1 Ar �l hyn aeth Iesu ymaith ar draws M�r Galilea (hynny yw, M�r Tiberias).
1ܒܬܪ ܗܠܝܢ ܐܙܠ ܝܫܘܥ ܠܥܒܪܐ ܕܝܡܐ ܕܓܠܝܠܐ ܕܛܒܪܝܘܤ ܀
2 Ac yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn, oherwydd yr oeddent wedi gweld yr arwyddion yr oedd wedi eu gwneud ar y cleifion.
2ܘܐܙܠܘ ܒܬܪܗ ܟܢܫܐ ܤܓܝܐܐ ܡܛܠ ܕܚܙܝܢ ܗܘܘ ܐܬܘܬܐ ܕܥܒܕ ܒܟܪܝܗܐ ܀
3 Aeth Iesu i fyny'r mynydd ac eistedd yno gyda'i ddisgyblion.
3ܘܤܠܩ ܝܫܘܥ ܠܛܘܪܐ ܘܬܡܢ ܝܬܒ ܗܘܐ ܥܡ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܀
4 Yr oedd y Pasg, gu373?yl yr Iddewon, yn ymyl.
4ܩܪܝܒ ܗܘܐ ܕܝܢ ܥܕܥܕܐ ܕܦܨܚܐ ܕܝܗܘܕܝܐ ܀
5 Yna cododd Iesu ei lygaid a gwelodd fod tyrfa fawr yn dod tuag ato, ac meddai wrth Philip, "Ble y gallwn brynu bara i'r rhain gael bwyta?"
5ܘܐܪܝܡ ܥܝܢܘܗܝ ܝܫܘܥ ܘܚܙܐ ܟܢܫܐ ܤܓܝܐܐ ܕܐܬܐ ܠܘܬܗ ܘܐܡܪ ܠܦܝܠܝܦܘܤ ܐܝܡܟܐ ܢܙܒܢ ܠܚܡܐ ܕܢܐܟܠܘܢ ܗܠܝܢ ܀
6 Dweud hyn yr oedd i roi prawf arno, oherwydd gwyddai ef ei hun beth yr oedd yn mynd i'w wneud.
6ܗܕܐ ܕܝܢ ܐܡܪ ܟܕ ܡܢܤܐ ܠܗ ܗܘ ܓܝܪ ܝܕܥ ܗܘܐ ܡܢܐ ܥܬܝܕ ܠܡܥܒܕ ܀
7 Atebodd Philip ef, "Ni byddai bara gwerth dau gant o ddarnau arian yn ddigon i roi tamaid bach i bob un ohonynt."
7ܐܡܪ ܠܗ ܦܝܠܝܦܘܤ ܕܡܐܬܝܢ ܕܝܢܪܝܢ ܠܚܡܐ ܠܐ ܤܦܩ ܠܗܘܢ ܟܕ ܩܠܝܠ ܩܠܝܠ ܚܕ ܚܕ ܡܢܗܘܢ ܢܤܒ ܀
8 A dyma un o'i ddisgyblion, Andreas, brawd Simon Pedr, yn dweud wrtho,
8ܐܡܪ ܠܗ ܚܕ ܡܢ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܐܢܕܪܐܘܤ ܐܚܘܗܝ ܕܫܡܥܘܢ ܟܐܦܐ ܀
9 "Y mae bachgen yma a phum torth haidd a dau bysgodyn ganddo, ond beth yw hynny rhwng cynifer?"
9ܐܝܬ ܬܢܢ ܛܠܝܐ ܚܕ ܕܐܝܬ ܥܠܘܗܝ ܚܡܫ ܓܪܝܨܢ ܕܤܥܪܐ ܘܬܪܝܢ ܢܘܢܝܢ ܐܠܐ ܗܠܝܢ ܡܢܐ ܐܢܘܢ ܠܗܠܝܢ ܟܠܗܘܢ ܀
10 Dywedodd Iesu, "Gwnewch i'r bobl eistedd i lawr." Yr oedd llawer o laswellt yn y lle, ac eisteddodd y dynion i lawr, rhyw bum mil ohonynt.
10ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܝܫܘܥ ܥܒܕܘ ܐܢܫܐ ܟܠܗܘܢ ܕܢܤܬܡܟܘܢ ܥܤܒܐ ܕܝܢ ܤܓܝ ܗܘܐ ܒܗ ܒܕܘܟܬܐ ܗܝ ܘܐܤܬܡܟܘ ܓܒܪܐ ܒܡܢܝܢܐ ܚܡܫܐ ܐܠܦܝܢ ܀
11 Yna cymerodd Iesu y torthau, ac wedi diolch fe'u rhannodd i'r rhai oedd yn eistedd. Gwnaeth yr un peth hefyd �'r pysgod, gan roi i bob un faint a fynnai.
11ܘܫܩܠ ܝܫܘܥ ܠܚܡܐ ܘܒܪܟ ܘܦܠܓ ܠܗܢܘܢ ܕܤܡܝܟܝܢ ܘܗܟܢܐ ܐܦ ܡܢ ܢܘܢܐ ܟܡܐ ܕܨܒܘ ܀
12 A phan oeddent wedi cael digon, meddai wrth ei ddisgyblion, "Casglwch y tameidiau sy'n weddill, rhag i ddim fynd yn wastraff."
12ܘܟܕ ܤܒܥܘ ܐܡܪ ܠܬܠܡܝܕܘܗܝ ܟܢܫܘ ܩܨܝܐ ܕܝܬܪܘ ܕܠܐ ܢܐܒܕ ܡܕܡ ܀
13 Fe'u casglasant, felly, a llenwi deuddeg basged �'r tameidiau yr oedd y bwytawyr wedi eu gadael yn weddill o'r pum torth haidd.
13ܘܟܢܫܘ ܘܡܠܘ ܬܪܥܤܪ ܩܘܦܝܢܝܢ ܩܨܝܐ ܐܝܠܝܢ ܕܝܬܪܘ ܠܗܢܘܢ ܕܐܟܠܘ ܡܢ ܚܡܫܐ ܠܚܡܝܢ ܕܤܥܪܐ ܀
14 Pan welodd y bobl yr arwydd hwn yr oedd Iesu wedi ei wneud, dywedasant, "Hwn yn wir yw'r Proffwyd sy'n dod i'r byd."
14ܗܢܘܢ ܕܝܢ ܐܢܫܐ ܕܚܙܘ ܐܬܐ ܕܥܒܕ ܝܫܘܥ ܐܡܪܝܢ ܗܘܘ ܫܪܝܪܐܝܬ ܗܢܘ ܢܒܝܐ ܕܐܬܐ ܠܥܠܡܐ ܀
15 Yna synhwyrodd Iesu eu bod am ddod a'i gipio ymaith i'w wneud yn frenin, a chiliodd i'r mynydd eto ar ei ben ei hun.
15ܝܫܘܥ ܕܝܢ ܝܕܥ ܕܥܬܝܕܝܢ ܕܢܐܬܘܢ ܢܚܛܦܘܢܝܗܝ ܘܢܥܒܕܘܢܝܗܝ ܡܠܟܐ ܘܫܢܝ ܠܗ ܠܛܘܪܐ ܗܘ ܒܠܚܘܕܘܗܝ ܀
16 Pan aeth hi'n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y m�
16ܘܟܕ ܗܘܐ ܪܡܫܐ ܢܚܬܘ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܠܝܡܐ ܀
17 ac i mewn i gwch, a dechrau croesi'r m�r i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll, ac nid oedd Iesu wedi dod atynt hyd yn hyn.
17ܘܝܬܒܘ ܒܤܦܝܢܬܐ ܘܐܬܝܢ ܗܘܘ ܠܥܒܪܐ ܠܟܦܪܢܚܘܡ ܘܚܫܟܬ ܗܘܬ ܠܗ ܘܠܐ ܐܬܝ ܗܘܐ ܠܘܬܗܘܢ ܝܫܘܥ ܀
18 Yr oedd gwynt cryf yn chwythu a'r m�r yn arw.
18ܝܡܐ ܕܝܢ ܐܙܕܩܦ ܗܘܐ ܥܠܝܗܘܢ ܡܛܠ ܕܪܘܚܐ ܪܒܬܐ ܢܫܒܬ ܗܘܬ ܀
19 Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw bum neu chwe chilomedr, dyma hwy'n gweld Iesu yn cerdded ar y m�r ac yn nesu at y cwch, a daeth ofn arnynt.
19ܘܕܒܪܘ ܐܝܟ ܐܤܛܕܘܬܐ ܥܤܪܝܢ ܘܚܡܫܐ ܐܘ ܬܠܬܝܢ ܘܚܙܘ ܠܝܫܘܥ ܟܕ ܡܗܠܟ ܥܠ ܝܡܬܐ ܘܟܕ ܩܪܒ ܠܘܬ ܤܦܝܢܬܗܘܢ ܕܚܠܘ ܀
20 Ond meddai ef wrthynt, " Myfi yw; peidiwch ag ofni."
20ܗܘ ܕܝܢ ܝܫܘܥ ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܐܢܐ ܐܢܐ ܠܐ ܬܕܚܠܘܢ ܀
21 Yr oeddent am ei gymryd ef i'r cwch, ond ar unwaith cyrhaeddodd y cwch i'r lan yr oeddent yn hwylio ati.
21ܘܨܒܘ ܗܘܘ ܕܢܩܒܠܘܢܝܗܝ ܒܤܦܝܢܬܐ ܘܒܗ ܒܫܥܬܐ ܤܦܝܢܬܐ ܗܝ ܗܘܬ ܠܘܬ ܐܪܥܐ ܗܝ ܕܐܙܠܝܢ ܗܘܘ ܠܗ ܀
22 Trannoeth, sylwodd y dyrfa oedd wedi aros ar yr ochr arall i'r m�r na fu ond un cwch yno. Gwyddent nad oedd Iesu wedi mynd i'r cwch gyda'i ddisgyblion, ond eu bod wedi hwylio ymaith ar eu pennau eu hunain.
22ܘܠܝܘܡܐ ܕܒܬܪܗ ܗܘ ܟܢܫܐ ܕܩܐܡ ܗܘܐ ܒܥܒܪܐ ܕܝܡܐ ܚܙܘ ܕܤܦܝܢܬܐ ܐܚܪܬܐ ܠܝܬ ܗܘܐ ܬܡܢ ܐܠܐ ܐܢ ܗܝ ܕܤܠܩܘ ܠܗ ܬܠܡܝܕܐ ܘܕܠܐ ܥܠ ܗܘܐ ܥܡܗܘܢ ܝܫܘܥ ܥܡ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܠܤܦܝܢܬܐ ܀
23 Ond yr oedd cychod eraill o Tiberias wedi dod yn agos i'r fan lle'r oeddent wedi bwyta'r bara ar �l i'r Arglwydd roi diolch.
23ܐܬܝ ܗܘܝ ܕܝܢ ܐܠܦܐ ܐܚܪܢܝܬܐ ܡܢ ܛܒܪܝܘܤ ܥܠ ܓܢܒ ܕܘܟܬܐ ܗܝ ܕܐܟܠܘ ܒܗ ܠܚܡܐ ܟܕ ܒܪܟ ܝܫܘܥ ܀
24 Felly, pan welodd y dyrfa nad oedd Iesu yno, na'i ddisgyblion chwaith, aethant hwythau i'r cychod hyn a hwylio i Gapernaum i chwilio am Iesu.
24ܘܟܕ ܚܙܐ ܗܘ ܟܢܫܐ ܕܠܐ ܗܘܐ ܬܡܢ ܝܫܘܥ ܐܦܠܐ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܤܠܩܘ ܠܗܠܝܢ ܐܠܦܐ ܘܐܬܘ ܠܟܦܪܢܚܘܡ ܘܒܥܝܢ ܗܘܘ ܠܗ ܠܝܫܘܥ ܀
25 Fe'i cawsant ef yr ochr draw i'r m�r, ac meddent wrtho, "Rabbi, pryd y daethost ti yma?"
25ܘܟܕ ܐܫܟܚܘܗܝ ܒܥܒܪܐ ܕܝܡܐ ܐܡܪܝܢ ܠܗ ܪܒܢ ܐܡܬܝ ܐܬܝܬ ܠܗܪܟܐ ܀
26 Atebodd Iesu hwy, "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, yr ydych yn fy ngheisio i, nid am ichwi weld arwyddion, ond am ichwi fwyta'r bara a chael digon.
26ܥܢܐ ܝܫܘܥ ܘܐܡܪ ܠܗܘܢ ܐܡܝܢ ܐܡܝܢ ܐܡܪ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܕܒܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܠܝ ܠܐ ܗܘܐ ܡܛܠ ܕܚܙܝܬܘܢ ܐܬܘܬܐ ܐܠܐ ܕܐܟܠܬܘܢ ܠܚܡܐ ܘܤܒܥܬܘܢ ܀
27 Gweithiwch, nid am y bwyd sy'n darfod, ond am y bwyd sy'n para i fywyd tragwyddol. Mab y Dyn a rydd hwn ichwi, oherwydd arno ef y mae Duw y Tad wedi gosod s�l ei awdurdod."
27ܠܐ ܬܦܠܚܘܢ ܡܐܟܘܠܬܐ ܕܐܒܕܐ ܐܠܐ ܡܐܟܘܠܬܐ ܕܡܩܘܝܐ ܠܚܝܐ ܕܠܥܠܡ ܐܝܕܐ ܕܒܪܗ ܕܐܢܫܐ ܢܬܠ ܠܟܘܢ ܠܗܢܐ ܓܝܪ ܐܒܐ ܚܬܡ ܐܠܗܐ ܀
28 Yna gofynasant iddo, "Beth sydd raid inni ei wneud i gyflawni'r gweithredoedd a fyn Duw?"
28ܐܡܪܝܢ ܠܗ ܡܢܐ ܢܥܒܕ ܕܢܦܠܘܚ ܥܒܕܐ ܕܐܠܗܐ ܀
29 Atebodd Iesu, "Dyma'r gwaith a fyn Duw: eich bod yn credu yn yr un y mae ef wedi ei anfon."
29ܥܢܐ ܝܫܘܥ ܘܐܡܪ ܠܗܘܢ ܗܢܘ ܥܒܕܐ ܕܐܠܗܐ ܕܬܗܝܡܢܘܢ ܒܡܢ ܕܗܘ ܫܕܪ ܀
30 "Os felly," meddent wrtho, "pa arwydd a wnei di, i ni gael gweld a chredu ynot? Beth fedri di ei wneud?
30ܐܡܪܝܢ ܠܗ ܡܢܐ ܐܬܐ ܥܒܕ ܐܢܬ ܕܢܚܙܐ ܘܢܗܝܡܢ ܒܟ ܡܢܐ ܤܥܪ ܐܢܬ ܀
31 Cafodd ein hynafiaid fanna i'w fwyta yn yr anialwch, fel y mae'n ysgrifenedig, 'Rhoddodd iddynt fara o'r nef i'w fwyta.'"
31ܐܒܗܝܢ ܡܢܢܐ ܐܟܠܘ ܒܡܕܒܪܐ ܐܝܟܢܐ ܕܟܬܝܒ ܕܠܚܡܐ ܡܢ ܫܡܝܐ ܝܗܒ ܠܗܘܢ ܠܡܐܟܠ ܀
32 Yna dywedodd Iesu wrthynt, "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid Moses sydd wedi rhoi'r bara o'r nef ichwi, ond fy Nhad sydd yn rhoi ichwi y gwir fara o'r nef.
32ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܝܫܘܥ ܐܡܝܢ ܐܡܝܢ ܐܡܪ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܕܠܐ ܗܘܐ ܡܘܫܐ ܝܗܒ ܠܟܘܢ ܠܚܡܐ ܡܢ ܫܡܝܐ ܐܠܐ ܐܒܝ ܝܗܒ ܠܟܘܢ ܠܚܡܐ ܕܩܘܫܬܐ ܡܢ ܫܡܝܐ ܀
33 Oherwydd bara Duw yw'r hwn sy'n disgyn o'r nef ac yn rhoi bywyd i'r byd."
33ܠܚܡܗ ܓܝܪ ܕܐܠܗܐ ܐܝܬܘܗܝ ܗܘ ܕܢܚܬ ܡܢ ܫܡܝܐ ܘܝܗܒ ܚܝܐ ܠܥܠܡܐ ܀
34 Dywedasant wrtho ef, "Syr, rho'r bara hwn inni bob amser."
34ܐܡܪܝܢ ܠܗ ܡܪܢ ܒܟܠܙܒܢ ܗܒ ܠܢ ܠܚܡܐ ܗܢܐ ܀
35 Meddai Iesu wrthynt, "Myfi yw bara'r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y sawl sy'n dod ataf fi, ac ni bydd syched byth ar y sawl sy'n credu ynof fi.
35ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܝܫܘܥ ܐܢܐ ܐܢܐ ܠܚܡܐ ܕܚܝܐ ܡܢ ܕܐܬܐ ܠܘܬܝ ܠܐ ܢܟܦܢ ܘܡܢ ܕܡܗܝܡܢ ܒܝ ܠܐ ܢܨܗܐ ܠܥܠܡ ܀
36 Ond fel y dywedais wrthych, yr ydych chwi wedi fy ngweld, ac eto nid ydych yn credu.
36ܐܠܐ ܐܡܪܬ ܠܟܘܢ ܕܚܙܝܬܘܢܢܝ ܘܠܐ ܡܗܝܡܢܝܢ ܐܢܬܘܢ ܀
37 Bydd pob un y mae'r Tad yn ei roi i mi yn dod ataf fi, ac ni fwriaf allan byth mo'r sawl sy'n dod ataf fi.
37ܟܠ ܕܝܗܒ ܠܝ ܐܒܝ ܠܘܬܝ ܢܐܬܐ ܘܡܢ ܕܠܘܬܝ ܢܐܬܐ ܠܐ ܐܦܩܗ ܠܒܪ ܀
38 Oherwydd yr wyf wedi disgyn o'r nef nid i wneud fy ewyllys fy hun ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i.
38ܕܢܚܬܬ ܡܢ ܫܡܝܐ ܠܐ ܗܘܐ ܕܐܥܒܕ ܨܒܝܢܝ ܐܠܐ ܕܐܥܒܕ ܨܒܝܢܗ ܕܡܢ ܕܫܕܪܢܝ ܀
39 Ac ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i yw hyn: nad wyf i golli neb o'r rhai y mae ef wedi eu rhoi imi, ond fy mod i'w hatgyfodi yn y dydd olaf.
39ܗܢܘ ܕܝܢ ܨܒܝܢܗ ܕܡܢ ܕܫܕܪܢܝ ܕܟܠ ܕܝܗܒ ܠܝ ܠܐ ܐܘܒܕ ܡܢܗ ܐܠܐ ܐܩܝܡܝܘܗܝ ܒܝܘܡܐ ܐܚܪܝܐ ܀
40 Oherwydd ewyllys fy Nhad yw hyn: fod pob un sy'n gweld y Mab ac yn credu ynddo i gael bywyd tragwyddol. A byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf."
40ܗܢܘ ܓܝܪ ܨܒܝܢܗ ܕܐܒܝ ܕܟܠ ܕܚܙܐ ܠܒܪܐ ܘܡܗܝܡܢ ܒܗ ܢܗܘܘܢ ܠܗ ܚܝܐ ܕܠܥܠܡ ܘܐܢܐ ܐܩܝܡܝܘܗܝ ܒܝܘܡܐ ܐܚܪܝܐ ܀
41 Yna dechreuodd yr Iddewon rwgnach amdano oherwydd iddo ddweud, "Myfi yw'r bara a ddisgynnodd o'r nef."
41ܝܗܘܕܝܐ ܕܝܢ ܪܛܢܝܢ ܗܘܘ ܥܠܘܗܝ ܕܐܡܪ ܕܐܢܐ ܐܢܐ ܠܚܡܐ ܕܢܚܬܬ ܡܢ ܫܡܝܐ ܀
42 "Onid hwn," meddent, "yw Iesu fab Joseff? Yr ydym ni'n adnabod ei dad a'i fam. Sut y gall ef ddweud yn awr, 'Yr wyf wedi disgyn o'r nef'?"
42ܘܐܡܪܝܢ ܗܘܘ ܠܐ ܗܘܐ ܗܢܐ ܝܫܘܥ ܒܪܗ ܕܝܘܤܦ ܗܘ ܕܚܢܢ ܝܕܥܝܢ ܠܐܒܘܗܝ ܘܠܐܡܗ ܘܐܝܟܢܐ ܐܡܪ ܗܢܐ ܕܡܢ ܫܡܝܐ ܢܚܬܬ ܀
43 Atebodd Iesu hwy, "Peidiwch � grwgnach ymhlith eich gilydd.
43ܥܢܐ ܝܫܘܥ ܘܐܡܪ ܠܗܘܢ ܠܐ ܬܪܛܢܘܢ ܚܕ ܥܡ ܚܕ ܀
44 Ni all neb ddod ataf fi heb i'r Tad a'm hanfonodd i ei dynnu; a byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf.
44ܠܐ ܐܢܫ ܡܫܟܚ ܕܢܐܬܐ ܠܘܬܝ ܐܠܐ ܐܢ ܢܓܕܗ ܐܒܐ ܕܫܕܪܢܝ ܘܐܢܐ ܐܩܝܡܝܘܗܝ ܒܝܘܡܐ ܐܚܪܝܐ ܀
45 Y mae'n ysgrifenedig yn y proffwydi: 'Fe g�nt oll eu dysgu gan Dduw.' Y mae pob un a wrandawodd ar y Tad ac a ddysgodd ganddo yn dod ataf fi.
45ܟܬܝܒ ܓܝܪ ܒܢܒܝܐ ܕܢܗܘܘܢ ܟܠܗܘܢ ܡܠܦܐ ܕܐܠܗܐ ܟܠ ܡܢ ܕܫܡܥ ܗܟܝܠ ܡܢ ܐܒܐ ܘܝܠܦ ܡܢܗ ܐܬܐ ܠܘܬܝ ܀
46 Nid bod neb wedi gweld y Tad, ac eithrio'r hwn sydd oddi wrth Dduw; y mae hwnnw wedi gweld y Tad.
46ܠܐ ܗܘܐ ܕܚܙܐ ܐܢܫ ܠܐܒܐ ܐܠܐ ܡܢ ܕܡܢ ܐܠܗܐ ܐܝܬܘܗܝ ܗܘ ܗܘ ܚܙܐ ܠܐܒܐ ܀
47 Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae gan y sawl sy'n credu fywyd tragwyddol.
47ܐܡܝܢ ܐܡܝܢ ܐܡܪ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܕܡܢ ܕܡܗܝܡܢ ܒܝ ܐܝܬ ܠܗ ܚܝܐ ܕܠܥܠܡ ܀
48 Myfi yw bara'r bywyd.
48ܐܢܐ ܐܢܐ ܠܚܡܐ ܕܚܝܐ ܀
49 Bwytaodd eich hynafiaid y manna yn yr anialwch, ac eto buont farw.
49ܐܒܗܝܟܘܢ ܐܟܠܘ ܡܢܢܐ ܒܡܕܒܪܐ ܘܡܝܬܘ ܀
50 Ond dyma'r bara sy'n disgyn o'r nef, er mwyn i rywun gael bwyta ohono a pheidio � marw.
50ܗܢܘ ܕܝܢ ܠܚܡܐ ܕܢܚܬ ܡܢ ܫܡܝܐ ܕܢܐܟܘܠ ܐܢܫ ܡܢܗ ܘܠܐ ܢܡܘܬ ܀
51 Myfi yw'r bara bywiol hwn a ddisgynnodd o'r nef. Caiff pwy bynnag sy'n bwyta o'r bara hwn fyw am byth. A'r bara sydd gennyf fi i'w roi yw fy nghnawd; a'i roi a wnaf dros fywyd y byd."
51ܐܢܐ ܐܢܐ ܠܚܡܐ ܚܝܐ ܕܡܢ ܫܡܝܐ ܢܚܬܬ ܘܐܢ ܐܢܫ ܢܐܟܘܠ ܡܢ ܗܢܐ ܠܚܡܐ ܢܚܐ ܠܥܠܡ ܘܠܚܡܐ ܐܝܢܐ ܕܐܢܐ ܐܬܠ ܦܓܪܝ ܗܘ ܕܥܠ ܐܦܝ ܚܝܘܗܝ ܕܥܠܡܐ ܝܗܒ ܐܢܐ ܀
52 Yna dechreuodd yr Iddewon ddadlau'n daer �'i gilydd, gan ddweud, "Sut y gall hwn roi ei gnawd i ni i'w fwyta?"
52ܢܨܝܢ ܗܘܘ ܕܝܢ ܝܗܘܕܝܐ ܚܕ ܥܡ ܚܕ ܘܐܡܪܝܢ ܐܝܟܢܐ ܡܫܟܚ ܗܢܐ ܦܓܪܗ ܕܢܬܠ ܠܢ ܠܡܐܟܠ ܀
53 Felly dywedodd Iesu wrthynt, "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, oni fwytewch gnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, ni bydd gennych fywyd ynoch.
53ܘܐܡܪ ܠܗܘܢ ܝܫܘܥ ܐܡܝܢ ܐܡܝܢ ܐܡܪ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܕܐܠܐ ܬܐܟܠܘܢ ܦܓܪܗ ܕܒܪܗ ܕܐܢܫܐ ܘܬܫܬܘܢ ܕܡܗ ܠܝܬ ܠܟܘܢ ܚܝܐ ܒܩܢܘܡܟܘܢ ܀
54 Y mae gan y sawl sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i fywyd tragwyddol, a byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf.
54ܡܢ ܕܐܟܠ ܕܝܢ ܡܢ ܦܓܪܝ ܘܫܬܐ ܡܢ ܕܡܝ ܐܝܬ ܠܗ ܚܝܐ ܕܠܥܠܡ ܘܐܢܐ ܐܩܝܡܝܘܗܝ ܒܝܘܡܐ ܐܚܪܝܐ ܀
55 Oherwydd fy nghnawd i yw'r gwir fwyd, a'm gwaed i yw'r wir ddiod.
55ܦܓܪܝ ܓܝܪ ܫܪܝܪܐܝܬ ܐܝܬܘܗܝ ܡܐܟܘܠܬܐ ܘܕܡܝ ܫܪܝܪܐܝܬ ܐܝܬܘܗܝ ܡܫܬܝܐ ܀
56 Y mae'r sawl sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau.
56ܡܢ ܕܐܟܠ ܦܓܪܝ ܘܫܬܐ ܕܡܝ ܒܝ ܡܩܘܐ ܘܐܢܐ ܒܗ ܀
57 Y Tad byw a'm hanfonodd i, ac yr wyf fi'n byw oherwydd y Tad; felly'n union bydd y sawl sy'n fy mwyta i yn byw o'm herwydd innau.
57ܐܝܟܢܐ ܕܫܕܪܢܝ ܐܒܐ ܚܝܐ ܘܐܢܐ ܚܝ ܐܢܐ ܡܛܠ ܐܒܐ ܘܡܢ ܕܢܐܟܠܢܝ ܐܦ ܗܘ ܢܚܐ ܡܛܠܬܝ ܀
58 Dyma'r bara a ddisgynnodd o'r nef. Nid yw hwn fel y bara a fwytaodd yr hynafiaid; buont hwy farw. Caiff y sawl sy'n bwyta'r bara hwn fyw am byth."
58ܗܢܘ ܠܚܡܐ ܕܢܚܬ ܡܢ ܫܡܝܐ ܠܐ ܗܘܐ ܐܝܟ ܕܐܟܠܘ ܐܒܗܝܟܘܢ ܡܢܢܐ ܘܡܝܬܘ ܡܢ ܕܐܟܠ ܗܢܐ ܠܚܡܐ ܢܚܐ ܠܥܠܡ ܀
59 Dywedodd Iesu y pethau hyn wrth ddysgu yn y synagog yng Nghapernaum.
59ܗܠܝܢ ܐܡܪ ܒܟܢܘܫܬܐ ܟܕ ܡܠܦ ܒܟܦܪܢܚܘܡ ܀
60 Wedi iddynt ei glywed, meddai llawer o'i ddisgyblion, "Geiriau caled yw'r rhain. Pwy all wrando arnynt?"
60ܘܤܓܝܐܐ ܕܫܡܥܘ ܡܢ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܐܡܪܝܢ ܩܫܝܐ ܗܝ ܡܠܬܐ ܗܕܐ ܡܢܘ ܡܫܟܚ ܠܡܫܡܥܗ ܀
61 Gwyddai Iesu ynddo'i hun fod ei ddisgyblion yn grwgnach am ei eiriau, ac meddai wrthynt, "A yw hyn yn peri tramgwydd i chwi?
61ܝܫܘܥ ܕܝܢ ܝܕܥ ܒܢܦܫܗ ܕܪܛܢܝܢ ܥܠ ܗܕܐ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܘܐܡܪ ܠܗܘܢ ܗܕܐ ܡܟܫܠܐ ܠܟܘܢ ܀
62 Beth ynteu os gwelwch Fab y Dyn yn esgyn i'r lle'r oedd o'r blaen?
62ܐܢ ܬܚܙܘܢ ܗܟܝܠ ܠܒܪܗ ܕܐܢܫܐ ܕܤܠܩ ܠܐܬܪ ܕܐܝܬܘܗܝ ܗܘܐ ܡܢ ܩܕܝܡ ܀
63 Yr Ysbryd sy'n rhoi bywyd; nid yw'r cnawd yn tycio dim. Y mae'r geiriau yr wyf fi wedi eu llefaru wrthych yn ysbryd ac yn fywyd.
63ܪܘܚܐ ܗܝ ܕܡܚܝܐ ܦܓܪܐ ܠܐ ܡܗܢܐ ܡܕܡ ܡܠܐ ܕܐܢܐ ܡܠܠܬ ܥܡܟܘܢ ܪܘܚܐ ܐܢܝܢ ܘܚܝܐ ܐܢܝܢ ܀
64 Ac eto y mae rhai ohonoch sydd heb gredu." Yr oedd Iesu, yn wir, yn gwybod o'r cychwyn pwy oedd y rhai oedd heb gredu, a phwy oedd yr un a'i bradychai.
64ܐܠܐ ܐܝܬ ܐܢܫܐ ܡܢܟܘܢ ܕܠܐ ܡܗܝܡܢܝܢ ܝܕܥ ܗܘܐ ܓܝܪ ܝܫܘܥ ܡܢ ܩܕܝܡ ܡܢ ܐܢܘܢ ܐܝܠܝܢ ܕܠܐ ܡܗܝܡܢܝܢ ܘܡܢܘ ܗܘ ܕܡܫܠܡ ܠܗ ܀
65 "Dyna pam," meddai, "y dywedais wrthych na allai neb ddod ataf fi heb i'r Tad beri iddo wneud hynny."
65ܘܐܡܪ ܗܘܐ ܠܗܘܢ ܡܛܠ ܗܢܐ ܐܡܪܬ ܠܟܘܢ ܕܠܐ ܐܢܫ ܡܫܟܚ ܕܢܐܬܐ ܠܘܬܝ ܐܠܐ ܝܗܝܒ ܠܗ ܡܢ ܐܒܝ ܀
66 O'r amser hwn trodd llawer o'i ddisgyblion yn eu holau a pheidio mwyach � mynd o gwmpas gydag ef.
66ܡܛܠ ܗܕܐ ܡܠܬܐ ܤܓܝܐܐ ܡܢ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܐܙܠܘ ܠܒܤܬܪܗܘܢ ܘܠܐ ܡܗܠܟܝܢ ܗܘܘ ܥܡܗ ܀
67 Yna gofynnodd Iesu i'r Deuddeg, "A ydych chwithau hefyd, efallai, am fy ngadael?"
67ܘܐܡܪ ܝܫܘܥ ܠܬܪܥܤܪܬܗ ܠܡܐ ܐܦ ܐܢܬܘܢ ܨܒܝܢ ܐܢܬܘܢ ܠܡܐܙܠ ܀
68 Atebodd Simon Pedr ef, "Arglwydd, at bwy yr awn ni? Y mae geiriau bywyd tragwyddol gennyt ti,
68ܥܢܐ ܫܡܥܘܢ ܟܐܦܐ ܘܐܡܪ ܡܪܝ ܠܘܬ ܡܢ ܢܐܙܠ ܡܠܐ ܕܚܝܐ ܕܠܥܠܡ ܐܝܬ ܠܟ ܀
69 ac yr ydym ni wedi dod i gredu a gwybod mai ti yw Sanct Duw."
69ܘܚܢܢ ܗܝܡܢܢ ܘܝܕܥܢ ܕܐܢܬ ܗܘ ܡܫܝܚܐ ܒܪܗ ܕܐܠܗܐ ܚܝܐ ܀
70 Atebodd Iesu hwy, "Onid myfi a'ch dewisodd chwi'r Deuddeg? Ac eto, onid diafol yw un ohonoch?"
70ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܝܫܘܥ ܠܐ ܗܘܐ ܐܢܐ ܓܒܝܬܟܘܢ ܠܬܪܥܤܪ ܘܡܢܟܘܢ ܚܕ ܤܛܢܐ ܗܘ ܀
71 Yr oedd yn siarad am Jwdas fab Simon Iscariot, oherwydd yr oedd hwn, ac yntau'n un o'r Deuddeg, yn mynd i'w fradychu ef.
71ܐܡܪ ܗܘܐ ܕܝܢ ܥܠ ܝܗܘܕܐ ܒܪ ܫܡܥܘܢ ܤܟܪܝܘܛܐ ܗܘ ܓܝܪ ܥܬܝܕ ܗܘܐ ܕܢܫܠܡܝܘܗܝ ܚܕ ܡܢ ܬܪܥܤܪ ܀