1 Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth yr hynafiaid trwy'r proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab.
1ܒܟܠ ܡܢܘܢ ܘܒܟܠ ܕܡܘܢ ܡܠܠ ܐܠܗܐ ܥܡ ܐܒܗܝܢ ܒܢܒܝܐ ܡܢ ܩܕܝܡ ܀
2 Hwn yw'r un a benododd Duw yn etifedd pob peth, a'r un y gwnaeth y bydysawd drwyddo.
2ܘܒܗܠܝܢ ܝܘܡܬܐ ܐܚܪܝܐ ܡܠܠ ܥܡܢ ܒܒܪܗ ܕܠܗ ܤܡ ܝܪܬܐ ܕܟܠܡܕܡ ܘܒܗ ܥܒܕ ܠܥܠܡܐ ܀
3 Ef yw disgleirdeb gogoniant Duw, ac y mae stamp ei sylwedd ef arno; ac y mae'n cynnal pob peth �'i air nerthol. Ar �l iddo gyflawni puredigaeth pechodau, eisteddodd ar ddeheulaw'r Mawrhydi yn yr uchelder,
3ܕܗܘܝܘ ܨܡܚܐ ܕܫܘܒܚܗ ܘܨܠܡܐ ܕܐܝܬܘܬܗ ܘܐܚܝܕ ܟܠ ܒܚܝܠܐ ܕܡܠܬܗ ܘܗܘ ܒܩܢܘܡܗ ܥܒܕ ܕܘܟܝܐ ܕܚܛܗܝܢ ܘܝܬܒ ܥܠ ܝܡܝܢܐ ܕܪܒܘܬܐ ܒܡܪܘܡܐ ܀
4 wedi dyfod gymaint yn uwch na'r angylion ag y mae'r enw a etifeddodd yn rhagorach na'r eiddynt hwy.
4ܘܗܢܐ ܟܠܗ ܝܪܒ ܡܢ ܡܠܐܟܐ ܐܝܟ ܡܐ ܕܡܝܬܪ ܫܡܐ ܕܝܪܬ ܡܢ ܕܝܠܗܘܢ ܀
5 Oherwydd wrth bwy o'r angylion y dywedodd Duw erioed: "Fy Mab wyt ti, myfi a'th genhedlodd di heddiw"? Ac eto: "Byddaf fi yn dad iddo ef, a bydd yntau yn fab i mi."
5ܠܐܝܢܐ ܓܝܪ ܡܢ ܡܠܐܟܐ ܡܡܬܘܡ ܐܡܪ ܐܠܗܐ ܕܒܪܝ ܐܢܬ ܐܢܐ ܝܘܡܢܐ ܝܠܕܬܟ ܘܬܘܒ ܕܐܢܐ ܐܗܘܐ ܠܗ ܠܐܒܐ ܘܗܘ ܢܗܘܐ ܠܝ ܠܒܪܐ ܀
6 A thrachefn, pan yw'n dod �'i gyntafanedig i mewn i'r byd, y mae'n dweud: "A bydded i holl angylion Duw ei addoli."
6ܬܘܒ ܕܝܢ ܐܡܬܝ ܕܡܥܠ ܒܘܟܪܐ ܠܥܠܡܐ ܐܡܪ ܕܠܗ ܢܤܓܕܘܢ ܟܠܗܘܢ ܡܠܐܟܐ ܕܐܠܗܐ ܀
7 Am yr angylion y mae'n dweud: "Yr hwn sy'n gwneud ei angylion yn wyntoedd, a'i weinidogion yn fflam d�n";
7ܥܠ ܡܠܐܟܐ ܕܝܢ ܗܟܢܐ ܐܡܪ ܕܥܒܕ ܡܠܐܟܘܗܝ ܪܘܚ ܘܡܫܡܫܢܘܗܝ ܢܘܪ ܝܩܕܐ ܀
8 ond am y Mab: "Y mae dy orsedd di, O Dduw, yn dragwyddol, a gwialen dy deyrnas di yw gwialen uniondeb.
8ܥܠ ܒܪܐ ܕܝܢ ܐܡܪ ܕܟܘܪܤܝܟ ܕܝܠܟ ܐܠܗܐ ܠܥܠܡ ܥܠܡܝܢ ܫܒܛܐ ܦܫܝܛܐ ܫܒܛܐ ܕܡܠܟܘܬܟ ܀
9 Ceraist gyfiawnder a chas�u anghyfraith. Am hynny, O Dduw, y mae dy Dduw di wedi dy eneinio ag olew gorfoledd, uwchlaw dy gymheiriaid."
9ܪܚܡܬ ܟܐܢܘܬܐ ܘܤܢܝܬ ܥܘܠܐ ܡܛܠ ܗܢܐ ܡܫܚܟ ܐܠܗܐ ܐܠܗܟ ܡܫܚܐ ܕܚܕܘܬܐ ܝܬܝܪ ܡܢ ܚܒܪܝܟ ܀
10 Y mae hefyd yn dweud: "Ti, yn y dechrau, Arglwydd, a osodaist sylfeini'r ddaear, a gwaith dy ddwylo di yw'r nefoedd.
10ܘܬܘܒ ܐܢܬ ܡܢ ܒܪܝܫܝܬ ܤܡܬ ܫܬܐܤܝܗ ܕܐܪܥܐ ܘܫܡܝܐ ܥܒܕ ܐܝܕܝܟ ܐܢܘܢ ܀
11 Fe ddarfyddant hwy, ond yr wyt ti'n aros; �nt hwy i gyd yn hen fel dilledyn;
11ܗܢܘܢ ܢܥܒܪܘܢ ܘܐܢܬ ܩܝܡ ܐܢܬ ܘܟܠܗܘܢ ܐܝܟ ܢܚܬܐ ܢܒܠܘܢ ܀
12 plygi hwy fel plygu mantell, a newidir hwy fel newid dilledyn; ond tydi, yr un ydwyt, ac ar dy flynyddoedd ni bydd diwedd."
12ܘܐܝܟ ܬܟܤܝܬܐ ܬܥܘܦ ܐܢܘܢ ܗܢܘܢ ܢܬܚܠܦܘܢ ܘܐܢܬ ܐܝܟ ܕܐܝܬܝܟ ܐܢܬ ܘܫܢܝܟ ܠܐ ܢܓܡܪܢ ܀
13 Wrth bwy o'r angylion y dywedodd ef erioed: "Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed"?
13ܠܡܢ ܕܝܢ ܡܢ ܡܠܐܟܐ ܡܡܬܘܡ ܐܡܪ ܕܬܒ ܡܢ ܝܡܝܢܝ ܥܕܡܐ ܕܐܤܝܡ ܒܥܠܕܒܒܝܟ ܟܘܒܫܐ ܬܚܝܬ ܪܓܠܝܟ ܀
14 Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt oll, yn cael eu hanfon i weini, er mwyn y rhai sydd i etifeddu iachawdwriaeth?
14ܠܐ ܗܐ ܟܠܗܘܢ ܐܝܬܝܗܘܢ ܪܘܚܐ ܕܬܫܡܫܬܐ ܕܡܫܬܕܪܝܢ ܒܬܫܡܫܬܐ ܡܛܠ ܐܝܠܝܢ ܕܥܬܝܕܝܢ ܠܡܐܪܬ ܚܝܐ ܀