1 Wedi iddo ddweud hyn, aeth Iesu allan gyda'i ddisgyblion a chroesi nant Cidron. Yr oedd gardd yno, ac iddi hi yr aeth ef a'i ddisgyblion.
1ܗܠܝܢ ܐܡܪ ܝܫܘܥ ܘܢܦܩ ܥܡ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܠܥܒܪܐ ܕܪܓܠܬܐ ܕܩܕܪܘܢ ܐܬܪ ܕܐܝܬ ܗܘܬ ܓܢܬܐ ܐܝܟܐ ܕܥܠ ܗܘ ܘܬܠܡܝܕܘܗܝ ܀
2 Yr oedd Jwdas hefyd, ei fradychwr, yn gwybod am y lle, oherwydd yr oedd Iesu lawer gwaith wedi cyfarfod �'i ddisgyblion yno.
2ܝܕܥ ܗܘܐ ܕܝܢ ܐܦ ܝܗܘܕܐ ܡܫܠܡܢܐ ܠܕܘܟܬܐ ܗܝ ܡܛܠ ܕܤܓܝ ܙܒܢܐ ܟܢܫ ܗܘܐ ܬܡܢ ܝܫܘܥ ܥܡ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܀
3 Cymerodd Jwdas felly fintai o filwyr, a swyddogion oddi wrth y prif offeiriaid a'r Phariseaid, ac aeth yno gyda llusernau a ffaglau ac arfau.
3ܗܘ ܗܟܝܠ ܝܗܘܕܐ ܕܒܪ ܐܤܦܝܪ ܘܡܢ ܠܘܬ ܪܒܝ ܟܗܢܐ ܘܦܪܝܫܐ ܕܒܪ ܕܚܫܐ ܘܐܬܐ ܠܬܡܢ ܥܡ ܢܦܛܪܐ ܘܠܡܦܝܕܐ ܘܙܝܢܐ ܀
4 Gan fod Iesu'n gwybod pob peth oedd ar fin digwydd iddo, aeth allan atynt a gofyn, "Pwy yr ydych yn ei geisio?"
4ܝܫܘܥ ܕܝܢ ܕܝܕܥ ܗܘܐ ܟܠ ܡܕܡ ܕܐܬܐ ܥܠܘܗܝ ܢܦܩ ܘܐܡܪ ܠܗܘܢ ܠܡܢ ܒܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܀
5 Atebasant ef, "Iesu o Nasareth." "Myfi yw," meddai yntau wrthynt. Ac yr oedd Jwdas, ei fradychwr, yn sefyll yno gyda hwy.
5ܐܡܪܝܢ ܠܗ ܠܝܫܘܥ ܢܨܪܝܐ ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܝܫܘܥ ܐܢܐ ܐܢܐ ܩܐܡ ܗܘܐ ܕܝܢ ܐܦ ܝܗܘܕܐ ܡܫܠܡܢܐ ܥܡܗܘܢ ܀
6 Pan ddywedodd Iesu wrthynt, "Myfi yw", ciliasant yn �l a syrthio i'r llawr.
6ܘܟܕ ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܝܫܘܥ ܕܐܢܐ ܐܢܐ ܐܙܠܘ ܠܒܤܬܪܗܘܢ ܘܢܦܠܘ ܥܠ ܐܪܥܐ ܀
7 Felly gofynnodd iddynt eilwaith, "Pwy yr ydych yn ei geisio?" "Iesu o Nasareth," meddent hwythau.
7ܬܘܒ ܫܐܠ ܐܢܘܢ ܝܫܘܥ ܠܡܢ ܒܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܗܢܘܢ ܕܝܢ ܐܡܪܘ ܠܝܫܘܥ ܢܨܪܝܐ ܀
8 Atebodd Iesu, "Dywedais wrthych mai myfi yw. Os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i'r rhain fynd."
8ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܝܫܘܥ ܐܡܪܬ ܠܟܘܢ ܕܐܢܐ ܐܢܐ ܘܐܢ ܠܝ ܒܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܫܒܘܩܘ ܠܗܠܝܢ ܐܙܠܝܢ ܀
9 Felly cyflawnwyd y gair yr oedd wedi ei lefaru: "Ni chollais yr un o'r rhai a roddaist imi."
9ܕܬܫܠܡ ܡܠܬܐ ܕܐܡܪ ܕܐܝܠܝܢ ܕܝܗܒܬ ܠܝ ܠܐ ܐܘܒܕܬ ܡܢܗܘܢ ܐܦܠܐ ܚܕ ܀
10 Yna tynnodd Simon Pedr y cleddyf oedd ganddo, a tharo gwas yr archoffeiriad a thorri ei glust dde i ffwrdd. Enw'r gwas oedd Malchus.
10ܫܡܥܘܢ ܕܝܢ ܟܐܦܐ ܐܝܬ ܗܘܐ ܥܠܘܗܝ ܤܦܤܪܐ ܘܫܡܛܗ ܘܡܚܝܗܝ ܠܥܒܕܗ ܕܪܒ ܟܗܢܐ ܘܫܩܠܗ ܐܕܢܗ ܕܝܡܝܢܐ ܫܡܗ ܕܝܢ ܕܥܒܕܐ ܡܠܟ ܀
11 Ac meddai Iesu wrth Pedr, "Rho dy gleddyf yn �l yn y wain. Onid wyf am yfed y cwpan y mae'r Tad wedi ei roi imi?"
11ܘܐܡܪ ܝܫܘܥ ܠܟܐܦܐ ܤܝܡ ܤܦܤܪܐ ܒܚܠܬܗ ܟܤܐ ܕܝܗܒ ܠܝ ܐܒܝ ܠܐ ܐܫܬܝܘܗܝ ܀
12 Yna cymerodd y fintai a'i chapten, a swyddogion yr Iddewon, afael yn Iesu a'i rwymo.
12ܗܝܕܝܢ ܐܤܦܝܪ ܘܟܠܝܪܟܐ ܘܕܚܫܐ ܕܝܗܘܕܝܐ ܐܚܕܘܗܝ ܠܝܫܘܥ ܘܐܤܪܘܗܝ ܀
13 Aethant ag ef at Annas yn gyntaf. Ef oedd tad-yng-nghyfraith Caiaffas, a oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno.
13ܘܐܝܬܝܘܗܝ ܠܘܬ ܚܢܢ ܠܘܩܕܡ ܡܛܠ ܕܚܡܘܗܝ ܗܘܐ ܕܩܝܦܐ ܗܘ ܕܐܝܬܘܗܝ ܗܘܐ ܪܒ ܟܗܢܐ ܕܫܢܬܐ ܗܝ ܀
14 Caiaffas oedd y dyn a gynghorodd yr Iddewon mai mantais fyddai i un dyn farw dros y bobl.
14ܐܝܬܘܗܝ ܗܘܐ ܕܝܢ ܩܝܦܐ ܗܘ ܕܡܠܟ ܠܝܗܘܕܝܐ ܕܦܩܚ ܕܚܕ ܓܒܪܐ ܢܡܘܬ ܚܠܦ ܥܡܐ ܀
15 Yr oedd Simon Pedr yn canlyn Iesu, a disgybl arall hefyd. Yr oedd y disgybl hwn yn adnabyddus i'r archoffeiriad, ac fe aeth i mewn gyda Iesu i gyntedd yr archoffeiriad,
15ܫܡܥܘܢ ܕܝܢ ܟܐܦܐ ܘܚܕ ܡܢ ܬܠܡܝܕܐ ܐܚܪܢܐ ܐܬܝܢ ܗܘܘ ܒܬܪܗ ܕܝܫܘܥ ܠܗܘ ܕܝܢ ܬܠܡܝܕܐ ܝܕܥ ܗܘܐ ܠܗ ܪܒ ܟܗܢܐ ܘܥܠ ܥܡ ܝܫܘܥ ܠܕܪܬܐ ܀
16 ond safodd Pedr wrth y drws y tu allan. Felly aeth y disgybl arall, yr un oedd yn adnabyddus i'r archoffeiriad, allan a siarad �'r forwyn oedd yn cadw'r drws, a daeth � Pedr i mewn.
16ܫܡܥܘܢ ܕܝܢ ܩܐܡ ܗܘܐ ܠܒܪ ܠܘܬ ܬܪܥܐ ܘܢܦܩ ܗܘ ܬܠܡܝܕܐ ܐܚܪܢܐ ܕܝܕܥ ܗܘܐ ܠܗ ܪܒ ܟܗܢܐ ܘܐܡܪ ܠܢܛܪܬ ܬܪܥܐ ܘܐܥܠܗ ܠܫܡܥܘܢ ܀
17 A dyma'r forwyn oedd yn cadw'r drws yn dweud wrth Pedr, "Tybed a wyt tithau'n un o ddisgyblion y dyn yma?" "Nac ydwyf," atebodd yntau.
17ܐܡܪܬ ܕܝܢ ܥܠܝܡܬܐ ܢܛܪܬ ܬܪܥܐ ܠܫܡܥܘܢ ܠܡܐ ܐܦ ܐܢܬ ܡܢ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܐܢܬ ܕܗܢܐ ܓܒܪܐ ܐܡܪ ܠܗ ܠܐ ܀
18 A chan ei bod yn oer, yr oedd y gweision a'r swyddogion wedi gwneud t�n golosg, ac yr oeddent yn sefyll yn ymdwymo wrtho. Ac yr oedd Pedr yntau yn sefyll gyda hwy yn ymdwymo.
18ܘܩܝܡܝܢ ܗܘܘ ܥܒܕܐ ܘܕܚܫܐ ܘܤܝܡܝܢ ܗܘܘ ܢܘܪܐ ܕܢܫܚܢܘܢ ܡܛܠ ܕܩܪܝܫ ܗܘܐ ܩܐܡ ܗܘܐ ܕܝܢ ܐܦ ܫܡܥܘܢ ܥܡܗܘܢ ܘܫܚܢ ܀
19 Yna holodd yr archoffeiriad Iesu am ei ddisgyblion ac am ei ddysgeidiaeth.
19ܪܒ ܟܗܢܐ ܕܝܢ ܫܐܠܗ ܠܝܫܘܥ ܥܠ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܘܥܠ ܝܘܠܦܢܗ ܀
20 Atebodd Iesu ef: "Yr wyf fi wedi siarad yn agored wrth y byd. Yr oeddwn i bob amser yn dysgu mewn synagog ac yn y deml, lle y bydd yr Iddewon i gyd yn ymgynnull; nid wyf wedi siarad dim yn y dirgel.
20ܘܐܡܪ ܠܗ ܝܫܘܥ ܐܢܐ ܥܝܢ ܒܓܠܐ ܡܠܠܬ ܥܡ ܥܡܐ ܘܒܟܠܙܒܢ ܐܠܦܬ ܒܟܢܘܫܬܐ ܘܒܗܝܟܠܐ ܐܝܟܐ ܕܟܠܗܘܢ ܝܗܘܕܝܐ ܡܬܟܢܫܝܢ ܘܡܕܡ ܒܛܘܫܝܐ ܠܐ ܡܠܠܬ ܀
21 Pam yr wyt yn fy holi i? Hola'r rhai sydd wedi clywed yr hyn a leferais wrthynt. Dyma'r sawl sy'n gwybod beth a ddywedais i."
21ܡܢܐ ܡܫܐܠ ܐܢܬ ܠܝ ܫܐܠ ܠܗܢܘܢ ܕܫܡܥܘ ܡܢܐ ܡܠܠܬ ܥܡܗܘܢ ܗܐ ܗܢܘܢ ܝܕܥܝܢ ܟܠ ܡܕܡ ܕܐܡܪܬ ܀
22 Pan ddywedodd hyn, rhoddodd un o'r swyddogion oedd yn sefyll yn ei ymyl gernod i Iesu, gan ddweud, "Ai felly yr wyt yn ateb yr archoffeiriad?"
22ܘܟܕ ܗܠܝܢ ܐܡܪ ܚܕ ܡܢ ܕܚܫܐ ܕܩܐܡ ܗܘܐ ܡܚܝܗܝ ܥܠ ܦܟܗ ܠܝܫܘܥ ܘܐܡܪ ܠܗ ܗܟܢܐ ܝܗܒ ܐܢܬ ܦܬܓܡܐ ܠܪܒ ܟܗܢܐ ܀
23 Atebodd Iesu, "Os dywedais rywbeth o'i le, rho dystiolaeth ynglu375?n � hynny. Ond os oeddwn yn fy lle, pam yr wyt yn fy nharo?"
23ܥܢܐ ܝܫܘܥ ܘܐܡܪ ܠܗ ܐܢ ܒܝܫܐܝܬ ܡܠܠܬ ܐܤܗܕ ܥܠ ܒܝܫܬܐ ܘܐܢ ܕܝܢ ܫܦܝܪ ܠܡܢܐ ܡܚܝܬܢܝ ܀
24 Yna anfonodd Annas ef, wedi ei rwymo, at Caiaffas, yr archoffeiriad.
24ܚܢܢ ܕܝܢ ܫܕܪ ܠܝܫܘܥ ܟܕ ܐܤܝܪ ܠܘܬ ܩܝܦܐ ܪܒ ܟܗܢܐ ܀
25 Yr oedd Simon Pedr yn sefyll yno yn ymdwymo. Meddent wrtho felly, "Tybed a wyt tithau'n un o'i ddisgyblion?" Gwadodd yntau: "Nac ydwyf," meddai.
25ܘܫܡܥܘܢ ܟܐܦܐ ܩܐܡ ܗܘܐ ܘܫܚܢ ܘܐܡܪܝܢ ܠܗ ܠܡܐ ܐܦ ܐܢܬ ܚܕ ܡܢ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܐܢܬ ܘܗܘ ܟܦܪ ܘܐܡܪ ܠܐ ܗܘܝܬ ܀
26 Dyma un o weision yr archoffeiriad, perthynas i'r un y torrodd Pedr ei glust i ffwrdd, yn gofyn iddo, "Oni welais i di yn yr ardd gydag ef?"
26ܐܡܪ ܠܗ ܚܕ ܡܢ ܥܒܕܐ ܕܪܒ ܟܗܢܐ ܐܚܝܢܗ ܕܗܘ ܕܦܤܩ ܗܘܐ ܫܡܥܘܢ ܐܕܢܗ ܠܐ ܐܢܐ ܚܙܝܬܟ ܥܡܗ ܒܓܢܬܐ ܀
27 Yna gwadodd Pedr eto. Ac ar hynny, canodd y ceiliog.
27ܘܬܘܒ ܟܦܪ ܫܡܥܘܢ ܘܒܗ ܒܫܥܬܐ ܩܪܐ ܬܪܢܓܠܐ ܀
28 Aethant � Iesu oddi wrth Caiaffas i'r Praetoriwm. Yr oedd yn fore. Nid aeth yr Iddewon eu hunain i mewn i'r Praetoriwm, rhag iddynt gael eu halogi, er mwyn gallu bwyta gwledd y Pasg.
28ܐܝܬܝܘܗܝ ܕܝܢ ܠܝܫܘܥ ܡܢ ܠܘܬ ܩܝܦܐ ܠܦܪܛܘܪܝܢ ܘܐܝܬܘܗܝ ܗܘܐ ܨܦܪܐ ܘܗܢܘܢ ܠܐ ܥܠܘ ܠܦܪܛܘܪܝܢ ܕܠܐ ܢܬܛܘܫܘܢ ܥܕ ܐܟܠܝܢ ܦܨܚܐ ܀
29 Am hynny, daeth Pilat allan atynt hwy, ac meddai, "Beth yw'r cyhuddiad yr ydych yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?"
29ܢܦܩ ܕܝܢ ܦܝܠܛܘܤ ܠܒܪ ܠܘܬܗܘܢ ܘܐܡܪ ܠܗܘܢ ܡܢܐ ܡܐܟܠ ܩܪܨܐ ܐܝܬ ܠܟܘܢ ܥܠ ܓܒܪܐ ܗܢܐ ܀
30 Atebasant ef, "Oni bai fod hwn yn droseddwr, ni buasem wedi ei drosglwyddo i ti."
30ܥܢܘ ܘܐܡܪܝܢ ܠܗ ܐܠܘ ܠܐ ܥܒܕ ܒܝܫܬܐ ܗܘܐ ܐܦܠܐ ܠܟ ܡܫܠܡܝܢ ܗܘܝܢ ܠܗ ܀
31 Yna dywedodd Pilat wrthynt, "Cymerwch chwi ef, a barnwch ef yn �l eich Cyfraith eich hunain." Meddai'r Iddewon wrtho, "Nid yw'n gyfreithlon i ni roi neb i farwolaeth."
31ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܦܝܠܛܘܤ ܕܘܒܪܘܗܝ ܐܢܬܘܢ ܘܕܘܢܘܗܝ ܐܝܟ ܢܡܘܤܟܘܢ ܐܡܪܝܢ ܠܗ ܝܗܘܕܝܐ ܠܐ ܫܠܝܛ ܠܢ ܠܡܩܛܠ ܠܐܢܫ ܀
32 Felly cyflawnwyd y gair yr oedd Iesu wedi ei lefaru i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros.
32ܕܬܫܠܡ ܡܠܬܐ ܕܐܡܪ ܝܫܘܥ ܟܕ ܡܘܕܥ ܒܐܝܢܐ ܡܘܬܐ ܥܬܝܕ ܕܢܡܘܬ ܀
33 Yna, aeth Pilat i mewn i'r Praetoriwm eto. Galwodd Iesu, ac meddai wrtho, "Ai ti yw Brenin yr Iddewon?"
33ܥܠ ܕܝܢ ܦܝܠܛܘܤ ܠܦܪܛܘܪܝܢ ܘܩܪܐ ܠܝܫܘܥ ܘܐܡܪ ܠܗ ܐܢܬ ܗܘ ܡܠܟܗܘܢ ܕܝܗܘܕܝܐ ܀
34 Atebodd Iesu, "Ai ohonot dy hun yr wyt ti'n dweud hyn, ai ynteu eraill a ddywedodd hyn wrthyt amdanaf fi?"
34ܐܡܪ ܠܗ ܝܫܘܥ ܡܢ ܢܦܫܟ ܐܡܪܬ ܗܕܐ ܐܘ ܐܚܪܢܐ ܐܡܪܘ ܠܟ ܥܠܝ ܀
35 Atebodd Pilat, "Ai Iddew wyf fi? Dy genedl dy hun a'i phrif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo di i mi. Beth wnaethost ti?"
35ܐܡܪ ܠܗ ܦܝܠܛܘܤ ܠܡܐ ܐܢܐ ܝܗܘܕܝܐ ܐܢܐ ܒܢܝ ܥܡܟ ܗܘ ܘܪܒܝ ܟܗܢܐ ܐܫܠܡܘܟ ܠܝ ܡܢܐ ܥܒܕܬ ܀
36 Atebodd Iesu, "Nid yw fy nheyrnas i o'r byd hwn. Pe bai fy nheyrnas i o'r byd hwn, byddai fy ngwasanaethwyr i yn ymladd, rhag imi gael fy nhrosglwyddo i'r Iddewon. Ond y gwir yw, nid dyma darddle fy nheyrnas i."
36ܐܡܪ ܠܗ ܝܫܘܥ ܡܠܟܘܬܝ ܕܝܠܝ ܠܐ ܗܘܬ ܡܢ ܗܢܐ ܥܠܡܐ ܐܠܘ ܡܢ ܥܠܡܐ ܗܘܬ ܗܢܐ ܡܠܟܘܬܝ ܡܬܟܬܫܝܢ ܗܘܘ ܡܫܡܫܢܝ ܕܠܐ ܐܫܬܠܡ ܠܝܗܘܕܝܐ ܗܫܐ ܕܝܢ ܡܠܟܘܬܝ ܕܝܠܝ ܠܐ ܗܘܬ ܡܟܐ ܀
37 Yna meddai Pilat wrtho, "Yr wyt ti yn frenin, ynteu?" "Ti sy'n dweud fy mod yn frenin," atebodd Iesu. "Er mwyn hyn yr wyf fi wedi cael fy ngeni, ac er mwyn hyn y deuthum i'r byd, i dystiolaethu i'r gwirionedd. Y mae pawb sy'n perthyn i'r gwirionedd yn gwrando ar fy llais i."
37ܐܡܪ ܠܗ ܦܝܠܛܘܤ ܡܕܝܢ ܡܠܟܐ ܐܢܬ ܐܡܪ ܠܗ ܝܫܘܥ ܐܢܬ ܐܡܪܬ ܕܡܠܟܐ ܐܢܐ ܐܢܐ ܠܗܕܐ ܝܠܝܕ ܐܢܐ ܘܠܗܕܐ ܐܬܝܬ ܠܥܠܡܐ ܕܐܤܗܕ ܥܠ ܫܪܪܐ ܟܠ ܡܢ ܕܐܝܬܘܗܝ ܡܢ ܫܪܪܐ ܫܡܥ ܩܠܝ ܀
38 Meddai Pilat wrtho, "Beth yw gwirionedd?" Wedi iddo ddweud hyn, daeth allan eto at yr Iddewon ac meddai wrthynt, "Nid wyf fi'n cael unrhyw achos yn ei erbyn.
38ܐܡܪ ܠܗ ܦܝܠܛܘܤ ܡܢܘ ܫܪܪܐ ܘܟܕ ܐܡܪ ܗܕܐ ܢܦܩ ܠܗ ܬܘܒ ܠܘܬ ܝܗܘܕܝܐ ܘܐܡܪ ܠܗܘܢ ܐܢܐ ܐܦܠܐ ܚܕܐ ܥܠܬܐ ܡܫܟܚ ܐܢܐ ܒܗ ܀
39 Ond y mae'n arfer gennych i mi ryddhau un carcharor ichwi ar y Pasg. A ydych yn dymuno, felly, imi ryddhau ichwi Frenin yr Iddewon?"
39ܥܝܕܐ ܕܝܢ ܐܝܬ ܠܟܘܢ ܕܚܕ ܐܫܪܐ ܠܟܘܢ ܒܦܨܚܐ ܨܒܝܢ ܐܢܬܘܢ ܗܟܝܠ ܐܫܪܐ ܠܟܘܢ ܠܗܢܐ ܡܠܟܐ ܕܝܗܘܕܝܐ ܀
40 Yna gwaeddasant yn �l, "Na, nid hwnnw, ond Barabbas." Terfysgwr oedd Barabbas.
40ܘܩܥܘ ܟܠܗܘܢ ܘܐܡܪܝܢ ܠܐ ܠܗܢܐ ܐܠܐ ܠܒܪ ܐܒܐ ܐܝܬܘܗܝ ܗܘܐ ܕܝܢ ܗܢܐ ܒܪ ܐܒܐ ܓܝܤܐ ܀