1 Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am Edom (clywsom genadwri gan yr ARGLWYDD; anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd: "Codwch! Gadewch inni fynd i frwydr yn eu herbyn"):
2 "Wele, gwnaf di'n fychan ymysg y cenhedloedd, ac fe'th lwyr ddirmygir.
3 Twyllwyd di gan dy galon falch, ti sy'n byw yn agennau'r graig, a'th drigfan yn uchel; dywedi yn dy galon, 'Pwy a'm tyn i'r llawr?'
4 Er iti esgyn cyn uched �'r eryr, a gosod dy nyth ymysg y s�r, fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno," medd yr ARGLWYDD.
5 "Pe d�i lladron atat, neu ysbeilwyr liw nos (O fel y'th ddinistriwyd!), onid digon iddynt eu hunain yn unig a ysbeilient? Pe d�i cynaeafwyr grawnwin atat, oni adawent loffion?
6 O fel yr anrheithiwyd Esau, ac yr ysbeiliwyd ei drysorau!
7 Y mae dy holl gynghreiriaid wedi dy dwyllo, y maent wedi dy yrru dros y terfyn; y mae dy gyfeillion wedi dy drechu, dy wahoddedigion wedi gosod magl i ti � nid oes deall ar hyn.
8 Ar y dydd hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "oni ddileaf ddoethineb o Edom, a deall o fynydd Esau?
9 Y mae dy gedyrn mewn braw, O Teman, fel y torrir ymaith bob un o fynydd Esau.
10 Am y lladdfa, ac am y trais yn erbyn dy frawd Jacob, fe'th orchuddir gan warth, ac fe'th dorrir ymaith am byth.
11 "Ar y dydd y sefaist draw, ar y dydd y dygodd estroniaid ei gyfoeth, ac y daeth dieithriaid trwy ei byrth a bwrw coelbren am Jerwsalem, yr oeddit tithau fel un ohonynt.
12 Ni ddylit ymfalch�o ar ddydd dy frawd, dydd ei drallod. Ni ddylit lawenhau dros blant Jwda ar ddydd eu dinistr; ni ddylit wneud sbort ar ddydd gofid.
13 Ni ddylit fynd i borth fy mhobl ar ddydd eu hadfyd; ni ddylit ymfalch�o yn eu dinistr ar ddydd eu hadfyd; ni ddylit ymestyn am eu heiddo ar ddydd eu hadfyd.
14 Ni ddylit sefyll ar y groesffordd i ddifa eu ffoaduriaid; ni ddylit drosglwyddo'r rhai a ddihangodd ar ddydd gofid.
15 "Y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos; daw ar yr holl genhedloedd. Fel y gwnaethost ti y gwneir i ti; fe ddychwel dy weithredoedd ar dy ben dy hun.
16 Fel yr yfaist ar fy mynydd sanctaidd, fe yf yr holl genhedloedd yn ddi-baid; yfant a llowciant, a mynd yn anymwybodol.
17 "Ond ym Mynydd Seion bydd rhai dihangol a fydd yn sanctaidd; meddianna tu375? Jacob ei eiddo'i hun.
18 A bydd tu375? Jacob yn d�n, tu375? Joseff yn fflam, a thu375? Esau yn gynnud; fe'i cyneuant a'i losgi, ac ni fydd gweddill o du375? Esau, oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD.
19 Bydd y Negef yn meddiannu mynydd Esau, a'r Seffela yn meddiannu gwlad y Philistiaid; byddant yn meddiannu tir Effraim a thir Samaria, a bydd Benjamin yn meddiannu Gilead.
20 Bydd pobl Israel, caethgludion y fyddin, yn meddiannu Canaan hyd Sareffath; a chaethgludion Jerwsalem yn Seffarad yn meddiannu dinasoedd y Negef.
21 Bydd gwaredwyr yn mynd i fyny i Fynydd Seion, i reoli mynydd Esau; a bydd y frenhiniaeth yn eiddo i'r ARGLWYDD."