Welsh

Syriac: NT

Luke

4

1 Dychwelodd Iesu, yn llawn o'r Ysbryd Gl�n, o'r Iorddonen, ac arweiniwyd ef gan yr Ysbryd yn yr anialwch
1ܝܫܘܥ ܕܝܢ ܟܕ ܡܠܐ ܪܘܚܐ ܕܩܘܕܫܐ ܗܦܟ ܡܢ ܝܘܪܕܢܢ ܘܕܒܪܬܗ ܪܘܚܐ ܠܚܘܪܒܐ ܀
2 am ddeugain diwrnod, a'r diafol yn ei demtio. Ni fwytaodd ddim yn ystod y dyddiau hynny, ac ar eu diwedd daeth arno eisiau bwyd.
2ܝܘܡܬܐ ܐܪܒܥܝܢ ܕܢܬܢܤܐ ܡܢ ܐܟܠܩܪܨܐ ܘܠܐ ܠܥܤ ܡܕܡ ܒܗܢܘܢ ܝܘܡܬܐ ܘܟܕ ܫܠܡ ܐܢܘܢ ܠܚܪܬܐ ܟܦܢ ܀
3 Meddai'r diafol wrtho, "Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y garreg hon am droi'n fara."
3ܘܐܡܪ ܠܗ ܐܟܠܩܪܨܐ ܐܢ ܒܪܗ ܐܢܬ ܕܐܠܗܐ ܐܡܪ ܠܟܐܦܐ ܗܕܐ ܕܬܗܘܐ ܠܚܡܐ ܀
4 Atebodd Iesu ef, "Y mae'n ysgrifenedig: 'Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw.'"
4ܥܢܐ ܝܫܘܥ ܘܐܡܪ ܠܗ ܟܬܝܒ ܗܘ ܕܠܐ ܗܘܐ ܒܠܚܡܐ ܒܠܚܘܕ ܚܝܐ ܒܪܢܫܐ ܐܠܐ ܒܟܠ ܦܬܓܡ ܕܐܠܗܐ ܀
5 Yna aeth y diafol ag ef i fyny a dangos iddo ar amrantiad holl deyrnasoedd y byd,
5ܘܐܤܩܗ ܤܛܢܐ ܠܛܘܪܐ ܪܡܐ ܘܚܘܝܗ ܟܠܗܝܢ ܡܠܟܘܬܐ ܕܐܪܥܐ ܒܥܕܢܐ ܙܥܘܪܐ ܀
6 a dywedodd wrtho, "I ti y rhof yr holl awdurdod ar y rhain a'u gogoniant hwy; oherwydd i mi y mae wedi ei draddodi, ac yr wyf yn ei roi i bwy bynnag a fynnaf.
6ܘܐܡܪ ܠܗ ܐܟܠܩܪܨܐ ܠܟ ܐܬܠ ܫܘܠܛܢܐ ܗܢܐ ܟܠܗ ܘܫܘܒܚܗ ܕܠܝ ܡܫܠܡ ܘܠܡܢ ܕܐܨܒܐ ܝܗܒ ܐܢܐ ܠܗ ܀
7 Felly, os addoli di fi, dy eiddo di fydd y cyfan."
7ܐܢ ܗܟܝܠ ܬܤܓܘܕ ܩܕܡܝ ܕܝܠܟ ܢܗܘܐ ܟܠܗ ܀
8 Atebodd Iesu ef, "Y mae'n ysgrifenedig: 'Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.'"
8ܥܢܐ ܝܫܘܥ ܘܐܡܪ ܠܗ ܟܬܝܒ ܗܘ ܕܠܡܪܝܐ ܐܠܗܟ ܬܤܓܘܕ ܘܠܗ ܒܠܚܘܕܘܗܝ ܬܦܠܘܚ ܀
9 Ond aeth y diafol ag ef i Jerwsalem, a'i osod ar du373?r uchaf y deml, a dweud wrtho, "Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr oddi yma;
9ܘܐܝܬܝܗ ܠܐܘܪܫܠܡ ܘܐܩܝܡܗ ܥܠ ܟܢܦܐ ܕܗܝܟܠܐ ܘܐܡܪ ܠܗ ܐܢ ܒܪܗ ܐܢܬ ܕܐܠܗܐ ܐܪܡܐ ܢܦܫܟ ܡܟܐ ܠܬܚܬ ܀
10 oherwydd y mae'n ysgrifenedig: 'Rhydd orchymyn i'w angylion amdanat, i'th warchod di rhag pob perygl',
10ܟܬܝܒ ܓܝܪ ܕܠܡܠܐܟܘܗܝ ܢܦܩܕ ܥܠܝܟ ܕܢܢܛܪܘܢܟ ܀
11 a hefyd: 'Byddant yn dy godi ar eu dwylo rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.'"
11ܘܥܠ ܕܪܥܝܗܘܢ ܢܫܩܠܘܢܟ ܕܠܐ ܬܬܩܠ ܪܓܠܟ ܒܟܐܦܐ ܀
12 Yna atebodd Iesu ef, "Y mae'r Ysgrythur yn dweud: 'Paid � gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.'"
12ܥܢܐ ܕܝܢ ܝܫܘܥ ܘܐܡܪ ܠܗ ܐܡܝܪ ܗܘ ܕܠܐ ܬܢܤܐ ܠܡܪܝܐ ܐܠܗܟ ܀
13 Ac ar �l iddo ei demtio ym mhob modd, ymadawodd y diafol ag ef, gan aros ei gyfle.
13ܘܟܕ ܫܠܡ ܐܟܠܩܪܨܐ ܟܠܗܘܢ ܢܤܝܘܢܘܗܝ ܦܪܩ ܡܢ ܠܘܬܗ ܥܕ ܙܒܢܐ ܀
14 Dychwelodd Iesu yn nerth yr Ysbryd i Galilea. Aeth y s�n amdano ar hyd a lled y gymdogaeth.
14ܘܗܦܟ ܝܫܘܥ ܒܚܝܠܐ ܕܪܘܚܐ ܠܓܠܝܠܐ ܘܢܦܩ ܥܠܘܗܝ ܛܒܐ ܒܟܠܗ ܐܬܪܐ ܕܚܕܪܝܗܘܢ ܀
15 Yr oedd yn dysgu yn eu synagogau ac yn cael clod gan bawb.
15ܘܗܘ ܡܠܦ ܗܘܐ ܒܟܢܘܫܬܗܘܢ ܘܡܫܬܒܚ ܗܘܐ ܡܢ ܟܠ ܐܢܫ ܀
16 Daeth i Nasareth, lle yr oedd wedi ei fagu. Yn �l ei arfer aeth i'r synagog ar y dydd Saboth, a chododd i ddarllen.
16ܘܐܬܐ ܠܢܨܪܬ ܐܝܟܐ ܕܐܬܪܒܝ ܘܥܠ ܐܝܟܢܐ ܕܡܥܕ ܗܘܐ ܠܟܢܘܫܬܐ ܒܝܘܡܐ ܕܫܒܬܐ ܘܩܡ ܠܡܩܪܐ ܀
17 Rhoddwyd iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac agorodd y sgr�l a chael y man lle'r oedd yn ysgrifenedig:
17ܘܐܬܝܗܒ ܠܗ ܤܦܪܐ ܕܐܫܥܝܐ ܢܒܝܐ ܘܦܬܚ ܝܫܘܥ ܤܦܪܐ ܘܐܫܟܚ ܕܘܟܬܐ ܐܝܟܐ ܕܟܬܝܒ ܀
18 "Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwydd iddo f'eneinio i bregethu'r newydd da i dlodion. Y mae wedi f'anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i'r gorthrymedig gerdded yn rhydd,
18ܪܘܚܗ ܕܡܪܝܐ ܥܠܝ ܘܡܛܠ ܗܕܐ ܡܫܚܢܝ ܠܡܤܒܪܘ ܠܡܤܟܢܐ ܘܫܠܚܢܝ ܠܡܐܤܝܘ ܠܬܒܝܪܝ ܠܒܐ ܘܠܡܟܪܙܘ ܠܫܒܝܐ ܫܘܒܩܢܐ ܘܠܥܘܝܪܐ ܚܙܝܐ ܘܠܡܫܪܪܘ ܠܬܒܝܪܐ ܒܫܘܒܩܢܐ ܀
19 i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd."
19ܘܠܡܟܪܙܘ ܫܢܬܐ ܡܩܒܠܬܐ ܠܡܪܝܐ ܀
20 Wedi cau'r sgr�l a'i rhoi'n �l i'r swyddog, fe eisteddodd; ac yr oedd llygaid pawb yn y synagog yn syllu arno.
20ܘܟܪܟ ܤܦܪܐ ܘܝܗܒܗ ܠܡܫܡܫܢܐ ܘܐܙܠ ܝܬܒ ܟܠܗܘܢ ܕܝܢ ܕܒܟܢܘܫܬܐ ܥܝܢܝܗܘܢ ܚܝܪܢ ܗܘܝ ܒܗ ܀
21 A'i eiriau cyntaf wrthynt oedd: "Heddiw yn eich clyw chwi y mae'r Ysgrythur hon wedi ei chyflawni."
21ܘܫܪܝ ܠܡܐܡܪ ܠܘܬܗܘܢ ܕܝܘܡܢܐ ܐܫܬܠܡ ܟܬܒܐ ܗܢܐ ܒܐܕܢܝܟܘܢ ܀
22 Yr oedd pawb yn ei gymeradwyo ac yn rhyfeddu at y geiriau grasusol oedd yn dod o'i enau ef, gan ddweud, "Onid mab Joseff yw hwn?"
22ܘܤܗܕܝܢ ܗܘܘ ܠܗ ܟܠܗܘܢ ܘܡܬܕܡܪܝܢ ܗܘܘ ܒܡܠܐ ܕܛܝܒܘܬܐ ܕܢܦܩܢ ܗܘܝ ܡܢ ܦܘܡܗ ܘܐܡܪܝܢ ܗܘܘ ܠܐ ܗܘܐ ܗܢܐ ܒܪ ܝܘܤܦ ܀
23 Ac meddai wrthynt, "Diau yr adroddwch wrthyf y ddihareb, 'Feddyg, iach� dy hun', a dweud, 'Yr holl bethau y clywsom iddynt ddigwydd yng Nghapernaum, gwna hwy yma hefyd ym mro dy febyd.'"
23ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܝܫܘܥ ܟܒܪ ܬܐܡܪܘܢ ܠܝ ܡܬܠܐ ܗܢܐ ܐܤܝܐ ܐܤܐ ܢܦܫܟ ܘܟܠ ܕܫܡܥܢ ܕܥܒܕܬ ܒܟܦܪܢܚܘܡ ܥܒܕ ܐܦ ܗܪܟܐ ܒܡܕܝܢܬܟ ܀
24 Ond meddai, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych nad oes dim croeso i'r un proffwyd ym mro ei febyd.
24ܗܘ ܕܝܢ ܐܡܪ ܐܡܝܢ ܐܡܪ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܕܠܝܬ ܢܒܝܐ ܕܡܬܩܒܠ ܒܡܕܝܢܬܗ ܀
25 Ar fy ngwir rwy'n dweud wrthych, yr oedd llawer o wragedd gweddw yn Israel yn nyddiau Elias pan gaewyd y ffurfafen am dair blynedd a chwe mis, ac y bu newyn mawr ar yr holl wlad.
25ܫܪܪܐ ܓܝܪ ܐܡܪ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܕܤܓܝ ܐܪܡܠܬܐ ܐܝܬ ܗܘܝ ܒܐܝܤܪܝܠ ܒܝܘܡܝ ܐܠܝܐ ܢܒܝܐ ܟܕ ܐܬܬܚܕܘ ܫܡܝܐ ܫܢܝܢ ܬܠܬ ܘܝܪܚܐ ܫܬܐ ܘܗܘܐ ܟܦܢܐ ܪܒܐ ܒܟܠܗ ܐܪܥܐ ܀
26 Ond nid at un ohonynt hwy yr anfonwyd Elias, ond yn hytrach at wraig weddw yn Sarepta yng ngwlad Sidon.
26ܘܠܘܬ ܚܕܐ ܡܢܗܝܢ ܠܐ ܐܫܬܕܪ ܐܠܝܐ ܐܠܐ ܠܨܪܦܬ ܕܨܝܕܢ ܠܘܬ ܐܢܬܬܐ ܐܪܡܠܬܐ ܀
27 Ac yr oedd llawer o wahangleifion yn Israel yn amser y proffwyd Eliseus, ac ni lanhawyd yr un ohonynt hwy, ond yn hytrach Naaman y Syriad."
27ܘܤܓܝܐܐ ܓܪܒܐ ܐܝܬ ܗܘܘ ܒܝܬ ܐܝܤܪܝܠ ܒܝܘܡܝ ܐܠܝܫܥ ܢܒܝܐ ܘܚܕ ܡܢܗܘܢ ܠܐ ܐܬܕܟܝ ܐܠܐ ܐܢ ܢܥܡܢ ܐܪܡܝܐ ܀
28 Wrth glywed hyn llanwyd pawb yn y synagog � dicter;
28ܘܟܕ ܫܡܥܘ ܗܠܝܢ ܗܢܘܢ ܕܒܟܢܘܫܬܐ ܐܬܡܠܝܘ ܚܡܬܐ ܟܠܗܘܢ ܀
29 codasant, a bwriasant ef allan o'r dref a mynd ag ef hyd at ael y bryn yr oedd eu tref wedi ei hadeiladu arno, i'w luchio o'r clogwyn.
29ܘܩܡܘ ܐܦܩܘܗܝ ܠܒܪ ܡܢ ܡܕܝܢܬܐ ܘܐܝܬܝܘܗܝ ܥܕܡܐ ܠܓܒܝܢܐ ܕܛܘܪܐ ܗܘ ܕܡܕܝܢܬܗܘܢ ܒܢܝܐ ܗܘܬ ܥܠܘܗܝ ܕܢܫܕܘܢܝܗܝ ܡܢ ܫܩܝܦܐ ܀
30 Ond aeth ef drwy eu canol hwy, ac ymaith ar ei daith.
30ܗܘ ܕܝܢ ܥܒܪ ܒܝܢܬܗܘܢ ܘܐܙܠ ܀
31 Aeth i lawr i Gapernaum, tref yng Ngalilea, a bu'n dysgu'r bobl ar y Saboth.
31ܘܢܚܬ ܠܟܦܪܢܚܘܡ ܡܕܝܢܬܐ ܕܓܠܝܠܐ ܘܡܠܦ ܗܘܐ ܠܗܘܢ ܒܫܒܐ ܀
32 Yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu, oherwydd yr oedd ei air yn llawn awdurdod.
32ܘܬܡܝܗܝܢ ܗܘܘ ܒܝܘܠܦܢܗ ܕܡܫܠܛܐ ܗܘܬ ܡܠܬܗ ܀
33 Yn y synagog yr oedd dyn a chanddo ysbryd cythraul aflan. Gwaeddodd hwnnw � llais uchel,
33ܘܐܝܬ ܗܘܐ ܒܟܢܘܫܬܐ ܓܒܪܐ ܕܐܝܬ ܗܘܐ ܒܗ ܪܘܚܐ ܕܫܐܕܐ ܛܢܦܐ ܘܙܥܩ ܒܩܠܐ ܪܡܐ ܀
34 "Och, beth sydd a fynni di � ni, Iesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti � Sanct Duw."
34ܘܐܡܪ ܫܒܘܩܝܢܝ ܡܐ ܠܢ ܘܠܟ ܝܫܘܥ ܢܨܪܝܐ ܐܬܝܬ ܠܡܘܒܕܘܬܢ ܝܕܥ ܐܢܐ ܠܟ ܡܢ ܐܢܬ ܩܕܝܫܗ ܕܐܠܗܐ ܀
35 Ceryddodd Iesu ef �'r geiriau, "Taw, a dos allan ohono." Lluchiodd y cythraul y dyn i'w canol ac aeth allan ohono heb niweidio dim arno.
35ܘܟܐܐ ܒܗ ܝܫܘܥ ܘܐܡܪ ܤܟܘܪ ܦܘܡܟ ܘܦܘܩ ܡܢܗ ܘܫܕܝܗܝ ܫܐܕܐ ܒܡܨܥܬܐ ܘܢܦܩ ܡܢܗ ܟܕ ܠܐ ܤܪܚ ܒܗ ܡܕܡ ܀
36 Aeth pawb yn syn a dechreusant siarad �'i gilydd, gan ddweud, "Pa air yw hwn? Y mae ef yn gorchymyn yr ysbrydion aflan ag awdurdod ac � nerth, ac y maent yn mynd allan."
36ܘܬܡܗܐ ܪܒܐ ܐܚܕ ܠܟܠܢܫ ܘܡܡܠܠܝܢ ܗܘܘ ܥܡ ܚܕܕܐ ܘܐܡܪܝܢ ܡܢܐ ܗܝ ܟܝ ܡܠܬܐ ܗܕܐ ܕܒܫܘܠܛܢܐ ܘܒܚܝܠܐ ܦܩܕܐ ܠܪܘܚܐ ܛܢܦܬܐ ܘܢܦܩܢ ܀
37 Yr oedd s�n amdano yn mynd ar hyd a lled y gymdogaeth.
37ܘܢܦܩ ܥܠܘܗܝ ܛܒܐ ܒܟܠܗ ܐܬܪܐ ܕܚܕܪܝܗܘܢ ܀
38 Ymadawodd Iesu �'r synagog ac aeth i du375? Simon. Yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn dioddef dan dwymyn lem, a deisyfasant ar Iesu ar ei rhan.
38ܘܟܕ ܢܦܩ ܝܫܘܥ ܡܢ ܟܢܘܫܬܐ ܥܠ ܠܒܝܬܗ ܕܫܡܥܘܢ ܘܚܡܬܗ ܕܫܡܥܘܢ ܐܠܝܨܐ ܗܘܬ ܒܐܫܬܐ ܪܒܬܐ ܘܒܥܘ ܡܢܗ ܡܛܠܬܗ ܀
39 Safodd ef uwch ei phen a cheryddu'r dwymyn, a gadawodd y dwymyn hi; ac ar unwaith cododd a dechrau gweini arnynt.
39ܘܩܡ ܠܥܠ ܡܢܗ ܘܟܐܐ ܒܐܫܬܗ ܘܫܒܩܬܗ ܘܡܚܕܐ ܩܡܬ ܘܡܫܡܫܐ ܗܘܬ ܠܗܘܢ ܀
40 Ac ar fachlud haul, pawb oedd � chleifion yn dioddef dan amrywiol afiechydon, daethant � hwy ato; a gosododd yntau ei ddwylo ar bob un ohonynt a'u hiach�u.
40ܡܥܪܒܝ ܫܡܫܐ ܕܝܢ ܟܠܗܘܢ ܐܝܠܝܢ ܕܐܝܬ ܗܘܐ ܠܗܘܢ ܟܪܝܗܐ ܕܟܪܝܗܝܢ ܒܟܘܪܗܢܐ ܡܫܚܠܦܐ ܐܝܬܝܘ ܐܢܘܢ ܠܘܬܗ ܗܘ ܕܝܢ ܥܠ ܚܕ ܚܕ ܡܢܗܘܢ ܐܝܕܗ ܤܐܡ ܗܘܐ ܘܡܐܤܐ ܗܘܐ ܠܗܘܢ ܀
41 Yr oedd cythreuliaid yn ymadael � llawer o bobl gan floeddio, "Mab Duw wyt ti." Ond eu ceryddu a wn�i ef, a gwahardd iddynt ddweud gair, am eu bod yn gwybod mai'r Meseia oedd ef.
41ܘܢܦܩܝܢ ܗܘܘ ܐܦ ܫܐܕܐ ܡܢ ܤܓܝܐܐ ܟܕ ܡܙܥܩܝܢ ܘܐܡܪܝܢ ܕܐܢܬ ܗܘ ܡܫܝܚܐ ܒܪܗ ܕܐܠܗܐ ܘܟܐܐ ܗܘܐ ܒܗܘܢ ܘܠܐ ܫܒܩ ܗܘܐ ܠܗܘܢ ܕܢܐܡܪܘܢ ܕܝܕܥܝܢ ܕܗܘܝܘ ܡܫܝܚܐ ܀
42 Pan ddaeth hi'n ddydd aeth allan a theithio i le unig. Yr oedd y tyrfaoedd yn chwilio amdano, a daethant hyd ato a cheisio'i rwystro rhag mynd ymaith oddi wrthynt.
42ܘܠܨܦܪܗ ܕܝܘܡܐ ܢܦܩ ܐܙܠ ܠܗ ܠܐܬܪܐ ܚܘܪܒܐ ܘܟܢܫܐ ܒܥܝܢ ܗܘܘ ܠܗ ܘܐܬܘ ܥܕܡܐ ܠܘܬܗ ܘܐܚܕܘܗܝ ܕܠܐ ܢܐܙܠ ܠܗ ܡܢ ܠܘܬܗܘܢ ܀
43 Ond dywedodd ef wrthynt, "Y mae'n rhaid imi gyhoeddi'r newydd da am deyrnas Dduw i'r trefi eraill yn ogystal, oherwydd i hynny y'm hanfonwyd i."
43ܗܘ ܕܝܢ ܝܫܘܥ ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܕܐܦ ܠܡܕܝܢܬܐ ܐܚܪܢܝܬܐ ܘܠܐ ܠܝ ܠܡܤܒܪܘ ܡܠܟܘܬܗ ܕܐܠܗܐ ܕܥܠ ܗܕܐ ܗܘ ܐܫܬܕܪܬ ܀
44 Ac yr oedd yn pregethu yn synagogau Jwdea.
44ܘܗܘ ܡܟܪܙ ܗܘܐ ܒܟܢܘܫܬܐ ܕܓܠܝܠܐ ܀