Welsh

Syriac: NT

Hebrews

13

1 Bydded i frawdgarwch barhau.
1ܚܘܒܐ ܕܐܚܐ ܢܟܬܪ ܒܟܘܢ ܀
2 Peidiwch ag anghofio lletygarwch, oherwydd trwyddo y mae rhai, heb wybod hynny, wedi rhoi llety i angylion.
2ܘܪܚܡܬܐ ܕܐܟܤܢܝܐ ܠܐ ܬܛܥܘܢ ܒܗܕܐ ܓܝܪ ܫܘܘ ܐܢܫܐ ܕܟܕ ܠܐ ܪܓܝܫܝܢ ܢܩܒܠܘܢ ܡܠܐܟܐ ܀
3 Cofiwch y carcharorion, fel pe byddech yn y carchar gyda hwy; a'r rhai a gamdrinnir, fel pobl sydd � chyrff gennych eich hunain.
3ܥܗܕܘ ܠܐܝܠܝܢ ܕܐܤܝܪܝܢ ܐܝܟ ܗܘ ܕܥܡܗܘܢ ܐܤܝܪܝܢ ܐܢܬܘܢ ܐܬܕܟܪܘ ܠܐܝܠܝܢ ܕܐܠܝܨܝܢ ܐܝܟ ܐܢܫܐ ܕܒܤܪܐ ܠܒܝܫܝܢ ܐܢܬܘܢ ܀
4 Bydded priodas mewn parch gan bawb, a'r gwely yn ddihalog; oherwydd bydd Duw yn barnu puteinwyr a godinebwyr.
4ܡܝܩܪ ܗܘ ܙܘܘܓܐ ܒܟܠ ܘܥܪܤܗܘܢ ܕܟܝܐ ܗܝ ܠܙܢܝܐ ܕܝܢ ܘܠܓܝܪܐ ܕܐܢ ܐܠܗܐ ܀
5 Byddwch yn ddiariangar yn eich dull o fyw; byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Oherwydd y mae ef wedi dweud, "Ni'th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim."
5ܠܐ ܗܘܐ ܪܚܡ ܟܤܦܐ ܪܥܝܢܟܘܢ ܐܠܐ ܢܤܦܩ ܠܟܘܢ ܡܕܡ ܕܐܝܬ ܠܟܘܢ ܗܘ ܓܝܪ ܡܪܝܐ ܐܡܪ ܕܠܐ ܐܫܒܩܟ ܘܠܐ ܐܪܦܐ ܒܟ ܐܝܕܝܐ ܀
6 Am hynny dywedwn ninnau'n hyderus: "Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr, ac nid ofnaf; beth a wna pobl i mi?"
6ܘܐܝܬ ܠܢ ܕܢܐܡܪ ܬܟܝܠܐܝܬ ܡܪܝ ܡܥܕܪܢܝ ܠܐ ܐܕܚܠ ܡܢܐ ܥܒܕ ܠܝ ܒܪܢܫܐ ܀
7 Cadwch mewn cof eich arweinwyr, y rhai a lefarodd air Duw wrthych; myfyriwch ar ganlyniad eu buchedd, ac efelychwch eu ffydd.
7ܗܘܝܬܘܢ ܥܗܕܝܢ ܠܡܕܒܪܢܝܟܘܢ ܐܝܠܝܢ ܕܡܠܠܘ ܥܡܟܘܢ ܡܠܬܐ ܕܐܠܗܐ ܐܬܒܩܘ ܒܫܘܠܡܐ ܕܕܘܒܪܝܗܘܢ ܘܡܪܘ ܒܗܝܡܢܘܬܗܘܢ ܀
8 Iesu Grist, yr un ydyw ddoe a heddiw ac am byth.
8ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܐܬܡܠܝ ܘܝܘܡܢܐ ܗܘܝܘ ܘܠܥܠܡ ܀
9 Peidiwch � chymryd eich camarwain gan athrawiaethau amrywiol a dieithr; oherwydd da yw i'r galon gael ei chadarnhau gan ras, ac nid gan fwydydd na fuont o unrhyw les i'r rhai oedd yn ymwneud � hwy.
9ܠܝܘܠܦܢܐ ܢܘܟܪܝܐ ܘܡܫܚܠܦܐ ܠܐ ܬܬܕܒܪܘܢ ܫܦܝܪ ܗܘ ܓܝܪ ܕܒܛܝܒܘܬܐ ܢܫܪܪ ܠܒܘܬܢ ܘܠܐ ܒܡܐܟܠܬܐ ܡܛܠ ܕܠܐ ܐܬܥܕܪܘ ܐܝܠܝܢ ܕܗܠܟܘ ܒܗܝܢ ܀
10 Y mae gennym ni allor nad oes gan wasanaethwyr y tabernacl ddim hawl i fwyta ohoni.
10ܐܝܬ ܠܢ ܕܝܢ ܡܕܒܚܐ ܕܠܐ ܫܠܝܛ ܠܡܐܟܠ ܡܢܗ ܠܗܢܘܢ ܕܒܡܫܟܢܐ ܡܫܡܫܝܢ ܀
11 Y mae cyrff yr anifeiliaid hynny, y dygir eu gwaed dros bechod i'r cysegr gan yr archoffeiriad, yn cael eu llosgi y tu allan i'r gwersyll.
11ܚܝܘܬܐ ܓܝܪ ܗܠܝܢ ܕܡܥܠ ܗܘܐ ܕܡܗܝܢ ܪܒ ܟܘܡܪܐ ܠܒܝܬ ܡܩܕܫܐ ܚܠܦ ܚܛܗܐ ܒܤܪܗܝܢ ܝܩܕ ܗܘܐ ܠܒܪ ܡܢ ܡܫܪܝܬܐ ܀
12 Felly Iesu hefyd, dioddef y tu allan i'r porth a wnaeth ef, er mwyn sancteiddio'r bobl trwy ei waed ei hun.
12ܡܛܠ ܗܢܐ ܐܦ ܝܫܘܥ ܕܢܩܕܫ ܠܥܡܗ ܒܕܡܗ ܠܒܪ ܡܢ ܡܕܝܢܬܐ ܚܫ ܀
13 Am hynny, gadewch inni fynd ato ef y tu allan i'r gwersyll, gan oddef y gwaradwydd a oddefodd ef.
13ܘܐܦ ܚܢܢ ܗܟܝܠ ܢܦܘܩ ܠܘܬܗ ܠܒܪ ܡܢ ܡܫܪܝܬܐ ܟܕ ܫܩܝܠܝܢܢ ܚܤܕܗ ܀
14 Oherwydd nid oes dinas barhaus gennym yma; ceisio yr ydym, yn hytrach, y ddinas sydd i ddod.
14ܠܝܬ ܠܢ ܓܝܪ ܡܕܝܢܬܐ ܕܡܩܘܝܐ ܗܪܟܐ ܐܠܐ ܠܐܝܕܐ ܕܥܬܝܕܐ ܡܤܟܝܢܢ ܀
15 Gadewch inni, felly, drwyddo ef offrymu aberth moliant yn wastadol i Dduw; hynny yw, ffrwyth gwefusau sy'n cyffesu ei enw.
15ܘܒܐܝܕܗ ܢܤܩ ܕܒܚܐ ܕܬܫܒܘܚܬܐ ܒܟܠܙܒܢ ܠܐܠܗܐ ܕܐܝܬܝܗ ܦܐܪܐ ܕܤܦܘܬܐ ܕܡܘܕܝܢ ܠܫܡܗ ܀
16 Peidiwch ag anghofio gwneud daioni a rhannu ag eraill; oherwydd ag aberthau fel hyn y rhyngir bodd Duw.
16ܘܠܐ ܬܛܥܘܢ ܡܪܚܡܢܘܬܐ ܘܫܘܬܦܘܬܐ ܕܡܤܟܢܐ ܒܗܠܝܢ ܓܝܪ ܕܒܚܐ ܫܦܪ ܐܢܫ ܠܐܠܗܐ ܀
17 Ufuddhewch i'ch arweinwyr, ac ildiwch iddynt, oherwydd y maent hwy'n gwylio'n ddiorffwys dros eich eneidiau, fel rhai sydd i roi cyfrif. Gadewch iddynt allu gwneud hynny'n llawen, ac nid yn ofidus, oherwydd di-fudd i chwi fyddai hynny.
17ܐܬܛܦܝܤܘ ܠܡܕܒܪܢܝܟܘܢ ܘܐܫܬܡܥܘ ܠܗܘܢ ܗܢܘܢ ܓܝܪ ܫܗܪܝܢ ܚܠܦ ܢܦܫܬܟܘܢ ܐܝܟ ܐܢܫܐ ܕܝܗܒܝܢ ܚܘܫܒܢܟܘܢ ܕܒܚܕܘܬܐ ܢܗܘܘܢ ܥܒܕܝܢ ܗܕܐ ܘܠܐ ܒܬܢܚܬܐ ܡܛܠ ܕܠܐ ܦܩܚܐ ܠܟܘܢ ܀
18 Gwedd�wch drosom ni; oherwydd yr ydym yn sicr fod gennym gydwybod l�n, am ein bod yn dymuno ymddwyn yn iawn ym mhob peth.
18ܨܠܘ ܥܠܝܢ ܬܟܝܠܝܢܢ ܓܝܪ ܕܬܐܪܬܐ ܛܒܬܐ ܐܝܬ ܠܢ ܕܒܟܠܡܕܡ ܨܒܝܢܢ ܕܫܦܝܪ ܢܬܕܒܪ ܀
19 Yr wyf yn erfyn yn daerach arnoch i wneud hyn, er mwyn imi gael fy adfer i chwi yn gynt.
19ܝܬܝܪܐܝܬ ܒܥܐ ܐܢܐ ܡܢܟܘܢ ܕܬܥܒܕܘܢ ܗܕܐ ܕܒܥܓܠ ܐܬܦܢܐ ܠܟܘܢ ܀
20 Bydded i Dduw tangnefedd, yr hwn a ddug yn �l oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol,
20ܐܠܗܐ ܕܝܢ ܕܫܠܡܐ ܗܘ ܕܐܤܩ ܡܢ ܒܝܬ ܡܝܬܐ ܠܪܥܝܐ ܪܒܐ ܕܡܪܥܝܬܐ ܒܕܡܐ ܕܕܝܬܩܐ ܕܠܥܠܡ ܕܐܝܬܘܗܝ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܡܪܢ ܀
21 eich cymhwyso � phob daioni, er mwyn ichwi wneud ei ewyllys ef; a bydded iddo lunio ynom yr hyn sydd gymeradwy ganddo, trwy Iesu Grist, i'r hwn y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
21ܗܘ ܢܓܡܘܪܟܘܢ ܒܟܠ ܥܒܕ ܛܒ ܕܬܥܒܕܘܢ ܨܒܝܢܗ ܘܗܘ ܢܤܥܘܪ ܒܢ ܡܕܡ ܕܫܦܝܪ ܩܕܡܘܗܝ ܒܝܕ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܕܠܗ ܫܘܒܚܐ ܠܥܠܡ ܥܠܡܝܢ ܐܡܝܢ ܀
22 Yr wyf yn deisyf arnoch chwi, gyfeillion, oddef y gair hwn o anogaeth, oblegid yn fyr yr ysgrifennais atoch.
22ܒܥܐ ܐܢܐ ܕܝܢ ܡܢܟܘܢ ܐܚܝ ܕܬܓܪܘܢ ܪܘܚܟܘܢ ܒܡܠܬܐ ܕܒܘܝܐܐ ܡܛܠ ܕܒܙܥܘܪܝܬܐ ܗܘ ܟܬܒܬ ܠܟܘܢ ܀
23 Y newydd yw fod ein brawd Timotheus wedi ei ryddhau, ac os daw mewn pryd, caf eich gweld gydag ef.
23ܕܥܘ ܕܝܢ ܠܐܚܘܢ ܛܝܡܬܐܘܤ ܕܐܫܬܪܝ ܘܐܢ ܒܥܓܠ ܢܐܬܐ ܥܡܗ ܐܚܙܝܟܘܢ ܀
24 Cyfarchwch eich holl arweinwyr, a'r holl saint. Y mae'r cyfeillion o'r Eidal yn eich cyfarch.
24ܫܐܠܘ ܒܫܠܡܐ ܕܟܠܗܘܢ ܡܕܒܪܢܝܟܘܢ ܘܕܟܠܗܘܢ ܩܕܝܫܐ ܫܐܠܝܢ ܒܫܠܡܟܘܢ ܟܠܗܘܢ ܕܡܢ ܐܝܛܠܝܐ ܀
25 Gras fyddo gyda chwi oll!
25ܛܝܒܘܬܐ ܥܡ ܟܠܟܘܢ ܐܡܝܢ ܀ ܀ ܫܥܡܐܐ ܀