1 Bu adeg pan oeddech chwithau yn feirw yn eich camweddau a'ch pechodau.
1ܘܐܦ ܠܟܘܢ ܕܡܝܬܝܢ ܗܘܝܬܘܢ ܒܚܛܗܝܟܘܢ ܘܒܤܟܠܘܬܟܘܢ ܀
2 Yr oeddech yn byw yn �l ffordd y byd hwn, mewn ufudd-dod i dywysog galluoedd yr awyr, yr ysbryd sydd yn awr ar waith yn y rhai sy'n anufudd i Dduw.
2ܒܗܠܝܢ ܕܡܢ ܩܕܝܡ ܗܠܟܬܘܢ ܗܘܝܬܘܢ ܒܗܝܢ ܐܝܟ ܥܠܡܝܘܬܗ ܕܥܠܡܐ ܗܢܐ ܘܐܝܟ ܨܒܝܢܗ ܕܪܝܫ ܫܘܠܛܢܐ ܕܐܐܪ ܘܕܪܘܚܐ ܗܕܐ ܕܡܬܚܦܛܐ ܒܒܢܝܐ ܕܠܐ ܡܬܛܦܝܤܢܘܬܐ ܀
3 Ymhlith y rhai hynny yr oeddem ninnau i gyd unwaith, yn byw yn �l ein chwantau dynol ac yn porthi dymuniadau'r cnawd a'r synhwyrau; yr oeddem wrth natur, fel pawb arall, yn gorwedd dan ddigofaint Duw.
3ܒܗܢܘܢ ܥܒܕܐ ܕܐܦ ܚܢܢ ܐܬܗܦܟܢ ܒܗܘܢ ܡܢ ܩܕܝܡ ܒܪܓܝܓܬܐ ܕܒܤܪܢ ܘܥܒܕܝܢ ܗܘܝܢ ܨܒܝܢܐ ܕܒܤܪܢ ܘܕܬܪܥܝܬܢ ܘܒܢܝܐ ܗܘܝܢ ܕܪܘܓܙܐ ܡܠܝܐܝܬ ܐܝܟ ܫܪܟܐ ܀
4 Ond gan mor gyfoethog yw Duw yn ei drugaredd, a chan fod ei gariad tuag atom mor fawr, fe'n gwnaeth ni,
4ܐܠܗܐ ܕܝܢ ܕܥܬܝܪ ܒܪܚܡܘܗܝ ܡܛܠ ܚܘܒܗ ܤܓܝܐܐ ܕܐܚܒܢ ܀
5 ni oedd yn feirw yn ein camweddau, yn fyw gyda Christ; trwy ras yr ydych wedi eich achub.
5ܟܕ ܡܝܬܝܢ ܗܘܝܢ ܒܚܛܗܝܢ ܐܚܝܢ ܥܡ ܡܫܝܚܐ ܘܒܛܝܒܘܬܗ ܦܪܩܢ ܀
6 Yng Nghrist Iesu, fe'n cyfododd gydag ef a'n gosod i eistedd gydag ef yn y nefolion leoedd,
6ܘܐܩܝܡܢ ܥܡܗ ܘܐܘܬܒܢ ܥܡܗ ܒܫܡܝܐ ܒܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
7 er mwyn dangos, yn yr oesoedd sy'n dod, gyfoeth difesur ei ras trwy ei diriondeb i ni yng Nghrist Iesu.
7ܕܢܚܘܐ ܠܥܠܡܐ ܕܐܬܝܢ ܪܒܘܬܐ ܕܥܘܬܪܐ ܕܛܝܒܘܬܗ ܘܒܤܝܡܘܬܗ ܕܗܘܬ ܥܠܝܢ ܒܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
8 Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw;
8ܒܛܝܒܘܬܗ ܗܘ ܓܝܪ ܐܬܦܪܩܢ ܒܗܝܡܢܘܬܐ ܘܗܕܐ ܠܐ ܗܘܬ ܡܢܟܘܢ ܐܠܐ ܡܘܗܒܬܐ ܗܝ ܕܐܠܗܐ ܀
9 nid yw'n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio.
9ܠܐ ܡܢ ܥܒܕܐ ܕܠܐ ܐܢܫ ܢܫܬܒܗܪ ܀
10 Oherwydd ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i fywyd o weithredoedd da, bywyd y mae Duw wedi ei drefnu inni o'r dechrau.
10ܒܪܝܬܐ ܚܢܢ ܓܝܪ ܕܝܠܗ ܕܐܬܒܪܝܢ ܒܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܠܥܒܕܐ ܛܒܐ ܗܢܘܢ ܕܡܢ ܩܕܝܡ ܛܝܒ ܐܠܗܐ ܕܒܗܘܢ ܢܗܠܟ ܀
11 Gan hynny, chwi oedd gynt yn Genhedloedd o ran y cnawd, chwi sydd yn cael eich galw yn ddienwaededig gan y rhai a elwir yn enwaededig (ar gyfrif gwaith dwylo dynol ar y cnawd),
11ܡܛܠ ܗܕܐ ܗܘܝܬܘܢ ܥܗܕܝܢ ܕܐܢܬܘܢ ܥܡܡܐ ܡܢ ܩܕܝܡ ܕܒܤܪ ܗܘܝܬܘܢ ܘܡܬܩܪܝܢ ܗܘܝܬܘܢ ܥܘܪܠܘܬܐ ܡܢ ܗܝ ܕܡܬܩܪܝܐ ܓܙܘܪܬܐ ܘܐܝܬܝܗ ܥܒܕ ܐܝܕܝܐ ܒܒܤܪܐ ܀
12 chwi, meddaf, cofiwch eich bod yr amser hwnnw heb Grist, yn ddieithriaid i ddinasyddiaeth Israel, yn estroniaid i'r cyfamodau a'u haddewid, heb obaith a heb Dduw yn y byd.
12ܘܐܝܬܝܟܘܢ ܗܘܝܬܘܢ ܒܗܘ ܙܒܢܐ ܕܠܐ ܡܫܝܚܐ ܘܢܘܟܪܝܝܢ ܗܘܝܬܘܢ ܡܢ ܕܘܒܪܐ ܕܐܝܤܪܝܠ ܘܐܟܤܢܝܐ ܗܘ ܠܕܝܬܩܐ ܕܡܘܠܟܢܐ ܘܕܠܐ ܤܒܪ ܗܘܝܬܘܢ ܘܕܠܐ ܐܠܗ ܒܥܠܡܐ ܀
13 Ond yn awr, yng Nghrist Iesu, yr ydych chwi, a fu unwaith ymhell, wedi eich dwyn yn agos trwy waed Crist.
13ܗܫܐ ܕܝܢ ܒܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܐܢܬܘܢ ܕܡܢ ܩܕܝܡ ܪܚܝܩܝܢ ܗܘܝܬܘܢ ܩܪܝܒܐ ܗܘܝܬܘܢ ܒܕܡܗ ܕܡܫܝܚܐ ܀
14 Oherwydd ef yw ein heddwch ni. Gwnaeth y ddau, yr Iddewon a'r Cenhedloedd, yn un, wedi chwalu trwy ei gnawd ei hun y canolfur o elyniaeth oedd yn eu gwahanu.
14ܗܘܝܘ ܓܝܪ ܫܝܢܢ ܗܘ ܕܥܒܕ ܬܪܬܝܗܝܢ ܚܕܐ ܘܫܪܐ ܤܝܓܐ ܕܩܐܡ ܗܘܐ ܒܡܨܥܬܐ ܀
15 Dirymodd y Gyfraith, a'i gorchmynion a'i hordeiniadau. Ac felly, i wneud heddwch, creodd o'r ddau un ddynoliaeth newydd ynddo ef ei hun,
15ܘܒܥܠܕܒܒܘܬܐ ܒܒܤܪܗ ܘܢܡܘܤܐ ܕܦܘܩܕܐ ܒܦܘܩܕܢܘܗܝ ܒܛܠ ܕܠܬܪܝܗܘܢ ܢܒܪܐ ܒܩܢܘܡܗ ܠܚܕ ܒܪܢܫܐ ܚܕܬܐ ܘܥܒܕ ܫܝܢܐ ܀
16 er mwyn cymodi'r ddau � Duw, mewn un corff, trwy'r groes; trwyddi hi fe laddodd yr elyniaeth.
16ܘܪܥܝ ܠܬܪܝܗܘܢ ܒܚܕ ܦܓܪ ܥܡ ܐܠܗܐ ܘܒܙܩܝܦܗ ܩܛܠ ܒܥܠܕܒܒܘܬܐ ܀
17 Fe ddaeth, a phregethu heddwch i chwi y rhai pell, a heddwch hefyd i'r rhai agos.
17ܘܐܬܐ ܤܒܪ ܫܠܡܐ ܠܟܘܢ ܠܪܚܝܩܐ ܘܠܩܪܝܒܐ ܀
18 Oherwydd trwyddo ef y mae gennym ni ein dau ffordd i ddod, mewn un Ysbryd, at y Tad.
18ܡܛܠ ܕܒܗ ܗܘ ܗܘܐ ܠܢ ܩܘܪܒܐ ܠܬܪܝܢ ܒܚܕܐ ܪܘܚ ܠܘܬ ܐܒܐ ܀
19 Felly, nid estroniaid a dieithriaid ydych mwyach, ond cyd-ddinasyddion �'r saint ac aelodau o deulu Duw.
19ܡܟܝܠ ܠܐ ܗܘܝܬܘܢ ܐܟܤܢܝܐ ܘܠܐ ܬܘܬܒܐ ܐܠܐ ܒܢܝ ܡܕܝܢܬܐ ܕܩܕܝܫܐ ܘܒܢܝ ܒܝܬܗ ܕܐܠܗܐ ܀
20 Yr ydych wedi eich adeiladu ar sylfaen yr apostolion a'r proffwydi, a'r conglfaen yw Crist Iesu ei hun.
20ܘܐܬܒܢܝܬܘܢ ܥܠ ܫܬܐܤܬܐ ܕܫܠܝܚܐ ܘܕܢܒܝܐ ܘܗܘ ܗܘܐ ܪܝܫ ܩܪܢܐ ܕܒܢܝܢܐ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
21 Ynddo ef y mae pob rhan a adeiledir yn cyd-gloi yn ei gilydd ac yn codi'n deml sanctaidd yn yr Arglwydd.
21ܘܒܗ ܡܬܪܟܒ ܟܠܗ ܒܢܝܢܐ ܘܪܒܐ ܠܗܝܟܠܐ ܩܕܝܫܐ ܒܡܪܝܐ ܀
22 Ynddo ef yr ydych chwithau hefyd yn cael eich cydadeiladu i fod yn breswylfod i Dduw yn yr Ysbryd.
22ܟܕ ܐܦ ܐܢܬܘܢ ܒܗ ܡܬܒܢܝܢ ܐܢܬܘܢ ܠܡܥܡܪܐ ܕܐܠܗܐ ܒܪܘܚ ܀