Welsh

Syriac: NT

Mark

15

1 Cyn gynted ag y daeth hi'n ddydd, ymgynghorodd y prif offeiriaid �'r henuriaid a'r ysgrifenyddion a'r holl Sanhedrin; yna rhwymasant Iesu a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat.
1ܘܡܚܕܐ ܒܨܦܪܐ ܥܒܕܘ ܡܠܟܐ ܪܒܝ ܟܗܢܐ ܥܡ ܩܫܝܫܐ ܘܥܡ ܤܦܪܐ ܘܥܡ ܟܠܗ ܟܢܘܫܬܐ ܘܐܤܪܘ ܠܝܫܘܥ ܘܐܘܒܠܘܗܝ ܘܐܫܠܡܘܗܝ ܠܦܝܠܛܘܤ ܀
2 Holodd Pilat ef: "Ai ti yw Brenin yr Iddewon?" Atebodd yntau ef: "Ti sy'n dweud hynny."
2ܘܫܐܠܗ ܦܝܠܛܘܤ ܐܢܬ ܗܘ ܡܠܟܐ ܕܝܗܘܕܝܐ ܗܘ ܕܝܢ ܥܢܐ ܘܐܡܪ ܠܗ ܐܢܬ ܐܡܪܬ ܀
3 Ac yr oedd y prif offeiriaid yn dwyn llawer o gyhuddiadau yn ei erbyn.
3ܘܐܟܠܝܢ ܗܘܘ ܩܪܨܘܗܝ ܪܒܝ ܟܗܢܐ ܒܤܓܝܐܬܐ ܀
4 Holodd Pilat ef wedyn: "Onid atebi ddim? Edrych faint o gyhuddiadau y maent yn eu dwyn yn dy erbyn."
4ܗܘ ܕܝܢ ܦܝܠܛܘܤ ܬܘܒ ܫܐܠܗ ܘܐܡܪ ܠܗ ܠܐ ܡܦܢܐ ܐܢܬ ܦܬܓܡܐ ܚܙܝ ܟܡܐ ܡܤܗܕܝܢ ܥܠܝܟ ܀
5 Ond nid atebodd Iesu ddim mwy, er syndod i Pilat.
5ܗܘ ܕܝܢ ܝܫܘܥ ܡܕܡ ܦܬܓܡܐ ܠܐ ܝܗܒ ܐܝܟܢܐ ܕܢܬܕܡܪ ܦܝܠܛܘܤ ܀
6 Ar yr u373?yl yr oedd Pilat yn arfer rhyddhau iddynt un carcharor y gofynnent amdano.
6ܡܥܕ ܗܘܐ ܕܝܢ ܒܟܠ ܥܐܕܐ ܠܡܫܪܐ ܠܗܘܢ ܐܤܝܪܐ ܚܕ ܐܝܢܐ ܕܫܐܠܝܢ ܀
7 Ac yr oedd y dyn a elwid Barabbas yn y carchar gyda'r gwrthryfelwyr hynny oedd wedi llofruddio yn ystod y gwrthryfel.
7ܘܐܝܬ ܗܘܐ ܚܕ ܕܡܬܩܪܐ ܒܪ ܐܒܐ ܕܐܤܝܪ ܗܘܐ ܥܡ ܥܒܕܝ ܐܤܛܤܝܢ ܗܢܘܢ ܕܩܛܠܐ ܒܐܤܛܤܝܢ ܥܒܕܘ ܀
8 Daeth y dyrfa i fyny a dechrau gofyn i Pilat wneud yn �l ei arfer iddynt.
8ܘܩܥܘ ܥܡܐ ܘܫܪܝܘ ܠܡܫܐܠ ܐܝܟ ܕܡܥܕ ܗܘܐ ܥܒܕ ܠܗܘܢ ܀
9 Atebodd Pilat hwy: "A fynnwch i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?"
9ܗܘ ܕܝܢ ܦܝܠܛܘܤ ܥܢܐ ܘܐܡܪ ܨܒܝܢ ܐܢܬܘܢ ܐܫܪܐ ܠܟܘܢ ܡܠܟܐ ܕܝܗܘܕܝܐ ܀
10 Oherwydd gwyddai mai o genfigen yr oedd y prif offeiriaid wedi ei draddodi ef.
10ܝܕܥ ܗܘܐ ܓܝܪ ܦܝܠܛܘܤ ܕܡܢ ܚܤܡܐ ܐܫܠܡܘܗܝ ܪܒܝ ܟܗܢܐ ܀
11 Ond cyffr�dd y prif offeiriaid y dyrfa i geisio ganddo yn hytrach ryddhau Barabbas iddynt.
11ܪܒܝ ܟܗܢܐ ܕܝܢ ܝܬܝܪܐܝܬ ܚܦܛܘ ܠܟܢܫܐ ܕܠܒܪ ܐܒܐ ܢܫܪܐ ܠܗܘܢ ܀
12 Atebodd Pilat drachefn, ac meddai wrthynt, "Beth, ynteu, a wnaf � hwn yr ydych yn ei alw yn Frenin yr Iddewon?"
12ܗܘ ܕܝܢ ܦܝܠܛܘܤ ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܡܢܐ ܗܟܝܠ ܨܒܝܢ ܐܢܬܘܢ ܐܥܒܕ ܠܗܢܐ ܕܩܪܝܢ ܐܢܬܘܢ ܡܠܟܐ ܕܝܗܘܕܝܐ ܀
13 Gwaeddasant hwythau yn �l, "Croeshoelia ef."
13ܗܢܘܢ ܕܝܢ ܬܘܒ ܩܥܘ ܙܩܘܦܝܗܝ ܀
14 Meddai Pilat wrthynt, "Ond pa ddrwg a wnaeth ef?" Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, "Croeshoelia ef."
14ܗܘ ܕܝܢ ܦܝܠܛܘܤ ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܡܢܐ ܓܝܪ ܕܒܝܫ ܥܒܕ ܘܗܢܘܢ ܝܬܝܪܐܝܬ ܩܥܝܢ ܗܘܘ ܙܩܘܦܝܗܝ ܀
15 A chan ei fod yn awyddus i fodloni'r dyrfa, rhyddhaodd Pilat Barabbas iddynt, a thraddododd Iesu, ar �l ei fflangellu, i'w groeshoelio.
15ܦܝܠܛܘܤ ܕܝܢ ܨܒܐ ܕܢܥܒܕ ܨܒܝܢܐ ܠܟܢܫܐ ܘܫܪܐ ܠܗܘܢ ܠܒܪ ܐܒܐ ܘܐܫܠܡ ܠܗܘܢ ܠܝܫܘܥ ܟܕ ܡܢܓܕ ܕܢܙܕܩܦ ܀
16 Aeth y milwyr ag ef ymaith i mewn i'r cyntedd, hynny yw, i'r Praetoriwm, a galw ynghyd yr holl fintai.
16ܐܤܛܪܛܝܘܛܐ ܕܝܢ ܐܘܒܠܘܗܝ ܠܓܘ ܕܪܬܐ ܕܐܝܬܝܗ ܦܪܛܘܪܝܢ ܘܩܪܘ ܠܟܠܗ ܐܤܦܝܪ ܀
17 A gwisgasant ef � phorffor, a phlethu coron ddrain a'i gosod am ei ben.
17ܘܐܠܒܫܘܗܝ ܐܪܓܘܢܐ ܘܓܕܠܘ ܤܡܘ ܠܗ ܟܠܝܠܐ ܕܟܘܒܐ ܀
18 A dechreusant ei gyfarch: "Henffych well, Frenin yr Iddewon!"
18ܘܫܪܝܘ ܠܡܫܐܠ ܒܫܠܡܗ ܫܠܡ ܡܠܟܐ ܕܝܗܘܕܝܐ ܀
19 Curasant ei ben � gwialen, a phoeri arno, a phlygu eu gliniau ac ymgrymu iddo.
19ܘܡܚܝܢ ܗܘܘ ܠܗ ܥܠ ܪܫܗ ܒܩܢܝܐ ܘܪܩܝܢ ܗܘܘ ܒܐܦܘܗܝ ܘܒܪܟܝܢ ܗܘܘ ܥܠ ܒܘܪܟܝܗܘܢ ܘܤܓܕܝܢ ܠܗ ܀
20 Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y porffor oddi amdano a'i wisgo ef �'i ddillad ei hun. Yna aethant ag ef allan i'w groeshoelio.
20ܘܟܕ ܒܙܚܘ ܒܗ ܐܫܠܚܘܗܝ ܐܪܓܘܢܐ ܘܐܠܒܫܘܗܝ ܡܐܢܘܗܝ ܘܐܦܩܘܗܝ ܕܢܙܩܦܘܢܝܗܝ ܀
21 Gorfodasant un oedd yn mynd heibio ar ei ffordd o'r wlad, Simon o Cyrene, tad Alexander a Rwffus, i gario ei groes ef.
21ܘܫܚܪܘ ܚܕ ܕܥܒܪ ܗܘܐ ܫܡܥܘܢ ܩܘܪܝܢܝܐ ܕܐܬܐ ܗܘܐ ܡܢ ܩܪܝܬܐ ܐܒܘܗܝ ܕܐܠܟܤܢܕܪܘܤ ܘܕܪܘܦܘܤ ܕܢܫܩܘܠ ܙܩܝܦܗ ܀
22 Daethant ag ef i'r lle a elwir Golgotha, hynny yw, o'i gyfieithu, "Lle Penglog."
22ܘܐܝܬܝܘܗܝ ܠܓܓܘܠܬܐ ܕܘܟܬܐ ܕܡܬܦܫܩܐ ܩܪܩܦܬܐ ܀
23 Cynigiasant iddo win � myrr ynddo, ond ni chymerodd ef.
23ܘܝܗܒܘ ܠܗ ܠܡܫܬܐ ܚܡܪܐ ܕܚܠܝܛ ܒܗ ܡܘܪܐ ܗܘ ܕܝܢ ܠܐ ܢܤܒ ܀
24 A chroeshoeliasant ef, a rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren arnynt i benderfynu beth a g�i pob un.
24ܘܟܕ ܙܩܦܘܗܝ ܦܠܓܘ ܡܐܢܘܗܝ ܘܐܪܡܝܘ ܥܠܝܗܘܢ ܦܤܐ ܡܢܘ ܡܢܐ ܢܤܒ ܀
25 Naw o'r gloch y bore oedd hi pan groeshoeliasant ef.
25ܐܝܬ ܗܘܐ ܕܝܢ ܫܥܐ ܬܠܬ ܟܕ ܙܩܦܘܗܝ ܀
26 Ac yr oedd arysgrif y cyhuddiad yn ei erbyn yn dweud: "Brenin yr Iddewon."
26ܘܟܬܝܒܐ ܗܘܬ ܥܠܬܐ ܕܡܘܬܗ ܒܟܬܒܐ ܗܢܐ ܗܘ ܡܠܟܐ ܕܝܗܘܕܝܐ ܀
27 A chydag ef croeshoeliasant ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith iddo.
27ܘܙܩܦܘ ܥܡܗ ܬܪܝܢ ܠܤܛܝܐ ܚܕ ܡܢ ܝܡܝܢܗ ܘܚܕ ܡܢ ܤܡܠܗ ܀
28 [{cf15i A chyflawnwyd yr Ysgrythur sy'n dweud, "A chyfrifwyd ef gyda'r troseddwyr."}]
28ܘܫܠܡ ܟܬܒܐ ܕܐܡܪ ܕܥܡ ܥܘܠܐ ܐܬܚܫܒ ܀
29 Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, gan ysgwyd eu pennau a dweud, "Oho, ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau,
29ܘܐܦ ܐܝܠܝܢ ܕܝܢ ܕܥܒܪܝܢ ܗܘܘ ܡܓܕܦܝܢ ܗܘܘ ܥܠܘܗܝ ܘܡܢܝܕܝܢ ܪܫܝܗܘܢ ܘܐܡܪܝܢ ܐܘܢ ܫܪܐ ܗܝܟܠܐ ܘܒܢܐ ܠܗ ܠܬܠܬܐ ܝܘܡܝܢ ܀
30 disgyn oddi ar y groes ac achub dy hun."
30ܦܨܐ ܢܦܫܟ ܘܚܘܬ ܡܢ ܙܩܝܦܐ ܀
31 A'r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd �'r ysgrifenyddion, yn ei watwar wrth ei gilydd, ac yn dweud, "Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun.
31ܘܗܟܢܐ ܐܦ ܪܒܝ ܟܗܢܐ ܓܚܟܝܢ ܗܘܘ ܚܕ ܥܡ ܚܕ ܘܤܦܪܐ ܘܐܡܪܝܢ ܐܚܪܢܐ ܐܚܝ ܢܦܫܗ ܠܐ ܡܫܟܚ ܠܡܚܝܘ ܀
32 Disgynned y Meseia, Brenin Israel, yn awr oddi ar y groes, er mwyn inni weld a chredu." Yr oedd hyd yn oed y rhai a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio.
32ܡܫܝܚܐ ܡܠܟܗ ܕܐܝܤܪܝܠ ܢܚܘܬ ܗܫܐ ܡܢ ܙܩܝܦܐ ܕܢܚܙܐ ܘܢܗܝܡܢ ܒܗ ܘܐܦ ܗܢܘܢ ܕܝܢ ܕܙܩܝܦܝܢ ܗܘܘ ܥܡܗ ܡܚܤܕܝܢ ܗܘܘ ܠܗ ܀
33 A phan ddaeth yn hanner dydd, bu tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn.
33ܘܟܕ ܗܘܝ ܫܬ ܫܥܝܢ ܗܘܐ ܚܫܘܟܐ ܥܠ ܟܠܗ ܐܪܥܐ ܥܕܡܐ ܠܫܥܐ ܬܫܥ ܀
34 Ac am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu � llef uchel, "Elo�, Elo�, lema sabachthani", hynny yw, o'i gyfieithu, "Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?"
34ܘܒܬܫܥ ܫܥܝܢ ܩܥܐ ܝܫܘܥ ܒܩܠܐ ܪܡܐ ܘܐܡܪ ܐܝܠ ܐܝܠ ܠܡܢܐ ܫܒܩܬܢܝ ܕܐܝܬܝܗ ܐܠܗܝ ܐܠܗܝ ܠܡܢܐ ܫܒܩܬܢܝ ܀
35 O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll gerllaw, "Clywch, y mae'n galw ar Elias."
35ܘܐܢܫܝܢ ܕܫܡܥܘ ܡܢ ܗܢܘܢ ܕܩܝܡܝܢ ܐܡܪܝܢ ܗܘܘ ܠܐܠܝܐ ܩܪܐ ܀
36 Rhedodd rhywun a llenwi ysbwng � gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed. "Gadewch inni weld," meddai, "a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr."
36ܪܗܛ ܕܝܢ ܚܕ ܘܡܠܐ ܐܤܦܘܓܐ ܚܠܐ ܘܐܤܪ ܒܩܢܝܐ ܕܢܫܩܝܘܗܝ ܘܐܡܪܘ ܫܒܘܩܘ ܢܚܙܐ ܐܢ ܐܬܐ ܐܠܝܐ ܡܚܬ ܠܗ ܀
37 Ond rhoes Iesu lef uchel, a bu farw.
37ܗܘ ܕܝܢ ܝܫܘܥ ܩܥܐ ܒܩܠܐ ܪܡܐ ܘܫܠܡ ܀
38 A rhwygwyd llen y deml yn ddwy o'r pen i'r gwaelod.
38ܘܐܦܝ ܬܪܥܐ ܕܗܝܟܠܐ ܐܨܛܪܝ ܠܬܪܝܢ ܡܢ ܠܥܠ ܥܕܡܐ ܠܬܚܬ ܀
39 Pan welodd y canwriad, a oedd yn sefyll gyferbyn ag ef, mai gyda gwaedd felly y bu farw, dywedodd, "Yn wir, Mab Duw oedd y dyn hwn."
39ܟܕ ܚܙܐ ܕܝܢ ܩܢܛܪܘܢܐ ܗܘ ܕܩܐܡ ܗܘܐ ܠܘܬܗ ܕܗܟܢܐ ܩܥܐ ܘܫܠܡ ܐܡܪ ܫܪܝܪܐܝܬ ܗܢܐ ܓܒܪܐ ܒܪܗ ܗܘܐ ܕܐܠܗܐ ܀
40 Yr oedd gwragedd hefyd yn edrych o hirbell; yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome,
40ܐܝܬ ܗܘܝ ܕܝܢ ܐܦ ܢܫܐ ܡܢ ܪܘܚܩܐ ܕܚܙܝܢ ܗܘܝ ܡܪܝܡ ܡܓܕܠܝܬܐ ܘܡܪܝܡ ܐܡܗ ܕܝܥܩܘܒ ܙܥܘܪܐ ܘܕܝܘܤܐ ܘܫܠܘܡ ܀
41 gwragedd a fu'n ei ganlyn ac yn gweini arno pan oedd yng Ngalilea, a llawer o wragedd eraill oedd wedi dod i fyny gydag ef i Jerwsalem.
41ܗܢܝܢ ܕܟܕ ܗܘ ܒܓܠܝܠܐ ܢܩܝܦܢ ܗܘܝ ܠܗ ܘܡܫܡܫܢ ܠܗ ܘܐܚܪܢܝܬܐ ܤܓܝܐܬܐ ܕܤܠܩ ܗܘܝ ܥܡܗ ܠܐܘܪܫܠܡ ܀
42 Yr oedd hi eisoes yn hwyr, a chan ei bod yn ddydd Paratoad, hynny yw, y dydd cyn y Saboth,
42ܘܟܕ ܗܘܐ ܪܡܫܐ ܕܥܪܘܒܬܐ ܕܐܝܬܝܗ ܩܕܡ ܫܒܬܐ ܀
43 daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr uchel ei barch a oedd yntau'n disgwyl am deyrnas Dduw, a mentrodd fynd i mewn at Pilat a gofyn am gorff Iesu.
43ܐܬܐ ܝܘܤܦ ܗܘ ܕܡܢ ܪܡܬܐ ܡܝܩܪܐ ܒܘܠܘܛܐ ܐܝܢܐ ܕܐܦ ܗܘ ܡܤܟܐ ܗܘܐ ܠܡܠܟܘܬܐ ܕܐܠܗܐ ܘܐܡܪܚ ܘܥܠ ܠܘܬ ܦܝܠܛܘܤ ܘܫܐܠ ܦܓܪܗ ܕܝܫܘܥ ܀
44 Rhyfeddodd Pilat ei fod eisoes wedi marw, a galwodd y canwriad ato a gofyn iddo a oedd wedi marw ers meitin.
44ܦܝܠܛܘܤ ܕܝܢ ܬܡܗ ܕܐܢ ܡܢ ܟܕܘ ܡܝܬ ܘܩܪܐ ܠܩܢܛܪܘܢܐ ܘܫܐܠܗ ܕܐܢ ܡܢ ܩܕܡ ܥܕܢܐ ܡܝܬ ܀
45 Ac wedi cael gwybod gan y canwriad, rhoddodd y corff i Joseff.
45ܘܟܕ ܝܠܦ ܝܗܒ ܦܓܪܗ ܠܝܘܤܦ ܀
46 Prynodd yntau liain, ac wedi ei dynnu ef i lawr, a'i amd�i yn y lliain, gosododd ef mewn bedd oedd wedi ei naddu o'r graig; a threiglodd faen ar ddrws y bedd.
46ܘܙܒܢ ܝܘܤܦ ܟܬܢܐ ܘܐܚܬܗ ܘܟܪܟܗ ܒܗ ܘܤܡܗ ܒܩܒܪܐ ܕܢܩܝܪ ܗܘܐ ܒܫܘܥܐ ܘܥܓܠ ܟܐܦܐ ܥܠ ܬܪܥܗ ܕܩܒܪܐ ܀ 47 ܡܪܝܡ ܕܝܢ ܡܓܕܠܝܬܐ ܘܡܪܝܡ ܗܝ ܕܝܘܤܐ ܚܙܝ ܐܝܟܐ ܕܐܬܬܤܝܡ ܀
47 Ac yr oedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yn edrych ym mhle y gosodwyd ef.
47