1 Yr wyf yn gofyn, felly, a yw'n bosibl fod Duw wedi gwrthod ei bobl ei hun? Nac ydyw, ddim o gwbl! Oherwydd yr wyf fi yn Israeliad, o linach Abraham, o lwyth Benjamin.
1ܐܠܐ ܐܡܪ ܐܢܐ ܕܠܡܐ ܕܚܩܗ ܐܠܗܐ ܠܥܡܗ ܚܤ ܐܦ ܐܢܐ ܓܝܪ ܡܢ ܐܝܤܪܝܠ ܐܢܐ ܡܢ ܙܪܥܗ ܕܐܒܪܗܡ ܡܢ ܫܪܒܬܐ ܕܒܢܝܡܝܢ ܀
2 Nid yw Duw wedi gwrthod ei bobl, y bobl a adnabu cyn eu bod. Gwyddoch beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud wrth adrodd hanes Elias yn galw ar Dduw yn erbyn Israel:
2ܠܐ ܕܚܩ ܐܠܗܐ ܠܥܡܗ ܐܝܢܐ ܕܡܢ ܩܕܝܡ ܝܕܝܥ ܗܘܐ ܠܗ ܐܘ ܠܐ ܝܕܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܒܟܬܒܐ ܕܐܠܝܐ ܡܢܐ ܐܡܪ ܟܕ ܩܒܠ ܗܘܐ ܠܐܠܗܐ ܥܠ ܐܝܤܪܝܠ ܘܐܡܪ ܀
3 "Arglwydd, y maent wedi lladd dy broffwydi a bwrw d'allorau i lawr; myfi'n unig sydd ar �l, ac y maent yn ceisio f'einioes innau."
3ܡܪܝ ܠܢܒܝܝܟ ܩܛܠܘ ܘܠܡܕܒܚܝܟ ܤܚܦܘ ܘܐܢܐ ܗܘ ܒܠܚܘܕܝ ܐܫܬܚܪܬ ܘܒܥܝܢ ܠܢܦܫܝ ܀
4 Ond yr atebiad dwyfol iddo oedd: "Gadewais i mi fy hun saith mil o bobl sydd heb blygu glin i Baal."
4ܘܐܬܐܡܪ ܠܗ ܒܓܠܝܢܐ ܕܗܐ ܫܒܩܬ ܠܢܦܫܝ ܫܒܥܐ ܐܠܦܝܢ ܓܒܪܝܢ ܐܝܠܝܢ ܕܥܠ ܒܘܪܟܝܗܘܢ ܠܐ ܒܪܟܘ ܘܠܐ ܤܓܕܘ ܠܒܥܠܐ ܀
5 Felly hefyd yn yr amser presennol hwn, y mae gweddill ar gael, gweddill sydd wedi ei ethol gan ras Duw.
5ܗܟܢܐ ܐܦ ܒܗܢܐ ܙܒܢܐ ܫܪܟܢܐ ܗܘ ܐܫܬܚܪ ܒܓܒܝܬܐ ܕܛܝܒܘܬܐ ܀
6 Ond os trwy ras y bu hyn, ni all fod yn tarddu o gadw gofynion cyfraith; petai felly, byddai gras yn peidio � bod yn ras.
6ܐܢ ܕܝܢ ܒܛܝܒܘܬܐ ܠܐ ܗܘܐ ܡܢ ܥܒܕܐ ܘܐܢ ܠܐ ܛܝܒܘܬܐ ܠܐ ܐܝܬܝܗ ܛܝܒܘܬܐ ܐܢ ܕܝܢ ܒܥܒܕܐ ܠܐ ܗܘܐ ܡܢ ܛܝܒܘܬܐ ܘܐܢ ܠܐ ܥܒܕܐ ܠܐ ܐܝܬܘܗܝ ܥܒܕܐ ܀
7 Mewn gair, y peth y mae Israel yn ei geisio, nid Israel a'i cafodd, ond y rhai a etholodd Duw; caledwyd y lleill,
7ܡܢܐ ܗܟܝܠ ܗܝ ܕܒܥܐ ܗܘܐ ܐܝܤܪܝܠ ܠܐ ܐܫܟܚ ܓܒܝܬܐ ܕܝܢ ܐܫܟܚܬ ܫܪܟܗܘܢ ܕܝܢ ܐܬܥܘܪܘ ܒܠܒܗܘܢ ܀
8 fel y mae'n ysgrifenedig: "Rhoddodd Duw iddynt ysbryd swrth, llygaid i beidio � gweld, a chlustiau i beidio � chlywed, hyd y dydd heddiw."
8ܐܝܟܢܐ ܕܟܬܝܒ ܕܝܗܒ ܠܗܘܢ ܐܠܗܐ ܪܘܚܐ ܡܕܥܪܢܝܬܐ ܘܥܝܢܐ ܕܠܐ ܢܒܚܪܘܢ ܒܗܝܢ ܘܐܕܢܐ ܕܠܐ ܢܫܡܥܘܢ ܥܕܡܐ ܠܝܘܡܐ ܕܝܘܡܢܐ ܀
9 Ac y mae Dafydd yn dweud: "Bydded eu bwrdd yn fagl i'w rhwydo, ac yn groglath i'w cosbi;
9ܘܕܘܝܕ ܬܘܒ ܐܡܪ ܢܗܘܐ ܦܬܘܪܗܘܢ ܩܕܡܝܗܘܢ ܠܦܚܐ ܘܦܘܪܥܢܗܘܢ ܠܬܘܩܠܬܐ ܀
10 tywyller eu llygaid iddynt beidio � gweld, a gwna hwy'n wargrwm dros byth."
10ܢܚܫܟܢ ܥܝܢܝܗܘܢ ܕܠܐ ܢܚܙܘܢ ܘܚܨܗܘܢ ܒܟܠܙܒܢ ܢܗܘܐ ܟܦܝܦ ܀
11 Yr wyf yn gofyn, felly, a yw eu llithriad yn gwymp terfynol? Nac ydyw, ddim o gwbl! I'r gwrthwyneb, am iddynt hwy droseddu y mae iachawdwriaeth wedi dod i'r Cenhedloedd, i wneud yr Iddewon yn eiddigeddus.
11ܐܡܪ ܐܢܐ ܕܝܢ ܕܠܡܐ ܐܬܬܩܠܘ ܐܝܟ ܕܢܦܠܘܢ ܚܤ ܐܠܐ ܒܬܘܩܠܬܗܘܢ ܕܝܠܗܘܢ ܗܘܘ ܚܝܐ ܠܥܡܡܐ ܠܛܢܢܗܘܢ ܀
12 Ond os yw eu trosedd yn gyfrwng i gyfoethogi'r byd, a'u diffyg yn gyfrwng i gyfoethogi'r Cenhedloedd, pa faint mwy fydd y cyfoethogi pan dd�nt yn eu cyflawn rif?
12ܘܐܢ ܬܘܩܠܬܗܘܢ ܗܘܬ ܥܘܬܪܐ ܠܥܠܡܐ ܘܚܝܒܘܬܗܘܢ ܥܘܬܪܐ ܠܥܡܡܐ ܟܡܐ ܗܟܝܠ ܫܘܡܠܝܗܘܢ ܀
13 Ond i droi atoch chwi y Cenhedloedd. Yr wyf fi'n apostol y Cenhedloedd, ac fel y cyfryw rhoi bri ar fy swydd yr wyf
13ܠܟܘܢ ܕܝܢ ܐܡܪ ܐܢܐ ܠܥܡܡܐ ܐܢܐ ܕܐܝܬܝ ܫܠܝܚܐ ܕܥܡܡܐ ܠܬܫܡܫܬܝ ܡܫܒܚ ܐܢܐ ܀
14 wrth geisio gwneud fy mhobl yn eiddigeddus, ac achub rhai ohonynt.
14ܕܠܡܐ ܐܛܢ ܠܒܢܝ ܒܤܪܝ ܘܐܚܐ ܐܢܫܝܢ ܡܢܗܘܢ ܀
15 Oherwydd os bu eu bwrw hwy allan yn gymod i'r byd, bydd eu derbyn i mewn, yn sicr, yn fywyd o blith y meirw.
15ܐܢ ܓܝܪ ܡܤܬܠܝܢܘܬܗܘܢ ܬܪܥܘܬܐ ܠܥܠܡܐ ܗܘܬ ܟܡܐ ܗܟܝܠ ܦܘܢܝܗܘܢ ܐܠܐ ܚܝܐ ܕܡܢ ܒܝܬ ܡܝܬܐ ܀
16 Os yw'r tamaid toes a offrymir yn sanctaidd, yna y mae'r toes i gyd yn sanctaidd. Os yw'r gwreiddyn yn sanctaidd, y mae'r canghennau hefyd yn sanctaidd.
16ܘܐܢ ܕܝܢ ܪܫܝܬܐ ܩܕܝܫܐ ܐܦ ܓܒܝܠܬܐ ܘܐܢ ܥܩܪܐ ܩܕܝܫ ܗܘ ܐܦ ܤܘܟܐ ܀
17 Os torrwyd rhai canghennau i ffwrdd, a'th impio di yn eu plith, er mai olewydden wyllt oeddit, ac os daethost felly i gael rhan o faeth gwreiddyn yr olewydden,
17ܘܐܢ ܡܢ ܤܘܟܐ ܐܬܦܫܚ ܘܐܢܬ ܕܙܝܬܐ ܐܢܬ ܕܒܪܐ ܐܬܛܥܡܬ ܒܕܘܟܝܬܗܝܢ ܘܗܘܝܬ ܫܘܬܦܐ ܠܥܩܪܗ ܘܠܫܘܡܢܗ ܕܙܝܬܐ ܀
18 paid ag ymffrostio ar draul y canghennau a dorrwyd. Os wyt am ymffrostio, cofia nad tydi sy'n cynnal y gwreiddyn, ond y gwreiddyn sy'n dy gynnal di.
18ܠܐ ܬܫܬܒܗܪ ܥܠ ܤܘܟܐ ܐܢ ܕܝܢ ܡܫܬܒܗܪ ܐܢܬ ܠܐ ܗܘܐ ܐܢܬ ܫܩܝܠ ܠܗ ܠܥܩܪܐ ܐܠܐ ܗܘ ܥܩܪܐ ܫܩܝܠ ܠܟ ܀
19 Ond fe ddywedi, "Ie, ond torrwyd y canghennau i ffwrdd er mwyn i mi gael fy impio i mewn."
19ܘܟܒܪ ܬܐܡܪ ܕܤܘܟܐ ܕܐܬܦܫܚ ܕܐܢܐ ܒܕܘܟܝܬܗܝܢ ܐܬܛܥܡ ܀
20 Eithaf gwir; fe'u torrwyd hwy o achos anghrediniaeth, ac fe gefaist ti dy le trwy ffydd. Rho'r gorau i feddyliau mawreddog, a meithrin ofn Duw yn eu lle.
20ܫܦܝܪ ܗܠܝܢ ܡܛܠ ܕܠܐ ܗܝܡܢ ܐܬܦܫܚ ܐܢܬ ܕܝܢ ܒܗܝܡܢܘܬܐ ܩܡܬ ܠܐ ܬܬܪܝܡ ܒܪܥܝܢܟ ܐܠܐ ܕܚܠ ܀
21 Oherwydd os nad arbedodd Duw y canghennau naturiol, nid arbeda dithau chwaith.
21ܐܢ ܐܠܗܐ ܓܝܪ ܥܠ ܤܘܟܐ ܕܡܢ ܟܝܢܗܝܢ ܠܐ ܚܤ ܕܠܡܐ ܐܦܠܐ ܥܠܝܟ ܢܚܘܤ ܀
22 Am hynny, ystyria'r modd y mae Duw yn dangos ei diriondeb a'i erwinder: ei erwinder i'r rhai a gwympodd i fai, ond ei diriondeb i ti, cyhyd ag y cedwi dy hun o fewn cylch ei diriondeb. Os na wnei, cei dithau dy dorri allan o'r cyff.
22ܚܙܝ ܗܟܝܠ ܒܤܝܡܘܬܗ ܘܩܫܝܘܬܗ ܕܐܠܗܐ ܥܠ ܐܝܠܝܢ ܕܢܦܠܘ ܩܫܝܘܬܐ ܥܠܝܟ ܕܝܢ ܒܤܝܡܘܬܐ ܐܢ ܬܩܘܐ ܒܗ ܒܒܤܝܡܘܬܐ ܘܐܢ ܠܐ ܐܦ ܐܢܬ ܬܬܦܫܚ ܀
23 Ond amdanynt hwy, os na fynnant aros yn eu hanghrediniaeth, c�nt eu himpio i mewn i'r cyff, oherwydd y mae Duw yn abl i'w himpio'n �l.
23ܘܗܢܘܢ ܐܢ ܠܐ ܢܩܘܘܢ ܒܚܤܝܪܘܬ ܗܝܡܢܘܬܗܘܢ ܐܦ ܗܢܘܢ ܢܬܛܥܡܘܢ ܡܫܟܚ ܓܝܪ ܐܠܗܐ ܕܬܘܒ ܢܛܥܡ ܐܢܘܢ ܀
24 Oherwydd, os cefaist ti dy dorri o olewydden oedd yn wyllt wrth natur, a'th impio i mewn, yn groes i natur, i olewydden gardd, gymaint tebycach yw y c�nt hwy, sydd wrth natur yn ganghennau olewydden gardd, eu himpio i mewn i'w holewydden hwy eu hunain!
24ܐܢ ܓܝܪ ܐܢܬ ܕܡܢ ܙܝܬܐ ܐܢܬ ܕܒܪܐ ܗܘ ܕܒܟܝܢܟ ܐܬܦܫܚܬ ܘܕܠܐ ܒܟܝܢܟ ܐܬܛܥܡܬ ܒܙܝܬܐ ܛܒܐ ܟܡܐ ܗܟܝܠ ܗܢܘܢ ܐܢ ܢܬܛܥܡܘܢ ܒܙܝܬܐ ܕܟܝܢܗܘܢ ܀
25 Oherwydd yr wyf am i chwi wybod, gyfeillion, am y dirgelwch hwn (bydd hynny'n eich cadw rhag bod yn ddoeth yn eich tyb eich hunain), fod caledwch rhannol wedi syrthio ar Israel, hyd nes y daw'r Cenhedloedd i mewn yn eu cyflawn rif.
25ܨܒܐ ܐܢܐ ܓܝܪ ܕܬܕܥܘܢ ܐܚܝ ܐܪܙܐ ܗܢܐ ܕܠܐ ܬܗܘܘܢ ܚܟܝܡܝܢ ܒܪܥܝܢ ܢܦܫܟܘܢ ܕܥܘܝܪܘܬ ܠܒܐ ܡܢ ܐܬܪ ܩܠܝܠ ܗܘܬ ܠܐܝܤܪܝܠ ܥܕܡܐ ܕܢܥܘܠ ܡܘܠܝܐ ܕܥܡܡܐ ܀
26 Pan ddigwydd hynny, caiff Israel i gyd ei hachub. Fel y mae'n ysgrifenedig: "Daw'r Gwaredydd o Seion, a throi pob annuwioldeb oddi wrth Jacob;
26ܘܗܝܕܝܢ ܟܠܗ ܐܝܤܪܝܠ ܢܚܐ ܐܝܟܢܐ ܕܟܬܝܒ ܕܢܐܬܐ ܡܢ ܨܗܝܘܢ ܦܪܘܩܐ ܘܢܗܦܟ ܥܘܠܐ ܡܢ ܝܥܩܘܒ ܀
27 a dyma'r cyfamod a wnaf fi � hwy, pan gymeraf ymaith eu pechodau."
27ܘܗܝܕܝܢ ܬܗܘܐ ܠܗܘܢ ܕܝܬܩܐ ܗܝ ܕܡܢ ܠܘܬܝ ܡܐ ܕܫܒܩܬ ܠܗܘܢ ܚܛܗܝܗܘܢ ܀
28 O safbwynt yr Efengyl, gelynion Duw ydynt, ond y mae hynny'n fantais i chwi. O safbwynt eu hethol gan Dduw, y maent yn annwyl ganddo, ond y maent felly o achos yr hynafiaid.
28ܒܐܘܢܓܠܝܘܢ ܕܝܢ ܒܥܠܕܒܒܐ ܐܢܘܢ ܡܛܠܬܟܘܢ ܘܒܓܒܝܘܬܐ ܚܒܝܒܝܢ ܐܢܘܢ ܡܛܠ ܐܒܗܬܐ ܀
29 Oherwydd nid oes tynnu'n �l ar roddion graslon Duw, a'i alwad ef.
29ܠܐ ܓܝܪ ܗܦܟܐ ܐܠܗܐ ܒܡܘܗܒܬܗ ܘܒܩܪܝܢܗ ܀
30 Buoch chwi unwaith yn anufudd i Dduw, ond yn awr, o ganlyniad i'w hanufudd-dod hwy, yr ydych wedi cael trugaredd.
30ܐܝܟܢܐ ܓܝܪ ܕܐܦ ܐܢܬܘܢ ܠܐ ܡܬܛܦܝܤܝܢ ܗܘܝܬܘܢ ܠܐܠܗܐ ܡܢ ܩܕܝܡ ܘܗܫܐ ܐܬܚܢܢܬܘܢ ܡܛܠ ܠܐ ܡܬܛܦܝܤܢܘܬܗܘܢ ܕܗܢܘܢ ܀
31 Yn yr un modd, o ganlyniad i'r drugaredd a gawsoch chwi, y maent hwy hefyd wedi anufuddhau yn awr, fel mai derbyn trugaredd a wn�nt hwythau.
31ܗܟܢܐ ܐܦ ܗܠܝܢ ܠܐ ܐܬܛܦܝܤܘ ܗܫܐ ܠܪܚܡܐ ܕܥܠܝܟܘܢ ܕܐܦ ܥܠܝܗܘܢ ܢܗܘܘܢ ܪܚܡܐ ܀
32 Y mae Duw wedi cloi pawb yng ngharchar anufudd-dod, er mwyn gwneud pawb yn wrthrychau ei drugaredd.
32ܚܒܫ ܓܝܪ ܐܠܗܐ ܠܟܠܢܫ ܒܠܐ ܡܬܛܦܝܤܢܘܬܐ ܕܥܠ ܟܠ ܐܢܫ ܢܪܚܡ ܀
33 O ddyfnder cyfoeth Duw, a'i ddoethineb a'i wybodaeth! Mor anchwiliadwy ei farnedigaethau, mor anolrheiniadwy ei ffyrdd!
33ܐܘ ܥܘܡܩܐ ܕܥܘܬܪܐ ܘܚܟܡܬܐ ܘܡܕܥܐ ܕܐܠܗܐ ܕܐܢܫ ܠܐ ܡܫ ܕܝܢܘܗܝ ܘܐܘܪܚܬܗ ܠܐ ܡܬܥܩܒܢ ܀
34 Oherwydd, "Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd? Pwy a fu'n ei gynghori ef?
34ܡܢܘ ܓܝܪ ܝܕܥ ܪܥܝܢܗ ܕܡܪܝܐ ܐܘ ܡܢܘ ܗܘܐ ܠܗ ܒܥܠ ܡܠܟܐ ܀
35 Pwy a achubodd y blaen arno � rhodd, i gael rhodd yn �l ganddo?"
35ܘܡܢܘ ܩܕܡ ܝܗܒ ܠܗ ܘܟܢ ܢܤܒ ܡܢܗ ܀
36 Oherwydd ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob peth. Iddo ef y bo'r gogoniant am byth! Amen.
36ܡܛܠ ܕܟܠ ܡܢܗ ܘܟܠ ܒܗ ܘܟܠ ܒܐܝܕܗ ܕܠܗ ܬܫܒܚܢ ܘܒܘܪܟܢ ܠܥܠܡ ܥܠܡܝܢ ܐܡܝܢ ܀