1 Dyma yr wyf yn ei olygu: cyhyd ag y mae'r etifedd dan oed, nid oes dim gwahaniaeth rhyngddo a chaethwas, er ei fod yn berchennog ar y stad i gyd.
1ܐܡܪ ܐܢܐ ܕܝܢ ܕܟܡܐ ܙܒܢܐ ܕܝܪܬܐ ܛܠܐ ܠܐ ܦܪܝܫ ܡܢ ܥܒܕܐ ܟܕ ܡܪܐ ܗܘ ܕܟܠܗܘܢ ܀
2 Y mae dan geidwaid a goruchwylwyr hyd y dyddiad a benodwyd gan ei dad.
2ܐܠܐ ܬܚܝܬ ܐܦܛܪܘܦܐ ܐܝܬܘܗܝ ܘܪܒܝ ܒܬܐ ܥܕܡܐ ܠܙܒܢܐ ܕܤܡ ܐܒܘܗܝ ܀
3 Felly ninnau, pan oeddem dan oed, yr oeddem wedi ein caethiwo dan ysbrydion elfennig y cyfanfyd.
3ܗܟܢܐ ܐܦ ܚܢܢ ܟܕ ܝܠܘܕܐ ܗܘܝܢ ܬܚܝܬ ܐܤܛܘܟܤܘܗܝ ܕܥܠܡܐ ܡܫܥܒܕܝܢ ܗܘܝܢ ܀
4 Ond pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith,
4ܟܕ ܡܛܐ ܕܝܢ ܫܘܠܡܗ ܕܙܒܢܐ ܫܕܪ ܐܠܗܐ ܠܒܪܗ ܘܗܘܐ ܡܢ ܐܢܬܬܐ ܘܗܘܐ ܬܚܝܬ ܢܡܘܤܐ ܀
5 i brynu rhyddid i'r rhai oedd dan y Gyfraith, er mwyn i ni gael braint mabwysiad.
5ܕܠܐܝܠܝܢ ܕܬܚܝܬ ܢܡܘܤܐ ܐܢܘܢ ܢܙܒܢ ܘܢܩܒܠ ܤܝܡܬ ܒܢܝܐ ܀
6 A chan eich bod yn blant, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau, yn llefain, "Abba! Dad!"
6ܘܕܐܝܬܝܟܘܢ ܕܝܢ ܒܢܝܐ ܫܕܪ ܐܠܗܐ ܪܘܚܐ ܕܒܪܗ ܠܠܒܘܬܟܘܢ ܗܝ ܕܩܪܝܐ ܐܒܐ ܐܒܘܢ ܀
7 Felly, nid caethwas wyt ti bellach, ond plentyn; ac os plentyn, yna etifedd, trwy weithred Duw.
7ܡܟܝܠ ܠܐ ܗܘܝܬܘܢ ܥܒܕܐ ܐܠܐ ܒܢܝܐ ܘܐܢ ܒܢܝܐ ܐܦ ܝܪܬܐ ܕܐܠܗܐ ܒܝܕ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
8 Gynt, yn wir, a chwithau heb adnabod Duw, caethweision oeddech i fodau nad ydynt o ran eu natur yn dduwiau.
8ܗܝܕܝܢ ܓܝܪ ܟܕ ܠܐ ܝܕܥܝܢ ܗܘܝܬܘܢ ܠܐܠܗܐ ܦܠܚܬܘܢ ܠܗܢܘܢ ܕܡܢ ܟܝܢܗܘܢ ܠܐ ܗܘܘ ܐܠܗܐ ܀
9 Ond yn awr, a chwithau wedi adnabod Duw, neu yn hytrach, wedi eich adnabod gan Dduw, sut y gallwch droi yn �l at yr ysbrydion elfennig llesg a thlawd, a mynnu mynd yn gaethweision iddynt hwy unwaith eto?
9ܗܫܐ ܕܝܢ ܕܝܕܥܬܘܢ ܠܐܠܗܐ ܘܝܬܝܪܐܝܬ ܕܐܬܝܕܥܬܘܢ ܡܢ ܐܠܗܐ ܬܘܒ ܗܦܟܬܘܢ ܠܟܘܢ ܥܠ ܗܢܘܢ ܐܤܛܘܟܤܐ ܡܪܥܐ ܘܡܤܟܢܐ ܘܡܢ ܕܪܝܫ ܨܒܝܬܘܢ ܠܡܫܬܥܒܕܘ ܠܗܘܢ ܀
10 Cadw dyddiau, a misoedd, a thymhorau, a blynyddoedd, yr ydych.
10ܝܘܡܐ ܘܝܪܚܐ ܘܙܒܢܐ ܘܫܢܝܐ ܢܛܪܝܬܘܢ ܀
11 Y mae arnaf ofn mai yn ofer yr wyf wedi llafurio ar eich rhan.
11ܕܚܠ ܐܢܐ ܕܠܡܐ ܤܪܝܩܐܝܬ ܠܐܝܬ ܒܟܘܢ ܀
12 Rwy'n ymbil arnoch, gyfeillion, byddwch fel yr wyf fi, oherwydd fe f�m i, yn wir, fel yr oeddech chwi. Ni wnaethoch ddim cam � mi.
12ܗܘܘ ܐܟܘܬܝ ܡܛܠ ܕܐܦ ܐܢܐ ܐܟܘܬܟܘܢ ܗܘܝܬ ܐܚܝ ܒܥܐ ܐܢܐ ܡܢܟܘܢ ܠܐ ܡܕܡ ܐܤܟܠܬܘܢ ܒܝ ܀
13 Fel y gwyddoch, ar achlysur gwendid corfforol y pregethais yr Efengyl i chwi y tro cyntaf;
13ܝܕܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܓܝܪ ܕܒܟܪܝܗܘܬ ܒܤܪܝ ܤܒܪܬܟܘܢ ܗܘܝܬ ܡܢ ܩܕܝܡ ܀
14 ac er i gyflwr fy nghorff fod yn demtasiwn i chwi, ni fuoch na dibris na dirmygus ohonof, ond fy nerbyn a wnaethoch fel angel Duw, fel Crist Iesu ei hun.
14ܘܢܤܝܘܢܐ ܕܒܤܪܝ ܠܐ ܫܛܬܘܢ ܘܠܐ ܢܕܬܘܢ ܐܠܐ ܐܝܟ ܕܠܡܠܐܟܐ ܕܐܠܗܐ ܩܒܠܬܘܢܢܝ ܘܐܝܟ ܕܠܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
15 Ble'r aeth eich llawenydd? Oherwydd gallaf dystio amdanoch, y buasech wedi tynnu'ch llygaid allan a'u rhoi i mi, petasai hynny'n bosibl.
15ܐܝܟܘ ܗܟܝܠ ܛܘܒܟܘܢ ܤܗܕ ܐܢܐ ܓܝܪ ܥܠܝܟܘܢ ܕܐܠܘ ܡܫܟܚܐ ܗܘܬ ܥܝܢܝܟܘܢ ܚܨܝܢ ܗܘܝܬܘܢ ܘܝܗܒܝܢ ܠܝ ܀
16 A wyf fi, felly, wedi mynd yn elyn ichwi, am imi ddweud y gwir wrthych?
16ܕܠܡܐ ܒܥܠܕܒܒܐ ܗܘܝܬ ܠܟܘܢ ܕܐܟܪܙܬ ܠܟܘܢ ܫܪܪܐ ܀
17 Y mae yna bobl sy'n rhoi sylw mawr ichwi, ond nid er eich lles; ceisio eich cau chwi allan y maent, er mwyn i chwi roi sylw iddynt hwy.
17ܚܤܡܝܢ ܒܟܘܢ ܠܐ ܗܘܐ ܠܫܦܝܪܬܐ ܐܠܐ ܠܡܚܒܫܟܘܢ ܗܘ ܨܒܝܢ ܕܐܢܬܘܢ ܬܗܘܘܢ ܚܤܡܝܢ ܒܗܘܢ ܀
18 Peth da bob amser yw ichwi gael sylw, pan fydd hynny er lles, ac nid yn unig pan fyddaf fi'n bresennol gyda chwi.
18ܫܦܝܪ ܗܘ ܕܝܢ ܕܬܬܚܤܡܘܢ ܒܫܦܝܪܬܐ ܒܟܠܙܒܢ ܘܠܐ ܐܡܬܝ ܕܠܘܬܟܘܢ ܐܢܐ ܒܠܚܘܕ ܀
19 Fy mhlant bach, yr wyf unwaith eto mewn gwewyr esgor arnoch, hyd nes y ceir ffurf Crist ynoch.
19ܒܢܝ ܐܝܠܝܢ ܕܡܢ ܕܪܝܫ ܡܚܒܠ ܐܢܐ ܥܕܡܐ ܕܢܬܬܨܝܪ ܒܟܘܢ ܡܫܝܚܐ ܀
20 Byddai'n dda gennyf fod gyda chwi yn awr, a gostegu fy llais, oherwydd yr wyf mewn penbleth yn eich cylch.
20ܨܒܐ ܗܘܝܬ ܕܝܢ ܕܐܗܘܐ ܠܘܬܟܘܢ ܗܫܐ ܘܐܫܚܠܦ ܒܪܬ ܩܠܝ ܡܛܠ ܕܬܡܝܗ ܐܢܐ ܒܟܘܢ ܀
21 Dywedwch i mi, chwi sy'n mynnu bod dan gyfraith, oni wrandewch ar y Gyfraith?
21ܐܡܪܘ ܠܝ ܐܢܬܘܢ ܐܝܠܝܢ ܕܨܒܝܢ ܕܢܗܘܘܢ ܬܚܝܬ ܢܡܘܤܐ ܠܗ ܠܢܡܘܤܐ ܠܐ ܫܡܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܀
22 Y mae'n ysgrifenedig i Abraham gael dau fab, un o'i gaethferch ac un o'i wraig rydd.
22ܟܬܝܒ ܓܝܪ ܕܠܐܒܪܗܡ ܬܪܝܢ ܒܢܝܢ ܗܘܘ ܠܗ ܚܕ ܡܢ ܐܡܬܐ ܘܚܕ ܡܢ ܚܐܪܬܐ ܀
23 Ganwyd mab y gaethferch yn �l greddfau'r cnawd, ond ganwyd mab y wraig rydd trwy addewid Duw.
23ܐܠܐ ܗܘ ܕܡܢ ܐܡܬܐ ܒܒܤܪ ܐܬܝܠܕ ܗܘ ܕܝܢ ܕܡܢ ܚܐܪܬܐ ܒܡܘܠܟܢܐ ܗܘܐ ܀
24 Alegori yw hyn oll. Y mae'r gwragedd yn cynrychioli dau gyfamod. Y mae un o Fynydd Sinai, yn geni plant i gaethiwed.
24ܗܠܝܢ ܕܝܢ ܐܝܬܝܗܝܢ ܦܠܐܬܐ ܕܬܪܬܝܢ ܕܝܬܩܤ ܚܕܐ ܕܡܢ ܛܘܪ ܤܝܢܝ ܝܠܕܐ ܠܥܒܕܘܬܐ ܕܐܝܬܝܗ ܗܓܪ ܀
25 Hagar yw hon; y mae Hagar yn cynrychioli Mynydd Sinai yn Arabia, ac y mae'n cyfateb i'r Jerwsalem sydd yn awr, oherwydd y mae hi, ynghyd �'i phlant, mewn caethiwed.
25ܗܓܪ ܓܝܪ ܛܘܪܐ ܗܘ ܕܤܝܢܝ ܕܒܐܪܒܝܐ ܘܫܠܡܐ ܠܗܕܐ ܐܘܪܫܠܡ ܘܦܠܚܐ ܥܒܕܘܬܐ ܗܝ ܘܒܢܝܗ ܀
26 Ond y mae'r Jerwsalem sydd fry yn rhydd, a hi yw ein mam ni.
26ܗܝ ܕܝܢ ܐܘܪܫܠܡ ܥܠܝܬܐ ܚܐܪܬܐ ܗܝ ܕܐܝܬܝܗ ܐܡܢ ܀
27 Oherwydd y mae'n ysgrifenedig: "Llawenha, y wraig ddiffrwyth nad wyt yn dwyn plant; bloeddia ganu, y wraig nad wyt fyth mewn gwewyr esgor; oherwydd y mae plant y wraig ddiymgeledd yn lluosocach na phlant y wraig sydd � gu373?r ganddi."
27ܟܬܝܒ ܓܝܪ ܕܐܬܒܤܡܝ ܥܩܪܬܐ ܗܝ ܕܠܐ ܝܠܕܐ ܘܐܬܦܨܚܝ ܘܓܥܝ ܗܝ ܕܠܐ ܡܚܒܠܐ ܡܛܠ ܕܤܓܝܘ ܒܢܝܗ ܕܨܕܝܬܐ ܝܬܝܪ ܡܢ ܒܢܝܗ ܕܒܥܝܠܬܐ ܀
28 Ond yr ydych chwi, gyfeillion, fel Isaac, yn blant addewid Duw.
28ܚܢܢ ܕܝܢ ܐܚܝ ܐܝܟ ܐܝܤܚܩ ܒܢܝ ܡܘܠܟܢܐ ܚܢܢ ܀
29 Ond fel yr oedd plentyn y cnawd gynt yn erlid plentyn yr Ysbryd, felly y mae yn awr hefyd.
29ܘܐܝܟ ܕܗܝܕܝܢ ܗܘ ܕܝܠܝܕ ܗܘܐ ܒܒܤܪܐ ܪܕܦ ܗܘܐ ܠܗܘ ܕܒܪܘܚܐ ܗܟܢܐ ܐܦ ܗܫܐ ܀
30 Ond beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud? "Gyrr allan y gaethferch a'i mab, oherwydd ni chaiff mab y gaethferch fyth gydetifeddu � mab y wraig rydd."
30ܐܠܐ ܡܢܐ ܐܡܪ ܟܬܒܐ ܐܦܩܝܗ ܠܐܡܬܐ ܘܠܒܪܗ ܡܛܠ ܕܠܐ ܢܐܪܬ ܒܪܗ ܕܐܡܬܐ ܥܡ ܒܪܗ ܕܚܐܪܬܐ ܀
31 Gan hynny, gyfeillion, nid plant i'r gaethferch ydym ni, ond plant i'r wraig rydd.
31ܚܢܢ ܗܟܝܠ ܐܚܝ ܠܐ ܗܘܝܢ ܒܢܝ ܐܡܬܐ ܐܠܐ ܒܢܝ ܚܐܪܬܐ ܀