦܐ ܘܕܥܕܬܐ ܕܒܒܝܬܗ ܀
16 A phan fydd y llythyr hwn wedi ei ddarllen yn eich plith chwi, parwch iddo gael ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid. Yr ydych chwithau hefyd i ddarllen y llythyr o Laodicea.
16ܘܡܐ ܕܐܬܩܪܝܬ ܐܓܪܬܐ ܗܕܐ ܠܘܬܟܘܢ ܥܒܕܘ ܕܐܦ ܒܥܕܬܐ ܕܠܕܝܩܝܐ ܬܬܩܪܐ ܘܗܝ ܕܐܬܟܬܒܬ ܡܢ ܠܕܝܩܝܐ ܩܪܐܘܗ ܐܢܬܘܢ ܀
17 A dywedwch wrth Archipus, "Gofala dy fod yn cyflawni'r gwasanaeth a ymddiriedodd yr Arglwydd iti."
17ܘܐܡܪܘ ܠܐܪܟܝܦܘܤ ܕܐܙܕܗܪ ܒܬܫܡܫܬܐ ܗܝ ܕܩܒܠܬ ܒܡܪܢ ܕܬܗܘܐ ܡܫܡܠܐ ܠܗ ܀
18 Y mae'r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul. Cofiwch fy mod yng ngharchar. Gras fyddo gyda chwi!
18ܫܠܡܐ ܗܢܐ ܒܐܝܕܐ ܕܝܠܝ ܕܦܘܠܘܤ ܗܘܝܬܘܢ ܥܗܕܝܢ ܠܐܤܘܪܝ ܛܝܒܘܬܐ ܥܡܟܘܢ ܐܡܝܢ ܀