Welsh

Syriac: NT

Philippians

2

1 Felly, os oes gennych yng Nghrist unrhyw symbyliad, unrhyw ap�l o du cariad, unrhyw gymdeithas trwy'r Ysbryd, os oes unrhyw gynhesrwydd a thosturi,
1ܐܢ ܐܝܬ ܠܟܘܢ ܗܟܝܠ ܒܘܝܐܐ ܒܡܫܝܚܐ ܘܐܢ ܡܡܠܐ ܒܠܒܐ ܒܚܘܒܐ ܘܐܢ ܫܘܬܦܘܬܐ ܕܪܘܚܐ ܘܐܢ ܪܘܚܦܐ ܘܪܚܡܐ ܀
2 cyflawnwch fy llawenydd trwy fod o'r un meddwl, a'r un cariad gennych at eich gilydd, yn unfryd ac yn unfarn.
2ܫܠܡܘ ܚܕܘܬܝ ܕܚܕ ܪܥܝܢܐ ܢܗܘܐ ܠܟܘܢ ܘܚܕ ܚܘܒܐ ܘܚܕܐ ܢܦܫ ܘܚܕܐ ܬܪܥܝܬܐ ܀
3 Peidiwch � gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun.
3ܘܡܕܡ ܒܚܪܝܢܐ ܐܘ ܒܬܫܒܘܚܬܐ ܤܪܝܩܬܐ ܠܐ ܬܥܒܕܘܢ ܐܠܐ ܒܡܟܝܟܘܬ ܪܥܝܢܐ ܟܠܢܫ ܠܚܒܪܗ ܐܝܟ ܕܡܝܬܪ ܡܢܗ ܢܚܫܘܒ ܀
4 Bydded gofal gan bob un ohonoch, nid am eich buddiannau eich hunain yn unig ond am fuddiannau pobl eraill hefyd.
4ܘܠܐ ܐܢܫ ܕܢܦܫܗ ܢܐܨܦ ܐܠܐ ܟܠܢܫ ܐܦ ܕܚܒܪܗ ܀
5 Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu.
5ܘܗܕܐ ܐܬܪܥܘ ܒܢܦܫܟܘܢ ܗܝ ܕܐܦ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
6 Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb � Duw yn beth i'w gipio,
6ܗܘ ܕܟܕ ܐܝܬܘܗܝ ܒܕܡܘܬܐ ܕܐܠܗܐ ܠܐ ܗܘܐ ܚܛܘܦܝܐ ܚܫܒܗ ܗܕܐ ܕܐܝܬܘܗܝ ܦܚܡܐ ܕܐܠܗܐ ܀
7 ond fe'i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol.
7ܐܠܐ ܢܦܫܗ ܤܪܩ ܘܕܡܘܬܐ ܕܥܒܕܐ ܢܤܒ ܘܗܘܐ ܒܕܡܘܬܐ ܕܒܢܝܢܫܐ ܘܒܐܤܟܡܐ ܐܫܬܟܚ ܐܝܟ ܒܪܢܫܐ ܀
8 O'i gael ar ddull dyn, fe'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes.
8ܘܡܟܟ ܢܦܫܗ ܘܐܫܬܡܥ ܥܕܡܐ ܠܡܘܬܐ ܡܘܬܐ ܕܝܢ ܕܙܩܝܦܐ ܀
9 Am hynny tra-dyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo'r enw sydd goruwch pob enw,
9ܡܛܠ ܗܢܐ ܐܦ ܐܠܗܐ ܐܤܓܝ ܪܡܪܡܗ ܘܝܗܒ ܠܗ ܫܡܐ ܕܡܝܬܪ ܡܢ ܟܠ ܫܡܗܝܢ ܀
10 fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear,
10ܕܒܫܡܗ ܕܝܫܘܥ ܟܠ ܒܪܘܟ ܬܟܘܦ ܕܒܫܡܝܐ ܘܒܐܪܥܐ ܘܕܠܬܚܬ ܡܢ ܐܪܥܐ ܀
11 ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.
11ܘܟܠ ܠܫܢ ܢܘܕܐ ܕܡܪܝܐ ܗܘ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܠܫܘܒܚܐ ܕܐܠܗܐ ܐܒܘܗܝ ܀
12 Gan hynny, fy nghyfeillion annwyl, fel y buoch bob amser yn ufudd, felly yn awr, nid yn unig fel pe bawn yn bresennol, ond yn fwy o lawer gan fy mod yn absennol, gweithredwch, mewn ofn a dychryn, yr iachawdwriaeth sy'n eiddo ichwi;
12ܡܟܝܠ ܚܒܝܒܝ ܐܝܟܢܐ ܕܒܟܠܙܒܢ ܐܫܬܡܥܬܘܢ ܠܐ ܟܕ ܩܪܝܒ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܒܠܚܘܕ ܐܠܐ ܗܫܐ ܕܪܚܝܩ ܐܢܐ ܡܢܟܘܢ ܝܬܝܪܐܝܬ ܒܕܚܠܬܐ ܘܒܪܬܝܬܐ ܦܠܘܚܘ ܦܘܠܚܢܐ ܕܚܝܝܟܘܢ ܀
13 oblegid Duw yw'r un sydd yn gweithio ynoch i beri ichwi ewyllysio a gweithredu i'w amcanion daionus ef.
13ܐܠܗܐ ܗܘ ܓܝܪ ܡܚܦܛ ܒܟܘܢ ܐܦ ܠܡܨܒܐ ܐܦ ܠܡܤܥܪ ܗܘ ܡܕܡ ܕܨܒܝܢ ܐܢܬܘܢ ܀
14 Gwnewch bopeth heb rwgnach nac ymryson;
14ܟܠܡܕܡ ܗܘܝܬܘܢ ܥܒܕܝܢ ܕܠܐ ܪܛܢܐ ܘܕܠܐ ܦܘܠܓ ܀
15 byddwch yn ddi-fai a diddrwg, yn blant di-nam i Dduw yng nghanol cenhedlaeth wyrgam a gwrthnysig, yn disgleirio yn eu plith fel goleuadau yn y byd,
15ܕܬܗܘܘܢ ܬܡܝܡܐ ܘܕܠܐ ܡܘܡ ܐܝܟ ܒܢܝܐ ܕܟܝܐ ܕܐܠܗܐ ܕܥܡܪܝܢ ܒܕܪܐ ܥܤܩܐ ܘܡܥܩܡܐ ܘܐܬܚܙܘ ܒܝܢܬܗܘܢ ܐܝܟ ܢܗܝܪܐ ܒܥܠܡܐ ܀
16 yn cyflwyno gair y bywyd. Felly byddwch yn destun ymffrost i mi yn Nydd Crist, na fu imi redeg y ras yn ofer na llafurio yn ofer.
16ܕܐܝܬܝܟܘܢ ܠܗܘܢ ܒܕܘܟܬ ܚܝܐ ܠܫܘܒܗܪܝ ܕܝܠܝ ܒܝܘܡܗ ܕܡܫܝܚܐ ܕܠܐ ܗܘܐ ܐܝܩܐ ܪܗܛܬ ܘܠܐ ܤܪܝܩܐܝܬ ܥܡܠܬ ܀
17 Ond os tywelltir fy mywyd i yn ddiodoffrwm ac yn aberth er mwyn eich ffydd chwi, yr wyf yn llawen, ac yn cydlawenhau � chwi i gyd.
17ܐܠܐ ܐܦܢ ܡܬܢܩܐ ܐܢܐ ܥܠ ܕܒܚܬܐ ܘܬܫܡܫܬܐ ܕܗܝܡܢܘܬܟܘܢ ܚܕܐ ܐܢܐ ܘܪܘܙ ܐܢܐ ܥܡ ܟܠܟܘܢ ܀
18 Yn yr un modd byddwch chwithau'n llawen, a chydlawenhewch � mi.
18ܗܟܢܐ ܐܦ ܐܢܬܘܢ ܚܕܘ ܘܪܘܙܘ ܥܡܝ ܀
19 Ond yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus atoch ar fyrder, er mwyn imi gael fy nghalonogi o wybod am eich amgylchiadau chwi.
19ܡܤܒܪ ܐܢܐ ܕܝܢ ܒܡܪܢ ܝܫܘܥ ܕܐܫܕܪ ܠܘܬܟܘܢ ܠܛܝܡܬܐܘܤ ܒܥܓܠ ܕܐܦ ܠܝ ܢܗܘܐ ܠܝ ܢܝܚܐ ܟܕ ܐܠܦ ܡܛܠܬܟܘܢ ܀
20 Oherwydd nid oes gennyf neb o gyffelyb ysbryd iddo ef, i gymryd gwir ofal am eich buddiannau chwi;
20ܠܝܬ ܠܝ ܓܝܪ ܐܚܪܝܢ ܗܪܟܐ ܕܐܝܟ ܢܦܫܝ ܗܘ ܕܐܟܝܦܐܝܬ ܝܨܦ ܕܝܠܟܘܢ ܀
21 y maent oll �'u bryd ar eu dibenion eu hunain, nid ar ddibenion Iesu Grist.
21ܟܠܗܘܢ ܓܝܪ ܕܢܦܫܗܘܢ ܗܘ ܒܥܝܢ ܘܠܐ ܕܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
22 Gwyddoch fel y profwyd ei werth ef, gan iddo wasanaethu gyda mi, fel mab gyda'i dad, o blaid yr Efengyl.
22ܒܘܩܝܗ ܕܝܢ ܕܗܢܐ ܝܕܥܝܬܘܢ ܕܐܝܟ ܒܪܐ ܥܡ ܐܒܘܗܝ ܗܟܢܐ ܦܠܚ ܥܡܝ ܒܤܒܪܬܐ ܀
23 Dyma'r gu373?r, ynteu, yr wyf yn gobeithio'i anfon, cyn gynted byth ag y caf weld sut y bydd hi arnaf.
23ܠܗܢܐ ܡܤܒܪ ܐܢܐ ܕܐܫܕܪ ܠܘܬܟܘܢ ܒܥܓܠ ܡܐ ܕܚܙܝܬ ܡܐ ܕܠܘܬܝ ܀
24 Ac yr wyf yn sicr, yn yr Arglwydd, y byddaf fi fy hun hefyd yn dod yn fuan.
24ܘܬܟܝܠ ܐܢܐ ܥܠ ܡܪܝ ܕܐܦ ܐܢܐ ܒܥܓܠ ܐܬܐ ܐܢܐ ܠܘܬܟܘܢ ܀
25 Yr wyf yn credu hefyd y dylwn anfon Epaffroditus atoch, brawd a chydweithiwr a chydfilwr i mi, a'ch cennad chwi i weini ar fy anghenraid i.
25ܗܫܐ ܕܝܢ ܐܠܨܬܢܝ ܨܒܘܬܐ ܕܐܫܕܪ ܠܘܬܟܘܢ ܠܐܦܦܪܘܕܝܛܤ ܐܚܐ ܕܐܝܬܘܗܝ ܡܥܕܪܢܐ ܘܦܠܚܐ ܕܥܡܝ ܕܝܠܟܘܢ ܕܝܢ ܫܠܝܚܐ ܘܡܫܡܫܢܐ ܕܚܫܚܬܝ ܀
26 Oherwydd y mae ef wedi bod yn hiraethu amdanoch oll, ac yn poeni am i chwi glywed iddo fod yn glaf.
26ܡܛܠ ܕܤܘܐ ܗܘܐ ܠܡܚܙܐ ܠܟܠܟܘܢ ܘܡܥܩ ܗܘܐ ܕܝܕܥ ܕܫܡܥܬܘܢ ܕܐܬܟܪܗ ܀
27 Yn wir, fe fu'n wael, hyd at farw bron; ond fe dosturiodd Duw wrtho, ac nid wrtho ef yn unig ond wrthyf finnau hefyd, rhag imi gael gofid ar ben gofid.
27ܐܦ ܐܬܟܪܗ ܓܝܪ ܥܕܡܐ ܠܡܘܬܐ ܐܠܐ ܐܠܗܐ ܪܚܡ ܥܠܘܗܝ ܠܐ ܗܘܐ ܕܝܢ ܥܠܘܗܝ ܒܠܚܘܕ ܐܠܐ ܐܦ ܥܠܝ ܕܠܐ ܬܗܘܐ ܠܝ ܥܩܐ ܥܠ ܥܩܐ ܀
28 Yr wyf, felly, yn fwy eiddgar i'w anfon, er mwyn i chwi lawenhau eto o'i weld, ac i minnau fod yn llai fy ngofid.
28ܚܦܝܛܐܝܬ ܗܟܝܠ ܫܕܪܬܗ ܠܘܬܟܘܢ ܕܟܕ ܬܚܙܘܢܝܗܝ ܬܘܒ ܬܚܕܘܢ ܘܠܝ ܩܠܝܠ ܢܗܘܐ ܢܦܐܫܐ ܀
29 Derbyniwch ef felly yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd; ac anrhydeddwch rai o'i fath ef,
29ܩܒܠܘܗܝ ܗܟܝܠ ܒܡܪܝܐ ܒܟܠ ܚܕܘܐ ܘܠܐܝܠܝܢ ܕܗܟܢܐ ܐܢܘܢ ܒܐܝܩܪܐ ܐܚܘܕܘ ܐܢܘܢ ܀
30 oherwydd bu yn ymyl marw er mwyn gwaith Crist pan fentrodd ei fywyd i gyflawni drosof y gwasanaeth na allech chwi mo'i gyflawni.
30ܡܛܠ ܥܒܕܐ ܓܝܪ ܕܡܫܝܚܐ ܥܕܡܐ ܠܡܘܬܐ ܡܛܝ ܘܒܤܪ ܥܠ ܢܦܫܗ ܕܢܡܠܐ ܡܕܡ ܕܒܨܪܬܘܢ ܗܘܝܬܘܢ ܒܬܫܡܫܬܐ ܕܠܘܬܝ ܀