1 Yn wyneb hyn, yr wyt ti sy'n eistedd mewn barn, pwy bynnag wyt, yn ddiesgus. Oherwydd, wrth farnu rhywun arall, yr wyt yn dy gollfarnu dy hun, gan dy fod ti, sy'n barnu, yn cyflawni'r un troseddau.
1ܡܛܠ ܗܢܐ ܠܝܬ ܠܟ ܡܦܩ ܒܪܘܚܐ ܐܘ ܒܪܢܫܐ ܕܐܢ ܚܒܪܗ ܒܗܘ ܓܝܪ ܕܕܐܢ ܐܢܬ ܚܒܪܟ ܢܦܫܟ ܗܘ ܡܚܝܒ ܐܢܬ ܐܦ ܐܢܬ ܓܝܪ ܕܕܐܢ ܐܢܬ ܒܗܝܢ ܗܘ ܡܬܗܦܟ ܐܢܬ ܀
2 Fe wyddom fod barn Duw ar y sawl sy'n cyflawni'r fath droseddau yn gwbl gywir.
2ܘܝܕܥܝܢܢ ܕܐܝܬܘܗܝ ܕܝܢܗ ܕܐܠܗܐ ܒܩܘܫܬܐ ܥܠ ܐܝܠܝܢ ܕܒܗܠܝܢ ܡܬܗܦܟܝܢ ܀
3 Ond a wyt ti, yr un sy'n eistedd mewn barn ar y rhai sy'n cyflawni'r fath droseddau, ac yn eu gwneud dy hun, a wyt ti'n tybied y cei di ddianc rhag barn Duw?
3ܡܢܐ ܕܝܢ ܡܬܚܫܒ ܐܢܬ ܐܘ ܒܪܢܫܐ ܕܕܐܢ ܐܢܬ ܠܐܝܠܝܢ ܕܒܗܠܝܢ ܡܬܗܦܟܝܢ ܟܕ ܐܦ ܐܢܬ ܒܗܝܢ ܡܬܗܦܟ ܐܢܬ ܕܐܢܬ ܬܥܪܘܩ ܡܢ ܕܝܢܗ ܕܐܠܗܐ ܀
4 Neu, ai dibris gennyt yw cyfoeth ei diriondeb a'i ymatal a'i amynedd? A fynni di beidio � gweld mai amcan tiriondeb Duw yw dy ddwyn i edifeirwch?
4ܐܘ ܥܠ ܥܘܬܪܐ ܕܒܤܝܡܘܬܗ ܘܥܠ ܡܓܪܬ ܪܘܚܗ ܘܥܠ ܐܬܪܐ ܕܝܗܒ ܠܟ ܡܡܪܚ ܐܢܬ ܘܠܐ ܝܕܥ ܐܢܬ ܕܒܤܝܡܘܬܗ ܕܐܠܗܐ ܠܬܝܒܘܬܐ ܗܘ ܡܝܬܝܐ ܠܟ ܀
5 Wrth ddilyn ystyfnigrwydd dy galon ddiedifar, yr wyt yn casglu i ti dy hunan st�r o ddigofaint yn Nydd digofaint, Dydd datguddio barn gyfiawn Duw.
5ܐܠܐ ܡܛܠ ܩܫܝܘܬ ܠܒܟ ܕܠܐ ܬܐܒ ܤܐܡ ܐܢܬ ܠܟ ܤܝܡܬܐ ܕܪܘܓܙܐ ܠܝܘܡܐ ܕܪܘܓܙܐ ܘܠܓܠܝܢܐ ܕܕܝܢܐ ܟܐܢܐ ܕܐܠܗܐ ܀
6 Bydd ef yn talu i bawb yn �l eu gweithredoedd:
6ܗܘ ܕܦܪܥ ܠܟܠܢܫ ܐܝܟ ܥܒܕܘܗܝ ܀
7 bywyd tragwyddol i'r rhai sy'n dal ati i wneud daioni, gan geisio gogoniant, anrhydedd ac anfarwoldeb;
7ܠܐܝܠܝܢ ܕܒܡܤܝܒܪܢܘܬܐ ܕܥܒܕܐ ܛܒܐ ܬܫܒܘܚܬܐ ܘܐܝܩܪܐ ܘܠܐ ܡܬܚܒܠܢܘܬܐ ܒܥܝܢ ܝܗܒ ܠܗܘܢ ܚܝܐ ܕܠܥܠܡ ܀
8 ond digofaint a dicter i'r rheini a ysgogir gan gymhellion hunanol i fod yn ufudd, nid i'r gwirionedd, ond i anghyfiawnder.
8ܐܝܠܝܢ ܕܝܢ ܕܥܨܝܢ ܘܠܐ ܡܬܛܦܝܤܝܢ ܠܫܪܪܐ ܐܠܐ ܠܥܘܠܐ ܡܬܛܦܝܤܝܢ ܢܦܪܘܥ ܐܢܘܢ ܪܘܓܙܐ ܘܚܡܬܐ ܀
9 Gorthrymder ac ing fydd i bob bod dynol sy'n gwneud drygioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid;
9ܘܐܘܠܨܢܐ ܘܛܘܪܦܐ ܠܟܠ ܒܪܢܫ ܕܦܠܚ ܒܝܫܬܐ ܠܝܗܘܕܝܐ ܠܘܩܕܡ ܘܠܐܪܡܝܐ ܀
10 ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd fydd i bob un sy'n gwneud daioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid.
10ܬܫܒܘܚܬܐ ܕܝܢ ܘܐܝܩܪܐ ܘܫܠܡܐ ܠܟܠ ܕܦܠܚ ܛܒܬܐ ܠܝܗܘܕܝܐ ܠܘܩܕܡ ܘܠܐܪܡܝܐ ܀
11 Nid oes ffafriaeth gerbron Duw.
11ܠܐ ܓܝܪ ܐܝܬ ܡܤܒ ܒܐܦܐ ܠܘܬ ܐܠܗܐ ܀
12 Caiff pawb a bechodd heb y Gyfraith drengi hefyd heb y Gyfraith, a chaiff pawb a bechodd dan y Gyfraith eu barnu trwy'r Gyfraith.
12ܐܝܠܝܢ ܓܝܪ ܕܕܠܐ ܢܡܘܤܐ ܚܛܘ ܐܦ ܕܠܐ ܢܡܘܤܐ ܢܐܒܕܘܢ ܘܐܝܠܝܢ ܕܒܢܡܘܤܐ ܚܛܘ ܡܢ ܢܡܘܤܐ ܢܬܕܝܢܘܢ ܀
13 Nid y rhai sy'n gwrando'r Gyfraith a geir yn gyfiawn gerbron Duw. Na, y rhai sy'n cadw'r Gyfraith a ddyfernir yn gyfiawn ganddo ef.
13ܠܐ ܗܘܐ ܓܝܪ ܫܡܘܥܘܗܝ ܕܢܡܘܤܐ ܟܐܢܝܢ ܩܕܡ ܐܠܗܐ ܐܠܐ ܥܒܘܕܘܗܝ ܕܢܡܘܤܐ ܡܙܕܕܩܝܢ ܀
14 Pan yw Cenhedloedd sydd heb y Gyfraith yn cadw gofynion y Gyfraith wrth reddf, y maent, gan eu bod heb y Gyfraith, yn gyfraith iddynt eu hunain.
14ܐܢ ܓܝܪ ܥܡܡܐ ܕܢܡܘܤܐ ܠܝܬ ܠܗܘܢ ܡܢ ܟܝܢܗܘܢ ܢܥܒܕܘܢ ܕܢܡܘܤܐ ܗܢܘܢ ܕܟܕ ܢܡܘܤܐ ܠܝܬ ܗܘܐ ܠܗܘܢ ܠܢܦܫܗܘܢ ܗܘܘ ܢܡܘܤܐ ܀
15 Y maent yn dangos bod yr hyn a ofynnir gan y Gyfraith wedi ei ysgrifennu yn eu calonnau, gan fod eu cydwybod yn cyd-dystiolaethu �'r Gyfraith, ac felly y mae eu meddyliau weithiau'n eu cyhuddo, ac weithiau hefyd yn eu hamddiffyn.
15ܘܗܢܘܢ ܡܚܘܝܢ ܥܒܕܗ ܕܢܡܘܤܐ ܟܕ ܟܬܝܒ ܥܠ ܠܒܗܘܢ ܘܡܤܗܕܐ ܥܠܝܗܘܢ ܬܐܪܬܗܘܢ ܟܕ ܡܚܫܒܬܗܘܢ ܡܟܘܢܢ ܐܘ ܢܦܩܢ ܪܘܚܐ ܠܚܕܕܐ ܀
16 Yn �l yr Efengyl yr wyf fi'n ei phregethu, felly y bydd yn y Dydd pan fydd Duw yn barnu meddyliau cuddiedig pawb trwy Grist Iesu.
16ܒܝܘܡܐ ܕܕܐܢ ܐܠܗܐ ܟܤܝܬܐ ܕܒܢܝܢܫܐ ܐܝܟ ܐܘܢܓܠܝܘܢ ܕܝܠܝ ܒܝܕ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
17 Amdanat ti, fe ddichon dy fod yn cario'r enw "Iddew", yn pwyso ar y Gyfraith, yn ymffrostio yn Nuw,
17ܐܢ ܐܢܬ ܕܝܢ ܕܝܗܘܕܝܐ ܡܬܩܪܐ ܐܢܬ ܘܡܬܬܢܝܚ ܐܢܬ ܥܠ ܢܡܘܤܐ ܘܡܫܬܒܗܪ ܐܢܬ ܒܐܠܗܐ ܀
18 yn gwybod ei ewyllys, ac oherwydd dy hyfforddi yn y Gyfraith yn gallu canfod yr hyn sy'n rhagori.
18ܕܝܕܥ ܐܢܬ ܨܒܝܢܗ ܘܦܪܫ ܐܢܬ ܘܠܝܬܐ ܕܝܠܝܦ ܐܢܬ ܡܢ ܢܡܘܤܐ ܀
19 Fe ddichon dy fod yn argyhoeddedig dy fod yn arweinydd i'r dall, yn oleuni i'r rhai sydd mewn tywyllwch,
19ܘܐܬܬܟܠܬ ܥܠ ܢܦܫܟ ܕܡܕܒܪܢܐ ܐܢܬ ܕܥܘܝܪܐ ܘܢܘܗܪܐ ܕܐܝܠܝܢ ܕܐܝܬܝܗܘܢ ܒܚܫܘܟܐ ܀
20 yn disgyblu'r ff�l, yn dysgu'r ifanc, a hynny am fod gennyt yn y Gyfraith holl gynnwys gwybodaeth a gwirionedd.
20ܘܪܕܘܝܐ ܕܚܤܝܪܝ ܪܥܝܢܐ ܘܡܠܦܢܐ ܕܛܠܝܐ ܘܐܝܬ ܠܟ ܕܘܡܝܐ ܕܝܕܥܬܐ ܘܕܫܪܪܐ ܒܢܡܘܤܐ ܀
21 Os felly, ti sy'n dysgu arall, oni'th ddysgi dy hun? A wyt ti, sy'n pregethu yn erbyn lladrata, yn lleidr?
21ܐܢܬ ܗܟܝܠ ܕܡܠܦ ܐܢܬ ܠܐܚܪܢܐ ܠܢܦܫܟ ܠܐ ܡܠܦ ܐܢܬ ܘܕܡܟܪܙ ܐܢܬ ܕܠܐ ܢܓܢܒܘܢ ܐܢܬ ܓܢܒ ܐܢܬ ܀
22 A wyt ti, sy'n llefaru yn erbyn godinebu, yn odinebus? A wyt ti, sy'n ffieiddio eilunod, yn ysbeilio temlau?
22ܘܕܐܡܪ ܐܢܬ ܕܠܐ ܢܓܘܪܘܢ ܐܢܬ ܓܐܪ ܐܢܬ ܘܐܢܬ ܕܫܐܛ ܐܢܬ ܦܬܟܪܐ ܡܚܠܨ ܐܢܬ ܒܝܬ ܡܩܕܫܐ ܀
23 A wyt ti, sy'n ymffrostio yn y Gyfraith, yn dwyn gwarth ar Dduw trwy dorri ei Gyfraith?
23ܘܐܢܬ ܕܡܫܬܒܗܪ ܐܢܬ ܒܢܡܘܤܐ ܒܗܘ ܕܥܒܪ ܐܢܬ ܥܠ ܢܡܘܤܐ ܠܐܠܗܐ ܗܘ ܡܨܥܪ ܐܢܬ ܀
24 Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud, "O'ch achos chwi, ceblir enw Duw ymhlith y Cenhedloedd."
24ܫܡܗ ܓܝܪ ܕܐܠܗܐ ܡܛܠܬܟܘܢ ܗܘ ܡܬܓܕܦ ܒܝܬ ܥܡܡܐ ܐܝܟ ܕܟܬܝܒ ܀
25 Yn ddiau y mae gwerth i enwaediad, os wyt yn cadw'r Gyfraith. Ond os torri'r Gyfraith yr wyt ti, y mae dy enwaediad wedi mynd yn ddienwaediad.
25ܓܙܘܪܬܐ ܓܝܪ ܡܗܢܝܐ ܐܢ ܢܡܘܤܐ ܬܓܡܘܪ ܐܢ ܬܥܒܪ ܠܟ ܕܝܢ ܡܢ ܢܡܘܤܐ ܓܙܘܪܬܟ ܗܘܬ ܠܗ ܥܘܪܠܘܬܐ ܀
26 Os yw'r sawl nad enwaedwyd arno yn cadw gorchmynion y Gyfraith, oni fydd Duw yn cyfrif ei ddienwaediad yn enwaediad?
26ܐܢ ܗܘ ܕܝܢ ܕܥܘܪܠܘܬܐ ܬܛܪ ܦܘܩܕܢܗ ܕܢܡܘܤܐ ܠܐ ܗܐ ܥܘܪܠܘܬܐ ܡܬܚܫܒܐ ܠܗ ܓܙܘܪܬܐ ܀
27 Bydd y dienwaededig ei gorff, os yw'n cyflawni'r Gyfraith, yn farnwr arnat ti, sydd yn droseddwr y Gyfraith er bod gennyt gyfraith ysgrifenedig a'r enwaediad.
27ܘܬܕܘܢ ܥܘܪܠܘܬܐ ܕܡܢ ܟܝܢܗ ܓܡܪܐ ܢܡܘܤܐ ܠܟ ܕܒܟܬܒܐ ܘܒܓܙܘܪܬܐ ܥܒܪ ܐܢܬ ܥܠ ܢܡܘܤܐ ܀
28 Nid Iddew mo'r Iddew sydd yn y golwg. Nid enwaediad chwaith mo'r enwaediad sydd yn y golwg yn y cnawd.
28ܠܐ ܗܘܐ ܓܝܪ ܡܢ ܕܒܓܠܝܐ ܗܘ ܗܘ ܝܗܘܕܝܐ ܐܦܠܐ ܐܝܕܐ ܕܡܬܚܙܝܐ ܒܒܤܪܐ ܓܙܘܪܬܐ ܀
29 Y gwir Iddew yw'r Iddew cuddiedig, a'r gwir enwaediad yw enwaediad y galon, peth ysbrydol, nid llythrennol. Dyma'r un sy'n cael clod, nid gan bobl eraill, ond gan Dduw.
29ܐܠܐ ܗܘ ܗܘ ܝܗܘܕܝܐ ܐܝܢܐ ܕܒܟܤܝܐ ܗܘ ܘܓܙܘܪܬܐ ܐܝܕܐ ܕܕܠܒܐ ܗܝ ܒܪܘܚ ܘܠܐ ܒܟܬܒܐ ܐܝܕܐ ܕܬܫܒܘܚܬܗ ܠܐ ܗܘܬ ܡܢ ܒܢܝ ܐܢܫܐ ܐܠܐ ܡܢ ܐܠܗܐ ܀