1 "Peidiwch � gadael i ddim gynhyrfu'ch calon. Credwch yn Nuw, a chredwch ynof finnau.
1ܠܐ ܢܬܕܘܕ ܠܒܟܘܢ ܗܝܡܢܘ ܒܐܠܗܐ ܘܒܝ ܗܝܡܢܘ ܀
2 Yn nhu375? fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi?
2ܤܓܝܐܝܢ ܐܢܘܢ ܐܘܢܐ ܒܝܬ ܐܒܝ ܘܐܠܐ ܐܡܪ ܗܘܝܬ ܠܟܘܢ ܕܐܙܠ ܐܢܐ ܕܐܛܝܒ ܠܟܘܢ ܐܬܪܐ ܀
3 Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn �l, a'ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle'r wyf fi.
3ܘܐܢ ܐܙܠ ܐܛܝܒ ܠܟܘܢ ܐܬܪܐ ܬܘܒ ܐܬܐ ܘܐܕܒܪܟܘܢ ܠܘܬܝ ܕܐܝܟܐ ܕܐܢܐ ܐܝܬܝ ܐܦ ܐܢܬܘܢ ܬܗܘܘܢ ܀
4 Fe wyddoch y ffordd i'r lle'r wyf fi'n mynd."
4ܘܠܐܝܟܐ ܕܐܙܠ ܐܢܐ ܝܕܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܘܐܘܪܚܐ ܝܕܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܀
5 Meddai Thomas wrtho, "Arglwydd, ni wyddom i ble'r wyt yn mynd. Sut y gallwn wybod y ffordd?"
5ܐܡܪ ܠܗ ܬܐܘܡܐ ܡܪܢ ܠܐ ܝܕܥܝܢܢ ܠܐܝܟܐ ܐܙܠ ܐܢܬ ܘܐܝܟܢܐ ܡܫܟܚܝܢ ܚܢܢ ܐܘܪܚܐ ܠܡܕܥ ܀
6 Dywedodd Iesu wrtho, "Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi.
6ܐܡܪ ܠܗ ܝܫܘܥ ܐܢܐ ܐܢܐ ܐܘܪܚܐ ܘܫܪܪܐ ܘܚܝܐ ܠܐ ܐܢܫ ܐܬܐ ܠܘܬ ܐܒܝ ܐܠܐ ܐܢ ܒܝ ܀
7 Os ydych wedi f'adnabod i, byddwch yn adnabod y Tad hefyd. Yn wir, yr ydych bellach yn ei adnabod ef ac wedi ei weld ef."
7ܐܠܘ ܠܝ ܝܕܥܝܢ ܗܘܝܬܘܢ ܐܦ ܠܐܒܝ ܝܕܥܝܢ ܗܘܝܬܘܢ ܘܡܢ ܗܫܐ ܝܕܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܠܗ ܘܚܙܝܬܘܢܝܗܝ ܀
8 Meddai Philip wrtho, "Arglwydd, dangos i ni y Tad, a bydd hynny'n ddigon inni."
8ܐܡܪ ܠܗ ܦܝܠܝܦܘܤ ܡܪܢ ܚܘܢ ܐܒܐ ܘܟܕܘ ܠܢ ܀
9 Atebodd Iesu ef, "A wyf wedi bod gyda chwi cyhyd heb i ti fy adnabod, Philip? Y mae'r sawl sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad. Sut y medri di ddweud, 'Dangos i ni y Tad'?
9ܐܡܪ ܠܗ ܝܫܘܥ ܗܢܐ ܟܠܗ ܙܒܢܐ ܥܡܟܘܢ ܐܢܐ ܘܠܐ ܝܕܥܬܢܝ ܦܝܠܝܦܐ ܡܢ ܕܠܝ ܚܙܐ ܚܙܐ ܠܐܒܐ ܘܐܝܟܢܐ ܐܢܬ ܐܡܪ ܐܢܬ ܚܘܢ ܐܒܐ ܀
10 Onid wyt yn credu fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof fi? Y geiriau yr wyf fi'n eu dweud wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; y Tad sy'n aros ynof fi sydd yn gwneud ei weithredoedd ei hun.
10ܠܐ ܡܗܝܡܢ ܐܢܬ ܕܐܢܐ ܒܐܒܝ ܘܐܒܝ ܒܝ ܡܠܐ ܐܝܠܝܢ ܕܐܢܐ ܡܡܠܠ ܐܢܐ ܡܢ ܢܦܫܝ ܠܐ ܡܡܠܠ ܐܢܐ ܐܒܝ ܕܝܢ ܕܒܝ ܥܡܪ ܗܘ ܥܒܕ ܥܒܕܐ ܗܠܝܢ ܀
11 Credwch fi pan ddywedaf fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof fi; neu ynteu credwch ar sail y gweithredoedd eu hunain.
11ܗܝܡܢܘ ܕܐܢܐ ܒܐܒܝ ܘܐܒܝ ܒܝ ܘܐܠܐ ܐܦܢ ܡܛܠ ܥܒܕܐ ܗܝܡܢܘ ܀
12 Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, bydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi hefyd yn gwneud y gweithredoedd yr wyf fi'n eu gwneud; yn wir, bydd yn gwneud rhai mwy na'r rheini, oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad.
12ܐܡܝܢ ܐܡܝܢ ܐܡܪ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܕܡܢ ܕܡܗܝܡܢ ܒܝ ܥܒܕܐ ܐܝܠܝܢ ܕܐܢܐ ܥܒܕ ܐܢܐ ܐܦ ܗܘ ܢܥܒܕ ܘܕܝܬܝܪܝܢ ܡܢ ܗܠܝܢ ܢܥܒܕ ܕܐܢܐ ܠܘܬ ܐܒܐ ܐܙܠ ܐܢܐ ܀
13 Beth bynnag a ofynnwch yn fy enw i, fe'i gwnaf, er mwyn i'r Tad gael ei ogoneddu yn y Mab.
13ܘܡܕܡ ܕܬܫܐܠܘܢ ܒܫܡܝ ܐܥܒܕ ܠܟܘܢ ܕܢܫܬܒܚ ܐܒܐ ܒܒܪܗ ܀
14 Os gofynnwch unrhyw beth i mi yn fy enw i, fe'i gwnaf.
14ܘܐܢ ܬܫܐܠܘܢܢܝ ܒܫܡܝ ܐܢܐ ܥܒܕܢܐ ܀
15 "Os ydych yn fy ngharu i, fe gadwch fy ngorchmynion i.
15ܐܢ ܪܚܡܝܢ ܐܢܬܘܢ ܠܝ ܦܘܩܕܢܝ ܛܪܘ ܀
16 Ac fe ofynnaf finnau i'm Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr arall i fod gyda chwi am byth,
16ܘܐܢܐ ܐܒܥܐ ܡܢ ܐܒܝ ܘܐܚܪܢܐ ܦܪܩܠܛܐ ܢܬܠ ܠܟܘܢ ܕܢܗܘܐ ܥܡܟܘܢ ܠܥܠܡ ܀
17 Ysbryd y Gwirionedd. Ni all y byd ei dderbyn ef, am nad yw'r byd yn ei weld nac yn ei adnabod ef; yr ydych chwi yn ei adnabod, oherwydd gyda chwi y mae'n aros ac ynoch chwi y bydd.
17ܪܘܚܐ ܕܫܪܪܐ ܗܘ ܕܥܠܡܐ ܠܐ ܡܫܟܚ ܠܡܩܒܠܘܬܗ ܡܛܠ ܕܠܐ ܚܙܝܗܝ ܘܠܐ ܝܕܥܗ ܐܢܬܘܢ ܕܝܢ ܝܕܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܠܗ ܕܠܘܬܟܘܢ ܥܡܪ ܘܒܟܘܢ ܗܘ ܀
18 Ni adawaf chwi'n amddifad; fe ddof yn �l atoch chwi.
18ܠܐ ܫܒܩ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܝܬܡܐ ܐܬܐ ܐܢܐ ܓܝܪ ܠܘܬܟܘܢ ܩܠܝܠ ܐܚܪܝܢ ܀
19 Ymhen ychydig amser, ni bydd y byd yn fy ngweld i ddim mwy, ond byddwch chwi'n fy ngweld, fy mod yn fyw; a byw fyddwch chwithau hefyd.
19ܘܥܠܡܐ ܠܐ ܚܙܐ ܠܝ ܐܢܬܘܢ ܕܝܢ ܬܚܙܘܢܢܝ ܕܐܢܐ ܚܝ ܐܦ ܐܢܬܘܢ ܬܚܘܢ ܀
20 Yn y dydd hwnnw byddwch chwi'n gwybod fy mod i yn fy Nhad, a'ch bod chwi ynof fi, a minnau ynoch chwithau.
20ܒܗܘ ܝܘܡܐ ܬܕܥܘܢ ܕܐܢܐ ܒܐܒܝ ܘܐܢܬܘܢ ܒܝ ܐܢܬܘܢ ܘܐܢܐ ܒܟܘܢ ܐܢܐ ܀
21 Pwy bynnag y mae fy ngorchmynion i ganddo, ac sy'n eu cadw hwy, yw'r un sy'n fy ngharu i. A'r un sy'n fy ngharu i, fe'i cerir gan fy Nhad, a byddaf finnau yn ei garu, ac yn f'amlygu fy hun iddo."
21ܡܢ ܕܐܝܬ ܠܘܬܗ ܦܘܩܕܢܝ ܘܢܛܪ ܠܗܘܢ ܗܘ ܗܘ ܡܚܒ ܠܝ ܗܘ ܕܝܢ ܕܪܚܡ ܠܝ ܢܬܪܚܡ ܡܢ ܐܒܝ ܘܐܢܐ ܐܪܚܡܝܘܗܝ ܘܐܚܘܝܘܗܝ ܢܦܫܝ ܀
22 Meddai Jwdas wrtho (nid Jwdas Iscariot), "Arglwydd, beth sydd wedi digwydd i beri dy fod yn mynd i'th amlygu dy hun i ni, ac nid i'r byd?"
22ܐܡܪ ܠܗ ܝܗܘܕܐ ܠܐ ܗܘܐ ܤܟܪܝܘܛܐ ܡܪܝ ܡܢܘ ܠܢ ܥܬܝܕ ܐܢܬ ܠܡܚܘܝܘ ܢܦܫܟ ܘܠܐ ܗܘܐ ܠܥܠܡܐ ܀
23 Atebodd Iesu ef: "Os yw rhywun yn fy ngharu, bydd yn cadw fy ngair i, a bydd fy Nhad yn ei garu, ac fe ddown ato a gwneud ein trigfa gydag ef.
23ܥܢܐ ܝܫܘܥ ܘܐܡܪ ܠܗ ܡܢ ܕܪܚܡ ܠܝ ܡܠܬܝ ܢܛܪ ܘܐܒܝ ܢܪܚܡܝܘܗܝ ܘܠܘܬܗ ܐܬܝܢ ܚܢܢ ܘܐܘܢܐ ܠܘܬܗ ܥܒܕܝܢ ܚܢܢ ܀
24 Nid yw'r sawl nad yw'n fy ngharu i yn cadw fy ngeiriau i. A'r gair hwn yr ydych chwi yn ei glywed, nid fy ngair i ydyw, ond gair y Tad a'm hanfonodd i.
24ܗܘ ܕܝܢ ܕܠܐ ܪܚܡ ܠܝ ܡܠܬܝ ܠܐ ܢܛܪ ܘܡܠܬܐ ܗܕܐ ܕܫܡܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܠܐ ܗܘܬ ܕܝܠܝ ܐܠܐ ܕܐܒܐ ܕܫܕܪܢܝ ܀
25 "Yr wyf wedi dweud hyn wrthych tra wyf yn aros gyda chwi.
25ܗܠܝܢ ܡܠܠܬ ܥܡܟܘܢ ܟܕ ܠܘܬܟܘܢ ܐܝܬܝ ܀
26 Ond bydd yr Eiriolwr, yr Ysbryd Gl�n, a anfona'r Tad yn fy enw i, yn dysgu popeth ichwi, ac yn dwyn ar gof ichwi y cwbl a ddywedais i wrthych.
26ܗܘ ܕܝܢ ܦܪܩܠܛܐ ܪܘܚܐ ܕܩܘܕܫܐ ܗܘ ܕܡܫܕܪ ܐܒܝ ܒܫܡܝ ܗܘ ܢܠܦܟܘܢ ܟܠܡܕܡ ܘܗܘ ܢܥܗܕܟܘܢ ܟܠ ܡܐ ܕܐܡܪ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܀
27 Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi'n rhoi i chwi. Peidiwch � gadael i ddim gynhyrfu'ch calon, a pheidiwch ag ofni.
27ܫܠܡܐ ܫܒܩ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܫܠܡܐ ܕܝܠܝ ܝܗܒ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܠܐ ܗܘܐ ܐܝܟܢܐ ܕܝܗܒ ܥܠܡܐ ܐܢܐ ܝܗܒ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܠܐ ܢܬܕܘܕ ܠܒܟܘܢ ܘܠܐ ܢܕܚܠ ܀
28 Clywsoch beth a ddywedais i wrthych, 'Yr wyf fi yn ymadael � chwi, ac fe ddof atoch chwi.' Pe baech yn fy ngharu i, byddech yn llawenhau fy mod yn mynd at y Tad, oherwydd y mae'r Tad yn fwy na mi.
28ܫܡܥܬܘܢ ܕܐܢܐ ܐܡܪܬ ܠܟܘܢ ܕܐܙܠ ܐܢܐ ܘܐܬܐ ܐܢܐ ܠܘܬܟܘܢ ܐܠܘ ܪܚܡܝܢ ܗܘܝܬܘܢ ܠܝ ܚܕܝܢ ܗܘܝܬܘܢ ܕܐܙܠ ܐܢܐ ܠܘܬ ܐܒܝ ܕܐܒܝ ܪܒ ܗܘ ܡܢܝ ܀
29 Yr wyf fi wedi dweud wrthych yn awr, cyn i'r peth ddigwydd, er mwyn ichwi gredu pan ddigwydd.
29ܘܗܫܐ ܗܐ ܐܡܪܬ ܠܟܘܢ ܥܕܠܐ ܢܗܘܐ ܕܡܐ ܕܗܘܐ ܬܗܝܡܢܘܢ ܀
30 Ni byddaf yn siarad llawer gyda chwi eto, oherwydd y mae tywysog y byd hwn yn dod. Nid oes ganddo ddim gafael arnaf fi,
30ܡܟܝܠ ܠܐ ܐܡܠܠ ܥܡܟܘܢ ܤܓܝܐܬܐ ܐܬܐ ܓܝܪ ܐܪܟܘܢܗ ܕܥܠܡܐ ܘܒܝ ܠܝܬ ܠܗ ܡܕܡ ܀
31 ond rhaid i'r byd wybod fy mod i'n caru'r Tad ac yn gwneud yn union fel y mae'r Tad wedi gorchymyn imi. Codwch, ac awn oddi yma.
31ܐܠܐ ܕܢܕܥ ܥܠܡܐ ܕܪܚܡ ܐܢܐ ܠܐܒܝ ܘܐܝܟܢܐ ܕܦܩܕܢܝ ܐܒܝ ܗܟܘܬ ܥܒܕ ܐܢܐ ܩܘܡܘ ܢܐܙܠ ܡܟܐ ܀