Welsh

Syriac: NT

Mark

11

1 Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem, at Bethffage a Bethania, ger Mynydd yr Olewydd, anfonodd ddau o'i ddisgyblion,
1ܘܟܕ ܩܪܒ ܠܐܘܪܫܠܡ ܥܠ ܓܢܒ ܒܝܬ ܦܓܐ ܘܒܝܬ ܥܢܝܐ ܠܘܬ ܛܘܪܐ ܕܙܝܬܐ ܫܕܪ ܬܪܝܢ ܡܢ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܀
2 ac meddai wrthynt, "Ewch i'r pentref sydd gyferbyn � chwi, ac yn syth wrth ichwi fynd i mewn iddo, cewch ebol wedi ei rwymo, un nad oes neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma.
2ܘܐܡܪ ܠܗܘܢ ܙܠܘ ܠܩܪܝܬܐ ܗܝ ܕܠܩܘܒܠܢ ܘܒܪ ܫܥܬܗ ܕܥܐܠܝܢ ܐܢܬܘܢ ܠܗ ܡܫܟܚܝܢ ܐܢܬܘܢ ܥܝܠܐ ܕܐܤܝܪ ܕܐܢܫ ܡܢ ܒܢܝܢܫܐ ܠܐ ܪܟܒܗ ܫܪܘ ܐܝܬܐܘܗܝ ܀
3 Ac os dywed rhywun wrthych, 'Pam yr ydych yn gwneud hyn?' dywedwch, 'Y mae ar y Meistr ei angen, a bydd yn ei anfon yn �l yma yn union deg.'"
3ܘܐܢ ܐܢܫ ܢܐܡܪ ܠܟܘܢ ܡܢܐ ܥܒܕܝܢ ܐܢܬܘܢ ܗܕܐ ܐܡܪܘ ܠܗ ܕܠܡܪܢ ܡܬܒܥܐ ܘܡܚܕܐ ܡܫܕܪ ܠܗ ܠܟܐ ܀
4 Aethant ymaith a chawsant ebol wedi ei rwymo wrth ddrws y tu allan ar yr heol, a gollyngasant ef.
4ܘܐܙܠܘ ܐܫܟܚܘ ܥܝܠܐ ܕܐܤܝܪ ܥܠ ܬܪܥܐ ܠܒܪ ܒܫܘܩܐ ܘܟܕ ܫܪܝܢ ܠܗ ܀
5 Ac meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno wrthynt, "Beth ydych yn ei wneud, yn gollwng yr ebol?"
5ܐܢܫܝܢ ܡܢ ܐܝܠܝܢ ܕܩܝܡܝܢ ܐܡܪܘ ܠܗܘܢ ܡܢܐ ܥܒܕܝܢ ܐܢܬܘܢ ܕܫܪܝܢ ܐܢܬܘܢ ܥܝܠܐ ܀
6 Atebasant hwythau fel yr oedd Iesu wedi dweud, a gadawyd iddynt fynd.
6ܗܢܘܢ ܕܝܢ ܐܡܪܘ ܠܗܘܢ ܐܝܟ ܕܦܩܕ ܐܢܘܢ ܝܫܘܥ ܘܫܒܩܘ ܐܢܘܢ ܀
7 Daethant �'r ebol at Iesu a bwrw eu mentyll arno, ac eisteddodd yntau ar ei gefn.
7ܘܐܝܬܝܘܗܝ ܠܥܝܠܐ ܠܘܬ ܝܫܘܥ ܘܐܪܡܝܘ ܥܠܘܗܝ ܡܐܢܝܗܘܢ ܘܪܟܒ ܥܠܘܗܝ ܝܫܘܥ ܀
8 Taenodd llawer eu mentyll ar y ffordd, ac eraill ganghennau deiliog yr oeddent wedi eu torri o'r meysydd.
8ܤܓܝܐܐ ܕܝܢ ܡܫܘܝܢ ܗܘܘ ܢܚܬܝܗܘܢ ܒܐܘܪܚܐ ܘܐܚܪܢܐ ܦܤܩܝܢ ܗܘܘ ܤܘܟܐ ܡܢ ܐܝܠܢܐ ܘܡܫܘܝܢ ܒܐܘܪܚܐ ܀
9 Ac yr oedd y rhai ar y blaen a'r rhai o'r tu �l yn gweiddi: "Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.
9ܘܗܢܘܢ ܕܩܕܡܘܗܝ ܘܗܢܘܢ ܕܒܬܪܗ ܩܥܝܢ ܗܘܘ ܘܐܡܪܝܢ ܐܘܫܥܢܐ ܒܪܝܟ ܗܘ ܕܐܬܐ ܒܫܡܗ ܕܡܪܝܐ ܀
10 Bendigedig yw'r deyrnas sy'n dod, teyrnas ein tad Dafydd; Hosanna yn y goruchaf!"
10ܘܒܪܝܟܐ ܗܝ ܡܠܟܘܬܐ ܕܐܬܝܐ ܕܐܒܘܢ ܕܘܝܕ ܐܘܫܥܢܐ ܒܡܪܘܡܐ ܀
11 Aeth i mewn i Jerwsalem ac i'r deml, ac wedi edrych o'i gwmpas ar bopeth, gan ei bod eisoes yn hwyr, aeth allan i Fethania gyda'r Deuddeg.
11ܘܥܠ ܝܫܘܥ ܠܐܘܪܫܠܡ ܠܗܝܟܠܐ ܘܚܙܐ ܟܠܡܕܡ ܟܕ ܗܘܐ ܕܝܢ ܥܕܢܐ ܕܪܡܫܐ ܢܦܩ ܠܒܝܬ ܥܢܝܐ ܥܡ ܬܪܥܤܪ ܀
12 Trannoeth, wedi iddynt ddod allan o Fethania, daeth chwant bwyd arno.
12ܘܠܝܘܡܐ ܐܚܪܢܐ ܟܕ ܢܦܩ ܡܢ ܒܝܬ ܥܢܝܐ ܟܦܢ ܀
13 A phan welodd o bell ffigysbren ac arno ddail, aeth i edrych tybed a g�i rywbeth arno. A phan ddaeth ato ni chafodd ddim ond dail, oblegid nid oedd yn dymor ffigys.
13ܘܚܙܐ ܬܬܐ ܚܕܐ ܡܢ ܪܘܚܩܐ ܕܐܝܬ ܒܗ ܛܪܦܐ ܘܐܬܐ ܠܘܬܗ ܕܐܢ ܢܫܟܚ ܒܗ ܡܕܡ ܘܟܕ ܐܬܐ ܠܐ ܐܫܟܚ ܒܗ ܐܠܐ ܐܢ ܛܪܦܐ ܙܒܢܐ ܓܝܪ ܠܐ ܗܘܐ ܗܘܐ ܕܬܐܢܐ ܀
14 Dywedodd wrtho, "Peidied neb � bwyta ffrwyth ohonot ti byth mwy!" Ac yr oedd ei ddisgyblion yn gwrando.
14ܘܐܡܪ ܠܗ ܡܟܝܠ ܘܠܥܠܡ ܐܢܫ ܡܢܟܝ ܦܐܪܐ ܠܐ ܢܐܟܘܠ ܘܫܡܥܘ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܘܐܬܘ ܠܐܘܪܫܠܡ ܀
15 Daethant i Jerwsalem. Aeth i mewn i'r deml a dechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a'r rhai oedd yn prynu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod,
15ܘܥܠ ܝܫܘܥ ܠܗܝܟܠܐ ܕܐܠܗܐ ܘܫܪܝ ܕܢܦܩ ܠܐܝܠܝܢ ܕܙܒܢܝܢ ܘܡܙܒܢܝܢ ܒܗܝܟܠܐ ܘܗܦܟ ܦܬܘܪܐ ܕܡܥܪܦܢܐ ܘܟܘܪܤܘܬܐ ܕܗܢܘܢ ܕܡܙܒܢܝܢ ܝܘܢܐ ܀
16 ac ni adawai i neb gludo dim trwy'r deml.
16ܘܠܐ ܫܒܩ ܗܘܐ ܕܐܢܫ ܢܥܒܪ ܡܐܢܐ ܒܓܘ ܗܝܟܠܐ ܀
17 A dechreuodd eu dysgu a dweud wrthynt, "Onid yw'n ysgrifenedig: 'Gelwir fy nhu375? i yn du375? gweddi i'r holl genhedloedd, ond yr ydych chwi wedi ei wneud yn ogof lladron'?"
17ܘܡܠܦ ܗܘܐ ܘܐܡܪ ܠܗܘܢ ܠܐ ܟܬܝܒ ܕܒܝܬܝ ܒܝܬ ܨܠܘܬܐ ܢܬܩܪܐ ܠܟܠܗܘܢ ܥܡܡܐ ܐܢܬܘܢ ܕܝܢ ܥܒܕܬܘܢܝܗܝ ܡܥܪܬܐ ܕܠܤܛܝܐ ܀
18 Clywodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion am hyn, a dechreusant geisio ffordd i'w ladd ef, achos yr oedd arnynt ei ofn, gan fod yr holl dyrfa wedi ei syfrdanu gan ei ddysgeidiaeth.
18ܘܫܡܥܘ ܪܒܝ ܟܗܢܐ ܘܤܦܪܐ ܘܒܥܝܢ ܗܘܘ ܕܐܝܟܢܐ ܢܘܒܕܘܢܝܗܝ ܕܚܠܝܢ ܗܘܘ ܓܝܪ ܡܢܗ ܡܛܠ ܕܟܠܗ ܥܡܐ ܬܡܝܗܝܢ ܗܘܘ ܒܝܘܠܦܢܗ ܀
19 A phan aeth hi'n hwyr aethant allan o'r ddinas.
19ܘܟܕ ܗܘܐ ܪܡܫܐ ܢܦܩܘ ܠܒܪ ܡܢ ܡܕܝܢܬܐ ܀
20 Yn y bore, wrth fynd heibio, gwelsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.
20ܘܒܨܦܪܐ ܟܕ ܥܒܪܝܢ ܚܙܘ ܬܬܐ ܗܝ ܟܕ ܝܒܝܫܐ ܡܢ ܥܩܪܗ ܀
21 Cofiodd Pedr, a dywedodd wrtho, "Rabbi, edrych, y mae'r ffigysbren a felltithiaist wedi crino."
21ܘܐܬܕܟܪ ܫܡܥܘܢ ܘܐܡܪ ܠܗ ܪܒܝ ܗܐ ܬܬܐ ܗܝ ܕܠܛܬ ܝܒܫܬ ܀
22 Atebodd Iesu hwy: "Bydded gennych ffydd yn Nuw;
22ܘܥܢܐ ܝܫܘܥ ܘܐܡܪ ܠܗܘܢ ܬܗܘܐ ܒܟܘܢ ܗܝܡܢܘܬܐ ܕܐܠܗܐ ܀
23 yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag a ddywed wrth y mynydd hwn, 'Coder di a bwrier di i'r m�r', heb amau yn ei galon, ond credu y digwydd yr hyn a ddywed, fe'i rhoddir iddo.
23ܐܡܝܢ ܓܝܪ ܐܡܪ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܕܡܢ ܕܢܐܡܪ ܠܛܘܪܐ ܗܢܐ ܕܐܫܬܩܠ ܘܦܠ ܒܝܡܐ ܘܠܐ ܢܬܦܠܓ ܒܠܒܗ ܐܠܐ ܢܗܝܡܢ ܕܗܘܐ ܗܘ ܡܕܡ ܕܐܡܪ ܢܗܘܐ ܠܗ ܡܕܡ ܕܐܡܪ ܀
24 Gan hynny rwy'n dweud wrthych, beth bynnag oll yr ydych yn gwedd�o ac yn gofyn amdano, credwch eich bod wedi ei dderbyn, ac fe'i rhoddir i chwi.
24ܡܛܠ ܗܢܐ ܐܡܪ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܕܟܠ ܡܕܡ ܕܡܨܠܝܢ ܐܢܬܘܢ ܘܫܐܠܝܢ ܐܢܬܘܢ ܗܝܡܢܘ ܕܢܤܒܝܢ ܐܢܬܘܢ ܘܢܗܘܐ ܠܟܘܢ ܀
25 A phan fyddwch ar eich traed yn gwedd�o, os bydd gennych rywbeth yn erbyn unrhyw un, maddeuwch iddynt, er mwyn i'ch Tad sydd yn y nefoedd faddau i chwithau eich camweddau."
25ܘܡܐ ܕܩܝܡܝܢ ܐܢܬܘܢ ܠܡܨܠܝܘ ܫܒܘܩܘ ܡܕܡ ܕܐܝܬ ܠܟܘܢ ܥܠ ܐܢܫ ܕܐܦ ܐܒܘܟܘܢ ܕܒܫܡܝܐ ܢܫܒܘܩ ܠܟܘܢ ܤܟܠܘܬܟܘܢ ܀
26 [{cf15i Ond os na faddeuwch chwi, ni faddeua chwaith eich Tad sydd yn y nefoedd eich camweddau chwi.}]
26ܐܢ ܕܝܢ ܐܢܬܘܢ ܠܐ ܫܒܩܝܢ ܐܢܬܘܢ ܐܦܠܐ ܐܒܘܟܘܢ ܕܒܫܡܝܐ ܢܫܒܘܩ ܠܟܘܢ ܤܟܠܘܬܟܘܢ ܀
27 Daethant drachefn i Jerwsalem. Ac wrth ei fod yn cerdded yn y deml, dyma'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion a'r henuriaid yn dod ato,
27ܘܐܬܘ ܬܘܒ ܠܐܘܪܫܠܡ ܘܟܕ ܡܗܠܟ ܗܘܐ ܒܗܝܟܠܐ ܐܬܘ ܠܘܬܗ ܪܒܝ ܟܗܢܐ ܘܤܦܪܐ ܘܩܫܝܫܐ ܀
28 ac meddent wrtho, "Trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn i wneud y pethau hyn?"
28ܘܐܡܪܝܢ ܠܗ ܒܐܝܢܐ ܫܘܠܛܢܐ ܗܠܝܢ ܥܒܕ ܐܢܬ ܘܡܢܘ ܝܗܒ ܠܟ ܫܘܠܛܢܐ ܗܢܐ ܕܗܠܝܢ ܬܥܒܕ ܀
29 Dywedodd Iesu wrthynt, "Fe ofynnaf un peth i chwi; atebwch fi, ac fe ddywedaf wrthych trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.
29ܗܘ ܕܝܢ ܝܫܘܥ ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܐܫܐܠܟܘܢ ܐܦ ܐܢܐ ܡܠܬܐ ܚܕܐ ܕܬܐܡܪܘܢ ܠܝ ܘܐܢܐ ܐܡܪ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܒܐܝܢܐ ܫܘܠܛܢܐ ܗܠܝܢ ܥܒܕ ܐܢܐ ܀
30 Bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o'r byd daearol? Atebwch fi."
30ܡܥܡܘܕܝܬܗ ܕܝܘܚܢܢ ܡܢ ܐܝܡܟܐ ܗܝ ܡܢ ܫܡܝܐ ܐܘ ܡܢ ܒܢܝ ܐܢܫܐ ܐܡܪܘ ܠܝ ܀
31 Dechreusant ddadlau �'i gilydd a dweud, "Os dywedwn, 'o'r nef', fe ddywed, 'Pam, ynteu, na chredasoch ef?'
31ܘܐܬܚܫܒܘ ܒܢܦܫܗܘܢ ܘܐܡܪܘ ܕܐܢ ܢܐܡܪ ܠܗ ܕܡܢ ܫܡܝܐ ܐܡܪ ܠܢ ܘܠܡܢܐ ܠܐ ܗܝܡܢܬܘܢܝܗܝ ܀
32 Eithr a ddywedwn, 'o'r byd daearol'?" � yr oedd arnynt ofn y dyrfa, oherwydd yr oedd pawb yn dal fod Ioan yn broffwyd mewn gwirionedd.
32ܘܕܢܐܡܪ ܡܢ ܒܢܝ ܐܢܫܐ ܕܚܠܬܐ ܗܝ ܡܢ ܥܡܐ ܟܠܗܘܢ ܓܝܪ ܐܚܝܕܝܢ ܗܘܘ ܠܗ ܠܝܘܚܢܢ ܕܫܪܝܪܐܝܬ ܢܒܝܐ ܗܘ ܀ 33 ܘܥܢܘ ܘܐܡܪܝܢ ܠܗ ܠܝܫܘܥ ܠܐ ܝܕܥܝܢܢ ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܐܦ ܠܐ ܐܢܐ ܐܡܪ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܒܐܝܢܐ ܫܘܠܛܢܐ ܗܠܝܢ ܥܒܕ ܐܢܐ ܀
33 Atebasant Iesu, "Ni wyddom ni ddim." Ac meddai Iesu wrthynt, "Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn."
33