Welsh

Syriac: NT

Hebrews

5

1 O blith dynion y bydd pob archoffeiriad yn cael ei ddewis, ac ar ran pobl feidrol y caiff ei benodi i'w cynrychioli mewn materion yn ymwneud � Duw, i offrymu rhoddion ac aberthau dros bechodau.
1ܟܠ ܪܒ ܟܘܡܪܐ ܓܝܪ ܕܡܢ ܒܢܝܢܫܐ ܗܘܐ ܚܠܦ ܒܢܝܢܫܐ ܩܐܡ ܥܠ ܐܝܠܝܢ ܕܕܐܠܗܐ ܐܢܝܢ ܕܢܩܪܒ ܩܘܪܒܢܐ ܘܕܒܚܐ ܚܠܦ ܚܛܗܐ ܀
2 Y mae'n gallu cydymddwyn �'r rhai anwybodus a chyfeiliornus, gan ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu � gwendid;
2ܐܝܢܐ ܕܡܫܟܚ ܕܢܡܟ ܢܦܫܗ ܘܢܚܫ ܥܡ ܐܝܠܝܢ ܕܠܐ ܝܕܥܝܢ ܘܛܥܝܢ ܡܛܠ ܕܐܦ ܗܘ ܟܪܝܗܘܬܐ ܠܒܝܫ ܀
3 ac oherwydd y gwendid hwn, rhaid iddo offrymu dros bechodau ar ei ran ei hun, fel ar ran y bobl.
3ܘܡܛܠܬܗ ܚܝܒ ܗܘ ܕܐܝܟܢܐ ܕܚܠܦ ܥܡܐ ܗܟܢܐ ܐܦ ܚܠܦ ܢܦܫܗ ܢܩܪܒ ܥܠ ܚܛܗܘܗܝ ܀
4 Nid oes neb yn cymryd yr anrhydedd iddo'i hun; Duw sydd yn ei alw, fel y galwodd Aaron.
4ܘܠܐ ܗܘܐ ܠܢܦܫܗ ܐܢܫ ܢܤܒ ܐܝܩܪܐ ܐܠܐ ܐܝܢܐ ܕܡܬܩܪܐ ܡܢ ܐܠܗܐ ܐܝܟܢܐ ܕܐܗܪܘܢ ܀
5 Felly hefyd gyda Christ. Nid ei ogoneddu ei hun i fod yn archoffeiriad a wnaeth, ond Duw a ddywedodd wrtho: "Fy Mab wyt ti, myfi a'th genhedlodd di heddiw."
5ܗܟܢܐ ܐܦ ܡܫܝܚܐ ܠܐ ܗܘܐ ܢܦܫܗ ܫܒܚ ܕܢܗܘܐ ܪܒ ܟܘܡܪܐ ܐܠܐ ܗܘ ܕܐܡܪ ܠܗ ܕܒܪܝ ܐܢܬ ܐܢܐ ܝܘܡܢܐ ܝܠܕܬܟ ܀
6 Fel y mae'n dweud mewn lle arall hefyd: "Yr wyt ti'n offeiriad am byth yn �l urdd Melchisedec."
6ܐܝܟ ܕܐܦ ܒܕܘܟܬܐ ܐܚܪܬܐ ܐܡܪ ܕܐܢܬ ܗܘ ܟܘܡܪܐ ܠܥܠܡ ܒܕܡܘܬܗ ܕܡܠܟܝܙܕܩ ܀
7 Yn nyddiau ei gnawd, fe offrymodd Iesu wedd�au ac erfyniadau, gyda llef uchel a dagrau, i'r Un oedd yn abl i'w achub rhag marwolaeth, ac fe gafodd ei wrando o achos ei barchedig ofn.
7ܐܦ ܟܕ ܒܤܪܐ ܠܒܝܫ ܗܘܐ ܒܥܘܬܐ ܘܬܟܫܦܬܐ ܒܓܥܬܐ ܚܝܠܬܢܝܬܐ ܘܒܕܡܥܐ ܩܪܒ ܗܘܐ ܠܡܢ ܕܡܫܟܚ ܗܘܐ ܡܢ ܡܘܬܐ ܕܢܚܝܘܗܝ ܘܐܫܬܡܥ ܀
8 Er mai Mab ydoedd, dysgodd ufudd-dod drwy'r hyn a ddioddefodd,
8ܘܟܕ ܛܒ ܒܪܐ ܐܝܬܘܗܝ ܡܢ ܕܚܠܬܐ ܘܚܫܐ ܕܤܒܠ ܝܠܦܗ ܠܡܫܬܡܥܢܘܬܐ ܀
9 ac wedi ei berffeithio, daeth yn ffynhonnell iachawdwriaeth dragwyddol i bawb sydd yn ufuddhau iddo,
9ܘܗܟܢܐ ܐܬܓܡܪ ܘܗܘܐ ܠܟܠܗܘܢ ܐܝܠܝܢ ܕܡܫܬܡܥܝܢ ܠܗ ܥܠܬܐ ܕܚܝܐ ܕܠܥܠܡ ܀
10 wedi ei enwi gan Dduw yn archoffeiriad yn �l urdd Melchisedec.
10ܘܐܫܬܡܗ ܡܢ ܐܠܗܐ ܪܒ ܟܘܡܪܐ ܒܕܡܘܬܗ ܕܡܠܟܝܙܕܩ ܀
11 Am Melchisedec y mae gennym lawer i'w ddweud sydd yn anodd ei egluro, oherwydd eich bod chwi wedi mynd yn araf i ddeall.
11ܥܠܘܗܝ ܕܝܢ ܥܠ ܗܢܐ ܡܠܟܝܙܕܩ ܤܓܝܐܐ ܗܝ ܠܢ ܡܠܬܐ ܠܡܐܡܪܗ ܘܥܤܩܐ ܠܡܦܫܩܘܬܗ ܡܛܠ ܕܗܘܝܬܘܢ ܠܟܘܢ ܟܪܝܗܐ ܒܡܫܡܥܬܟܘܢ ܀
12 Yn wir, er y dylech erbyn hyn fod yn athrawon, y mae arnoch angen rhywun i ailddysgu ichwi elfennau cyntaf oraclau Duw; angen llaeth sydd arnoch chwi, ac nid bwyd cryf.
12ܚܝܒܝܢ ܗܘܝܬܘܢ ܓܝܪ ܡܠܦܢܐ ܠܡܗܘܐ ܡܛܠ ܕܙܒܢܐ ܠܟܘܢ ܒܝܘܠܦܢܐ ܗܫܐ ܕܝܢ ܬܘܒ ܤܢܝܩܝܢ ܐܢܬܘܢ ܕܬܐܠܦܘܢ ܐܝܠܝܢ ܐܢܝܢ ܟܬܝܒܬܐ ܩܕܡܝܬܐ ܕܪܝܫ ܡܠܘܗܝ ܕܐܠܗܐ ܘܗܘܝܬܘܢ ܠܟܘܢ ܤܢܝܩܐ ܥܠ ܚܠܒܐ ܘܠܐ ܥܠ ܡܐܟܘܠܬܐ ܫܪܝܪܬܐ ܀
13 Nid oes gan y sawl sy'n byw ar laeth ddim profiad o egwyddor cyfiawnder, am mai baban ydyw.
13ܟܠܢܫ ܕܝܢ ܕܡܐܟܘܠܬܗ ܚܠܒܐ ܗܘ ܠܐ ܡܦܤ ܒܡܠܬܐ ܕܟܐܢܘܬܐ ܡܛܠ ܕܫܒܪܐ ܗܘ ܀
14 Pobl wedi cyrraedd eu llawn dwf sy'n cymryd bwyd cryf; y mae eu synhwyrau hwy, trwy ymarfer, wedi eu disgyblu i farnu rhwng da a drwg.
14ܕܓܡܝܪܐ ܗܝ ܕܝܢ ܡܐܟܘܠܬܐ ܫܪܝܪܬܐ ܐܝܠܝܢ ܕܡܛܠ ܕܡܕܪܫܝܢ ܐܬܢܦܩܘ ܪܓܫܝܗܘܢ ܠܡܦܪܫ ܛܒܬܐ ܘܒܝܫܬܐ ܀