1 Wedyn, ymhen pedair blynedd ar ddeg, euthum unwaith eto i fyny i Jerwsalem ynghyd � Barnabas, gan gymryd Titus hefyd gyda mi.
1ܬܘܒ ܕܝܢ ܡܢ ܒܬܪ ܐܪܒܥܤܪܐ ܫܢܝܢ ܤܠܩܬ ܠܐܘܪܫܠܡ ܥܡ ܒܪܢܒܐ ܘܕܒܪܬ ܥܡܝ ܠܛܛܘܤ ܀
2 Euthum i fyny mewn ufudd-dod i ddatguddiad. Gosodais ger eu bron � o'r neilltu, gerbron y rhai a gyfrifir yn arweinwyr � yr Efengyl yr wyf yn ei phregethu ymhlith y Cenhedloedd, rhag ofn fy mod yn rhedeg, neu wedi rhedeg, yn ofer.
2ܤܠܩܬ ܕܝܢ ܒܓܠܝܢܐ ܘܓܠܝܬ ܠܗܘܢ ܤܒܪܬܐ ܕܡܟܪܙ ܐܢܐ ܒܥܡܡܐ ܘܚܘܝܬܗ ܠܐܝܠܝܢ ܕܡܤܬܒܪܝܢ ܗܘܘ ܕܡܕܡ ܐܝܬܝܗܘܢ ܒܝܢܝ ܘܠܗܘܢ ܕܡ ܤܪܝܩܐܝܬ ܪܗܛܬ ܐܘ ܪܗܛ ܐܢܐ ܀
3 Ond ni orfodwyd enwaedu ar fy nghydymaith Titus hyd yn oed, er mai Groegwr ydoedd.
3ܐܦ ܛܛܘܤ ܕܥܡܝ ܕܐܪܡܝܐ ܗܘܐ ܠܐ ܐܬܐܢܤ ܕܢܓܙܘܪ ܀
4 Codwyd y mater o achos y gau gredinwyr, llechgwn a oedd wedi llechian i mewn fel ysbiwyr ar y rhyddid sy'n eiddo i ni yng Nghrist Iesu, gyda'r bwriad o'n caethiwo ni.
4ܡܛܠ ܕܝܢ ܐܚܐ ܕܓܠܐ ܕܥܠܘ ܥܠܝܢ ܕܢܓܫܘܢ ܚܐܪܘܬܐ ܕܐܝܬ ܠܢ ܒܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܐܝܟܢܐ ܕܢܫܥܒܕܘܢܢܝ ܀
5 Ond ni ildiasom iddynt trwy gymryd ein darostwng, naddo, ddim am foment, er mwyn i wirionedd yr Efengyl aros yn ddianaf ar eich cyfer chwi.
5ܐܦܠܐ ܡܠܐ ܫܥܐ ܐܬܪܡܝܢ ܠܫܘܥܒܕܗܘܢ ܕܫܪܪܗ ܕܤܒܪܬܐ ܢܩܘܐ ܠܘܬܟܘܢ ܀
6 Ond am y rhai a gyfrifir yn rhywbeth (nid yw o ddim gwahaniaeth i mi beth oeddent gynt; nid yw Duw yn ystyried safle unrhyw un), nid ychwanegodd yr arweinwyr hyn ddim at yr hyn oedd gennyf.
6ܗܢܘܢ ܕܝܢ ܕܡܤܬܒܪܝܢ ܕܐܝܬܝܗܘܢ ܡܕܡ ܡܢ ܕܝܢ ܐܝܬܝܗܘܢ ܠܐ ܒܛܝܠ ܠܝ ܐܠܗܐ ܓܝܪ ܒܐܦܝ ܒܢܝܢܫܐ ܠܐ ܢܤܒ ܗܢܘܢ ܕܝܢ ܗܠܝܢ ܡܕܡ ܠܐ ܐܘܤܦܘ ܠܝ ܀
7 I'r gwrthwyneb, fe welsant fod yr Efengyl ar gyfer y Cenhedloedd wedi ei hymddiried i mi, yn union fel yr oedd yr Efengyl ar gyfer yr Iddewon wedi ei hymddiried i Pedr.
7ܐܠܐ ܐܚܪܢܝܐܝܬ ܚܙܘ ܓܝܪ ܕܐܬܗܝܡܢܬ ܤܒܪܬܐ ܕܥܘܪܠܘܬܐ ܐܝܟ ܕܐܬܗܝܡܢ ܟܐܦܐ ܒܓܙܘܪܬܐ ܀
8 Oherwydd yr un a weithiodd yn Pedr i'w wneud yn apostol i'r Iddewon, a weithiodd ynof finnau i'm gwneud yn apostol i'r Cenhedloedd.
8ܗܘ ܓܝܪ ܕܚܦܛ ܠܟܐܦܐ ܒܫܠܝܚܘܬܐ ܕܓܙܘܪܬܐ ܚܦܛ ܐܦ ܠܝ ܒܫܠܝܚܘܬܐ ܕܥܡܡܐ ܀
9 A dyma Iago a Ceffas ac Ioan, y gwu375?r a gyfrifir yn golofnau, yn cydnabod y gras oedd wedi ei roi i mi, ac yn estyn i Barnabas a minnau ddeheulaw cymdeithas, ac yn cytuno ein bod ni i fynd at y Cenhedloedd a hwythau at yr Iddewon.
9ܘܟܕ ܝܕܥܘ ܛܝܒܘܬܐ ܕܐܬܝܗܒܬ ܠܝ ܝܥܩܘܒ ܘܟܐܦܐ ܘܝܘܚܢܢ ܗܢܘܢ ܕܡܤܬܒܪܝܢ ܗܘܘ ܕܐܝܬܝܗܘܢ ܥܡܘܕܐ ܝܡܝܢܐ ܕܫܘܬܦܘܬܐ ܝܗܒܘ ܠܝ ܘܠܒܪܢܒܐ ܕܚܢܢ ܒܥܡܡܐ ܘܗܢܘܢ ܒܓܙܘܪܬܐ ܀
10 Eu hunig gais oedd ein bod i gofio'r tlodion; a dyna'r union beth yr oeddwn wedi ymroi i'w wneud.
10ܒܠܚܘܕ ܕܠܡܤܟܢܐ ܗܘܝܢ ܥܗܕܝܢܢ ܘܐܬܒܛܠ ܠܝ ܕܗܝ ܗܕܐ ܐܥܒܕܝܗ ܀
11 Ond pan ddaeth Ceffas i Antiochia, fe'i gwrthwynebais yn ei wyneb, gan ei fod yn amlwg ar fai.
11ܟܕ ܐܬܐ ܕܝܢ ܟܐܦܐ ܠܐܢܛܝܘܟܝ ܒܐܦܘܗܝ ܐܟܤܬܗ ܡܛܠ ܕܡܬܬܩܠܝܢ ܗܘܘ ܒܗ ܀
12 Oherwydd, cyn i rywrai ddod yno oddi wrth Iago, byddai ef yn arfer cydfwyta gyda'r Cristionogion cenhedlig, ond wedi iddynt ddod, dechreuodd gadw'n �l ac ymbellhau, am ei fod yn ofni plaid yr enwaediad.
12ܕܥܕܠܐ ܢܐܬܘܢ ܐܢܫܐ ܡܢ ܠܘܬ ܝܥܩܘܒ ܥܡ ܥܡܡܐ ܐܟܠ ܗܘܐ ܟܕ ܐܬܘ ܕܝܢ ܢܓܕ ܗܘܐ ܢܦܫܗ ܘܦܪܫ ܡܛܠ ܕܕܚܠ ܗܘܐ ܡܢ ܗܢܘܢ ܕܡܢ ܓܙܘܪܬܐ ܀
13 Ymunodd yr Iddewon eraill hefyd yn ei ragrith, nes ysgubo Barnabas yntau i ragrithio gyda hwy.
13ܘܐܬܪܡܝܘ ܗܘܘ ܥܡܗ ܠܗܕܐ ܐܦ ܫܪܟܐ ܕܝܗܘܕܝܐ ܗܟܢܐ ܕܐܦ ܒܪܢܒܐ ܐܬܕܒܪ ܗܘܐ ܠܡܤܒ ܒܐܦܝܗܘܢ ܀
14 Ond pan welais nad oeddent yn cadw at lwybr gwirionedd yr Efengyl, dywedais wrth Ceffas yng ngu373?ydd pawb, "Os wyt ti, er dy fod yn Iddew, yn byw nid fel Iddew ond fel Cenedl-ddyn, pa hawl sydd gennyt ti i orfodi'r Cenhedloedd i fyw fel Iddewon?"
14ܘܟܕ ܚܙܝܬ ܕܠܐ ܐܙܠܝܢ ܬܪܝܨܐܝܬ ܒܫܪܪܗ ܕܐܘܢܓܠܝܘܢ ܐܡܪܬ ܠܟܐܦܐ ܠܥܝܢ ܟܠܗܘܢ ܐܢ ܐܢܬ ܕܝܗܘܕܝܐ ܐܢܬ ܐܪܡܐܝܬ ܚܝܐ ܐܢܬ ܘܠܐ ܝܗܘܕܐܝܬ ܐܝܟܢܐ ܐܠܨ ܐܢܬ ܠܥܡܡܐ ܕܝܗܘܕܐܝܬ ܢܚܘܢ ܀
15 Yr ydym ni wedi'n geni yn Iddewon, nid yn bechaduriaid o'r Cenhedloedd.
15ܚܢܢ ܓܝܪ ܕܡܢ ܟܝܢܢ ܝܗܘܕܝܐ ܚܢܢ ܘܠܐ ܗܘܝܢ ܡܢ ܥܡܡܐ ܚܛܝܐ ܀
16 Ac eto fe wyddom na chaiff neb ei gyfiawnhau ond trwy ffydd yn Iesu Grist, nid trwy gadw gofynion cyfraith. Felly fe gredasom ninnau yng Nghrist Iesu er mwyn ein cyfiawnhau, nid trwy gadw gofynion cyfraith, ond trwy ffydd yng Nghrist, oherwydd ni chaiff neb meidrol ei gyfiawnhau trwy gadw gofynion cyfraith.
16ܡܛܠ ܕܝܕܥܝܢܢ ܕܠܐ ܡܙܕܕܩ ܒܪܢܫܐ ܡܢ ܥܒܕܐ ܕܢܡܘܤܐ ܐܠܐ ܒܗܝܡܢܘܬܐ ܕܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܐܦ ܚܢܢ ܒܗ ܒܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܗܝܡܢܢ ܕܡܢ ܗܝܡܢܘܬܗ ܕܡܫܝܚܐ ܢܙܕܕܩ ܘܠܐ ܡܢ ܥܒܕܐ ܕܢܡܘܤܐ ܡܛܠ ܕܡܢ ܥܒܕܐ ܕܢܡܘܤܐ ܠܐ ܡܙܕܕܩ ܟܠ ܒܤܪ ܀
17 Ond os, wrth geisio cael ein cyfiawnhau yng Nghrist, cafwyd ninnau hefyd yn bechaduriaid, a yw hynny'n golygu bod Crist yn was pechod? Nac ydyw, ddim o gwbl!
17ܐܢ ܕܝܢ ܟܕ ܒܥܝܢܢ ܕܢܙܕܕܩ ܒܡܫܝܚܐ ܐܫܬܟܚܢ ܠܢ ܐܦ ܚܢܢ ܚܛܝܐ ܡܕܝܢ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܡܫܡܫܢܐ ܗܘ ܕܚܛܝܬܐ ܚܤ ܀
18 Oherwydd os wyf yn adeiladu drachefn y pethau a dynnais i lawr, yr wyf yn fy mhrofi fy hun yn droseddwr.
18ܐܢ ܓܝܪ ܠܐܝܠܝܢ ܕܤܬܪܬ ܬܘܒ ܠܗܝܢ ܒܢܐ ܐܢܐ ܚܘܝܬ ܥܠ ܢܦܫܝ ܕܥܒܪ ܥܠ ܦܘܩܕܢܐ ܐܢܐ ܀
19 Oherwydd trwy gyfraith b�m farw i gyfraith, er mwyn byw i Dduw.
19ܐܢܐ ܓܝܪ ܒܢܡܘܤܐ ܠܢܡܘܤܐ ܡܝܬܬ ܕܠܐܠܗܐ ܐܚܐ ܀
20 Yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ; a mwyach, nid myfi sy'n byw, ond Crist sy'n byw ynof fi. A'r bywyd yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw trwy ffydd yr wyf, ffydd ym Mab Duw, yr hwn a'm carodd i ac a'i rhoes ei hun i farw trosof fi.
20ܘܥܡ ܡܫܝܚܐ ܙܩܝܦ ܐܢܐ ܘܡܟܝܠ ܠܐ ܗܘܐ ܐܢܐ ܚܝ ܐܢܐ ܐܠܐ ܚܝ ܒܝ ܡܫܝܚܐ ܘܗܢܐ ܕܗܫܐ ܚܝ ܐܢܐ ܒܒܤܪ ܒܗܝܡܢܘܬܐ ܗܘ ܕܒܪܗ ܕܐܠܗܐ ܚܝ ܐܢܐ ܗܘ ܕܐܚܒܢ ܘܝܗܒ ܢܦܫܗ ܚܠܦܝܢ ܀
21 Nid wyf am ddirymu gras Duw; oherwydd os trwy gyfraith y daw cyfiawnder, yna bu Crist farw yn ddiachos.
21ܠܐ ܛܠܡ ܐܢܐ ܛܝܒܘܬܗ ܕܐܠܗܐ ܐܢ ܓܝܪ ܒܝܕ ܢܡܘܤܐ ܗܝ ܙܕܝܩܘܬܐ ܡܫܝܚܐ ܡܓܢ ܡܝܬ ܀